1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Mehefin 2026.
Huw Irranca-Davies
Llafur
1:40,
16 Mehefin 2026
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas.
Dan Thomas
Reform UK
Diolch, Lywydd. Mae'n ffaith bod diffyg adeiladu tai a mewnfudo heb ei reoli wedi arwain at brinder tai ledled y DU. Yng Nghymru, mae prisiau tai a rhenti wedi cynyddu'n enfawr, gan wneud tai yn anfforddiadwy. Bellach, mae Plaid Cymru wedi addo darparu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2030. Mae Reform yn croesawu darparu cartrefi newydd, ond, i gyflawni ar y raddfa honno, bydd angen diwygio radical i'r system gynllunio arnom ni, bydd angen ymyrraeth weinidogol arnom ni pan na fydd cynghorau yn darparu'r nifer o gartrefi sydd ei hangen ar eu cymunedau, ac rydym ni angen i'r Llywodraeth a llywodraeth leol weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr tai i drosoli'r biliynau o bunnoedd sydd eu hangen i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd. Felly, Brif Weinidog, sut wnewch chi gyflymu'r broses gynllunio a sut wnewch chi drosoli'r biliynau o bunnoedd sydd eu hangen i gyflawni eich addewid?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
1:41,
16 Mehefin 2026
Yn gyntaf, mae'r prinder tai sy'n ein hwynebu yng Nghymru yn real iawn, iawn. Yn ail, nid yw'r prinder tai hwnnw yn cael ei ysgogi gan fewnfudo. Mae honno'n ymgais—[Torri ar draws.]—mae honno'n ymgais i greu rhaniad pan ddylem ni fod yn edrych ar atebion ymarferol i'r broblem ymarferol yr ydym yn ei hwynebu o brinder tai.
Ydym, rydym ni wedi gosod lefel uchel o uchelgais ar gyfer nifer y tai yr ydym ni eisiau eu darparu. Mae tai cymdeithasol yn rhan allweddol o hynny. Ac, oes, mae angen i ni weithio gydag adeiladwyr tai. Mae angen i ni hefyd weithio gyda darparwyr tai cymdeithasol. Hefyd, byddwn yn gweithio drwy'r corff a sefydlwyd gan y Llywodraeth hon, Unnos, a fydd yn chwilio am ffyrdd arloesol o wireddu'r addewid hwn. Gadewch i ni ganolbwyntio ar y materion ymarferol yr ydym ni'n eu hwynebu o un dydd i'r llall. Ac ydy, mae trosoli arian i mewn, mewn ffyrdd arloesol, yn rhan o'r atebion yr ydym ni'n ceisio dod o hyd iddyn nhw. Ond nid yw beio un rhan o gymdeithas am y broblem yn ein helpu ni i ddod o hyd i ateb.
Dan Thomas
Reform UK
1:42,
16 Mehefin 2026
Does neb yn beio mewnfudwyr. Rydym ni'n beio mewnfudo heb ei reoli—[Torri ar draws.]—rydym ni'n beio mewnfudo heb ei reoli a heb ei gynllunio, sydd â sgil-effeithiau ledled y DU. Mae'r sgil-effeithiau hynny wedi effeithio ar brisiau tai a rhenti, a dyna pam mae gennym ni brinder yng Nghymru. Does dim angen cwango arall arnom ni; mae angen arweinyddiaeth weinidogol arnom ni. Mae'r sector tai yn dweud wrthyf i fod cymdeithasau tai ac adeiladwyr tai, maen nhw eisiau siarad â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, nid â chanolwyr.
Nawr, mae tai amlfeddiannaeth yn broblem fawr yng Nghymru hefyd, ac mae'n cael ei achosi yn rhannol gan fewnfudo heb ei reoli. Ar draws trefi a phentrefi ledled Cymru, rydym ni wedi gweld tai amlfeddiannaeth yn newid cymeriad strydoedd sydd wedi bod yn breswyl eu natur ers degawdau, os nad canrifoedd. Mae cwmnïau mawr yn prynu cartrefi teuluol a'u troi'n dai amlfeddiannaeth, ac nid yw pobl yn hapus â hyn. Felly, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i roi mwy o lais i gymunedau a chynghorau ar dai amlfeddiannaeth ac y gallan nhw ddweud 'na' i dai amlfeddiannaeth?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
1:43,
16 Mehefin 2026
Mae'n fater o geisio neilltuo bai eto, onid ydy? Roedd tai amlfeddiannaeth yn broblem mewn rhan o Gaerdydd yr oeddwn i'n arfer byw ynddi, flynyddoedd yn ôl. Roedd hynny oherwydd tai myfyrwyr amlfeddiannaeth. Felly, yr ateb yn y fan honno yw dod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr y gallwn ni gartrefu myfyrwyr mewn ffyrdd nad ydyn nhw'n effeithio ar boblogaethau lleol. Mae yna rannau o fy etholaeth i fy hun lle bu tai amlfeddiannaeth oherwydd gweithluoedd mewn sectorau penodol. Mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud nad yw'n beio mewnfudwyr cyn mynd ati wedyn i feio mewnfudwyr am y sefyllfa. Bydd yn rhaid iddo faddau i mi am ganolbwyntio bob amser ar yr atebion ymarferol sydd eu hangen i'r problemau real iawn yr ydym ni'n eu hwynebu, sef diffyg tai cymdeithasol, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen ag adeiladu mwy o dai cymdeithasol.
