Grŵp 3: Technegol ac amrywiol (Gwelliannau 2, 3, 4, 6, 9, 104, 13, 15, 18, 19, 20, 23, 25, 56, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 84, 85)

– Senedd Cymru am 6:52 pm ar 10 Mawrth 2026.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:52, 10 Mawrth 2026

Grŵp 3 o welliannau sy'n cael eu trafod nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â gwelliannau technegol ac amrywiol. Gwelliant 2 yw'r prif welliant, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 6:52, 10 Mawrth 2026

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fel y dywedoch chi, mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd welliannau technegol trwy gydol y Bil. Byddaf yn ceisio bod mor fyr ag y gallaf, gan barhau i ddarparu esboniad priodol o ddiben ac effaith y gwelliannau hyn.

Mae gwelliannau 2 i 4 yn darparu mân eglurhad i'r diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, ac mae gwelliant 20 yn ganlyniadol i welliant 3. Mae gwelliannau 6 a 9 yn sicrhau bod y diffiniad o ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr yn berthnasol pan fo person yn cynnig darparu'r llety. Mae gwelliant 13 yn dileu croesgyfeiriad diangen, ac mae gwelliannau 15 a 25 yn diweddaru amodau'r drwydded a'r gofynion cymeradwyo mewn perthynas â chofrestru. Mae gwelliant 18 yn darparu nad oes angen i reoliadau ynghylch hyfforddiant wneud darpariaeth am god ymarfer os nad oes cod gweithredol, naill ai oherwydd nad yw wedi'i gynhyrchu eto neu oherwydd ei fod wedi'i dynnu'n ôl.

Mae gwelliannau 19, 23, 56, 60, 62 i 64 ac 84 i gyd yn diweddaru croesgyfeiriadau at swyddogaethau rheoleiddio Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u cynnwys yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Bil. Roedd hwn yn bwynt a godwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yng Nghyfnod 1 mewn perthynas â'r pwerau hysbysiad gwybodaeth, ac rydym ni wedi adolygu'r holl gyfeiriadau tebyg yn y Bil o ganlyniad i wneud yr eglurhad yma. Mae gwelliant 61 yn diweddaru'r fersiwn Gymraeg o'r Bil i sicrhau ei fod yn cyfateb i'r fersiwn Saesneg. Mae gwelliant 85 yn eglurhad technegol i'r gofyniad i ymgynghori ar adolygiad o weithrediad y Bil.

Yn olaf, Llywydd, ac yn fwy arwyddocaol, mae gwelliant 65 yn cyfyngu cwmpas y porth rhannu data sydd i'w fewnosod yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, er mwyn bod yn glir mai dim ond rhannu gwybodaeth sy'n ymwneud â chofrestru y mae'r cwmpas yn caniatáu, nid unrhyw wybodaeth arall a gedwir gan Awdurdod Refeniw Cymru. Mae'r holl welliannau hyn â'r nod o gefnogi eglurder a gweithrediad effeithiol y Bil, ac felly byddwn yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 6:54, 10 Mawrth 2026

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn falch o wybod na fyddaf yn trafod y gwelliannau amrywiol, ond credaf mai dyma'r adeg i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gynnwys ychwanegiad i'r memorandwm esboniadol ynghylch eitemau fel casglu gwastraff. Dyma un o'r pethau mwyaf cythryblus i etholwyr, lle mae sbwriel yn cael ei roi allan ar y diwrnod anghywir ac yna mae'n cael ei ledaenu o gwmpas y strydoedd ac mae pobl yn gorfod goddef hynny ddydd ar ôl dydd. Rwy'n cytuno nad dyma'r lle iawn i'w roi ar wyneb y Bil, ond yr hyn y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn 3.57 a 3.58 yw ei gwneud hi'n gwbl glir, os ydych chi'n darparu llety i ymwelwyr, ei fod yn fusnes, ac felly mae angen i chi fod yn defnyddio darpariaeth gwastraff busnes. Mae hefyd yn pwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi camau gorfodi sydd eisoes ar waith gan iechyd yr amgylchedd neu ym maes tai, yn debyg i Rhentu Doeth Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n eglurhad defnyddiol iawn fel bod pobl yn sylweddoli bod yna reoliadau ac mae angen cadw atyn nhw.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Cafwyd trafodaethau defnyddiol iawn yng Nghyfnod 1 o flaen Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynglŷn â chyfrifoldeb darparwyr llety i sicrhau bod yr ymwelwyr hynny sy'n defnyddio eu mangreoedd yn ymwybodol o bethau ymarferol fel ble mae gwastraff i'w storio, y dyddiau y mae i'w gasglu ac yn y blaen. A dilynwyd y trafodaethau hynny yng Nghyfnod 2, pan oeddwn yn falch o allu derbyn gwelliannau gan Luke Fletcher ynglŷn â'r ffordd y gellir ymateb i niwsans a achosir gan ymwelwyr fel rhan o'r Bil hwn. Roeddwn yn falch o'r cyfle i gynnwys adlewyrchiad o'r trafodaethau hynny yn y memorandwm esboniadol wedi'i ddiweddaru, Llywydd. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd memorandwm wedi'i ddiweddaru ymhellach i adlewyrchu natur y penderfyniadau a wneir gan y Senedd y prynhawn yma.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:57, 10 Mawrth 2026

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:57, 10 Mawrth 2026

Ydy gwelliant 3 yn cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ffurfiol?

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:57, 10 Mawrth 2026

A oes gwrthwynebiad i welliant 3? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

A oes gwrthwynebiad i welliant 4? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.