10. Dadl Fer: Gwella mynediad at gyfleoedd economaidd lleol yng Nghasnewydd Islwyn

– Senedd Cymru am 6:48 pm ar 15 Gorffennaf 2026.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 6:48, 15 Gorffennaf 2026

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw. Galwaf ar Lyn Ackerman i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. 

Photo of Lyn Ackerman Lyn Ackerman Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n rhoi munud i Jayne Bryant a Peredur Griffiths.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon ar wella mynediad at gyfleoedd economaidd lleol yng Nghasnewydd Islwyn. Mae cyfle economaidd yn golygu mwy na gweld a oes swyddi, cyrsiau, cynlluniau neu gymorth yn bodoli yn rhywle yn y system; mae'n ymwneud â gallu pobl i weld y cyfleoedd hynny, eu cyrraedd a'u defnyddio. Mae pobl yng Nghasnewydd Islwyn eisiau gwaith gweddus. Maent eisiau i bobl ifanc gael dyfodol yn agos at adref. Maent eisiau i fusnesau lleol lwyddo. Mae hyn yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, colegau, cyflogwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda'i gilydd. Ond mae gan y Llywodraeth rôl i wneud y system yn haws i'w deall ac yn haws ei chyrchu. Dyma rwy'n ei ddadlau yma.

Os nad yw unigolyn ifanc yn gallu gweld y cysylltiadau rhwng yr hyn y maent yn ei astudio a'r gwaith sydd ar gael iddynt, mae uchelgais yn dechrau edrych fel rhywbeth y mae'n rhaid ichi adael yr ardal i ddod o hyd iddo. Dylem fod eisiau i bobl yma weld dyfodol yng Nghymru a deall y llwybr tuag ato. Os yw oedolyn eisiau ailhyfforddi neu symud i waith gwell, ni ddylai'r man cychwyn ddibynnu ar wybod eisoes sut y mae'r system yn gweithio. Os yw cyflogwr lleol eisiau ehangu, cyflogi prentisiaid neu fuddsoddi mewn safle, dylent wybod ble i fynd, pa gefnogaeth sy'n bodoli a phwy sy'n gyfrifol. Ni ddylent orfod mynd ar drywydd gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus i ddarganfod y pethau hyn.

Mae datblygu economaidd yn swnio'n haniaethol. Nid yw ei effaith yn haniaethol. Mae swydd ddiogel yn newid cartref. Mae llwybr hyfforddi yn rhoi hyder i rywun. Mae prentisiaeth yn newid yr hyn y mae teulu'n credu ei fod yn bosibl. Dyna pam y dylid trin mynediad at gyfleoedd fel prawf ar gyflawniad. A all pobl weld beth sydd ar gael? A allant ei gyrraedd? A allant ei ddefnyddio?

Rwyf am ofyn tri pheth i Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, sut y byddwch chi'n gwneud cynnig yr economi leol—sgiliau, hyfforddiant, prentisiaethau, cymorth cyflogaeth a llwybrau'r sector twf—yn fwy gweladwy mewn etholaethau fel Casnewydd Islwyn? Yn ail, sut y byddwch chi'n cryfhau'r cysylltiadau rhwng addysg, sgiliau a chyflogwyr lleol fel bod pobl yn deall pa sgiliau sydd eu hangen a sut i symud o un cam i'r llall? Yn drydydd, sut y byddwch chi'n ei gwneud hi'n haws i gyflogwyr lleol ymgysylltu â'r sector cyhoeddus pan fyddant eisiau tyfu, buddsoddi a chreu swyddi?