Dan Thomas
Reform UK
1:44,
16 Mehefin 2026
Roeddwn i'n falch o glywed y bydd cyllideb atodol yn cael ei chyflwyno yr wythnos nesaf. Rwy'n credu y gall y Prif Weinidog a minnau gytuno bod Llafur wedi gadael llanast ariannol. Ond y ffordd y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi bod yn siarad am raddfa'r llanast hwnnw, mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n ein paratoi ar gyfer rhai cyhoeddiadau annymunol yr wythnos nesaf. Hoffwn i'r Prif Weinidog ddiystyru unrhyw godiadau treth ac unrhyw doriadau i wasanaethau heddiw. Mae hwn i fod, gobeithio, yn ddigwyddiad cyllidol mawr—y digwyddiad cyllidol sydd ei angen ar Gymru i godi yn ôl oddi ar ei thraed ac ar y ffordd i adferiad. Neu a fydd hi'n fater, Brif Weinidog, o barhau â chynlluniau gwariant Llafur, a rhywfaint o chwarae o gwmpas ar yr ymylon?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
Rwy'n meddwl fy mod i wedi ei gwneud hi'n eglur ar sawl achlysur nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau i godi trethu ac na fydd yn gwneud hynny. Ein cyfrifoldeb ni yma yw parhau â'r gwaith o ddarparu'r rhaglen lywodraethu a gyflwynwyd gennym ni i bobl Cymru ac y cawsom ni fandad i'w darparu yn yr etholiad diweddar. Rwy'n sylwi ar y sylwadau gan y Prif Weinidog blaenorol y byddai trafodaethau mynediad wedi arwain at lyfrau agored. Rwy'n sylweddoli hefyd fod arweinydd yr wrthblaid wedi penderfynu peidio â chymryd yr opsiwn o ymuno â thrafodaethau mynediad. Dyna pa mor ddifrifol oedden nhw am fod yn Llywodraeth. Mae awgrymu bod gan Blaid Cymru fynediad at lyfrau'r Llywodraeth, fel y dywedodd y cyn-Weinidog cyllid, yn amlwg ddim yn wir. Nid dyna sut mae trafodaethau mynediad yn gweithio. Yr hyn y gallaf i ei gadarnhau sy'n wir yw bod y Llywodraeth flaenorol, ym maes iechyd, wedi gadael pwysau yn ystod y flwyddyn gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd. Ar ben hynny, fe wnaethon nhw ymrwymiadau heb eu hariannu gwerth sawl miliwn o bunnoedd ar ofal plant, er enghraifft, gan adael etifeddiaeth eithriadol o heriol ar eu hôl. Ond ni wnaf i fynd ar ôl y ffaith honno. Ni wnaf i ddefnyddio hynny fel esgus. Cyfrifoldeb Llafur yw ateb sut y cododd y sefyllfa hon. Cyfrifoldeb y Llywodraeth hon yw torchi ein llewys a bod yn benderfynol o gyflawni'r addewidion hynny a gyflwynwyd gennym ni i bobl Cymru. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud. Dyna pam, heddiw, y cyhoeddwyd £55 miliwn gan y Dirprwy Brif Weinidog i gyflwyno gofal plant, y dangosodd pobl Cymru eu bod nhw ei eisiau mor daer.
