– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 24 Mawrth 2026.
Elin Jones
Plaid Cymru
5:47,
24 Mawrth 2026
Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gwneud y cynnig yma eto—Huw Irranca-Davies.
Huw Irranca-Davies
Llafur
5:47,
24 Mawrth 2026
Diolch eto, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.
Huw Irranca-Davies
Llafur
Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y fframwaith ar gyfer cynllun sydd wedi'i ddylunio a'i ddatblygu'n ofalus iawn ar ôl ymgysylltu helaeth i sicrhau gwelliant yn erbyn perfformiad Cymru, sydd eisoes yn uchel, ac i sicrhau rhyngweithrededd â'r cynlluniau yng ngwledydd eraill y DU. Hoffwn ddiolch yn fawr unwaith eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith maen nhw wedi'i wneud yn craffu ar yr offeryn statudol Cymreig hwn, ac fel y nodir yn ymateb y Llywodraeth i'r pwyntiau adrodd a godwyd gan y pwyllgor, rwy'n derbyn pwyntiau adrodd technegol 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 11, 12, 14 a 15. Bydd pwyntiau adrodd technegol 2, 3, 6, 9, 11 a 12 yn cael eu cywiro cyn gwneud y rheoliadau, tra bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwelliannau ar y cyfle nesaf sydd ar gael i fynd i'r afael â'r pwyntiau adrodd technegol eraill yr wyf wedi'u derbyn hefyd.
Nawr, er bod Cymru eisoes yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ein perfformiad o ran ailgylchu, mae cynllun dychwelyd ernes yn ffordd a brofwyd yn rhyngwladol i'n helpu i fynd ymhellach, drwy fynd i'r afael â sbwriel, cynyddu ailgylchu wrth fynd a chefnogi'r newid, yn y pen draw, i ailddefnyddio. Nawr, dewis Llywodraeth Cymru bob amser oedd cwmpas wedi'i alinio ledled y DU a oedd yn gweithio i'r DU gyfan. Ond fe wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU wyro i ffwrdd oddi wrth y cwmpas hwnnw, ac er y gall cynllun ailgylchu yn unig cul gyflawni yn Lloegr, mae'r cyd-destun yng Nghymru yn sylfaenol wahanol mewn gwirionedd. Felly, mae ein rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun cynhwysfawr, yn unol, mewn gwirionedd, â chanlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol, a'r mwyafrif llethol, mae'n rhaid i mi ddweud, o gynlluniau rhyngwladol. Mae hyn yn sicrhau y bydd yn mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sbwriel gwydr ar ein strydoedd a'n traethau, ac yna'n cyflwyno ailddefnyddio fesul cam yn unol â chynlluniau gorau'r byd. A hoffwn ddweud pa mor falch ydw i y bydd y cynllun hwn yn cyflawni hyn.
Fe wnaethon ni i gyd weld, flynyddoedd yn ôl, pan geisiodd yr Alban gyflwyno cynllun gyda gwydr, Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd yn rhwystro'r ymdrechion hynny. Nawr, roedd hynny'n gwbl annerbyniol. Rwy'n falch iawn ein bod ni, trwy gydweithio da gyda Llywodraethau ledled y DU, ledled y DU, wedi llwyddo i negodi canlyniad gwell a all ein helpu i adeiladu ar ein record ddatganoledig falch yn y maes hwn.
Ond mae'r cynllun hefyd wedi'i addasu i fynd i'r afael ag effaith yr amrywiad yn y cwmpas yn y DU trwy alinio'r dyddiad cychwyn, gan gynnwys cyfnod pontio pedair blynedd ar gyfer poteli gwydr untro, ac yna cyflwyno ailddefnyddio'n raddol. Ond gadewch i mi fod yn hollol glir ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os na fydd y rheoliadau'n cael eu pasio: byddai'n golygu na fyddai unrhyw gynllun yng Nghymru pan fydd DRS yn cael ei weithredu mewn mannau eraill yn y DU yn 2027. Beth fyddai hyn yn ei olygu? Byddai'r manteision i Gymru yn cael eu colli, gan gynnwys y buddion economi gylchol a'r buddion swyddi hynny, y buddion cyntaf i'r farchnad. Byddai'n dod â chostau sylweddol ac aflonyddwch i fusnesau ac yn creu, gyda llaw, risg sylweddol o dwyll. Dyma'r sefyllfa y mae'r diwydiant diodydd wedi nodi'n glir yw'r senario gwaethaf os na fyddwn ni'n pasio'r rheoliadau hyn. Rydyn ni eisiau osgoi'r senario hwnnw a gweld Cymru'n manteisio ar fuddion DRS, gan gynnwys, gyda llaw, swyddi a buddsoddiad mewn ailgylchu ac ailddefnyddio, a'r arbedion i gynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r ailddefnyddio hynny yn raddol hefyd.
Ac rydym hefyd, a bod yn onest, eisiau parhau ag arweinyddiaeth hirdymor Cymru yn y maes hwn, gan adeiladu ar yr enghreifftiau sydd wedi'u gweld yn ystod ein hamser ni yma yn y Senedd hon, ac yn y Cynulliad cyn hynny, fel bagiau siopa—yn arwain y ffordd ar hynny. Yn hytrach nag aros i weddill y DU ddal i fyny, gallwn ni ddangos arweinyddiaeth ac yna byddan nhw'n dod gyda ni. Felly, rydyn ni wedi cyflwyno cynllun sy'n defnyddio pwerau datganoledig a all gyflawni i Gymru, a thrwy wneud hynny, rydyn ni'n cymryd cam sylweddol arall ymlaen a all hefyd fod o fudd i'r DU gyfan.
Huw Irranca-Davies
Llafur
5:51,
24 Mawrth 2026
Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau hyn i'r Senedd.
Elin Jones
Plaid Cymru
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth sydd nesaf. Mike Hedges.
Mike Hedges
Llafur
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft ar 9 Mawrth, ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru. Derbyniodd y pwyllgor swm sylweddol o ohebiaeth gan randdeiliaid yn y diwydiant ynghylch y rheoliadau hyn, a oedd yn codi pryderon am faterion o fewn ein cylch gorchwyl a'r tu hwnt iddo. Fe wnaethon ni ystyried y cyflwyniadau hyn ochr yn ochr â gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a datganiadau gan y Dirprwy Brif Weinidog. Hoffwn estyn fy niolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am drafod y rheoliadau hyn gyda ni yn y pwyllgor ar 2 Mawrth, ac i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r pwyllgor.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys 15 o bwyntiau adrodd technegol a chwe phwynt adrodd craffu ar rinweddau, y byddaf yn eu crynhoi ar gyfer Aelodau heddiw. Mae deg o bwyntiau adrodd y pwyllgor yn gofyn am esboniad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â ffurf neu ystyr y rheoliadau. Mae'r pwyntiau adrodd hyn yn tynnu sylw at faterion megis anghysondeb yn y dyddiad cychwyn, ystyr termau penodol fel 'diwrnod busnes' a 'penodedig', ac eglurder croesgyfeiriadau. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru y mwyafrif o'r pwyntiau adrodd hyn a bydd yn gwneud y cywiriadau naill ai cyn gwneud y rheoliadau neu ar y cyfle nesaf sydd ar gael drwy offeryn cywiro.
