– Senedd Cymru am 6:04 pm ar 17 Mawrth 2026.
Elin Jones
Plaid Cymru
6:04,
17 Mawrth 2026
Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd ac ymchwiliadau. Gwelliant 17 yw'r prif welliant a Hannah Blythyn sy'n cynnig y gwelliant yma.
Hannah Blythyn
Llafur
6:04,
17 Mawrth 2026
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, ei swyddogion o Lywodraeth Cymru, a hefyd i'r swyddogion o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud i ddod â ni at y pwynt hwn heddiw?
Nod y gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i yw cryfhau gallu'r comisiynydd safonau i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol. Mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad â'r comisiynydd a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac maen nhw'n adlewyrchu materion sydd wedi codi o achosion sydd wedi'u hystyried yn diweddar, ac yn y gorffennol, yn ystod y Senedd hon a'r un flaenorol.
Ar hyn o bryd, nid yw'r comisiynydd yn gallu cadarnhau unrhyw wybodaeth am gŵyn barhaus, hyd yn oed pan fo'r wybodaeth honno eisoes yn gyhoeddus. Mae hyn yn ein gwneud yn anghydnaws â deddfwrfeydd eraill. Er enghraifft, yn Nhŷ'r Cyffredin, gall y comisiynydd gyhoeddi enwau'r Aelodau y mae ymchwiliad iddyn nhw, ynghyd â disgrifiad byr o'r mater. Byddai'r gwelliant hwn yn dod â mwy o eglurder a thryloywder i'n prosesau ni ein hunain, a byddai'n caniatáu i'r Comisiwn ryddhau gwybodaeth gyfyngedig lle bo hynny'n briodol, gan hefyd alluogi'r Senedd i bennu categorïau ar gyfer cwynion na ddylai cael eu datgelu, gan sicrhau bod y mesurau diogelu cywir yn parhau i fod ar waith.
Gan droi at foderneiddio darpariaethau cyfathrebu. Mae'r nod yma'n syml: caniatáu i ymchwiliadau ddigwydd mewn ffordd amserol ac effeithlon. Byddai'r gwelliant yn caniatáu i hysbysiadau gael eu cyhoeddi'n electronig ac i gyfweliadau gael eu cynnal trwy gyswllt fideo neu sain. Mae hyn yn adlewyrchu arferion cyfoes mewn cyrff eraill, megis Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a thribiwnlysoedd statudol amrywiol. Yn gyffredinol, mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'r comisiynydd ac mae'n cefnogi dull gweithredu mwy effeithlon ar gyfer eu gwaith.
Mae'r gwelliant ynghylch gweinyddu llw cyfieithwyr yn cyflwyno pŵer i'r comisiynydd weinyddu llw cyfieithwyr wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu. Mae llw tebyg yn arfer safonol mewn llysoedd a lleoliadau ffurfiol eraill. Maen nhw'n helpu i sicrhau bod cyfieithiadau'n gywir ac yn wir. Ar hyn o bryd, pan fydd tyst yn dewis rhoi tystiolaeth dan lw mewn iaith nad yw'r comisiynydd yn ei siarad, nid oes unrhyw ffordd i roi'r cyfieithydd o dan lw. Mae'r gwelliant hwn yn cau'r bwlch hwnnw trwy ganiatáu i'r comisiynydd weinyddu llw neu gadarnhad i'r cyfieithydd ei hun. Byddai'r cyfieithydd wedyn ond yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid am gynnwys tystiolaeth y tyst. Mae hyn yn ddiogeliad pwysig a bydd yn gwella hygyrchedd i'r rhai sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn eu dewis iaith Diolch.
Elin Jones
Plaid Cymru
6:06,
17 Mawrth 2026
Cwnsler Cyffredinol.
