5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Ein Gweledigaeth ar gyfer Datganoli Rheilffyrdd

– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 7 Gorffennaf 2026.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 4:29, 7 Gorffennaf 2026

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: ein gweledigaeth ar gyfer datganoli rheilffyrdd. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper. 

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru

Yn ysbryd y sgwrs sydd newydd fod, rwy’n dysgu Cymraeg. Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gen i ddiweddaru'r Aelodau am y cynnydd yr ydym yn ei wneud ar ein hymrwymiadau ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf ar y llwybr at ddatganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Heddiw, hoffwn esbonio ein gweledigaeth ar gyfer datganoli rheilffyrdd yng Nghymru, ac, yn bwysig, sut y byddwn yn bwrw ymlaen gyda llwybr clir a chredadwy i'w gyflawni.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 4:30, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Mae rheilffyrdd yn fwy na thraciau dur ac amserlenni, nhw yw rhydwelïau ein cenedl, yn cysylltu pobl â swyddi, addysg, teulu a chyfleoedd. Pan fydd ein rheilffyrdd yn gweithio'n dda, mae Cymru'n gweithio'n dda. Pan fyddan nhw'n methu, mae cymunedau a ffyniant y genedl yn cael eu dal yn ôl. Mae'r system bresennol ar gyfer ein rheilffyrdd yn dameidiog. Mae seilwaith yn cael ei reoli i raddau helaeth ar lefel y DU. Yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd. Rhennir atebolrwydd mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r DU, ond nid yr ysgogiadau i sbarduno newid. Mae hynny'n golygu bod penderfyniadau sy'n effeithio ar deithwyr yng Nghymru yn cael eu gwneud yn rhy aml mewn mannau eraill, heb alinio blaenoriaethau Cymru yn llawn.

Ers degawdau, mae Llywodraeth y DU wedi methu â buddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ac yn hytrach wedi caniatáu iddo ddirywio. Mae'r rhwydwaith yng Nghymru yn ffurfio tua 10 y cant o gyfanswm rhwydwaith Prydain yn ôl hyd trac, ond dros y 15 mlynedd diwethaf, dim ond 1.5 y cant o gyfanswm y buddsoddiad mewn gwelliannau a gafwyd. Ac yn amlwg, dim ond 9 y cant o'r rhwydwaith sydd wedi'i drydaneiddio, yn bennaf o ganlyniad i linellau craidd y Cymoedd, o'i gymharu â 45 y cant yn Lloegr a 33 y cant yn yr Alban. Ac mae pleidiau ar draws y Siambr wedi cydnabod annhegwch cyllid HS2. Rydym ar ein colled o ran cyllid canlyniadol gwerth £850 miliwn hyd at ddiwedd y cyfnod adolygu gwariant hwn, ac mae'r ffigur hwnnw'n tyfu'n esbonyddol nawr bod Llywodraeth y DU yn asesu y bydd HS2 bellach yn costio mwy na £100 biliwn. Mewn cymhariaeth, mae Llywodraeth yr Alban wedi cael tua £1.3 biliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i gymharedd â HS2, hyd at ddiwedd y cyfnod adolygu gwariant presennol. Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi cael tua £0.5 biliwn. Ein huchelgais ni yw newid hynny. Mae gennym weledigaeth o fod â rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig, lle mae gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu cynllunio o amgylch anghenion ein pobl, ein cymunedau a'n heconomi ni.

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi dangos beth fyddai'n bosibl pe bai Cymru'n gyfrifol am y trac a'r trên. Drwy drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd, maen nhw wedi dangos y gall Cymru berchnogi, rheoli a chyflawni trawsnewidiad seilwaith rheilffyrdd sylweddol yn llwyddiannus, a fydd yn newid bywydau pobl yn ne y wlad, drwy gysylltu cymunedau yn well a'i wneud yn lle mwy deniadol i fusnesau ddechrau a thyfu. Ein gweledigaeth yw gweld hynny'n cael ei ailadrodd ledled Cymru, datblygu Cledrau Croesi Caerdydd i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio'n gynaliadwy drwy ein prifddinas; adeiladu gorsafoedd newydd yn y de-orllewin, drwy fetro Bae Abertawe a gorllewin Cymru; cynyddu capasiti rheilffyrdd yn y gogledd drwy rwydwaith gogledd Cymru; a chynyddu capasiti trwy ganol y wlad ar linell y Gororau. Byddai hyn yn drawsnewidiol i gysylltedd yng Nghymru, ond dim ond gyda'r pwerau a'r cyllid cywir y bydd yn bosibl ei gyflawni'n llawn.

Heddiw, rwyf am nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i symud tuag at y weledigaeth hon, gan fynd ar drywydd datganoli pellach mewn ffordd bragmatig fesul cam. Ein camau cyntaf fydd gweithio'n adeiladol gyda'r Adran Drafnidiaeth i gyflawni gwelliannau o dan y system bresennol. Cydnabu Llywodraeth y DU ei diffyg buddsoddiad hanesyddol yn rheilffyrdd Cymru ym mis Chwefror ac ymrwymodd i ariannu gweledigaeth rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gwerth £14 biliwn. Drwy fwrdd rheilffyrdd y DU a bwrdd rheilffyrdd Cymru Llywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda nhw i gytuno ar flaenoriaethau ac amserlen ar gyfer y cyllid hwn a datblygu llif credadwy o gynlluniau, ond byddwn hefyd yn eu dwyn i gyfrif i gyflawni eu haddewid i Gymru.

Mae bwrdd rheilffyrdd Cymru hefyd yn rhoi cyfle i ni bwyso bod y cynlluniau a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant 2025 yn cael eu cyflawni'n gyflym yn y cyfnod adolygu gwariant hwn sy'n rhedeg hyd at 2029-30. Yn benodol, byddaf yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni gyflymu'r gwaith o gyflawni gorsafoedd Burns i gynnig mwy o gysylltedd a dewisiadau amgen i deithio ar hyd yr M4, ac rwy'n disgwyl i Network Rail weithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru fel y gallwn gyflawni'r gorsafoedd hyn cyn gynted â phosibl.

Yn ail, mae Bil Rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn cynrychioli moment sylweddol o newid, ac mae angen i ni sicrhau bod y Bil yn gweithio i Gymru mewn ffordd sy'n gyson â'n llwybr i ddatganoli. Ar gyfer y DU, cynigir corff cyhoeddus newydd, Great British Railways, i ddod â thrac a thrên at ei gilydd ledled Prydain Fawr. Mae hefyd yn cyflwyno mecanweithiau newydd ar gyfer cydweithio rhwng Llywodraethau, gan gynnwys memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Cymru. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn glir: nid yw'r Bil yn newid yn sylfaenol lle mae pŵer yn eistedd; nid yw'n rhoi rheolaeth i Gymru dros seilwaith rheilffyrdd, ei phenderfyniadau cyllido neu fuddsoddi.

Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae gennyf bryderon difrifol ynglŷn â sut mae nifer o'r cymalau yn y Bil yn effeithio ar rôl Gweinidogion Cymru a'r Senedd hon. Rwyf eisoes wedi nodi'r rhain i Weinidog Rheilffyrdd y DU, gan geisio ymgysylltu ymhellach ar sut y gellir diogelu a hyrwyddo ein dyheadau ar gyfer rheilffyrdd. Mae wedi ymrwymo i drafodaethau brys fel y gallwn sicrhau bod y diwygiadau presennol yn sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, byddaf yn ceisio sicrhau bod y Bil yn gyntaf yn galluogi sail statudol ar gyfer rôl Gweinidogion Cymru a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, yn galluogi cydraddoldeb i Trafnidiaeth Cymru ac yn dyfnhau'r bartneriaeth â Great British Railways, ac yn galluogi diogelu a gwella cymhwysedd datganoledig y Senedd mewn perthynas â rheilffyrdd. Gall y camau hyn wella'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, sicrhau bod gan Gymru lais cryfach a dylanwad cliriach, gan wneud gwahaniaeth i deithwyr.

Yn drydydd, mae ein maniffesto yn ein hymrwymo i drafod cyllid rheilffyrdd tecach i Gymru, ac mae hyn yn parhau i fod yn ganolog i'n dull gweithredu. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn clywed y Prif Weinidog yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cyllid teg, rhywbeth sy'n cael ei deimlo'n ddybryd o ran rheilffyrdd.

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i nodi hyn, a bydd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid yn pwyso am newidiadau sy'n cydnabod realiti rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys trefniadau ariannu sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau, cydnabyddiaeth o berchnogaeth Llywodraeth Cymru ar seilwaith fel llinellau craidd y Cymoedd, a chyfran deg o fuddsoddiad i fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol. Heb gyllid teg, ni all datganoli lwyddo. Gydag ef, gallwn ddatgloi newid trawsnewidiol.

Yn olaf, byddwn yn gwneud yr achos dros ddatganoli llawn i Gymru. Mae hynny'n golygu penderfyniadau dros gyllid rheilffyrdd a wneir nid yn San Steffan ond yng Nghymru, fel sy'n digwydd eisoes yn yr Alban; trac a thrên wedi'u hintegreiddio yng Nghymru, fel y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud yn Lloegr, gyda seilwaith wedi'i ddatganoli i Gymru ynghyd â gwasanaethau ar y rhwydwaith; ac ar gyfer seilwaith a gwasanaethau trawsffiniol, rôl bartneriaeth i Gymru gyda Llywodraeth y DU a GBR i ddarparu rheolaeth effeithiol. Byddai hyn yn newid sylweddol yn ein gallu i alinio buddsoddiad ag anghenion Cymru, gan reoli risg mewn ffordd gytbwys.

Mae'r Llywodraeth hon eisiau gweld Bil Cymru newydd er mwyn deddfu ar gyfer hyn a phwerau pellach i Weinidogion Cymru, i roi'r offer i ni wella bywydau pobl yng Nghymru. Rwy'n disgwyl gweithio gyda Gweinidogion y DU yn llawn i archwilio'r llwybr i gyflawni'r amcanion hyn, gan sicrhau bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn parhau i fod wedi'i integreiddio'n llawn â rhwydwaith rheilffyrdd ehangach Prydain Fawr ac yn parhau i ddarparu cysylltedd di-dor.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 4:39, 7 Gorffennaf 2026

Ddirprwy Lywydd, mae ein gweledigaeth yn glir. Rydym ni eisiau rheilffordd sydd wedi ei chynllunio yng Nghymru, wedi ei chyflawni yng Nghymru ac yn atebol i bobl Cymru. Fydd y daith ddim yn digwydd dros nos, ond mae gyda ni lwybr a'r penderfyniad i wireddu. Pan fydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llwyddo, mae Cymru yn gweithio yn well. Diolch.

Photo of Jason O'Connell Jason O'Connell Reform UK 4:40, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad. Weinidog, rydym ni yn Reform, mae'n werth dweud ar y dechrau, yn parchu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar linellau'r Cymoedd. Mae'n werth dweud na ddylid datganoli pŵer dros reilffyrdd ymhellach. Nid yw seilwaith rheilffyrdd yn ymwneud â gweithredu trenau yn unig, mae'n ymwneud a chynnal traciau, ailosod signalau, ymateb i lifogydd, methiannau brys a llawer mwy. Mae'r rhain yn gyfrifoldebau sy'n gofyn am beirianwyr arbenigol iawn, rheolwyr asedau profiadol, llywodraethu cadarn a chynllunio ariannol hirdymor, pethau nad yw Llywodraeth Plaid Cymru yn enwog amdanynt.

Nawr, Weinidog, ar hyn o bryd, dim ond llinellau craidd y Cymoedd sydd wedi'u datganoli. Mae rhannau mawr o seilwaith rheilffyrdd yn dal i gael ei reoli gan Network Rail. Felly, o ystyried mai dim ond rhan fechan o'r adran reilffyrdd yng Nghymru yr ydych chi'n ei rheoli ac yn berchen arni, pa dystiolaeth allwch chi ei darparu bod gan Lywodraeth Cymru y bobl, yr arbenigedd, y gallu rheoli a'r cydnerthedd ariannol i gymryd cyfrifoldeb am y rhwydwaith cyfan?

Nawr, rwy'n edmygu'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, ond pan nad oes toiledau hyd yn oed ar y trenau tram o'r radd flaenaf—mater brys a godwyd gyda mi dim ond y bore yma gan Age Cymru—rwy'n credu bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn. A gadewch i ni beidio ag anghofio hanes ofnadwy Plaid Cymru o ran trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd: ers 27 mlynedd, rydym wedi gweld sut mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cymryd rhan mewn rhyfel gelyniaethus ar fodurwyr heb ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy a addawyd i Gymru drosodd a throsodd ym mhob etholiad.

Nawr, mae ffyrdd Cymru yn cael eu plagio gan dyllau. Mae Plaid Cymru wedi dymuno sgrapio ffordd liniaru'r M4, a nawr does gennym ni ddim syniad beth yw eu polisi ar ffordd liniaru'r M4, wrth i fodurwyr barhau i ddioddef gyda therfynau 20 mya, nad ydynt yn cael eu cefnogi hyd heddiw.