Roedd y grŵp hwn o bwyntiau adrodd hefyd yn ceisio eglurder ynghylch adennill costau gorfodi, y sail ar gyfer gosod cosbau ariannol amrywiol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad gorfodi, a'r broses benodi ar gyfer y sefydliad rheoli ernes. Nododd ymateb Llywodraeth Cymru ragor o fanylion ynghylch y broses adennill costau gorfodi, sef y bydd y tribiwnlys haen gyntaf yn penderfynu a aethpwyd i gostau'n ddiangen yn seiliedig ar dystiolaeth gan y ddau barti. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i ystyried diwygio'r rheoliadau o ran cosbau ariannol amrywiol ar y cyfle nesaf sydd ar gael, y mae'n nodi y dylen nhw fod ar gael fel dewis arall yn lle erlyniad. Fodd bynnag, mae'r ymateb yn nodi y byddai darpariaethau pellach am y sefydliad rheoli ernes yn rhy ragnodol.
Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd yn cynnwys pedwar pwynt adrodd sy'n tynnu sylw at anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae'r pwyntiau adrodd hyn yn cynnwys tair enghraifft o groesgyfeirio anghyson ac un enghraifft lle mae'r testun Saesneg yn defnyddio 'datgan', tra bod y testun Cymraeg yn defnyddio 'pennu'. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gywiro'r anghysondebau hyn cyn gwneud y rheoliadau.
Mae'r pwynt adrodd technegol terfynol yn tynnu sylw at un enghraifft o ddrafftio diffygiol, y bydd Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn ei gywiro cyn gwneud y rheoliadau. Mae pwyntiau adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn codi cyfres o faterion pwysig am ddatblygu'r rheoliadau a'r ddogfennaeth sy'n eu cefnogi. Maen nhw'n cynnwys pwynt adrodd 16, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariad clir a chynhwysfawr ar statws amserlenni proses eithrio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod pob Llywodraeth arall yn y DU wedi cytuno y gall eithriad gael ei gyflwyno ar gyfer y cynllun DRS yng Nghymru. Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cam nesaf yn gweld Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r offeryn statudol angenrheidiol, y maen nhw'n disgwyl ei wneud yn ystod 2026.
Mae pwynt adrodd 18 yn gofyn am ragor o wybodaeth am ganlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 2025 ac unrhyw ymgyngoriadau perthnasol eraill. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod cyfres o sesiynau ymgysylltu wedi'u targedu wedi cael eu cynnal rhwng Ionawr a Rhagfyr 2025, gyda thua 250 o fynychwyr yn cynrychioli rhanddeiliaid amrywiol. Mae'r ymateb yn nodi bod crynodeb o'r ymgynghoriad yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Yn olaf, Llywydd, mae pwynt adrodd 19 yn ceisio eglurhad ynghylch a yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn seiliedig ar asesiad 2021, a pham na ddefnyddiwyd asesiad sy'n benodol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod asesiad 2026 yn benodol i Gymru, er ei fod yn adeiladu ar y sylfaen ymchwil a sefydlwyd drwy weithgareddau pedair gwlad blaenorol.
Janet Finch-Saunders
Ceidwadwyr
5:55,
24 Mawrth 2026
Wel, dyma un o'r cynlluniau rydw i wir wedi bod eisiau iddo ddod drwy'r Senedd hon ers blynyddoedd lawer. Yn wir, yn 2020, roeddwn i'n falch iawn pan gefnogodd yr Aelod Fil Aelod a oedd yn mynd drwodd ar gyfer cynllun DRS yma yng Nghymru. Byddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, a byddai hynny'n helpu i leihau gwastraff yng Nghymru. Dim ond nawr, ar ddiwrnod Cyfarfod Llawn olaf ond un y chweched Senedd, yr ydym yn gweld unrhyw gynnydd tuag at hyn. Mae'r oedi hwn yn fethiant amlwg i Lywodraeth Cymru—mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am DRS ers 2016—gyda Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn tynnu sylw at y rhwystredigaeth gyda'r oedi parhaus mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet.
Mae cynlluniau DRS wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill sydd wedi eu gweithredu, fel yr Almaen a Norwy, ac maen nhw'n cyflawni cyfraddau dychwelyd o dros 90 y cant yn rheolaidd, felly mae'r ffigurau hynny'n siarad drostyn nhw eu hunain. Oherwydd bod mwy o gymhelliant ariannol i bobl ddychwelyd cynwysyddion, mae llai o ddeunydd yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael ei losgi mewn gwirionedd. O ganlyniad i'r cynlluniau hyn, mae llawer llai o sbwriel ar y strydoedd hefyd, ac mae'r ernes yn gweithredu fel cymhelliant mawr i eraill godi cynwysyddion a'u dychwelyd. Rwy'n credu y gall llawer ohonon ni, o oedran penodol, gofio—. Wel, roeddwn i'n arfer dringo dros gatiau'r dafarn, os mynnwch chi, ac fe fyddai yna focs yno ac fe allech chi gerdded o amgylch a mynd â nhw i mewn a chael ad-daliad. Ond bydden ni hefyd— [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, roedd ychydig yn ddrwg, mewn gwirionedd—cyfaddefiad. Ond, na, roedd yn werthfawr i'w ddychwelyd, dim ond i gael rhywfaint o arian poced ar gyfer losin. Beth bynnag—. Roedd Mick Antoniw yn arfer gwneud hynny pan oedd yn iau. Bydd hyn yn ffordd dda o annog pobl ifanc i ailgylchu.
Rydw i wedi dysgu cymaint—Carolyn, byddwch chithau wedi hefyd—ers i ni fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol yn erbyn sbwriel. Mae'r sbwriel o gwmpas nawr yn ofnadwy. Rwy'n cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau glanhau traethau, ac mae'n —. Pan welwch chi'r caniau, y poteli— naill ai gwydr neu blastig—sydd ar y traethau hynny, mae wir angen ailosod y ffordd o feddwl am hyn. Nawr, bydd y rheoliadau hyn yn golygu, o 1 Hydref, y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cael diod mewn poteli a chaniau untro, caeedig, wedi'u gwneud o blastig, dur, alwminiwm a gwydr, dalu ernes ad-daladwy i'r person sy'n cyflenwi'r cynhwysydd diod, ac yna bydd yr ad-daliad yn cael ei roi pan fydd y cynhwysydd yn cael ei ddychwelyd i bwynt dychwelyd dynodedig.