Dadl sy'n ymwneud â mynediad yw hon. Mae gan Gasnewydd Islwyn uchelgais, busnesau a chymunedau galluog sydd eisiau gweld cyflawniad. Y dasg yw gwneud y llwybr at gyfleoedd yn glir. Yn yr ysbryd hwnnw rwy'n cyflwyno'r ddadl hon. Diolch.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur 6:51, 15 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yma heddiw. Coleg Gwent yw'r darparwr addysg bellach amser llawn mwyaf yng Nghymru, gyda dros 18,000 o ddysgwyr, gan gynnwys campysau yng Nghasnewydd a Crosskeys, ac mae'r coleg yn gyflogwr pwysig, gyda dros 1,200 o staff. Mae'r coleg yn gweld y lefelau uchaf erioed o geisiadau am gyrsiau, ac rwy'n credu y byddai pawb yn y Senedd yn cytuno bod colegau fel Coleg Gwent yn hanfodol i atal pobl ifanc rhag cael eu colli yn sgil ymddieithrio hirdymor rhag addysg a'r farchnad lafur. Maent bob amser yn rhoi ail gyfle i bobl, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth newydd hon yn eu cefnogi. Diolch.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:52, 15 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch i Lyn am roi amser i mi gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'r ddau ohonom yn cynrychioli Casnewydd Islwyn, gyda Jayne a Natasha ac eraill yma yn y Siambr hon. Yn ddiweddar, ymwelodd Lyn a minnau â'r cwmni lled-ddargludyddion KLA yng Nghasnewydd. Mae KLA wedi bod yn stori lwyddiant go iawn ac ar fin tyfu allan o'r cyfleuster ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf sydd ganddynt. Mae KLA yn rhan o glwstwr lled-ddargludyddion CSconnected yng Nghasnewydd Islwyn, sy'n cefnogi miloedd o swyddi yn uniongyrchol a llawer mwy yn anuniongyrchol drwy gadwyn gyflenwi helaeth o gwmnïau lleol. Mae'r rhain yn swyddi ar gyflogau da. Er enghraifft, mae'r cyflog cyfartalog yn KLA ymhell dros £60,000 y flwyddyn. Mae KLA yn cyflawni gwaith allgymorth ac yn dod â'u cwmni a'u diwydiant ehangach i sylw plant a phobl ifanc drwy ymweliadau ag ysgolion a gwaith gyda chlybiau chwaraeon.

Yr hyn yr hoffwn ei wybod gan y Llywodraeth, a chan adleisio'r hyn y mae Lyn wedi'i ofyn, yw sut y gall y Llywodraeth hon gynorthwyo cwmnïau fel KLA i gyfleu eu neges i'n cymunedau a sut y mae pobl ifanc yn arbennig yn deall y bydd yna swyddi ar gyflogau da mewn diwydiant blaengar a'u bod ar gael yn lleol fel nad oes rhaid iddynt symud o'r cymunedau lle cawsant eu magu. Hoffwn ddeall hefyd, yn debyg i'r hyn yr oedd Jayne yn ei ofyn, am y cysylltiadau ag ysgolion, addysg bellach a sefydliadau addysg uwch i geisio creu'r llwybrau i bobl ifanc allu mynd i'r swyddi hynny. Diolch.

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 6:54, 15 Gorffennaf 2026

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i ymateb i'r ddadl—Adam Price.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Gasnewydd Islwyn am ddod â'r ddadl hon gerbron, y ddadl olaf yn ystod y sesiwn yma, ac ar bwnc mor bwysig. Dwi'n ddiolchgar hefyd am y cyfraniadau gan Aelodau eraill. Mae hon yn drafodaeth werthfawr, nid yn unig am ddyfodol economaidd un etholaeth, ond am y rôl ehangach y gall de-ddwyrain Cymru ei chwarae wrth sicrhau ffyniant i Gymru gyfan. Mae'r etholaeth yma'n unigryw. Mewn un daith fer, gallwch fynd o Gaerllion, lle cadwai Rhufain ei llengoedd, drwy Gasnewydd, dinas y Siartwyr, ac i fyny'r cwm, drwy Risga, Trecelyn ac Abercarn, i'r Coed-duon—cymunedau a gododd diwydiant Cymru â'u dwylo eu hunain.