Nawr, mae disgwyl i ni gredu y gall yr un agenda Llafur-Plaid Cymru gymryd cyfrifoldeb dros y rhwydwaith rheilffyrdd cyfan yn llwyddiannus, a bod San Steffan yn ddyledus iddynt, gan gwyno'n gyson am annhegwch canfyddedig yn hytrach na pharhau â'r gwaith. Nawr, Weinidog, yn 2013, cynigiodd Llywodraeth y DU y pwerau benthyca ariannol sydd eu hangen ar Gymru i adeiladu ffordd liniaru'r M4, a wyddoch chi beth? Roedd Plaid Cymru yn ei wrthwynebu, a gwastraffwyd miliynau o arian trethdalwyr ar ymgyrch ideolegol i orfodi pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn hytrach na cheisio datganoli rheilffyrdd ac erfyn yn barhaus am fwy o bwerau oddi wrth San Steffan, dylai Plaid Cymru ganolbwyntio ar y prosiectau sydd gennym wrth law ar hyn o bryd i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth: adeiladu trydedd groesfan dros afon Menai; uwchraddio'r wibffordd A55; sgrapio terfynau 20 mya cyffredinol; ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Weinidog, nid yw'r cyhoedd yng Nghymru eisiau datganoli rheilffyrdd. Maen nhw eisiau i drenau redeg ar amser. Maen nhw eisiau rhwydwaith ffyrdd sy'n ei gwneud hi'n hawdd ac yn gyflym i fynd o A i B. Ond i Blaid Cymru, mae'r prosiectau hyn yn cael eu hanwybyddu dro ar ôl tro, oherwydd iddyn nhw, pŵer cyfansoddiadol sy'n cael blaenoriaeth. Mwy o bŵer, mwy o bŵer, mwy o bŵer. Mae pobl Cymru yn dod yn ail bob tro. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, y dylai cwblhau'r prosiectau hyn fod yn flaenoriaeth glir dros fwy o ddatganoli rheilffyrdd, a dylai Plaid Cymru gyfaddef y cwbl i bobl Cymru, neu a ydych chi nawr yn sownd yn yr hyn a elwir yn swigen Bae Caerdydd?

O ran cyllid HS2, mae Plaid Cymru wedi galw am gyllid canlyniadol dro ar ôl tro, ond nid yw dibynnu ar hyn yn strategaeth gredadwy. Nawr, rydyn ni yn Reform yn credu bod Cymru yn haeddu cyllid tecach, wrth gwrs, ond nid ydym yn ymddiried yn y Llywodraeth hon i gyflawni hyn, a dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu unrhyw alwad am fwy o ddatganoli rheilffyrdd.

Nawr, gadewch i ni atgoffa ein hunain: yn y gyllideb atodol gyntaf erioed, rhoddwyd £340 miliwn i Gymru ar gyfer plant ag ADY, ond nid oes un geiniog wedi cyrraedd ysgolion. Hollol gywilyddus. Nawr, Weinidog, roedd y cyllid hwnnw wedi'i fwriadu ar gyfer rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ond yn hytrach mae wedi cael ei ddargyfeirio tuag at gyflawni addewidion etholiadol heb eu costio. Mae Reform yn gwybod hynny, mae'r Senedd hon yn gwybod hynny ac mae pobl Cymru yn gwybod hynny. Weinidog, mae 40,000 o blant ag ADY ledled Cymru yn gweiddi am gymorth. Eu harian nhw yw hwn. Nid yw yno i gyflawni addewidion heb eu costio. Felly, os na ellir ymddiried yn y Llywodraeth hon i ddarparu cyllid sy'n benodol ar gyfer plant yn yr achos hwn, os yw'r Llywodraeth hon yn blaenoriaethu newid cyfansoddiadol ac addewidion heb eu costio dros ein plant mwyaf agored i niwed, sut gallwn ymddiried ynoch i gymryd cyfrifoldeb am rwydwaith rheilffyrdd datganoledig—system a fyddai'n gofyn am gynllunio cyfalaf hirdymor, penderfyniadau cymhorthdal a biliynau mewn gwariant cyhoeddus? Felly, gofynnaf i chi: o ystyried y pwysau sydd eisoes ar gyllideb Cymru, pa fesurau diogelu fydd ar waith i sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir yn cael ei ddiogelu rhag cyrchoedd polisi heb eu costio gan Blaid Cymru ac i lenwi bylchau ariannu anochel? Diolch.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 4:45, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, rwy'n credu, Jason. Fe wnaethon ni fwynhau ein sgwrs gyntaf pan wnaethon ni gyfarfod i siarad am y materion hyn, ac rwy'n gobeithio cael mwy o'r sgyrsiau adeiladol hynny yn y dyfodol, ac efallai treulio ein hamser yn siarad am drafnidiaeth, sef y swydd rydw i'n cael fy nhalu i'w gwneud, a fyddai'n haws i mi ei wneud.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gwyno. Fe ddywedaf i wrthych chi yr hyn nad ydw i'n ei wneud. Dydw i ddim yn cwyno. Rwy'n paratoi i barhau â'r gwaith i wneud i system drafnidiaeth Cymru weithio, ac mae rheilffyrdd yn rhan allweddol ohoni. Nawr, pan fyddwch chi'n siarad â phobl am brofi pwdin, mae llinellau craidd y Cymoedd a'r hyn sydd wedi digwydd ar y metro yn enghraifft berffaith o'r hyn a all ddigwydd pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd ac yn dechrau gweithio arno. Ac os ydych chi'n teithio arno, byddwch chi'n gweld y manteision, ac rydych chi'n clywed pobl bob dydd yn dweud pa mor bwysig yw hi y gallant fynd i orsaf a mynd ar drên sy'n gyfforddus ac yn gweithio ac yn gwneud y gwaith y mae angen iddo ei wneud. Mae angen i ni wneud i hynny ddigwydd dros Gymru gyfan. Mae cysylltedd mewn rhai rhannau o Gymru yn wael iawn. Rhan o'n cyfrifoldeb yw sicrhau bod hynny'n newid. Allwn ni ddim gwneud hynny pan fydd pobl yn San Steffan yn gwneud y penderfyniadau a phan nad oes unrhyw lais gennym ar y mater. Mae angen i ni fod y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, ac mae gennym y prawf y gallwn ni wneud hynny.

Y peth allweddol sy'n bwysig i wneud i bethau ddigwydd yw gwneud yn siŵr bod yna gadwyn gyflenwi. Un o'r pethau rydw i'n ymwybodol iawn ohono yw bod gennym ni bobl sydd wedi cyflawni llinellau craidd y Cymoedd, sydd wedi cyflwyno'r metro, ac maen nhw'n brin ac yn barod i gymryd rhan yng ngham nesaf ein prosiect nesaf o ran Cymru. Mae gennym gynlluniau ar gyfer gorsafoedd Burns. Mae angen i ni eu gweithredu. Cefais sgwrs adeiladol gyda Llywodraeth y DU. Rydyn ni'n mynd i fynd ar drywydd hynny yn yr un modd ag rwy'n credu ein bod ni'n cytuno y byddwn yn cael sgyrsiau adeiladol hefyd, fel y gwnes i gydag eraill o gwmpas y Siambr hon. Ond un o'r pethau na ddylem ei wneud yw dechrau awgrymu mai cwyno yw hyn. Mae hyn yn ymwneud â pharhau â'r gwaith. Dyma beth rydyn ni'n ei wneud. Dyma beth rydw i'n awyddus i'w wneud, ac ni fyddaf yn cwyno o gwbl.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Llafur 4:47, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Yn ei hanfod, mae trafnidiaeth yn ymwneud â chysylltu pobl â swyddi, â chyfleoedd a chymunedau. Dyna pam rydw i mor falch o'r modd y buddsoddodd y Llywodraeth Lafur flaenorol £800 miliwn mewn trenau newydd ledled Cymru, lansio rhwydwaith gogledd Cymru fel rhaglen hirdymor o welliannau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, a chreu metro de Cymru gwerth £1.1 biliwn, gan gynnwys trydaneiddio 170 km o reilffordd Fictoraidd.

