2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni – Senedd Cymru am ar 3 Mawrth 2026.
Rhys ab Owen
Plaid Cymru
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag argymhelliad y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol na ddylid symud ymlaen â llysoedd o'r fath ar wahân? OQ63902
Julie James
Llafur
2:52,
3 Mawrth 2026
Diolch, Rhys. Rwy'n falch iawn mai hwn yw fy nghwestiwn olaf i gyd, ac felly mae'n gwestiwn ardderchog i'w gael yn gwestiwn olaf i gyd. Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a minnau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd yn dilyn yr argymhellion. Fe gaiff y camau nesaf eu llywio gan weithdai mis Ionawr, a hwyluswyd gan y Ganolfan Arloesi Cyfiawnder ym mhob ardal bwrdd cyfiawnder teuluol lleol, a'r hyn a ddysgir o'r digwyddiad cenedlaethol cyfiawnder teuluol, a fydd ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl y sesiwn hon.
Rhys ab Owen
Plaid Cymru
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. A gaf i ailadrodd yr hyn a ddywedodd Adam Price? Rwyf i wedi mwynhau sesiynau'r Cwnsler Cyffredinol gyda'n gilydd. Nid oeddem ni'n cytuno bob amser, ond rwyf i wedi parchu eich safbwynt chi bob amser ac rydych chi wedi ceisio gwneud yr hyn sydd orau er mwyn pobl Cymru yn eich golwg chi. Mae hynny'n wir hefyd am eich cyfnod yn Weinidog Tai. Rwy'n edrych ymlaen at y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) heddiw, sy'n rhywbeth yr oeddwn yn eich holi chi'n aml amdano yn eich swydd flaenorol. Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol.
Roeddwn i'n siomedig, wrth ddarllen llythyr Dawn Bowden, na fydd y llys cyffuriau ac alcohol yn symud ymlaen ar ei ben ei hun. Roedd hwnnw'n argymhelliad amlwg gan gomisiwn Arglwydd Thomas. Fe gawsom ni asesiad cadarnhaol iawn gan CASCADE a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r barnwyr o blaid hynny. Roedd y barnwyr yn dweud pa mor llwyddiannus a fu hynny. Mae dros hanner y plant yn mynd yn ôl at eu teuluoedd. Ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus yn Llundain ers 2008, ac yn Lerpwl yn fwy diweddar. Rwy'n pryderu, Cwnsler Cyffredinol, bod Cymru a theuluoedd Cymru yn cael eu gadael ar ôl unwaith eto. Diolch yn fawr.
Julie James
Llafur
2:54,
3 Mawrth 2026
Nid wyf yn credu bod angen i ni fod mor besimistaidd â hynny. Rwyf i o'r farn fod y gydnabyddiaeth yn eang i'r llys fod yn llwyddiannus. Y broblem ydyw, fel dywedais i ar sawl achlysur, pa un a ellid ei ehangu ledled Cymru mewn ffordd realistig. Fy nealltwriaeth i yw, yn y digwyddiad yr wythnos nesaf, y bydd aelodau'r gweithgor yn edrych ar ei ddwyn ymlaen, ond nid ar ei ben ei hun. Felly, maen nhw'n mynd i'w ddwyn ymlaen o fewn y system ehangach, sy'n cynnwys y fframwaith ymarfer amlasiantaeth, y dull braenaru mewn cyfraith breifat, a'r dirwedd ehangach o ran ymyrraeth gynnar ac atal, gwasanaethau ar ffiniau gofal, a gwasanaethau cymorth wedi'r llys—mae hynny'n anodd ei ddweud wir—gwasanaethau cymorth wedi'r llys.
Roedd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol yn ystyried y papur yn eu cyfarfod nhw ar 22 Medi ac fe gynigiodd hwnnw y dylid cael dau grŵp gorchwyl a gorffen. Rwy'n credu eich bod chi'n gwybod hynny eisoes, Rhys. Fe fyddan nhw'n adrodd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd nesaf ar gyfer mapio ac asesu'r ddarpariaeth o wasanaethau ar ffiniau gofal presennol a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu, ac ystyried y materion dylunio o ran y system a'r farnwriaeth y bydd eu hangen nhw i gefnogi dull o ddatrys problemau yn y gyfraith gyhoeddus. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud nad wyf i'n credu y bydd hyn yn dod i ben. Rwyf i o'r farn fod yna broblem ynglŷn â dull ehangach o ddatrys problemau yn y llysoedd yn fwy cyffredinol, ac rwy'n credu bod hwn yn fodel da iawn ar ei gyfer, ond mae'n debyg na ellid ei ehangu ledled Cymru gyfan. Felly, mae'n ymwneud â cheisio sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweithredu gyda'i gilydd yn ddi-dor er mwyn bod â'r dull hwnnw o ddatrys problemau oherwydd, ac rwy'n cytuno yn llwyr â chi, mae'n beth o fudd mawr i'r teuluoedd dan sylw.
Elin Jones
Plaid Cymru
2:55,
3 Mawrth 2026
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.