Ychydig iawn o etholaethau sy'n dal cymaint o hanes Cymru mewn cyn lleied o filltiroedd, ac ychydig iawn sy'n dal cymaint o'i dyfodol: gweithgynhyrchu uwch, arloesedd sydd yn arwain y byd, gwasanaethau cyhoeddus cryf, gweithwyr medrus, diwydiannau digidol sydd yn tyfu, a sefydliadau addysgol arbennig. Pan fyddwn yn siarad am dwf economaidd, nid maint y twf yw'r unig beth sy'n cyfrif; y cwestiwn go iawn yw a yw'r twf hwnnw yn codi safonau byw, yn creu swyddi gwell eu cyflog ac yn cryfhau cymunedau. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon wedi gosod amcan uchelgeisiol iddi hi ei hun ac i Gymru i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Dydy 'cynhyrchiant' ddim yn air sy'n cynhesu’r galon, efallai. Hyd y gwn i, does neb erioed wedi ysgrifennu cerdd amdano—hyd yma, efallai. Talwrn y Beirdd nesaf, efallai. Rwyf wedi chwilio. Ond mae ei arwyddocâd yn syml ac yn drawiadol, onid yw e? Economïau mwy cynhyrchiol sy'n talu cyflogau uwch, yn denu mwy o fuddsoddiad ac yn creu mwy o gyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol. Os ydyn ni o ddifri ynglŷn â ffyniant Cymru gyfan, yn enwedig yn y cymunedau hynny sydd wedi teimlo'n rhy aml eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â chynhyrchiant Cymru. Nid jargon mohono; cyflog dydd Gwener yw e yn y pen draw, cynhaliaeth teuluoedd a chymunedau.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:57, 15 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Y newyddion da yw bod Casnewydd Islwyn eisoes yn meddu ar lawer o'r cynhwysion allweddol ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru. Dechreuwch gyda Chasnewydd—dinas sydd wedi arfer cyrraedd yn gynnar i'r dyfodol. Ym 1839, gorymdeithiodd miloedd i lawr Stow Hill i fynnu pleidlais genhedlaeth neu fwy cyn i weddill Prydain ddal i fyny â nhw. Mae Casnewydd yn gynnar eto heddiw. Mae wedi dod yn un o ganolfannau economaidd pwysicaf Cymru. Mae'n gartref, fel y clywsom, i fusnesau lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch arwyddocaol yn fyd-eang.

Mae'r byd modern yn rhedeg ar ddarnau o silicon sy'n deneuach na gwallt dynol—yn ein ffonau, ein hysbytai, ein cerbydau trydan, yn ein deallusrwydd artiffisial—ac mae cyfran ryfeddol o'r medrusrwydd hwnnw yn fyd-eang yn gorwedd o fewn ychydig filltiroedd i'r cymunedau rydym yn eu trafod y prynhawn yma. Onid yw hynny'n beth cyffrous i'w ddweud? Roeddem wrth wraidd chwyldro diwydiannol yn y gorffennol ac rydym ni yno, yn y canol, ar flaen y gad heddiw. Mae twf y clwstwr lled-ddargludyddion yn ne-ddwyrain Cymru yn setlo hen ddadl. Gall Cymru gystadlu'n rhyngwladol mewn diwydiannau gwerth uchel, gwybodaeth-ddwys. Nid mewn theori, ond yn ymarferol, nawr. Dyma'r union sectorau sy'n gyrru cynhyrchiant ac yn creu'r swyddi medrus iawn ar gyflogau da y mae ein cymunedau yn eu haeddu.