Yn yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli ac yn byw ynddi, rwyf wedi gweld drosof fy hun a gan gyd-gymudwyr sut mae'r buddsoddiad yn llinellau craidd y Cymoedd a metro de Cymru wedi trawsnewid bywydau pob dydd pobl. Ac wrth gwrs, dyna pam rydw i hefyd yn falch bod y Llywodraeth Lafur flaenorol yng Nghymru, gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates fel Ysgrifennydd trafnidiaeth, wedi sicrhau'r ymrwymiad hwnnw o £14 biliwn o fuddsoddiad rheilffyrdd yng Nghymru gan Lywodraeth Lafur y DU, gan roi terfyn ar fwy na degawd o esgeulustod y Torïaid.

Yn eich datganiad, Gweinidog, fe gyfeirioch chi at weledigaeth a bwriad Trafnidiaeth Cymru ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'. Mae hyn, wrth gwrs, yn ymrwymiad hirdymor i Gymru a rheilffyrdd y gororau, i ddarparu llif prosiectau gorsafoedd newydd, llinellau rheilffordd wedi'u huwchraddio a gwasanaethau trên gwell. Ac mae'n cofleidio'r rhwydweithiau nad ydynt wedi'u datganoli a'r rhwydweithiau sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Ac rydych chi wedi crybwyll heddiw, Weinidog, eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Mae'r ymrwymiad hwnnw o £14 biliwn yn fuddugoliaeth enfawr i Gymru, a bydd ei wireddu yn dibynnu ar y ddwy Lywodraeth yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, ynghyd ag ystod o bartneriaid hanfodol. Felly, a ydych chi, Weinidog, yn sefyll yn gadarn y tu ôl i'r weledigaeth ar gyfer 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'? Ac ers dod yn Llywodraeth, pa gynnydd ydych chi wedi'i wneud tuag at weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i'w gyflawni? Pa gynnydd sydd wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf wrth symud ymlaen â gorsafoedd Burns, arbrawf parcffordd Glannau Dyfrdwy a phrosiect gwella rheilffyrdd Padeswood? Ac yn ail, pan fyddwn yn siarad am ddatganoli yn y Siambr hon, mae'r ffocws yn aml ar ddatganoli mwy o San Steffan i Fae Caerdydd. Ond nid yw datganoli yn gorffen ym Mae Caerdydd yn unig. Mae gen i yr un diddordeb mewn gweld sut rydyn ni'n symud pŵer yn agosach at bobl, ledled Cymru, at y rhanbarthau, y cynghorau, a'r cymunedau sy'n gwybod beth sydd ei angen orau arnynt. Dyna pam, yn y Llywodraeth, fe wnaethom foderneiddio grantiau trafnidiaeth leol, gan symud o'r sefyllfa lle roedd cynghorau yn gorfod gwneud cynnig i nifer o gronfeydd ar gyfer cynlluniau lleol bach i gyd-bwyllgorau corfforaethol rhanbarthol yn derbyn yr un pot hwnnw o gyllid ar gyfer datblygu blaenraglen.

Mae datganoli yn ymwneud â phŵer yn agosach at adref. Dylai datganoli gwneud penderfyniadau am reilffyrdd a thrafnidiaeth fod yn ymwneud â rhoi penderfyniadau yn ôl yn nwylo pobl, mwy o effeithlonrwydd a mwy o ymateb i flaenoriaethau lleol. Felly, a allwch chi, Weinidog, nodi heddiw pa bwerau gwneud penderfyniadau penodol yr ydych yn bwriadu eu datganoli o Lywodraeth Cymru i ranbarthau Cymru, ac erbyn pryd?

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 4:50, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Vikki. Diolch am y cwestiwn. Felly, dydw i ddim yn mynd i sefyll yma—ac rwy'n credu ein bod ni wedi ei gwneud hi'n glir pan wnaethon ni gyfarfod—i fod yn anghynnes ynghylch y gwaith sy'n digwydd, ac rwy'n teimlo ein bod ni'n adeiladu ar y gwaith da sydd wedi digwydd hyd yma gyda llinellau craidd y Cymoedd, gyda'r metro. Rwy'n credu bod hwn yn waith da, ond mae angen i ni ei wthio ymhellach, ac rwy'n credu mai'r hyn rydyn ni'n ei gyflwyno yma yw cyflymu'r symudiad hwnnw i gymryd cyfrifoldebau. A dyna pam mae datganoli yn dod yn rhywbeth mor bwysig, oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â ni yn sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y lle iawn i weithredu'r pethau cywir.

Nid ydym yn credu—ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn yn eang o'r blaen yn y Siambr—mai San Steffan yw'r lle iawn i benderfynu ar ein gwariant ar seilwaith rheilffyrdd. Profir y pwdin drwy'r ffigur y soniais amdano yn gynharach: mae 10 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd gennym ni, ond dim ond 1 y cant o'r gwelliannau sydd wedi'u gwario yng Nghymru. Felly, rydym wedi cael ein tanariannu yn hanesyddol. Nawr, mae'r £445 miliwn sydd yn yr adolygiad gwariant hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir. Nid yw'n ddigonol i gyflawni gorsafoedd Burns yn y ffordd y mae angen iddynt gael eu cyflawni. Felly, rydyn ni'n cael sgwrs adeiladol. Ac fe wnaethoch chi ofyn am y manylion. Roeddwn i'n falch iawn o'r ymagwedd gadarnhaol a ddaeth yn sgil fy sgwrs gyda Llywodraeth y DU—yn falch iawn o sut aeth hi. Rydym wedi ymrwymo, y Gweinidog dros reilffyrdd a minnau, i fynd i fwrdd rheilffyrdd Cymru nesaf hefyd, lle gallwn barhau â'r ymgysylltiad hwnnw lle gall y timau o'n cwmpas weld ein bod yn dal ar yr un dudalen.

Gofynnoch chi a oeddwn i'n sefyll yn gadarn y tu ôl i weledigaeth Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n gwneud hynny. Mae hyn yn rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth clir i Gymru. Ond y broblem yw bod angen ei ariannu'n iawn, a dyna'r peth hanfodol. Felly, pan ydyn ni'n siarad am y £14 biliwn, sydd wedi cael ei ailadrodd, mae angen i ni weld hynny wedi'i nodi yn yr adolygiad gwariant nesaf, fel y gallwn fynd ymlaen a gwneud y gwaith. Yr hyn rydw i wedi'i ganfod gyda Trafnidiaeth Cymru yw eu bod yn barod i fynd ymlaen a gwneud hynny, felly rwyf am roi'r adnoddau iddynt, drwy Weinidog y Cabinet dros Gyllid, i helpu hynny i ddod yn realiti. Oherwydd mae pobl Cymru wedi cael llond bol ar bobl yn gohirio penderfyniadau. Dydw i ddim yn mynd i wneud hynny. Yr hyn rydw i eisiau sicrhau yw ein bod ni'n cael rhywfaint o symudiad.