Huw Irranca-Davies
Llafur
1:46,
16 Mehefin 2026
Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Ken Skates
Llafur
Diolch. Brif Weinidog, dros y penwythnos, fe wnaethoch chi a'ch Gweinidog cyllid honni fod cyllid yn anoddach nag yr oeddech chi wedi ei ddisgwyl, er eich bod chi, fel yr ydych chi wedi ei gadarnhau, yn rhan o'r broses o bennu'r gyllideb sydd gennych chi nawr. Byddwch hefyd yn ymwybodol eich bod chi wedi derbyn £120 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar ben y £327 miliwn ar gyfer ADY, yr ydych chi'n gwrthod ei drosglwyddo i ysgolion. Yn hytrach, rydych chi'n briffio bod rhyw fath o dwll du nad yw'n bodoli. Nawr, cyn yr etholiad, adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol y byddai eich addewidion heb eu costio yn gofyn am gynnydd i drethi neu doriadau i wasanaethau heb eu diogelu. A oedden nhw'n iawn?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
1:47,
16 Mehefin 2026
Dyma Lywodraeth flaenorol a addawodd ariannu adeiladu ysbyty gwerth sawl biliwn o bunnoedd, ond na allai hyd yn oed gael eu symiau yn iawn ar faint o arian oedd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer gofal plant—pe bydden nhw wedi gallu ennill yr etholiad, nad oedden nhw, wrth gwrs. Oeddem, roeddem ni'n rhan o broses ynghylch cytuno ar y cyllid hwnnw ar gyfer y GIG a llywodraeth leol, fel yr esboniais i yn gynharach. Dydw i ddim yn siŵr bod y cyn-Weinidog yn rhan o'r broses honno. Ond, fel y dywedais i, nid yw trafodaethau mynediad yn ymarfer llyfr agored o'r math y mae'r cyn-Weinidog yn ei awgrymu. Mae'r pwysau yn ystod y flwyddyn a adawyd o ganlyniad i weithredoedd y gweinyddiaethau Llafur blaenorol yn rhai y byddwn ni'n delio â nhw rŵan. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw torchi ein llewys a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dod o hyd i ffyrdd arloesol, o ran refeniw a chyfalaf, i gyflawni'r hyn y dywedodd pobl Cymru eu bod nhw eisiau i ni ei gyflawni.
Ken Skates
Llafur
1:48,
16 Mehefin 2026
Rwy'n credu mai Ronald Reagan a ddywedodd, 'Os oes rhaid i chi ei esbonio, rydych chi wedi ei golli.' I bob pwrpas, mae unrhyw benderfyniadau anodd yr ydych chi'n eu hwynebu nawr oherwydd anallu neu wrthodiad eich plaid i gostio'r addewidion a wnaed gennych chi. Nid oeddech chi'n fodlon dweud wrthym ni cyn yr etholiad beth fyddwch chi'n ei dorri. A wnewch chi ddweud wrthym ni nawr? A fydd i fynd i'r afael â thlodi? A fydd i addysg, i dai, neu i iechyd?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
Yr hyn sydd wedi dod yn eglur iawn, iawn, Lywydd, yw'r camreolaeth o arian o dan y Llywodraeth flaenorol. Dydw i ddim yn mynd i ddefnyddio hynny fel esgus am y gwaith y mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen ag ef rŵan. Rydym ni wedi rhoi rhaglen ar waith. Mae'n ymwneud â gwella safonau addysg. Mae fy Ngweinidog yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu prosiect rhifedd a llythrennedd sylfaenol. Mae'n ymwneud â gwella mynediad at ofal plant. Mae'r £55 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yn ymwneud â dechrau'r gwaith hwnnw o ddarparu gofal plant. Mae'n ymwneud â chreu swyddi gwell ym mhob rhan o Gymru. Mae gwaith eisoes yn dechrau ar sefydlu'r cynlluniau ar gyfer cyflwyno asiantaeth ddatblygu newydd i Gymru. Mae'r holl gamau hyn yn rhai y gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n eu cymryd, ac rydym ni eisoes yn gwneud hynny. Mae'r holl bwyntiau yn ein cynllun 100 diwrnod wedi cael eu rhoi ar waith eisoes. Fe wnaethom ni fwy mewn 27 diwrnod fel Llywodraeth nag y gwnaeth y weinyddiaeth Lafur flaenorol mewn 27 mlynedd.