Ond mae fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau, a daw hyn ar ôl siarad â diwydiant—. Maen nhw'n gwrthwynebu'n gryf gynnwys gwydr yn y cynllun hwn. Dylen ni barhau i fod wedi ein halinio â'r cynlluniau DRS ar draws gweddill y DU, gan fod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cynllunio ar gyfer cynllun heb wydr. Gallai ei gynnwys gymhlethu masnach ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr, creu dryswch i gwsmeriaid a manwerthwyr, gwneud gweithrediadau'n anoddach i fusnesau sy'n gweithio ledled y DU, a chynyddu costau ariannol, unwaith eto, i fanwerthwyr, tafarndai, lletygarwch a chynhyrchwyr diodydd. Felly, gyda hyn mewn golwg, byddwn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru anghofio am gynnwys gwydr yn y cynllun hwn, yn enwedig gan eu bod wedi gosod cyfnod pontio o bedair blynedd ar gyfer gwydr yn benodol, sy'n dangos bod cymhlethdodau enfawr yn gysylltiedig â'i gynnwys yn y cynllun hwn. Diolch yn fawr.
Luke Fletcher
Plaid Cymru
5:59,
24 Mawrth 2026
Fe ddechreuaf trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gynnig y briff technegol hwnnw yr wythnos diwethaf, ac am fynediad at rai o'i swyddogion i ofyn rhai cwestiynau pellach. Rwy'n siŵr eu bod nhw wedi gwerthfawrogi'r holl gwestiynau a anfonais drosodd, ond fe ges i ymatebion yn ôl ac fe'u gwerthfawrogwyd yn fawr. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad hefyd â'r Llywodraeth, gan wybod, wrth gwrs, mai'r sefyllfa gyda Llywodraeth y DU oedd cynnwys gwydr yn wreiddiol, a bod tynnu allan o gynnwys gwydr yn y cynllun hwnnw, heb os, wedi achosi cur pen iddo ef a'i dîm.
Heno, byddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau. Fe wnaf i fynd i'r afael â'r pwynt ynghylch diwydiant. Mae'r sgyrsiau rydw i wedi'u cael dros yr wythnos ddiwethaf gyda chyrff cynrychioliadol yn y diwydiant i gyd wedi bod yn eithaf clir. Maen nhw eisiau gweld y rheoliadau yn cael eu pasio oherwydd gallan nhw weld y goblygiadau o beidio â chael cynllun yn cael ei gyflwyno yn unol â gweddill y DU. Nawr, nid yw hynny'n golygu eu bod nhw'n gwbl hapus gyda'r rheoliadau. Rydw i wedi bod yn canolbwyntio fy nghwestiynau ar gynnwys gwydr yn y cynllun hwn. Mae'r diwydiant yn dal i fod yn amheus ynghylch cynnwys gwydr yn y cynllun, ond, gan wybod y rheoliadau fel y'u nodir, mae yna ddarpariaethau yn y rheoliadau ar gyfer eithriadau, a'r hyn y mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb i'r cyfraniadau hyn yw sut mae'r eithriadau hynny'n gweithio, sut maen nhw'n edrych ac a yw'r Llywodraeth wedi llunio, er enghraifft, rhestr o eithriadau posibl, yn enwedig pan fyddwn ni'n sôn am y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n ddiwydiant cymharol fach, ond y gallai gynnwys gwydr yn y cynllun presennol fel y'i nodir gael effaith sylweddol arno.
Wrth gwrs, efallai mai sgwrs ar gyfer y Llywodraeth nesaf yw hon, neu ar ôl yr etholiad nesaf, ond mae'r cwestiwn, rwy'n credu, yn dal i fod yna nawr bod gennym gynllun DRS yn cael ei gyflwyno—ac fe gyfeiriodd ato yn ei ymateb i'r set flaenorol o reoliadau ar wastraff digidol—ein bod ni'n casglu'r holl bethau hyn a beth ydyn ni'n mynd i'w wneud â nhw? Sgwrs ddiddorol a gefais ynghylch y cynllun hwn oedd y potensial, mewn gwirionedd, y gallai Cymru fod yn symudwr cyntaf yn y maes hwn ac y gallen ni adeiladu'r gadwyn gyflenwi honno. Felly, wrth feddwl am yr ochr economi gylchol o hyn, os oes amser, byddwn i'n gwerthfawrogi, unwaith eto, ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet am sut mae'n gweld hynny'n datblygu hefyd. Mae'n gyfle pwysig i ni ei gymryd yn y fan yma, ond mae yna bethau sydd angen eu hystyried o hyd a phethau y mae angen i ni weithio allan o hyd oherwydd, fel y dywedais i, mae diwydiant yn dal i fod yn amheus ynghylch cynnwys gwydr ac yn gweld pa mor gymhleth yw ei gynnwys.
Rhys ab Owen
Plaid Cymru
6:02,
24 Mawrth 2026
Dirprwy Brif Weinidog, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi mai pwrpas y cynllun dychwelyd ernes yw cefnogi'r trawsnewid i Gymru gylchol, ddiwastraff a charbon net. O ystyried y dystiolaeth o dros 40 o awdurdodaethau lle mae 'r cynllun dychwelyd ernes yn weithredol, ac fel y soniodd Janet Finch-Saunders eisoes, mae cyfraddau dychwelyd yn uwch na 85 y cant i 90 y cant. Dyna'r cyfraddau nodweddiadol. Mae'r potensial sydd gan hyn i Gymru, y genedl ailgylchu ail orau yn y byd, fel yr ydym wedi clywed o'r blaen y prynhawn yma, yn anhygoel.
Yn bwysig, mae'n gyfeiriad y mae'r etholwyr eisiau i ni ei gymryd. Mae polau piniwn yn dangos yn gyson bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr Cymru yn cefnogi'r cynllun dychwelyd ernes sy'n cynnwys gwydr. Diolch byth, mae'r cynllun sydd ger ein bron yn mynd ymhellach i gefnogi dibenion gwych y rheoliadau hyn, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eithriadau Deddf Marchnad Fewnol y DU sy'n galluogi Cymru i fwrw ymlaen â chynllun sy'n cynnwys gwydr ac, fel y soniodd y Dirprwy Brif Weinidog, yn galluogi Cymru i arwain y ffordd unwaith eto.
Mae modelu Llywodraeth y DU wedi dangos o'r blaen bod cynnwys gwydr mewn cynllun dychwelyd ernes yn darparu arbedion carbon uwch, yn lleihau sbwriel sy'n gysylltiedig â diod hyd at 85 y cant, ac yn gwella cymhareb cost a budd y cynllun. Mae yna hefyd yr effaith ar yr amgylchedd, sy'n eithaf clir. Adroddodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain fod 47 y cant o anafiadau sy'n gysylltiedig â sbwriel i anifeiliaid oherwydd gwydr wedi torri. Mae gen i graith ar fy llaw ar ôl syrthio ar y llawr, ar wydr wedi torri yn yr ysgol. Mae'r graith yn dal yma i'w gweld. Felly, mae'n beryglus, ac felly mae cynnwys gwydr mor bwysig. Mae arolygon morol yn dangos cynwysyddion diod yn bresennol ar 99 y cant o draethau Cymru, gyda sbwriel gwydr yn ymddangos ar hanner.