Julie James
Llafur
6:07,
17 Mawrth 2026
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am gyflwyno ei gwelliant 17, a fyddai'n gwella'n fawr y ffordd y mae'r comisiynydd safonau yn cyflawni ei swyddogaethau, sydd wedi'u nodi ym Mesur safonau 2009. Mae'r newidiadau y byddai'r gwelliant hwn yn eu gweithredu, yn ychwanegol at newidiadau i'r Mesur y darparodd y Llywodraeth ar eu cyfer yn y Bil wrth ei gyflwyno, ar gais y Cadeirydd. Rwy'n nodi bod y gwelliant unigol hwn yn gweithredu pedwar o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Cadeirydd ar gyfer Cyfnod 2. Yn ystod y trafodion hynny, ymrwymais i weithio gyda'r Cadeirydd i baratoi gwelliannau y byddai modd eu cefnogi yng Nghyfnod 3. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod ni wedi gallu gwneud hynny'n gyfeillgar iawn, ac felly, rydyn ni'n cefnogi'r gwelliant hwn fel y mae wedi'i gyflwyno.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor safonau am nodi'r hyn y mae'r gwelliant yn ei weithredu, ac felly wnaf i ddim ailadrodd yr holl bwyntiau y mae hi wedi'u gwneud, ond hoffwn dynnu sylw at rai agweddau pwysig. Mae i'w groesawu bod y gwelliant yn sicrhau bod y comisiynydd safonau yn gallu cyflawni ei swyddogaethau mewn oes o dechnoleg ddigidol fodern, gan gynnwys gallu cyhoeddi hysbysiadau tystion yn electronig, casglu gwybodaeth yn electronig, a chymryd tystiolaeth gan dystion gan ddefnyddio dolen fideo a sain. Bydd hyn yn osgoi unrhyw oedi diangen a allai ddigwydd wrth i'r comisiynydd gynnal ymchwiliad.
Fel y nododd y Cadeirydd, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau bod y comisiynydd yn gallu gweinyddu llw i gyfieithydd, os bydd angen gwasanaethau o'r fath ar y comisiynydd wrth gymryd tystiolaeth gan dyst. Mae hyn yn ymddangos yn briodol ac yn cyd-fynd â gallu'r comisiynydd i weinyddu llw neu gadarnhad ar gyfer tystion a chyfieithwyr.
Yn olaf, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau bod y comisiynydd yn gallu cyhoeddi gwybodaeth gyfyngedig am ymchwiliad cyn iddo gwblhau a chyhoeddi adroddiad terfynol. Rwy'n credu bod yr adran 10B newydd, y mae'r gwelliant yn darparu ar ei chyfer, yn taro'r cydbwysedd cywir, gan ei bod yn cyfyngu ar yr wybodaeth y mae'n bosibl ei datgelu ac yn gwneud yn glir bod yn rhaid i'r comisiynydd ystyried tegwch, yr angen i osgoi niwed i berson a'r angen i osgoi rhagfarn i unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol posibl. Ni ddylid cyhoeddi gwybodaeth y byddai modd adnabod yr achwynydd ohoni, a fyddai'n datgelu tystiolaeth sydd wedi'i chasglu yn ystod yr ymchwiliad, neu a fyddai'n rhoi unrhyw arwydd ynghylch a oes sail dda i gŵyn—mesurau diogelu pwysig i ddiogelu uniondeb y broses ymchwilio. Mae'r gwelliant yn darparu ar gyfer lefel ychwanegol o dryloywder ynghylch y broses safonau, tra'n cadw cyfrinachedd priodol a sicrhau bod yna degwch o ran Aelod sy'n destun ymchwiliad, ac nad yw'r canlyniad yn cael ei ragfarnu gan ddatgeliad, ac rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi. Diolch.
Elin Jones
Plaid Cymru
6:09,
17 Mawrth 2026
Hannah Blythyn i ymateb. Does dim ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni rhoi gwelliant 17 i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi ei dderbyn.
Rhif adran 7400
Gwelliant 17.
The House of Commons votes by dividing. Those voting Aye (yes) to any proposition walk through the division lobby to the right of the Speaker and those voting no through the lobby to the left. In each of the lobbies there are desks occupied by Clerks who tick Members' names off division lists as they pass through. Then at the exit doors the Members are counted by two Members acting as tellers. The Speaker calls for a vote by announcing "Clear the Lobbies". In the House of Lords "Clear the Bar" is called. Division Bells ring throughout the building and the police direct all Strangers to leave the vicinity of the Members’ Lobby. They also walk through the public rooms of the House shouting "division". MPs have eight minutes to get to the Division Lobby before the doors are closed. Members make their way to the Chamber, where Whips are on hand to remind the uncertain which way, if any, their party is voting. Meanwhile the Clerks who will take the names of those voting have taken their place at the high tables with the alphabetical lists of MPs' names on which ticks are made to record the vote. When the tellers are ready the counting process begins - the recording of names by the Clerk and the counting of heads by the tellers. When both lobbies have been counted and the figures entered on a card this is given to the Speaker who reads the figures and announces "So the Ayes [or Noes] have it". In the House of Lords the process is the same except that the Lobbies are called the Contents Lobby and the Not Contents Lobby. Unlike many other legislatures, the House of Commons and the House of Lords have not adopted a mechanical or electronic means of voting. This was considered in 1998 but rejected. Divisions rarely take less than ten minutes and those where most Members are voting usually take about fifteen. Further information can be obtained from factsheet P9 at the UK Parliament site.