Rwy'n croesawu'r cwestiwn ar ddatganoli. Rwy'n gefnogwr brwd o ddatganoli. Rwy'n credu bod datganoli yn briodol pan fo ar y lefel gywir. Felly, y peth allweddol am ddatganoli yw gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud y penderfyniadau cywir ar y lefel gywir. Rheilffyrdd, mae hynny ar lefel Cymru, ac rwy'n glir am hynny. Dyna lle dylem fod yn rhoi'r pwyslais.

Pan ddaw i flaenoriaethau eraill, rwy'n credu ein bod yn y lle iawn. Rwy'n credu ein bod yn y man lle mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gwneud y penderfyniadau hynny trwy'r cronfeydd trafnidiaeth rhanbarthol. Ond rwy'n credu yr hyn y mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith arno yw gwneud yn siŵr bod y dinesydd yn deall sut y gall ddylanwadu ar y broses honno. Felly, heddiw, rwy'n credu bod etholwyr yn gwybod sut i gysylltu â mi ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg. Byddent wedi cael gwybod sut i gysylltu â mi fel cynghorydd lleol. Nid wyf yn siŵr bod dinasyddion yn gwybod sut i ymgysylltu â'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn yr un modd. Felly, rwy'n credu, pan ddaw i ddatganoli, mae angen i chi wneud yn siŵr bod y cyswllt hwnnw yna i wneud yn siŵr bod hynny'n gweithio hefyd. Ond, yn gyffredinol, diolch am eich cwestiynau. Rwy'n credu eu bod i gyd yn adeiladol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r lefel honno o her a chraffu. Diolch.

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 4:54, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Nawr, hoffwn dalu teyrnged i gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, Ken Skates. Er efallai nad ydym bob amser wedi cytuno, rwy'n gwybod o fy sgyrsiau a'm hymgysylltiad â Ken ei fod e, fel fi, eisiau gwella gwasanaethau rheilffyrdd i'n hetholwyr, a bob amser yn gweithio gyda'r nod hwnnw mewn golwg.

Ar nodyn cadarnhaol i reilffyrdd yng Nghymru, byddai'n anghynnes peidio â chydnabod bod rhywfaint o welliant wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag agweddau ar wasanaethau rheilffyrdd, sef cyflwyno'r system tapio i mewn ac allan ar ffurf system Transport for London yn ne Cymru, sydd wedi bod yn fenter dda ac wedi lleihau cost teithio o'i gymharu â phrynu tocynnau rheolaidd. Mae'n dda gweld hyn yn cael ei gyflwyno ar draws y gogledd nawr hefyd. Mae trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd hefyd wedi dod â gwelliannau mawr eu hangen i reilffyrdd a oedd wedi cael eu hystyried yn anghofiedig gan lawer ers amser maith, ond mae'n rhaid i ni gofio nad Caerdydd yn unig yw Cymru.

Gan droi nawr at feysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd, fe ddechreuaf gyda chydnerthedd rheilffyrdd. Nawr, rydyn ni wedi gweld tywydd poeth yn ddiweddar—ac mae'n debyg y byddwn yn ei weld eto. Mae cerbydau sy'n heneiddio a gwendidau o fewn y rhwydwaith yn golygu bod ein rheilffordd yn parhau i fod yn llawer rhy fregus, ac mae angen i ni roi'r cydnerthedd hwnnw yn ôl. Llinell y Gororau yw, efallai, y mwyaf agored i aflonyddwch. Mae oedi yn y de yn effeithio ar y gogledd, ac, oherwydd strwythur y rhwydwaith, gall effeithio'n gyflym ar wasanaethau ledled Cymru gyfan. Felly, rwy'n croesawu'r Gweinidog heddiw yn cydnabod yr angen i gynyddu capasiti a chydnerthedd ar y llwybr hwn. Mae teithwyr, fodd bynnag, wedi clywed yr ymrwymiadau hyn o'r blaen a byddant yn iawn i fod eisiau gweld gweithredu yn hytrach na geiriau teg. A all y Gweinidog felly amlinellu pa ymyriadau penodol sy'n cael eu hystyried, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld gwelliant diriaethol yno?

Rwy'n credu bod gorsaf arfaethedig Magwyr a Gwndy yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd ymgyrchu lleol yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad a chydweithrediad priodol. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod mai cefnogaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a helpodd i symud o'r cynlluniau a datblygu'r prosiect hwn. Cyflawnodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU fuddsoddiad sylweddol mewn rheilffyrdd i Gymru, gan gynnwys trydaneiddio prif linell y Great Western i Gaerdydd, trenau cyflym 'intercity' newydd a chyllid sylweddol tuag at linellau craidd y Cymoedd. Roeddwn i'n rhan o'r gwaith cyflawni bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a oedd yn canolbwyntio ar gyflwyno'r metro. Cafodd hynny, unwaith eto, ei gyflawni oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi galluogi hynny i ddigwydd.

Nawr, nid diffyg pwerau yw'r gwir broblem ond diffyg cyllid teg. Mae Cymru yn rhy aml wedi bod ar ei cholled o ran buddsoddiad rheilffyrdd a dylai dderbyn ei chyfran deg o wariant rheilffyrdd, gan gynnwys cyllid canlyniadol llawn o brosiectau yn Lloegr. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw mwy o arian ar gyfer rheilffyrdd, nid mwy o bwerau dros reilffyrdd. Weinidog, mae llawer o'ch datganiad yn dibynnu ar y ddadl y bydd pwerau pellach yn datgloi canlyniadau gwell, ond bydd teithwyr yn iawn i farnu ar yr hyn y maent yn ei brofi ar lawr gwlad. Fe wnaethoch gyfeirio at weledigaeth reilffordd gwerth £14 biliwn Trafnidiaeth Cymru a chyflymu cyflawni rhaglen gorsafoedd Burns. Allwch chi egluro'n union pa brosiectau sy'n cael eu hariannu a pha amserlenni sydd wedi'u cytuno?

Weinidog, rydych hefyd yn enwi trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd fel tystiolaeth ar gyfer datganoli pellach, ond, cyn ceisio pwerau ychwanegol, oni ddylai Llywodraeth Cymru ddangos yn gyntaf bod prosiectau sydd eisoes o dan ei rheolaeth yn cael eu cyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn creu gwelliannau mesuradwy i deithwyr ledled Cymru? Nid faint o bwerau y gall gwleidyddion eu cronni yw'r prawf, ond a yw teithwyr yn gweld canlyniadau gwell. Weinidog, ai diffyg pwerau yw'r her wirioneddol sy'n wynebu rheilffyrdd Cymru, neu ai'r her yw ddiffyg buddsoddiad a chyflawni? Oni fyddai'n well canolbwyntio ar sicrhau cyllid tecach a dangos y gall cyfrifoldebau datganoledig presennol ddarparu gwell gwasanaethau i deithwyr, cyn galwadau am fwy o ddatganoli?