Yn arbennig o bwysig i mi yma yng Nghaerdydd yw'r canfyddiad yng ngwaith lleihau trais y ddinas bod tynnu poteli gwydr o amgylcheddau penodol yn gysylltiedig â gostyngiad o 50 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty am anafiadau treisgar. Mae'n amlwg bod yr achos dros gynnwys gwydr yn gadarn. Mae hyn hefyd yn wir wrth ystyried canfyddiadau grŵp trawsbleidiol y Senedd ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff. Fe wnaethant ddarganfod hyn: bod systemau ymyl y ffordd wedi'u cynllunio i ddal deunyddiau a gynhyrchir yn y cartref ac nad ydynt yn mynd i'r afael yn ddigonol â sbwriel neu fwyta/yfed wrth fynd; mae pontio pedair blynedd yn rhoi amser i'r diwydiant addasu—i addasu systemau, labelu a phrosesau data—gan hefyd alluogi cynlluniau treialu ailddefnyddio a threialon gweithredol; ac mae systemau ernes yn gweithredu'n llwyddiannus ar draws sawl gwlad Ewropeaidd, gyda theithio trawsffiniol yn aml, gan gynnwys o fewn y rhanbarth Nordig ac ar draws ardal Schengen, felly ni ddylai fod dryswch.
Yn amlwg—gobeithio eich bod wedi casglu, Dirprwy Brif Weinidog, o'm sylwadau—byddaf yn pleidleisio o blaid y rheoliadau heddiw, ond hoffwn gloi drwy ddiolch unwaith eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—pwyllgor y gwn ei fod yn agos iawn at eich calon hefyd, Dirprwy Brif Weinidog—am eu craffu trylwyr ar y rheoliadau. Hoffwn fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau technegol, ond efallai na wnaf eich rhoi mewn picil nawr, gan efallai na fyddwch yn gallu ateb y rhain y prynhawn yma. Pam, yn adran 9(10)(a), y defnyddiwyd 'diwrnod busnes' yn hytrach na 'diwrnod gwaith'—mae 'diwrnod gwaith' yn cael ei ddiffinio o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019? Hefyd, mae rheoliad 61(2) yn nodi'r gofyniad ar sefydliad rheoli ernes wrth bennu swm yr ernes. Yna mae rheoliad 62 yn darparu i'r swm hwnnw gael ei adolygu, ond nid yw'n nodi bod y gofynion a nodir yn rheoliad 61(2) hefyd yn berthnasol i unrhyw ddiwygiad. Mae eglurder ar y bwriad hwnnw yn bwysig, oherwydd, gan fod rheoliad 62 wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai yn hawdd, yn fy marn i, arwain at Gymru â phrisiau gwahanol iawn i weddill y DU. Ac yn olaf, fel y gwyddoch, mae Atodlen 5 yn ymwneud â phenodi'r sefydliadau rheoli ernes. Nawr, er ei fod yn nodi pryd y gellir gwneud neu ddirymu penodiadau o'r fath, nid oes llawer o wybodaeth am y broses ei hun. Byddai unrhyw esboniad ynglŷn â'ch bwriadau yn ddefnyddiol. Diolch yn fawr, Dirprwy Brif Weinidog.
Joel James
Ceidwadwyr
6:07,
24 Mawrth 2026
Ysgrifennydd Cabinet, fel yr ydym wedi clywed, mae pryder gwirioneddol yn y diwydiant ynglŷn â chyflwyno gwydr i'r cynllun dychwelyd ernes, ac mae pryder gwirioneddol o gyfrif dwbl a photeli gwydr yn cael eu dwyn i Gymru trwy dwyll o rywle arall er mwyn hawlio ad-daliad ernes pan nad oedd ernes wedi'i dalu'n wreiddiol. Oherwydd hyn, bydd yn rhaid i gynhyrchwyr yng Nghymru a ledled y DU wahanu cynhyrchion a werthir yng Nghymru yn glir o'r rhai a werthir mewn mannau eraill. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu newidiadau i linellau cynhyrchu, a fyddai'n ychwanegu costau sylweddol. O ystyried bod bragwyr, yn enwedig bragwyr bach, eisoes yn gweithredu ar feintiau elw bychain iawn, gallai'r costau ychwanegol hyn ei gwneud yn ariannol anymarferol iddynt barhau. Ar ben hynny, mae angen canllawiau llawer cliriach hefyd ar sut y byddai cynllun dychwelyd ernes Cymru yn cyd-fynd â chyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, sy'n berthnasol ar draws y DU gyfan ac sydd eisoes yn cynnwys gwydr, oherwydd, yng ngweddill y DU, bydd awdurdodau lleol yn parhau i dderbyn cyllid cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig i gefnogi casglu gwydr wrth ymyl y ffordd, tra bydd ailgylchu gwydr yng Nghymru yn dod o dan y cynllun dychwelyd ernes yn lle hynny. Felly, byddai cynghorau yn debygol o fod ar eu colled o ran y cyllid hwnnw, gan greu bwlch tebygol mewn adnoddau ar gyfer ailgylchu gwydr. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai unrhyw eglurhad ar y rhain yn cael ei groesawu. Diolch.
Carolyn Thomas
Llafur
6:08,
24 Mawrth 2026
Yn wreiddiol, roeddwn ychydig yn amheus o gynlluniau dychwelyd ernes, oherwydd rydym ni'n gwneud mor dda o ran gwastraff a gesglir ar ymyl y ffordd ac ailgylchu. Rydym ni wedi treulio blynyddoedd lawer yn cyflwyno hynny, ac rwy'n gwybod, ar draws y gogledd, mae'n gweithio'n dda iawn. Ond rydw i wedi bod yn argyhoeddedig iawn, ar ôl dod i lawr yma i Gaerdydd, a gallwch weld canol trefi a'r sbwriel sydd wedi'i adael ar ôl. Gan siarad â chyrff anllywodraethol, dyna'r sbwriel sydd yn cael ei adael yn ein lonydd ac ar y traethau hefyd. Felly, rwy'n credu, i fod yn flaengar nawr ac i gymryd y cam hwnnw ymlaen, mae angen i ni basio'r Bil hwn a symud ymlaen ag ef.
Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch rhoi lle mewn siopau ar gyfer peiriannau rhoi arian am ailgylchu. Mae'r cynhyrchwyr cwrw bychain, fel y dywedodd Joel, wedi codi pryderon, ac rwy'n croesawu bod darpariaeth ar gyfer eithriadau. Hoffwn ofyn hefyd am y cynnydd mewn prosesau. Bydd yn rhaid i'r cynhyrchion gael labeli, ac yna, os ydyn nhw'n parhau i gael eu rhoi yn y casgliadau stepen drws hynny, y broses ychwanegol yw i gynghorau orfod ymdrin â'u didoli i gyd. Felly, pan fyddwch chi'n ymateb, Ysgrifennydd Cabinet, pe gallech chi sôn am y rheini, mewn gwirionedd, gan fy mod yn ceisio sicrwydd ynghylch y rheini. Ond, fel arall, dyma'r ffordd ymlaen nawr. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r sbwriel a'i ailddefnyddio, mewn gwirionedd—ailddefnydio'r cynnyrch—yn hytrach na dim ond ei ailgylchu, fel ffordd flaengar ymlaen. Diolch.