Huw Irranca-Davies
Llafur
1:49,
16 Mehefin 2026
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Darren Millar
Ceidwadwyr
Brif Weinidog, ymhen 11 diwrnod yn unig, bydd cymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae'n gyfle, wrth gwrs, i dalu teyrnged i ddewrder a phroffesiynoldeb lluoedd arfog Ei Fawrhydi, ac i gydnabod y miloedd o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant amddiffyn ledled Cymru, sy'n helpu i gadw ein gwlad yn ddiogel. Mae'r gweithwyr hynny yn dylunio, yn adeiladu ac yn cynnal a chadw'r offer ar gyfer ein lluoedd arfog a'n cynghreiriaid ledled y byd. Mae'r cwmnïau hynny hefyd yn darparu swyddi medrus iawn, prentisiaethau a buddsoddiad mewn cymunedau ledled y wlad. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog: ar adeg pan fo rhyfel wedi dychwelyd i Ewrop a phan fo'r sefyllfa diogelwch rhyngwladol yn dod yn fwyfwy ansicr a bregus, a ydych chi'n cytuno â mi bod diwydiant amddiffyn cryf yma yng Nghymru yn hanfodol i'n heconomi? Ac a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'n lluoedd arfog ac i'r gweithwyr yng Nghymru y mae eu hymdrechion yn helpu i ddarparu'r adnoddau y mae nhw eu hangen iddyn nhw?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
1:50,
16 Mehefin 2026
Un o fy ymweliadau cyntaf fel Prif Weinidog oedd i weld Valley Veterans a rhannu straeon gyda nhw am eu hamser yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac i addo iddyn nhw ein bod yn benderfynol o gyflawni ar y cyfamod sydd mor bwysig i'r rhai sydd wedi gwasanaethu. Ydw, rwy'n credu bod y sector amddiffyn yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn o fewn yr economi yn ei chyfanrwydd. Ydw, rwy'n deall yn llwyr fod wyneb newidiol bygythiadau rhyngwladol yn golygu bod angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r grymoedd confensiynol ar waith sy'n gallu gwrthsefyll hynny. Ar yr un pryd, mae hon yn Llywodraeth a fydd yn gwneud yn siŵr bod yr ymgysylltiad moesegol o ran amddiffyn mor gryf ag y gall fod. Rwy'n meddwl mai dyna'r math o sicrwydd y mae pobl Cymru ei eisiau.
Darren Millar
Ceidwadwyr
1:51,
16 Mehefin 2026
Wel, a gaf i groesawu eich sylwadau am gyfamod y lluoedd arfog? Mae'n gwbl hanfodol bod Cymru yn anrhydeddu'r cyfamod hwnnw ar bob un lefel o lywodraeth, a hoffwn dalu teyrnged i'r sefydliadau hynny sy'n gweithio'n galed i wneud yn union hynny. Ond yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, gwelsom ddau ymddiswyddiad o Lywodraeth y DU. Ymddiswyddodd dau Weinidog gan nad oedden nhw'n credu bod Llywodraeth y DU yn gwneud digon i fuddsoddi mewn amddiffyn ar adeg o ansefydlogrwydd rhyngwladol cynyddol. Daeth eu rhybuddion ar adeg pan fo gwledydd ledled Ewrop yn cynyddu eu gwariant ar amddiffyn, yn ailadeiladu eu gallu a'u capasiti milwrol ac yn buddsoddi yn eu diwydiannau amddiffyn domestig. Nawr, mae Cymru eisoes yn gartref i lu o gwmnïau amddiffyn ac awyrofod o'r radd flaenaf: General Dynamics, Airbus, BAE Systems, Raytheon, Babcock, Sierra Nevada Corporation Mission Systems ac eraill ledled y wlad gyfan, sy'n cyflogi miloedd lawer o unigolion, ac maen nhw'n chwarae rhan hanfodol yn ein diwydiant amddiffyn. Ond mae'n bwysig iawn, os daw'r cynnydd i wariant amddiffyn gan Lywodraeth y DU, bod Cymru yn cael ei chyfran deg a'n bod ni'n gallu tyfu ein diwydiant amddiffyn. Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd hyd yma, a pha gamau ydych chi'n bwriadu eu cymryd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd?
Rhun ap Iorwerth
Plaid Cymru
1:52,
16 Mehefin 2026
Rwy'n meddwl bod yr Aelod yn iawn y byddem ni'n disgwyl i Gymru gael cyfran deg. Mae hefyd yr un mor wir i ddweud, os yw Llywodraeth y DU, fel y credir, yn mynd i fod yn gwneud newidiadau i wariant amddiffyn a gwneud hynny ar sail gwariant cyhoeddus sy'n bwysig iawn i ni o ran delio â materion seilwaith yma yng Nghymru, ein bod ni'n cael rhybudd ymlaen llaw o hynny, ac nid dyna ddigwyddodd yn yr achos hwn. Pan fyddaf i'n sôn am fod eisiau ailosod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a chael agenda barch, rwy'n disgwyl i'r agenda barch honno weithio'r ddwy ffordd, ac felly mae cael cyfle cynnar i ymgysylltu â phenderfyniadau a fyddai'n effeithio arnom ni yng Nghymru yn rhywbeth y byddaf i bob amser yn ei wneud, fel y mae pobl Cymru yn disgwyl i mi ei wneud, fel Prif Weinidog sydd wedi addo erioed i sefyll yn gadarn dros bobl Cymru ac i fod yn ffyddlon bob amser i anghenion pobl y genedl hon.