Ochr yn ochr â'r cryfder diwydiannol hwnnw mae ased mawr arall, Prifysgol De Cymru a'i champws Casnewydd wrth gwrs. Nid dim ond lle y bydd pobl ifanc yn pasio drwyddo am dair blynedd yw prifysgol. Fel sefydliad angori, mae'n rhan o beirianwaith economaidd y rhanbarth. Mae ei waith ym maes peirianneg, technoleg ddigidol, seiberddiogelwch, arloesedd busnes a datblygu'r gweithlu yn helpu i sicrhau bod cyflogwyr lleol yn gallu dod o hyd i'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae'n darparu pont hanfodol rhwng ymchwil, arloesedd a chyfle masnachol. Os yw Cymru am ddenu a chadw diwydiannau gwerth uchel, bydd sefydliadau fel hyn yn ganolog i'r genhadaeth. Mae'r un peth yn wir am Goleg Gwent ac addysg bellach. Mae addysg bellach ac addysg uwch gyda'i gilydd, gan weithio fel fersiwn ranbarthol o ddull tîm Cymru, yn mynd i fod mor ganolog i'n llwyddiant economaidd.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 7:00, 15 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Mae cryfderau Casnewydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i weithgynhyrchu ac addysg uwch. Dyma'r ddinas lle mae'r Deyrnas Unedig yn cyfrif ei hun ac yn cofrestru ei syniadau. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadw ffigurau'r genedl—y genedl hon, a'r un drws nesaf, a'r un i fyny yn y gogledd hefyd. Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gwarchod ei dyfeisiadau yma. Rwy'n credu bod yna rywbeth tawel foddhaol yn y ffaith mai dinas sydd wedi cael ei thangyfrif ers gormod o amser yn y stori genedlaethol yw'r lle sy'n gwneud y cyfrif mewn cymaint o gyd-destunau. Yn fwy ymarferol, efallai, mae'r sefydliadau hyn wedi gwneud Casnewydd yn hyb i gyflogaeth fedrus iawn, gan ddenu pobl dalentog i'r ddinas a chreu lle i'r sector preifat dyfu o'u cwmpas. Ychwanegwch gysylltedd rhagorol drwy goridor yr M4, y rhwydwaith rheilffyrdd yr ydym yn ceisio ei adeiladu allan ac adeiladu arno, a mynediad at farchnadoedd rhanbarthol ehangach, ac mae Casnewydd wedi dod yn gysylltiad, yn sbardun i weithgarwch economaidd, nid yn unig iddi hi ei hun, ond i'r rhanbarth ehangach ac i'r genedl gyfan.

Mae'r un peth yn wir am gymunedau'r Cymoedd sy'n rhoi ei chymeriad unigryw i'r etholaeth hon. Pan oedd peirianwyr Fictoraidd eisiau adeiladu'r draphont reilffordd dalaf ym Mhrydain, fe wnaethant ddewis Crymlyn. Mae'r Coed Duon, Trecelyn, Rhisga ac Aber-carn yn cynnal treftadaeth ddiwydiannol falch a gweithlu sydd â phrofiad dwfn mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a'r crefftau medrus. Adeiladodd y cymunedau hyn economi Cymru unwaith, ond nid mewn amgueddfa y mae eu lle; mae ganddynt rôl yr un mor bwysig i'w chwarae yn adeiladu economi nesaf Cymru hefyd.

Nawr, ein her yw sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd pob rhan o Gymru a phob rhan o'r etholaeth hon, ac fel y dywedoch chi, sicrhau y gall pobl leol gyrraedd y cyfleoedd sy'n cael eu creu. Mae hynny'n golygu buddsoddi mewn sgiliau, creu, fel y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud nawr, a llunio system sgiliau sy'n cyflawni anghenion ein cyflogwyr, ond yn allweddol hefyd, sy'n caniatáu i'n pobl ifanc gyrraedd eu gwir botensial, cefnogi busnesau lleol, gwella trafnidiaeth, cysylltedd digidol, gan alluogi pobl i ddod o hyd i waith o safon yn agos at adref.