Delyth Jewell
Plaid Cymru
6:10,
24 Mawrth 2026
Mae nifer ohonom yn pryderu am faint o wastraff, fel rydym newydd glywed, sydd ar ein strydoedd. Bydd pasio'r regs hyn heddiw yn gam pwysig ymlaen a bydd yn cynnig sicrwydd. Bydd yn sicrhau na fydd Cymru yn cael ei dal yn ôl oherwydd meddylfryd tymor byr yn San Steffan. Mae angen gwneud hyn mewn ffyrdd sy'n cynnig sicrwydd a thegwch i fusnesau bach. Mae fy nghyd-Aelod Luke wedi gosod mas rhai o'r ffyrdd rydyn ni eisiau sicrhau y bydd cefnogaeth ar gael iddynt a hyblygrwydd. Mae hynny'n hollbwysig.
Delyth Jewell
Plaid Cymru
Bydd cymunedau ledled Cymru yn falch o weld y cam nesaf hwn yn cael ei gymryd. Mae'r sbwriel rydym ni'n ei weld ar ymylon ffyrdd, mewn caeau ac ar ein mynyddoedd nid yn unig yn hyllbeth, mae'n niweidiol, mae'n beryglus ac mae'n bosibl ei osgoi. Gan ddysgu oddi wrth wledydd sydd eisoes wedi cyflwyno systemau dychwelyd ernes ac sy'n cyflawni cyfraddau dychwelyd o hyd at 90 y cant, gall Cymru unwaith eto fod yn un o arweinwyr y byd yma, oherwydd bydd llai o boteli a chaniau yn cael eu gadael ar ein strydoedd, yn ein hafonydd, yn llygru ein bywyd gwyllt, ac unwaith eto y perygl hwnnw. Gall sbwriel gwydr hefyd achosi niwed gwirioneddol. Mae gwydr wedi torri yn peri risg i bobl ac i anifeiliaid.
Ni ddylid dal Cymru yn ôl o ran ein huchelgeisiau oherwydd penderfyniadau gwrthredol San Steffan. Gadewch i ni atgoffa ein hunain yma mai'r hyn rydym ni yng Nghymru yn cychwyn arno nawr yw lle roedd gweddill y DU i fod i fynd yn wreiddiol. Dyma lle byddant yn anochel yn ein dilyn ni hefyd. Y Torïaid yn San Steffan oedd y rhai a benderfynodd dorri'r addewid hwnnw, torri'r penderfyniad hwnnw, gan ddisgwyl i'r gweddill beidio â dilyn eu harweiniad ond eu dilyn drwy dynnu'n ôl, dilyn eu hymostyngiad. Rhaid i Gymru wneud yn well na hynny.
Ond ni fyddwn yn ei wneud mewn ffyrdd, wrth gwrs, a fydd yn gwneud pethau'n anoddach i ddiwydiant. Fel sydd eisoes wedi'i nodi gan Luke a chan eraill, mae yna dipyn o deimlad yma mewn gwirionedd bod hyn yn rhywbeth lle mae angen iddyn nhw fod â sicrwydd. Mae yna ffyrdd o wneud hyn, wrth gael yr hyblygrwydd hwnnw, na fydd yn rhwystro busnesau. Gallai hyn eu rhoi ar flaen y gad. Gallai roi hyblygrwydd iddynt a gallai'r cyfnod paratoi hir ac arweiniad clir helpu gyda hynny. Os ydym eisiau i'r cynllun hwn lwyddo, mae'n rhaid ei wneud gyda busnes, a rhoi cefnogaeth yn enwedig i fusnesau llai. Ond mae uchelgais yn hanfodol.
Delyth Jewell
Plaid Cymru
6:12,
24 Mawrth 2026
Mae'n rhaid i hyn weithio mewn ffordd sydd yn torri gwastraff, sydd yn cefnogi dyfodol mwy cynaliadwy. Os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd, bydd yn rhaid i ni lwyddo gyda hyn. Felly, er mwyn dyfodol Cymru, rydyn ni'n gobeithio y bydd y cam nesaf yn cyfrif, ac yn gobeithio'n fawr y bydd hyn yn pasio.
Gareth Davies
Ceidwadwyr
Penderfynodd Llywodraeth Cymru dynnu'n ôl o'r broses dychwelyd ernes gyda thair gwlad arall y DU, gan nodi eu dymuniad i Gymru fod yn arloeswr wrth symud y tu hwnt i ailgylchu a thuag at ailddefnyddio. Mae hwn yn nod teilwng ac rwy'n cefnogi'r cynllun dychwelyd ernes, ac, mewn theori, nid wyf yn gwrthwynebu cynnwys gwydr, ond mae'n rhaid iddo fod yn ddull pedair cenedl oherwydd gall canlyniadau mynd ein ffordd ein hunain fod yn ddinistriol i fusnesau a'r defnyddiwr. Dyna pam mae cynnwys gwydr yn gamgymeriad mawr, oherwydd rydym ni'n mynd ar ein pen ein hunain. Maent wedi cytuno i gyfnod pontio pedair blynedd pan na fydd blaendal yn berthnasol i gynwysyddion gwydr, sy'n golygu y bydd cynhyrchwyr yn talu am sefydlu seilwaith mannau dychwelyd na fyddant yn cael eu defnyddio. Pa gymhelliant sydd yna i bobl yrru eu poteli gwydr i'r archfarchnad agosaf os na fyddant yn derbyn ernes am eu dychwelyd?
Mae yna bryderon difrifol hefyd gan y sector y bydd cydymffurfio yn gwneud ffioedd yn afresymol i gynhyrchwyr, a fyddai'n arwain at brisiau uwch a dewis cyfyngedig i gwsmeriaid wrth i frandiau dynnu allan o'r farchnad yng Nghymru. Mae hwn yn bryder difrifol, ac, hyd y gallaf weld, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o effaith y cynllun ar gynhyrchwyr a defnyddwyr. Nid ydym ychwaith wedi clywed esboniad ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael pobl i ddychwelyd poteli gwydr yn ystod y cyfnod pontio pedair blynedd os nad oes cymhelliant ariannol i wneud hynny.