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 4:58, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Peter, ac, unwaith eto, diolch am y ffordd adeiladol rydych chi wedi fframio'r cwestiynau, er bod yna ychydig o bethau yr wyf yn credu ein bod ni'n cymryd safbwyntiau ychydig yn wahanol arnynt. Ond os dechreuwn ni ar eich pwynt olaf yn gyntaf, 'Ai pŵer yw'r peth pwysig neu a yw gwneud bywydau pobl yn well yn bwysicach?' Wyddoch chi, pe bawn i'n gallu gweld ffordd o allu cyflawni pethau heb bŵer yna byddwn i'n ymchwilio i hynny yn gyntaf? Mae'r ddau bwynt cyntaf yn fy natganiad yn cyfeirio at weithio gyda Llywodraeth y DU yn fwy adeiladol gyda'r pwerau presennol sydd gennym. Felly, rydw i eisiau bod yn glir, pan fyddaf yn ymdrin â Llywodraeth y DU, byddaf yn rhywun sydd bob amser yn gweithio'n adeiladol, bob amser yn onest ac yn ceisio cael y gorau allan o'r berthynas honno. Mae hynny'n cynnwys lle rydyn ni'n gysylltiedig ledled y wlad, a gwneud yn siŵr bod y pethau hynny'n gweithio. Felly, nid wyf yn rhywun sydd dim ond yno, pŵer er mwyn pŵer.

Fodd bynnag, mae'n fwyfwy amlwg, os edrychwch chi—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffigur trydaneiddio. Dim ond 9 y cant o'n rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi cael ei drydaneiddio; mae 45 y cant o rwydwaith Lloegr wedi'i drydaneiddio. Nid yw'r unig reswm, mewn gwirionedd, bod 9 y cant wedi'i drydaneiddio o reidrwydd yn ymwneud â GWR; mae'n fwy am yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru o ran llinellau craidd y Cymoedd. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y pethau hyn yn iawn cyn i ni symud ymlaen.

Rwy'n falch eich bod wedi codi'r mater o gydnerthedd. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn o fewn y ffrâm lle mae pethau'n digwydd. Felly, fel golwg yn ôl, pan gawsom y rhybudd tywydd coch 10 diwrnod yn ôl, roedd 94 y cant o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg yn briodol. Nawr, os cymharwch hynny â Pharis, collodd Paris 10 y cant o'i rwydwaith yn yr un cyfnod. Collodd yr Almaen bob trên unigol nad oes ganddo system aerdymheru ynddo, a oedd yn nifer enfawr o drenau, a Gwlad Belg yn yr un modd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn nodweddu ein rhwydwaith trafnidiaeth yn anghywir. Nid yw hynny'n golygu nad oes angen i ni wneud llawer o waith i wneud yn siŵr ein bod yn gydnerth ac yn barod ar gyfer y pethau hyn. Rydyn ni ar fin taro ton wres arall nawr, felly nid yw'r pethau hyn yn mynd i ffwrdd. Dyna dair ton wres eleni hyd yn hyn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, ac rwy'n disgwyl dod yn ôl i'r Siambr hon fuan i allu siarad am sut rydym yn adeiladu rhwydwaith mwy cydnerth. Rhan ohono yw gwneud yn siŵr bod y trenau rydyn ni'n eu rhoi ar y rhwydwaith, y bysiau rydyn ni'n eu rhoi ar ein ffyrdd, yn briodol i ddarparu'r gwasanaethau. Felly, roeddwn i ar fws y diwrnod o'r blaen, yn llawn aerdymheru, mae'n ei gwneud hi'n daith gyfforddus, mae'r trenau yr un peth, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bethau hefyd.

Fe wnaethon ni fwynhau ein taith gerdded i'r ysgol, rwy'n meddwl, ym Magwyr y diwrnod o'r blaen, ac roedd yn dda gweld pa mor ymroddedig oedd y tîm yno i'w prosiect. Yr hyn rwy'n myfyrio arno yn dilyn hynny yw pa mor hir y mae wedi cymryd iddyn nhw gyrraedd pwynt lle mae cynnydd yn digwydd, hyd yn oed wrth ddatblygu eu canolfan gymunedol. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau rydw i'n awyddus i'w wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cytuno ar lawer o bethau. Po fwyaf y gallwn gytuno arno, y mwyaf o ymrwymiad y gall pobl ei feithrin, a gall yr arian ddechrau llifo fel ein bod ni'n gwybod, hyd yn oed mewn pedair blynedd, os bydd cyfansoddiad y Siambr wedi newid mewn unrhyw ffordd, rydyn ni i gyd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo i wneud y pethau hynny. Ac mae pethau fel gorsafoedd Burns yn cyd-fynd â'r proffil hwnnw. Felly, rwy'n croesawu'r gefnogaeth eang, rwy'n credu, gennych yn hyn o beth, ac rwy'n credu y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd.

Photo of Niamh Salkeld Niamh Salkeld Plaid Cymru 5:01, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Mae'r gwahaniaeth rhwng rheilffyrdd yng Nghaerffili a Blaenau Gwent yn dangos yn union pam mae datganoli rheilffyrdd yn bwysig. Mae gan Gaerffili 17 o orsafoedd, y rhan fwyaf ar linellau craidd y Cymoedd Llywodraeth Cymru. Ers i'r llinellau hynny ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, mae teithwyr wedi gweld trenau newydd, trydaneiddio a gwasanaethau amlach. Ond, ym Mlaenau Gwent, mae rheilffordd Glynebwy wedi'i chadw yn ôl o hyd, a dim ond tair gorsaf sydd gennym ym Mlaenau Gwent gyfan, gyda chymunedau fel Abertyleri a Thredegar wedi'u torri'n llwyr oddi wrth y rhwydwaith rheilffyrdd.

Ni ddigwyddodd y bwlch hwnnw ar ddamwain. Mae'n adlewyrchu lle mae cyfrifoldeb, a'r ffaith nad yw Cymru'n rhy aml yn flaenoriaeth i San Steffan. Lle mae rheilffyrdd wedi cael eu datganoli, fel yng Nghaerffili, rydym yn gweld buddsoddiad a gwelliant. Lle nad yw, fel ym Mlaenau Gwent, mae cymunedau'n cael eu gadael ar ôl. Felly, Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn llinellau craidd y Cymoedd i rannau eraill o'r Cymoedd, gan gynnwys Blaenau Gwent?

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hwn yn enfawr. Rydych chi newydd roi enghraifft o'r rheswm pam y mae angen pwerau datganoledig arnom, oherwydd mae angen i ni drin cymunedau yr un fath, ac mae angen iddynt gael yr un cyfleoedd p'un a ydyn nhw yn rhan Caerffili o'ch etholaeth neu ran Blaenau Gwent o'ch etholaeth. Ond mae hyn yn gofyn am gynllunio hirdymor. Unwaith eto, rwy'n mynd yn ôl at y pwynt bod angen i ni, rwy'n meddwl, gael rhywfaint o gonsensws ar y cyd ynghylch sut rydyn ni'n gwneud hyn. Ond, yn y pen draw, nid wyf yn gweld unrhyw ffordd y bydd hyn yn digwydd heb ddatganoli llawn, gallu gwneud y penderfyniadau sy'n bwysig, oherwydd rydym yn agosach at bobl Cymru a'u hanghenion nag ydyn nhw yn San Steffan. Dyna'r peth hanfodol. Rydyn ni'n cael sgyrsiau. Mae'r sgyrsiau wedi dechrau gyda Gweinidogion y DU. Maen nhw'n gwybod beth rydyn ni'n dymuno ei gael, ac nid oes ots pwy sy'n gyfrifol yno, i fod yn onest. Nid yw ein sefyllfa wedi newid, ond rydyn ni'n ei wneud o sefyllfa o wneud yn siŵr y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.  

