1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 23 Mehefin 2026.
Adrian Mason
Reform UK
6. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr? OQ64204
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
2:21,
23 Mehefin 2026
Mae'r gogledd yn amlwg yn rhan allweddol o'n huchelgeisiau economaidd ni yn y Llywodraeth. Fe fyddwn ni'n cryfhau cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr drwy well cysylltiadau trafnidiaeth, drwy gydweithio trawsffiniol ymarferol, drwy gefnogi sectorau allweddol fel gweithgynhyrchu ac ynni. Ac rydym ni'n gwneud hyn, wrth gwrs, gyda phwyslais clir ar gynyddu cynhyrchiant, mwy o fuddsoddiad a budd economaidd hirdymor i'r gogledd.
Adrian Mason
Reform UK
Diolch, Brif Weinidog. A chithau o Ynys Môn, fe wyddoch chi nad pwynt haniaethol mo hwn i'r gogledd. Oni bai bod Plaid Cymru wedi prynu hofrennydd i chi i allu mynd i'ch swydd newydd, yn ei hanfod, felly, fe fydd hi'n cymryd 4 awr a hanner i chi, hyd yn oed, gyrraedd Bae Caerdydd, Brif Weinidog. Felly, i lawer o gymunedau, mae ein cysylltiadau economaidd ymarferol yn rhedeg i'r dwyrain tua Chaer, Lerpwl a Manceinion. Yn wir, o'r gogledd-orllewin, y brifddinas agosaf yw Dulyn ac nid Caerdydd. Mae hynny'n mynegi rhywbeth pwysig am ddaearyddiaeth, trafnidiaeth a realiti economaidd, onid ydyw? Felly, a wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod angen polisi economaidd ar y gogledd sydd wedi ei lywio gan sut y mae'r rhan hon o Gymru yn gweithio mewn gwirionedd, gyda chysylltiadau cryf â gogledd-orllewin Lloegr ac economi môr Iwerddon, nid drwy edrych arno o safbwynt Bae Caerdydd?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
2:22,
23 Mehefin 2026
Mae yna sawl pwynt y gallwn ni ei wneud yma. Rwy'n credu y dylid uno cenedl Cymru, ac rwy'n credu mai ein prifddinas ni yw'r brifddinas i bawb, boed i bobl Penarlâg neu bobl Caergybi neu bobl Merthyr Tudful. Rydym ni'n adeiladu economi sy'n gweithio i ni. Ie, Dulyn yw'r brifddinas agosaf i Ynys Môn, ond Caeredin yw'r brifddinas agosaf i bobl sy'n byw yn Newcastle. Nid wyf i'n siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud yn hynny o beth. Ond un o'r pethau a eglurais i yw'r angen i bob cwr o'n cenedl ni deimlo ei fod yn rhan o gynllunio economaidd ar gyfer Cymru i gyd. Nid wyf i ac nid yw fy Ngweinidogion yn edrych ar bopeth o safbwynt Bae Caerdydd neu Barc Cathays. Rydym ni'n edrych ar bethau o safbwynt Cymru gyfan. Mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yn Weinidog i Gymru gyfan gyda buddiannau Cymru gyfan yn ganolog, ac fe fydd hynny mor wir o ran datblygiad economaidd ag o ran unrhyw beth arall, ac rwy'n dweud hynny fel mab i Sgowsar. [Chwerthin.]
Sam Rowlands
Ceidwadwyr
2:23,
23 Mehefin 2026
Brif Weinidog, rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol mai fy etholaeth i Fflint Wrecsam sy'n debygol o gael ei heffeithio fwyaf gan y berthynas economaidd honno â gogledd-orllewin Lloegr, ac mae busnesau'r etholaeth yn sôn wrthyf i am bwysigrwydd y rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig llwybrau priffyrdd yr A55, yr A483 a'r A494. I fod yn deg i'r Llywodraeth flaenorol yn y lle hwn, tua diwedd y tymor Seneddol diwethaf fe wnaethon nhw rai ymrwymiadau sylweddol i wella'r ffyrdd hynny yn Fflint Wrecsam. A fydd eich Llywodraeth chi'n parhau i gefnogi'r gwelliannau hynny, ac a fyddwch chi'n ystyried buddsoddiadau pellach ar y ffyrdd hynny yn fy etholaeth i, Fflint Wrecsam?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
2:24,
23 Mehefin 2026
Fel y cyfeiriais ato yn gynharach, mae fy Llywodraeth i wedi ymrwymo, trwy waith y Gweinidog menter, cysylltedd ac ynni a'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, i sicrhau y bydd seilwaith gennym ni sy'n gweithio i ni o ran estyn cyfleoedd economaidd a chymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd cadarn a'r buddsoddiadau angenrheidiol yno, a fydd yn ysgogi, ar yr un pryd, y newid moddol hwnnw er mwyn yr economi a'r cysylltedd y mae angen i ni i gyd eu gweld yn digwydd.