James Evans
Annibynnol
6:14,
24 Mawrth 2026
Rydym i gyd yn cefnogi'r nod yma: llai o sbwriel, gwell ailgylchu ac amgylchedd glanach. Gall cynllun dychwelyd ernes helpu hynny, ond nid yr egwyddor yw'r mater, ond a yw'r fersiwn hon o'r cynllun yn ymarferol. Fel y'i drafftiwyd, nid ydym yn credu ei bod hi, oherwydd, yn hytrach nag alinio â gweddill y DU, mae Cymru'n dewis gwyro, yn enwedig trwy gynnwys gwydr. Mae'r penderfyniad hwnnw'n creu canlyniadau go iawn. Mae'n golygu labelu ar wahân, cadwyni cyflenwi wedi'u rhannu, costau uwch, yn enwedig i'n busnesau bach a chanolig ledled Cymru. Ni fydd llawer yn gallu ysgwyddo'r costau hyn. Byddant yn tynnu cynnyrch yn ôl o'r farchnad yng Nghymru, fel y soniwyd eisoes gan eraill. Mae'r amcangyfrifon gan y diwydiant yn llym. Gallai'r amrediadau cynnyrch ostwng rhwng 80 y cant a 90 y cant. Mae hynny'n golygu llai o ddewis i ddefnyddwyr ac ergyd wirioneddol i fusnesau Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a'r gororau. A hyn i gyd i beth? Mae Cymru eisoes yn ailgylchu tua 92 y cant o wydr, un o'r cyfraddau uchaf yn unrhyw le yn y byd. Dydw i ddim yn canmol y Llywodraeth am lawer, ond ar dargedau ailgylchu maen nhw'n gwneud yn eithaf da. Ond dim ond 80 y cant erbyn 2030 yw'r targed o dan y rheoliadau hyn. Felly, rydym yn ychwanegu cost, cymhlethdod, am ddim budd amgylcheddol ystyrlon, ac yn ystod y cyfnod pontio ni fydd gwydr hyd yn oed yn cario ernes, ond bydd angen ei adnabod ar wahân, pan fo awdurdodau lleol yn colli ffynhonnell fawr o'u cyllid sy'n gysylltiedig â chasglu gwydr. Nid yw hynny'n bolisi cydlynol.
Nid yw'r broses wedi helpu, gyda phryderon wedi'u codi am yr asesiadau effaith gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r ffordd y mae'r rheoliadau hyn wedi'u cyflwyno. Llywydd, mae Reform yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes sydd wedi'i alinio, yn enwedig ar wydr, ledled y Deyrnas Unedig, sy'n ymarferol ac yn effeithiol. Ond, yn anffodus, Ysgrifennydd Cabinet, nid yw'r cynllun hwn yn un o'r pethau hynny. Mae'n creu gwahaniaeth, costau cynyddol a pherygl o danseilio'r hyn sydd eisoes yn gweithio. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn pan ddaw'r bleidlais yn nes ymlaen. Diolch.
Elin Jones
Plaid Cymru
6:16,
24 Mawrth 2026
Y Dirprwy Brif Weinidog nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Huw Irranca-Davies
Llafur
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe geisiaf ymateb i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau, os oes gen i amser, oherwydd mae wedi bod yn ddadl dda iawn. Doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o siaradwyr a chyfraniadau. Ond gadewch i mi, yn gyntaf oll, ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rydym ni, yn wir, wedi derbyn y mwyafrif o'r pwyntiau sydd wedi'u codi gan geisio yn ein hymateb i chi, ddangos sut rydym ni'n mynd i fynd i'r afael â nhw. Diolch hefyd am gymryd yr amser i'm gwahodd i'r pwyllgor, er mwyn i ni allu archwilio rhai o fanylion hyn hefyd.
Mike Hedges
Llafur
Diolch am ddod. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies
Llafur
Na, roeddwn i'n ei werthfawrogi, oherwydd mae yna lawer o fanylion o dan hyn, a hefyd y manylion a rannwyd gennym gydag Aelodau a oedd yn ceisio rhywfaint o friffio technolegol hefyd, oherwydd mae'n bwysig mynd o dan groen hyn, ac wrth wneud hynny—. Janet, gadewch i mi ddechrau gyda'ch cyfraniad, oherwydd cefais fy nghalonogi, roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n siarad o blaid, ac yna aethoch rownd rhai corneli ac yna roeddech chi'n siarad yn erbyn, oherwydd bod gwydr yn cael ei gynnwys. Gadewch i mi ddod at hynny'n uniongyrchol. Yn y pen draw, roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar hyn ar gyfer cynllun cynhwysfawr; roedd y pedair gwlad i fod i ddilyn y llwybr hwn. Ond yr hyn rydym ni wedi'i ddylunio nawr, ar y cyd â'r gwledydd eraill—nid Llywodraeth y DU yn unig, ond gyda Llywodraethau eraill y DU mewn gwirionedd—yw cynllun sy'n caniatáu i ni i gyd gerdded ymlaen gyda'n gilydd yn 2027, ond i ni wedyn gael cyfnod pontio, pan ydym ni'n gweithio gyda'r sector ac yna cyflwyno ailddefnyddio gwydr untro, ac yna, yn y pen draw, rydym ni'n cyrraedd y gyrchfan honno yr oedd Delyth yn siarad amdani yn briodol, lle rydym ni'n cael ailddefnyddio, yn dilyn trafodaethau Llywodraeth yn y dyfodol a dylunio'r elfennau hynny ohoni, ac yna mae'r DU a'r gwledydd datganoledig eraill wedi ei gwneud hi'n eithaf clir mai dyna'r gyrchfan i bob un ohonom yn y pen draw.
Ond rydw i eisiau bod yn glir iawn, iawn, ac fe ddywedais hynny yn fy sylwadau agoriadol, pan ddywedais, os nad yw'r rheoliadau'n cael eu pasio heddiw, dyna'r senario hunllefus y mae'r busnesau'n eich rhybuddio rhagddi. Dim ond i fod yn glir, dim ond i fod yn wirioneddol glir, oherwydd mae hyn yn bwysig, byddai mewn gwirionedd yn golygu nad oes cynllun i symud ymlaen yng Nghymru pan fydd y cynllun dychwelyd ernes yn cael ei weithredu yn 2027. Ni fydd cynllun yng Nghymru. Nid yn unig y byddai hyn yn golygu bod Cymru'n colli'r manteision, byddai hynny'n dod â'r costau—costau sylweddol—ac aflonyddwch i fusnesau, a chreu risg o dwyll. Dyna beth mae'r sector i gyd, Janet, a Joel, a James, wedi bod yn ei ddweud wrthym: 'Os gwelwch yn dda ceisiwch osgoi'r senario hunllefus honno.' Dyna pam rydym ni wedi cynllunio pontio graddol gyda nhw i reoli hyn mewn gwirionedd. Mae amcangyfrif yma, os na fyddwn yn bwrw ymlaen â hyn, y bydd gwerth rhwng £48 miliwn a £300 miliwn o dwyll, os nad ydym mewn gwirionedd yn camu ymlaen yma heddiw a phasio'r Gorchymyn hwn. Felly, rwyf eisiau dweud wrthych: byddwch yn glir ynghylch beth yw eich penderfyniad heddiw os nad ydych chi'n cefnogi hwn, oherwydd mae'n gwahodd twyll, mae'n gwahodd y gallu i ryngweithredu, ac mae'n gwahodd tarfu ar farchnad y DU. Efallai eich bod wedi camddeall sylwadau sydd wedi'u cyflwyno. Fe ddaw'r aflonyddwch mawr hwn os nad oes gennym gynllun ar sail pedair gwlad yn 2027. Gareth.