Photo of Adrian Mason Adrian Mason Reform UK 5:04, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Weinidog, rwyf wir yn casáu dweud hyn, oherwydd gallai niweidio eich enw da gyda'ch plaid, ond rydych chi bob amser wedi fy nharo i, yn fy amser byr yma, fel un o'r Gweinidogion mwyaf synhwyrol ar feinciau'r Llywodraeth. Ond yna aethoch chi i ddifetha'r cyfan trwy ddweud eich bod chi'n cefnogi mwy o ddatganoli. Nawr, bydd pobl yn y Siambr hon yn gwybod nad ydw i'n cefnogi mwy o ddatganoli, ac nid yw fy mhlaid i chwaith. Ond rydych chi wedi gwneud pwynt difrifol ynglŷn â thanfuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd llawer o bobl yn y gogledd, lle mae fy etholaeth i, yn cytuno'n llwyr â chi. Ond nid yw Reform Cymru yn credu bod pob mater yn cael ei ddatrys trwy ddatganoli mwy o bŵer i Fae Caerdydd. Mae adeiladu entrychdy ar sylfeini gwan yn ffolineb llwyr.

Felly, mae'r prawf yn syml: a fydd teithwyr yn cael gwell gwasanaethau o'ch cynlluniau? A beth mae rhwydwaith gogledd Cymru yn ei olygu i ogledd Cymru mewn gwirionedd? Rydym wedi cael addewid ers blynyddoedd y byddwn yn gweld trydaneiddio prif linell gogledd Cymru. Rwyf eisiau gwybod beth fyddai'n digwydd i'r llinellau sy'n mynd o Wrecsam i Gaer, Wrecsam i Bidston, i Lerpwl a Maes Awyr Manceinion. Mae'r rhain yn llinellau hanfodol i ni yn y gogledd.

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 5:05, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Allwch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda, Adrian?

Photo of Adrian Mason Adrian Mason Reform UK

(Cyfieithwyd)

Iawn. Beth yw cost datganoli ac, yn y bôn, beth fydd y manteision a beth yw'r amserlen? Diolch.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau, Adrian. Roeddwn i'n poeni yn y fan yna y byddech chi efallai'n taro nifer cwestiynau Mike Hedges mewn un cwestiwn. Byddaf yn gwneud fy ngorau. Nid wyf yn siŵr bod 'synhwyrol ond' yn cario llawer o bwysau, ond diolch, rwy'n credu—ond dydw i ddim yn siŵr. 

Mae ein prawf yr un peth. Ein prawf yw: allwn ni wella taith y teithiwr? Allwn ni wneud i bethau weithio'n gyflymach? Allwn ni wneud i bethau weithio'n fwy di-dor? Rwy'n credu mai dyna'r prawf yn y pen draw. Heddiw, mewn rhai rhannau o Gymru, rydyn ni wedi dangos bod hynny'n digwydd. Yn llawer o Gymru—ac rwy'n credu eich bod wedi tynnu sylw at ardaloedd lle nad yw—nid yw hynny'n wir. Felly, gwaith y Llywodraeth yw mynd i mewn yno, torchi ein llewys a dechrau gweithio ar y pethau hynny gyda'r un egni ag sydd wedi digwydd i lawr yn y de. Rwy'n cadeirio'r bwrdd rheilffordd rhwydwaith y gogledd nesaf, i ddangos yr ymrwymiad i ogledd y wlad fel y dangoswyd i lawr yn y de. Ac rwy'n awyddus ac rwy'n hapus i'ch diweddaru chi ar hynny ar ôl y cyfarfod hwnnw hefyd. Mae'n rhaid i ddatganoli a phwerau fod â rheswm drostynt. Rwy'n glir am hynny. Rwy'n credu fy mod wedi gwneud yr achos yn y datganiad hwn heddiw, a byddaf yn parhau i wneud yr achos hwnnw. Yr unig ffordd y byddwn ni'n gwneud ein rheilffyrdd yn well yw os yw'r pwerau yn y lle hwn.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Democratiaid Rhyddfrydol 5:06, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Diolch am y datganiad. Rwy'n croesawu eich uchelgais, yn wahanol i Reform UK. Rwyf wedi drysu'n llwyr gan eich datganiad eich bod yn teimlo nad oes gan Gymru y sgiliau i gael rheilffyrdd wedi'u datganoli i Gymru. Rydych chi bob amser yn lladd ar Cymru.

Ond rydw i eisiau dweud, lle rydyn ni nawr o ran datganoli rheilffyrdd i Gymru, rydyn ni wedi bod yma ers nifer o flynyddoedd trwy Lywodraeth Cymru. Gallaf weld nad ydym wedi gweld unrhyw newid o gwbl dros y blynyddoedd. Yn wir, dim ond eleni, cyflwynodd David Chadwick AS welliant i'r Bil Rheilffyrdd, a fyddai wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am seilwaith, buddsoddiad a strategaeth hirdymor i'r Senedd o fewn dwy flynedd. Yn anffodus, ni chefnogodd un AS Llafur Cymru y gwelliant hwnnw. Ac felly rwy'n gobeithio, pan fydd hyn yn dod yn ôl gerbron y Llywodraeth Lafur, ac mae'n debyg y bydd yn dal i fod, y rhoddir argyhoeddiad gan y Senedd i ASau Llafur yn San Steffan. Hoffwn ofyn i chi yn benodol: mae'r Alban wedi gwneud hyn, felly sut ydych chi'n dysgu o'r Alban? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 5:07, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, Jane. Rwy'n cytuno â chi, yn gyntaf, bod gennym y sgiliau a'r gallu i ddechrau gwneud y gwaith. Rydyn ni wedi profi hynny. Mae'r timau'n barod i fynd. Mae llawer o'r rhain yn sefydliadau yng Nghymru a gweithwyr yng Nghymru. Mae hwn yn brosiect da i ddechrau. Mae angen iddyn nhw fynd ymlaen yno a helpu i ddatblygu'r rheilffyrdd.

Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol rydych chi'n ei wneud yw'r un pwynt ag y gwnes i, rwy'n credu, yn y—. Mae'r enghraifft Albanaidd yno i allu gweithio gyda hi. Y gwahaniaeth allweddol yw bod 33 y cant o'u rhwydwaith nhw wedi'i drydaneiddio, 9 y cant o'n rhwydwaith ni—arwydd da. Mae'n wahanol—. Mae gennym ni fwy o gysylltedd trawsffiniol yng Nghymru hefyd o ran rhai o'n gwasanaethau. 

