Cydlyniant Cymunedol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 16 Mehefin 2026.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cristiana Emsley Cristiana Emsley Reform UK

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a meithrin ymdeimlad cyffredin o berthyn ledled Cymru? OQ64184

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:31, 16 Mehefin 2026

(Cyfieithwyd)

Bydd parch, cydsafiad a chwarae teg yn llywio dull y Llywodraeth hon o feithrin cymunedau sy'n fwy teg, diogel, ac unedig. Rydym ni'n dyheu am i Gymru fod yn genedl ddiogel a chynhwysol lle gall pobl a chymunedau ffynnu. Cafodd ein rhaglen cydlyniant cymunedol ei chynllunio i hyrwyddo cydlyniant a meithrin perthynas a rennir ledled Cymru.

Photo of Cristiana Emsley Cristiana Emsley Reform UK

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Brif Weinidog, a minnau'n un a ddaeth i'r DU o ddwyrain Ewrop ac a ddewisodd gwneud Cymru yn gartref i mi yn ddiweddarach, rwy'n ystyried y ddadl hon yn un bwysig iawn. Nid wyf i wedi anwesu Cymru er gwaethaf ei hunaniaeth, ei thraddodiadau a'i symbolau cenedlaethol; fe wnes i anwesu Cymru oherwydd y pethau hyn. Fe ddysgais am ei hanes hi, rwy'n parchu ei threftadaeth ac rwy'n falch o ddathlu'r Ddraig Goch fel baner y wlad yr wyf i'n ei galw yn gartref i mi erbyn hyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymgartrefu yma yn gwneud yr un peth. Mae integreiddio yn mynd y ddwy ffordd. Fe ddylid rhoi croeso cynnes i newydd-ddyfodiaid, ond ni ddylid gofyn i Gymru ymddiheuro am fod yn Gymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi ateb eglur? A yw ef yn cytuno bod baner Cymru a'i threftadaeth genedlaethol yn symbolau o berthyn a balchder i bawb sy'n byw yma, neu a yw ef o'r farn y dylid eu glastwreiddio neu eu tynnu nhw i lawr pe byddai rhai yn honni eu bod nhw'n bethau sy'n waharddol neu'n sarhaus?

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:32, 16 Mehefin 2026

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ystyried ein baner ni'n arwydd o falchder cenedlaethol aruthrol fawr ac nid wyf i'n cefnogi ei chamddefnyddio hi.