Gareth Davies
Ceidwadwyr
6:19,
24 Mawrth 2026
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n derbyn yn llawn yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei adleisio hefyd gan y diwydiant, felly mae'n ddadansoddiad eithaf cyson rydych chi'n ei wneud yna, Ysgrifennydd Cabinet. Ond y mater ynghylch gwydr yw'r broblem, a'r hyn y mae'r diwydiant yn ei ddweud hefyd yw—. Maen nhw wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am gynnwys gwydr yn fwriadol fel pecyn cyfan, yn hytrach na bod yn drefn ychydig yn wahanol. Felly, a fyddech chi'n derbyn y byddai hynny'n wir? Mae'n dipyn o—. Fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn gamarweiniol, ond, mewn rhai ffyrdd, rydych chi wedi rhoi'r holl beth at ei gilydd fel pecyn cyfan a'n rhoi ni mewn sefyllfa o gyflawni rhywbeth beth bynnag fo'r canlyniad yn yr ystyr hwnnw, mewn gwirionedd.
Huw Irranca-Davies
Llafur
6:20,
24 Mawrth 2026
Na, i'r gwrthwyneb. Gadewch i mi ailfframio'n union yr hyn rydych chi wedi'i ddweud. Y sefyllfa o gyflawni rhywbeth beth bynnag fo'r canlyniad fydd y sefyllfa os nad ydym yn pasio hwn heddiw, oherwydd ni fydd system weithredol ar draws y DU yn y pedair gwlad os byddwch chi'n gwrthod y Gorchymyn hwn heddiw. Mewn gwirionedd, yr hyn rydym ni wedi'i gynllunio yw pontio dros bedair blynedd ar gyfer cyflwyno gwydr untro ac yn y pen draw, cyrchfan, yn ddarostyngedig i Lywodraethau'r dyfodol, er mwyn cyflwyno ailddefnyddio gwydr—rhywbeth y siaradodd Janet o'i blaid mewn egwyddor, ond yna dywedodd na ddylem fod yn ei wneud nawr. Mewn gwirionedd, mae'r hyn sydd gennym yma heddiw wedi'i gynllunio i osgoi'r senario hunllefus honno yn 2027 lle mae problem sylweddol wirioneddol o dwyllo, y gallu i ryngweithredu a chostau ac aflonyddu ar y gadwyn gyflenwi. Peidiwch â gwrthod hwn heddiw, oherwydd dyna'r hunllef y mae'r gadwyn gyflenwi yn eich rhybuddio rhagddi. A dim ond i ddweud, mae'r cynllun gwydr i gyd yn union yr un cynnig, y cynllun cynhwysfawr, sydd wedi cael ei gefnogi gan Aelodau da iawn yn y Senedd hon, Llywydd, sy'n aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar sbwriel, gan gynnwys Janet, Jane ac eraill yn eu plith. Maen nhw wedi cefnogi hwn o'r blaen—dyna beth rydym ni'n ceisio ei gyflwyno.
Gadewch i mi fynd trwy rai agweddau eraill yn gyflym, oherwydd mae'r cynllun hwn mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r mwyafrif helaeth o gynlluniau yn rhyngwladol. Mae'r un cynhyrchwyr eisoes yn cyflenwi'r marchnadoedd hynny. Nid oes aflonyddwch, nid oes materion ynghylch y gallu i ryngweithredu. Ar gyfer busnesau bach a chanolig, Luke, mae eithriadau cyfaint isel i sicrhau nad effeithir arnynt yn anghymesur. Nid oes unrhyw dystiolaeth, James, o gwbl, yr ydym yn ymwybodol ohoni, o gynhyrchwyr yn y marchnadoedd hynny—53 gwlad rwy'n credu, a mwy—yn tynnu eu cynnyrch o'r farchnad. Nid yw'n bodoli.
Felly, gadewch i mi fynd ymlaen at y pwyntiau a wnaed gan Rhys a—. O, mae'n ddrwg gennyf, fe wnes i sôn am y goblygiadau twyll o beidio â phasio hwn heddiw mewn gwirionedd yn tarfu ar y farchnad yma. Rhys, rhai pwyntiau da iawn a wnaed a diolch am eich cefnogaeth ar hyn. Mae hyn yn wir yn mynd i'n hymrwymiad, 'Mwy nag Ailgylchu', ac i gael y manteision hynny o economi gylchol fel y'u disgrifir yng nghynllun Sero Net Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn fawr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n safbwynt cyson y dylem gael cynllun cynhwysfawr yn y pen draw. Ond mae gennym gyfnod pontio wedi'i adeiladu yma i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi i'w wneud yn hawdd ei drin ac i osgoi rhai o'r canlyniadau rydym ni wedi'u clywed yn cael eu disgrifio. Trwy symud i gynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, byddai'n darparu arbedion carbon, rydym yn amcangyfrif, o 76 y cant ar gyfer gwydr y gellir ei ailddefnyddio o'i gymharu â gwydr untro cyfatebol—felly, arbediad carbon o 76 y cant yn y pen draw.
Mae Cymru, fel y crybwyllwyd gennych, eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu, ond bydd hyn yn mynd â ni ymlaen. Dim ond i ddweud, fel un o'r cenhedloedd ailgylchu gorau yn y byd, mae'n rhaid i ni fanteisio ar y modelau byd-eang gorau, felly mae'r diwydiant yn cefnogi ein cysyniad o dreialu ailddefnyddio yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n dod â ni, Luke, at y mater hwnnw, 'y cyntaf i'r farchnad'. Os gallwn gael y cynllun treialu mawr cyntaf o ran ailddefnyddio fel rhan o'r cynnig hwn, yna rydym yn cael manteision y cyntaf i'r farchnad lle mae gennym gynhyrchwyr yn ailddefnyddio, ail-labelu'r poteli hynny a ffynhonnell newydd o ddeunyddiau sy'n dod i'r farchnad fel dewis arall i bobl feddwl amdano: prynu pethau newydd, prynu pethau wedi'u hailgylchu, neu brynu pethau wedi'u hailddefnyddio hefyd, yn y pen draw. Dyna pam mai hon yw'r ffordd iawn.