Rwy'n falch iawn, ac rwy'n credu mai'r prif esiampl rydw i'n hoffi ei defnyddio yw'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud ar linellau craidd y Cymoedd. Rwy'n gwybod fy mod i'n ailadrodd fy hun, ond rydych chi'n dechrau gweld rhai gwelliannau enfawr a gallwn ni ailadrodd rhywfaint o'r gwaith hwnnw mewn mannau eraill. Nid yw'n golygu ei fod yn ymwneud â rheilffyrdd yn unig. Fe wnaethon ni siarad am fysiau yma yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein rhwydwaith trafnidiaeth wedi'i integreiddio'n llwyr, fel bod pobl yn teimlo'n gyfforddus ac maen nhw'n ei weld fel taith ddi-dor, bod, efallai, ar goets gogledd Cymru, neidio ar fws a neidio ar drên. Mae'r rhain yn cael eu gweld yn ddi-dor, a dyna'r rheswm am un tocyn, un daith. Mae gennym lawer o waith rydyn ni wedi'i weld a llawer o fudd. 

Photo of Helen Jenner Helen Jenner Reform UK 5:09, 7 Gorffennaf 2026

Ddirprwy Weinidog, fe wnaeth y don wres ddiweddar dynnu sylw at y costau sylweddol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw seilwaith y rheilffyrdd yn wyneb tywydd eithafol. Cyn ceisio datganoli rhagor o gyfrifoldebau dros y rheilffyrdd, a yw Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo'r goblygiadau ariannol hirdymor ar gyfer cynnal a chadw ac adnewyddu'r seilwaith y byddai'n ei etifeddu? Os felly, a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r ffigurau hynny ac egluro sut y byddai'r costau hynny yn cael eu hariannu? Diolch.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru

Diolch, Helen. Diolch am y cwestiwn. 

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn ac mae'n bwynt rydw i'n hapus i ddod yn ôl i'r Siambr ag ef. Rwyf wedi gofyn yr un cwestiwn. Rwy'n credu, pan fyddwn ni'n siarad am £14 biliwn, nid dyna'r gyllideb cynnal a chadw hefyd. Mae hynny'n wirioneddol hanfodol. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddatganoli llawn, fel y gallwn ni wneud y gwaith sydd angen digwydd.

Gan fynd yn ôl at y pwynt y cyfeiriodd Peter ato, a'r ffaith bod angen i ni adeiladu gwydnwch, dyma graidd adeiladu'r gwydnwch hwnnw. Mae gennym rwydwaith, rydym yn gwybod nad ydyw, mewn rhai rhannau, wedi cael y gefnogaeth sydd ei hangen arno am nifer o flynyddoedd. Felly, mae'n bwysig iawn, ond pan fydd ffigur gennyf, fe ddof yn ôl atoch chi arno.

Photo of Kerry Ferguson Kerry Ferguson Plaid Cymru 5:10, 7 Gorffennaf 2026

Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, Leticia Gonzalez.

Photo of Leticia Gonzalez Leticia Gonzalez Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Yng Nghaerdydd, mae canlyniadau degawdau o danfuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn rhy amlwg. Dyna pam yr wyf i'n croesawu'r cynnydd a wnaed ers datganoli llinellau craidd y Cymoedd, sydd wedi galluogi gwelliannau sylweddol i gael eu cyflawni ar draws y rhwydwaith.

Am yn rhy hir, mae pobl anabl yn fy etholaeth i wedi wynebu rhwystrau annerbyniol wrth ddefnyddio ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'r diffyg lifftiau a mynediad heb risiau wedi gorfodi teithwyr i fynd ar lwybrau dargyfeirio hir, tra bod llwybrau amgen yn parhau i fod yn anhygyrch i lawer o ddefnyddwyr cadair olwyn. Rwy'n falch bod gwaith wedi dechrau o'r diwedd ar bont droed hygyrch yng ngorsaf Cathays. Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am y gwelliannau hyn ers y 1990au. Does bosib bod hyn yn brawf y gallwn ni, pan fydd gan Gymru fwy o reolaeth ar ei rhwydwaith rheilffyrdd, fynd i'r afael ag anghenion ein cymunedau'n well.

Ers blynyddoedd, mae Plaid Cymru wedi dadlau dros ddatganoli'r seilwaith rheilffyrdd a'i gyllid cyfatebol yn llawn i Gymru, a chaniatáu i brosiectau fel HS2 gael eu hailddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig. Pe bai hynny'n digwydd, gallai Cymru dderbyn biliynau o bunnoedd mewn cyllid canlyniadol—arian a allai drawsnewid cysylltedd rheilffyrdd a hygyrchedd ledled ein gwlad. O ystyried bod trethdalwyr Cymru yn helpu i ariannu prosiect nad yw'n dod i mewn i Gymru, ac o ystyried pryderon parhaus y bydd y budd economaidd yn cael ei deimlo mewn mannau eraill, pa bwysau y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei roi ar Lywodraeth y DU i sicrhau'r setliad cyllid teg y mae Cymru yn ei haeddu?

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Photo of Mark Hooper Mark Hooper Plaid Cymru 5:12, 7 Gorffennaf 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Leti. Rwy'n gwybod eich bod yn cymryd diddordeb brwd mewn rheilffyrdd o'ch swydd cyn hyn, lle roeddech chi'n cefnogi Trafnidiaeth Cymru yn ei waith hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich arbenigedd hefyd. Sut ydw i'n ateb y cwestiwn hwnnw? Dim ond trwy ei droi'n ôl a dweud bod angen y datganoli arnom ac mae angen cyllid teg arnom.

Nawr, mae'r pwysau, rwy'n meddwl, yn ddeublyg. Felly, mae angen i'r sgwrs fod yn sgwrs gyda Llywodraeth y DU, lle rydym yn cael ein gweld fel partner dibynadwy. Felly, rydw i eisiau gwneud yn siŵr, bob tro y byddaf yn cael sgwrs, eu bod nhw'n gwybod fy mod i'n bod yn glir, fy mod i'n bod yn uniongyrchol, a fy mod i'n bod yn onest gyda'n hanghenion a pham rydyn ni'n gweithio arno.

Ond y peth arall, rwy'n meddwl, oedd yn wirioneddol—. Pan siaradais i â'r Gweinidog rheilffyrdd ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedodd, er mwyn ei helpu i fynd i'r Trysorlys i gael y cyllid sydd ei angen arnom, mai'r hyn yr oedd ei angen arnom yw bod yn barod gyda'r prosiectau. Felly, dyna'r gwahaniaeth allweddol. Rydyn ni'n barod gyda'r prosiectau, i ddechrau cyflawni, yn enwedig ar orsafoedd Burns, oherwydd y gwaith sydd wedi'i wneud. Rydyn ni'n barod i fynd, a gallwn ni ddechrau bwrw ymlaen â hyn. Dyna'r gwahaniaeth critigol. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos, o ran y rheilffyrdd, ein bod ni'n symud ymlaen gyda phethau fel erioed o'r blaen. Diolch yn fawr.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.