Mae hefyd yn golygu dysgu o'n hanes ein hunain, ac ychydig o lefydd sy'n dysgu'r wers yn well na'r etholaeth hon. Am genedlaethau, daeth glo i lawr y cymoedd hyn i'w losgi yn Aber-wysg a'i allforio o'r porthladd, ac aeth gormod o'r cyfoeth a greodd i fannau eraill. Am ormod o amser mae Cymru wedi cynnal prosiectau ynni heb gadw digon o'r gwerth y maent yn ei gynhyrchu. Rhaid gwrthdroi hynny nawr. Os yw tir, gwynt, dŵr a gwely'r môr yng Nghymru yn creu cyfoeth, dylai pobl Cymru weld mwy o'i werth. Mae stori ynni Casnewydd Islwyn eisoes ar gerdded. Yn Aber-wysg, mae'r hen orsaf ynni glo yn cael ei thrawsnewid yn un o'r canolfannau storio batri mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan storio pŵer glân ar yr union safle a oedd unwaith yn llosgi glo y Cymoedd. Wrth ymyl y gwaith dur yn Llan-wern mae un o'r datblygiadau solar mwyaf ym Mhrydain. Mae'r ucheldiroedd uwchben cymoedd Sirhywi ac Ebwy yn dal y gwynt, ac oddi tanynt, mae'r hen weithfeydd glo bellach yn llawn o'r dŵr cynnes y mae cynlluniau dŵr mwyngloddio mewn mannau eraill eisoes yn ei roi mewn cartrefi. Mae hyd yn oed ein diwydiannau mwyaf newydd yn pwyntio i'r un cyfeiriad, oherwydd mae clwstwr lled-ddargludyddion yn gwsmer llwglyd am bŵer glân, dibynadwy, fforddiadwy. Felly, nid a fydd y trawsnewidiad ynni'n digwydd yma yw'r cwestiwn mwyach i'r etholaeth hon ac i Gymru, i Gymru gyfan, ond pwy fydd yn berchen arno, pwy fydd yn ei yrru a phwy fydd yn elwa ohono. Dyna'r cwestiwn y mae fy ngwaith i ar ran y Llywodraeth ar strategaeth ynni genedlaethol wedi'i gynllunio i'w ateb, a byddwn yn archwilio'r liferi y gallwn eu defnyddio yng Nghymru i adeiladu strategaeth sydd o fudd i bobl Cymru a Chasnewydd Islwyn yn economaidd ac yn gymdeithasol, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r wobr honno.

Bydd y strategaeth yn gosod targed ynni uchelgeisiol ond cyraeddadwy, gan gynnwys targedau ar gyfer ynni cymunedol lleol ac ynni mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Basgiaid wedi ei wneud. Mae Iberdrola, cwmni Basgaidd, yn un o'r cewri mwyaf ledled Ewrop nawr, am eu bod wedi llunio eu system weithgynhyrchu, ond hefyd eu system ynni, o gwmpas sicrhau bod y budd yn cael ei gadw. Gallwn wneud hynny yng Nghymru hefyd.

Yn allweddol i hyn, wrth gwrs—. Mewn unrhyw economi, bydd datblygu preifat a chyfalaf preifat bob amser yn chwarae rôl ganolog, ac rydym am ddenu'r cyfalaf hwnnw i fuddsoddi yng Nghymru i'n galluogi i gyflawni ein potensial, ond ni allwn wneud hynny'n unig drwy ddatblygu preifat. Dyna pam y mae datblygu ein cwmni ynni cyhoeddus ein hunain, fel y dywedais, ond gan gydlynu hefyd ar draws gwahanol rannau o'r Llywodraeth, ar draws y gwahanol sefydliadau—bydd hynny'n hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni'r potensial yng Nghasnewydd Islwyn a ledled Cymru.

Dyna pam y mae creu awdurdod datblygu cenedlaethol newydd mor bwysig. Ar yr union bwynt hwn am y dirwedd ddryslyd sydd gennym ar hyn o bryd, rydym eisiau cael un drws blaen. Os wyf i'n berchennog busnes neu'n fuddsoddwr neu'n sylfaenydd a fy mod am wybod ble i fynd, mae angen inni symleiddio hynny, oherwydd rydym am weithio'n gyflymach ac ymhellach gyda'r cwmnïau hynny i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle, nid yn unig iddynt hwy, ond i Gymru gyfan. Mae ein gweledigaeth ar gyfer awdurdod datblygu yn adlewyrchu ein penderfyniad i fod yn fwy uchelgeisiol, yn fwy strategol, yn fwy rhagweithiol. Bydd yn gweithio i ddenu mewnfuddsoddiad, ond yn hollbwysig hefyd i ddatblygu ein busnesau ein hunain i ehangu, i gryfhau economïau lleol a rhanbarthol a darparu'r swyddi gwerth uchel sydd eu hangen arnom.

