Unnos

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Senedd Cymru am ar 17 Mehefin 2026.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lyn Ackerman Lyn Ackerman Plaid Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu Unnos i uwch-raddio'r broses o ddarparu cartrefi cymdeithasol ledled Cymru? OQ64175

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:18, 17 Mehefin 2026

Diolch, Lyn. Mae’r gwaith wedi dechrau i sefydlu Unnos a fydd yn galluogi cynyddu ac, yn bwysig iawn, cyflymu’r gwaith o gyflenwi tai cymdeithasol. Bydd Unnos yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i gyflymu’r cyflenwad hirdymor o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru drwy helpu i ddatgloi’r rhwystrau rhag cyflawni sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Photo of Lyn Ackerman Lyn Ackerman Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhenti preifat yng Nghasnewydd wedi codi bron 20 y cant, ac ar yr un pryd, yn 70 y cant o ardaloedd ledled Cymru, bron iawn, gwelodd Shelter Cymru nad oes unrhyw eiddo'n cael ei hysbysebu ar gyfer ei rentu o fewn y gyfradd lwfans tai lleol. Mae'r bwlch hwn rhwng costau tai a lefelau cymorth yn gadael llawer o aelwydydd heb unrhyw opsiwn ymarferol, gan gyfrannu'n uniongyrchol at gynnydd mewn digartrefedd a dibyniaeth gynyddol ar lety dros dro. O ystyried y pwysau clir y mae hyn yn ei roi ar awdurdodau lleol a'r cyfyngiadau ariannol hirdymor y mae llety dros dro yn eu creu i gyllidebau, y tu hwnt i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol, pa waith sy'n cael ei wneud i gefnogi cynghorau i symud tuag at ostyngiad mwy graddol wedi'i gynllunio mewn dibyniaeth ar lety dros dro, ac i ddarparu'r sefydlogrwydd cyllid sydd ei angen i reoli'r pontio yn effeithiol?

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:19, 17 Mehefin 2026

Diolch yn fawr iawn, Lyn. Rydych chi'n gywir i dynnu sylw at nifer o broblemau yn y fan hyn. Roeddech chi'n cychwyn efo'r local housing allowance, ac yn sicr rydyn ni fel Llywodraeth yn glir ein bod ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddadrewi'r lwfans tai lleol i leihau'r bwlch rhwng rhent a budd-dal tai, gan leihau'r risg o ddigartrefedd i filoedd o deuluoedd a sicrhau eu bod nhw'n gallu cadw i fyny efo rhenti cynyddol. Felly, mi fyddaf i'n gweithio efo'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid ar y mater yma'n fuan iawn ac yn gwneud y ddadl yna i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roeddech chi'n sôn am yr angen i symud i ffwrdd oddi wrth lety dros dro. Wrth gwrs, mae Caerffili yn gwario £8 miliwn ar roi llefydd dros dro i bobl. Mi fyddai'r £8 miliwn yna'n gallu cael ei ddefnyddio llawer iawn gwell, oni fyddai, mewn ffyrdd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Ac yn y darlun mawr, pan fydd pobl yn cwestiynu faint ydy cost sefydlu Unnos, o gymharu efo'r £8 miliwn yna, mi fyddai sefydlu Unnos yn ffordd o fuddsoddi er mwyn bod y ffigwr yna'n diflannu oddi wrth gyngor fel Caerffili a nifer fawr o gynghorau sir sydd ar draws Cymru.

Dwi'n falch fy mod i wedi cefnogi'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026—yr un a wnaeth y cyn-Ysgrifennydd Cabinet tai ei harwain drwy'r Senedd diwethaf. Mi fydd hi'n gatalydd ar gyfer diwygio'r system ddigartrefedd yng Nghymru. Mae gofyn i bob rhan o'r system weithio efo'i gilydd i nodi risg cynnar ac atal argyfwng, ac mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf yna'n fuan iawn.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.