I ddinasyddion, dim ond i'w gwneud yn glir yma, bydd y cynllun yn rhoi opsiwn dychwelyd cyfleus, hygyrch i bawb. Rwy'n cofio dyddiau pop Corona. Roeddwn i'n un o'r cythreuliaid ifanc digywilydd hynny a oedd yn mynd o gwmpas yn casglu'r poteli oddi ar gerrig drysau, mynd â nhw yn ôl i'r siopau papur newydd a chael fy ngheiniogau yn ôl ar gyfer fy arian poced. Lle rydych chi'n gweld hyn bellach yn gweithio, gallwn ei ddatblygu mewn ffordd sy'n cynnig dychwelyd ernes â llaw a thrwy beiriant, lleoliadau eang a hawdd eu cyrraedd ledled Cymru, cyfathrebu dwyieithog clir a chyson hefyd, gan esbonio sut mae hyn yn gweithio, ac rydym yn darparu cymunedau mwy diogel, strydoedd glanach, llai o sbwriel, llai o wydr, ac economi fwy cylchol. Felly, mae hyn o fudd i ddinasyddion Cymru, ac, fel y dywedais, roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth drawsbleidiol yn y grŵp trawsbleidiol ar sbwriel, ac ati, yno hefyd.
Carolyn, dim ond i ddweud ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol yn agos iawn ar hyn. Rydym ni'n ei ymblethu â'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a'r casgliad ymyl y ffordd, felly, os byddwn yn pasio'r Gorchymyn hwn heddiw, gallwn barhau i weithio ar hynny i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei symleiddio. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n fantais a ddaw yn sgil y dull rydym ni'n ei fabwysiadau, ein bod ni'n adeiladu ar yr hyn rydym ni'n ei wneud ac rydym ni'n mynd hyd yn oed ymhellach trwy weithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes.
A hefyd, i ddweud, o ran manwerthwyr, yn hytrach na rhoi'r baich ar fanwerthwyr yn unig i gymryd pob eitem y cynllun yn ôl, mae manylion hwn yn bwysig, fel y gwelodd yr Aelodau sydd wedi ymgysylltu â hyn. Mae ein deddfwriaeth yn cefnogi opsiynau dychwelyd hyblyg ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes; mae'n caniatáu i'r sefydliad rheoli ernes wneud y trefniadau y mae'n eu hystyried yn briodol ar gyfer eitemau sy'n cael eu dychwelyd, a gallai hyn gynnwys, gyda llaw, fel y soniais i, y defnydd o opsiynau ymyl y ffordd yn ogystal â manwerthwyr neu fannau casglu mawr ac ati.
Rwy'n sylweddoli fy mod wedi defnyddio llawer o amser i geisio mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau yma, ond roeddwn i eisiau troi'n ôl at Luke, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn sicr wedi rhoi tasg i'm swyddogion gyda llawer o gwestiynau, ac rwyf eisiau ailadrodd rhai o'r rhain. Felly, er enghraifft, ni allaf gwmpasu pob un ohonynt, ond, o ran manwerthwyr bach a siopau cornel, un o'r pryderon yw sut mae'n gweithio iddyn nhw. Mae'r cynllun hwn yng Nghymru yn fwriadol yn darparu mwy o hyblygrwydd i fanwerthwyr nag unrhyw gynllun arall yn y DU, ac mae'n caniatáu i'r maes hwnnw fireinio sut mae'r system yn gweithio yn ymarferol ar gyfer y manwerthwyr llai a'r siopau cornel hynny. Nid yw'n mynd i fod yn orfodol arnyn nhw—byddwn ni'n gweithio gyda nhw, y rhai sydd eisiau—ond yr hyn rydw i wedi'i weld pan wyf i wedi teithio i weld y rhain mewn gwledydd eraill yw bod llawer o'r siopau hynny efallai nad oeddent wedi mynd i mewn i'r cynllun i ddechrau wedi dweud, 'Rydw i eisiau bod yn rhan ohono nawr, oherwydd mae gennym ni bobl yn dod â'u poteli yn ôl, cael eu harian yn ôl ac yna'n prynu cynnyrch yn fy siop i.'
Mae'r rheoliadau yn cyflwyno'r elfen graidd, ond mae rhagor o waith i'w wneud yn y dyfodol gan Lywodraethau'r dyfodol hefyd i addasu'r cynllun hwn, a rheoliadau yn y dyfodol i'w dwyn ymlaen hefyd, ond mae'r cwmpas craidd wedi'i nodi ynddo. Felly, mae'r rheoliadau yn gosod y fframwaith craidd, ond mae cryn hyblygrwydd yn cael ei adael nawr i'r sefydliad rheoli ernes dan arweiniad y cynhyrchydd ar gyfer y gweithrediad manwl hefyd.
Ni allaf ymdrin â hyn i gyd, oherwydd rwy'n gwybod fy mod yn trethu brwdfrydedd y Llywydd, ond, dim ond i esbonio pam mae hyn wedi'i gynllunio'n ddeallus, roedd y dull o ran eithriadau a grybwyllwyd gennych yn rhan o'r ymgynghoriad diweddar i lywio'r addasiadau y gallwn eu gwneud. Mae hynny'n cynnwys eithriadau cynnyrch cyfaint isel ehangach—roeddent yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw—eithriadau ar gyfer fformatau pecynnu cymhleth neu ansafonol; eithriadau llinell cyfaint isel—felly, mynd i galon bragdai bychain a phethau fel hynny—eithriadau ar gyfer targedau ailddefnyddio ar gyfer sectorau sensitif i fasnach ryngwladol—felly, rhai o'r poteli hynny sy'n anodd eu hadnabod, fel gwirodydd rhyngwladol neu gynwysyddion od—ac ati. Felly, mae yna ddigon o allu yma i lunio hwn ar gyfer yr hyn sy'n gweithio yng Nghymru ac i ddysgu o'r enghreifftiau rhyngwladol gorau.
Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi ymdrin â phwyntiau pawb, Llywydd, ond roeddwn i eisiau rhoi rhywfaint o fanylion ar hyn. Mae hon yn foment dyngedfennol. Mae Cymru wedi arwain yn gyson am y rhesymau cywir, nid yn unig oherwydd y gallwn ac y dylem ei wneud, ond hefyd oherwydd ei fod yn helpu'r DU yn ei chyfanrwydd. Yr hyn sydd gennym yma—. Byddwn i'n dweud wrth y rhai sy'n ystyried pleidleisio yn erbyn, cofiwch yr hyn rydw i wedi'i osod yma. Y senario hunllefus yw peidio â chael cynllun yn 2027, fel y cynlluniwyd yma, lle gall y pedair cenedl, yn 2027, gerdded ymlaen gyda'i gilydd. Bydd y diwydiant yn dweud wrthych yn glir mai dyna'r senario hunllefus, sef peidio â gwneud hynny. Mae manteision hyn, manteision yr economi gylchol, i ddinasyddion Cymru ac i sbwriel, yn enfawr. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi hwn. Mae'n gam enfawr ymlaen unwaith eto i Gymru mewn arweinyddiaeth yn y DU, gan ymuno â dros 50 o wledydd eraill sy'n gwneud hyn yma, ar hyn o bryd. Diolch.
Elin Jones
Plaid Cymru
6:28,
24 Mawrth 2026
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.