Yn allweddol, rydym yn deall bod rôl bwysig yma i drafnidiaeth; nid yw'n fater sy'n annibynnol ar dwf economaidd. Dyna pam ein bod ni'n gweithio mor agos, fi a'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, am fod seilwaith yn rhan allweddol o'r ffordd rydym yn cyflawni'n gymdeithasol ac yn economaidd i'n cenedl, ac i bob rhan o'n cenedl. Mae cynllun trafnidiaeth rhanbarthol de-ddwyrain Cymru yn rhoi llwyfan inni gysylltu cymunedau yng Nghasnewydd Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach. Rydym yn adeiladu ymhellach ar y cynllun hwnnw. Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol o ran y ffordd y gall trafnidiaeth gyfrannu at sicrhau bod gennym botensial yno.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 7:07, 15 Gorffennaf 2026

Mae metro de Cymru yn ganolog i'r uchelgais honno o hyd. Rhaid iddo olygu gwell cysylltiadau rhwng trenau, bysiau a chyfnewidfeydd, a rhwng y rheini a phobl, wrth iddynt gerdded, olwynio a beicio, gan ei gwneud hi'n haws cyrraedd gwaith, hyfforddiant ac addysg, heb orfod dibynnu ar gar ar gyfer pob taith. I gymunedau Casnewydd Islwyn, mae'r prawf yn un syml: a yw'r buddsoddiad yn gwella mynediad go iawn at gyfleoedd ar draws Casnewydd Islwyn, ar draws rhanbarth ehangach y Cymoedd a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac ar draws Cymru?

Ddirprwy Lywydd, nid stori am botensial yn unig yw stori economaidd Casnewydd Islwyn. Mae eisoes yn lle o gryfderau sylweddol, capasiti gweithgynhyrchu uwch a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag economi ddigidol ac arloesedd sy'n tyfu, cyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus, prifysgol flaenllaw a chymunedau â thraddodiad balch o sgiliau, gwydnwch a menter. Mae'r cryfderau hynny'n sylfeini cadarn at y dyfodol. Wrth inni anelu at haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, adeiladu diwydiannau'r dyfodol a sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd i ysgogi buddsoddiad a thwf, bydd etholaethau fel Casnewydd Islwyn yn ganolog i'n llwyddiant ni.

Ac nid damwain yw bod yr etholaeth hon yn cario enw bardd—Islwyn. Mae yna thema yn fan hyn, onid oes? Y bardd Islwyn o Ynys-ddu yng nghwm Sirhywi a ddysgodd inni fod yr oll yn gysegredig. Roedd e'n iawn. Nid oes dim byd cyffredin am y cymunedau hyn, nac am eu pobl, nac am eu dyfodol, ac mae'r gwaith o adeiladu'r dyfodol hwnnw eisoes ar y gweill.

Mae ein nod ni yn glir. Mae'r weledigaeth yn gyffrous. Rŷn ni'n gallu cymryd ysbrydoliaeth o'r rhagoriaeth rŷn ni'n ei weld, fel gwnes i ei weld pan oeddwn i'n mynd o gwmpas KLA a gweld dyfodol Cymru o fy mlaen i—pobl ifanc gyda sgiliau ar eu huchaf, a chwmni sydd wedi rhoi lawr gwreiddiau mewn clystyrau ehangach mewn meicrocosm o Gymru rŷn ni eisiau ei chreu. Diolch yn fawr.

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 7:10, 15 Gorffennaf 2026

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A diolch i chi eto am eich cyfraniadau yr wythnos yma. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.