– Senedd Cymru am ar 19 Mawrth 2025.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, yswyriant gwladol cyflogwyr. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8857 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn dreth 2025-26.
2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gynnig sy'n ceisio mynd i'r afael â mater sy'n creu perygl clir i bobl a gwasanaethau ledled Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, ond yn eu hannog serch hynny i bleidleisio dros y cynnig gwreiddiol yn hytrach na gweld gwelliant difäol Llafur yn cael ei dderbyn cyn eu gwelliant eu hunain.
Gadewch inni wynebu'r peth: Gordon Brown oedd pensaer cyni. Nid yn Stryd Downing y cafodd cwymp ariannol 2008 ei greu. Fodd bynnag, polisïau Llafur a roddodd y chwalfa fwyaf i ni. Wrth siarad yma yn 2004, rhybuddiais mai'r realiti economaidd yw bod Cymru'n byw ar ddyled barhaus, ac os byddai Gordon Brown yn parhau i gynyddu gwariant cyhoeddus yn gyflymach na thwf economaidd, fel mwy na mesur tymor byr, fe ddoi'n ddydd o brysur bwyso arnom i gyd. Dyna pam y beirniadodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol ddull y Trysorlys o drin cyllid cyhoeddus a galwodd am gydgrynhoi cyllidol, sy'n golygu toriadau gwariant neu godiadau treth, yn 2005.
Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth glymblaid y DU y diffyg cyllidebol mwyaf mewn cyfnod o heddwch ers canrif, dwbl unrhyw ddiffygion blaenorol a'r mwyaf mewn unrhyw economi fawr. Felly, bu'n rhaid iddynt gyflawni gweithred gydbwyso ofalus, gan reoli hyn i lawr ac osgoi toriadau llawer uwch gan y rhai sy'n ariannu dyled y Llywodraeth, gan gofio bod niferoedd y bobl mewn tlodi difrifol wedi cynyddu bron i 800,000 o dan Lafur, gyda thlodi plant yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y cwymp ariannol yn 2008, ar 32 y cant. Nawr mae gennym Rachel Reeves, y mae ei chyllideb sy'n gyrru dyled, codi trethi a dinistrio swyddi yn parhau i fod y rhwystr mwyaf i dwf economaidd a'r cyfrannwr domestig mwyaf at gynyddu costau byw. Yn ôl i'r dyfodol yw hi gyda Llafur.
Ledled Cymru, mae elusennau, sefydliadau nid-er-elw a mudiadau gwirfoddol yn chwarae rôl hollol hanfodol yn darparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn dibynnu arnynt. Bydd penderfyniad creulon Llafur i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith niweidiol arnynt hwy a'u gwaith gydag unigolion a theuluoedd o'r gwaelod i fyny, yn darparu gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau gan leihau'r galw ar wasanaethau statudol ar yr un pryd.
Rwyf wedi codi dro ar ôl tro sut y bydd y cynnydd sylweddol i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yng nghyllideb hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau elusennau a sefydliadau cymunedol, ac wedi gofyn beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i liniaru hyn. Hyd yma, mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi datgan mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn, a dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â hyn.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi ymateb i ymosodiadau ar ei gyllideb ei hun yng Nghymru drwy ofyn i ni beth y byddem yn ei dorri i ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol y trydydd sector, gan wrthod cydnabod y bydd yr economïau ffug yn ei gyllideb yn creu galw ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus a fydd yn mwy na llyncu unrhyw gynnydd ariannol y mae wedi'i roi iddynt. Economeg dwp yw hon.
Mewn ymateb i'r ddadl hon, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi dweud eu bod yn bryderus iawn am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar sefydliadau'r sector gwirfoddol ledled Cymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn dweud eu bod eisoes yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ac mae'r cynnydd hwn yn bygwth rhoi straen ychwanegol ar eu hadnoddau ac o bosibl yn peryglu gwasanaethau hanfodol a ddarperir i gymunedau. Maent wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gryf i gydnabod y rôl amhrisiadwy y mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae, yn enwedig mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn credu ei bod yn hanfodol i sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus gael eu trin yn gyfartal a'u cynnwys mewn unrhyw fesurau cymorth ariannol, gan sicrhau nad ydynt dan anfantais anghymesur gan y newidiadau polisi hyn.
Mae'r elusen gofal canser Tenovus wedi galw'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn 'ddinistriol' ac wedi annog Gweinidogion Cymru i liniaru'r effaith. Dywedodd yr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wrthyf y bydd hyn yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb fesurau lliniarol, bydd yn rhaid iddynt adael i staff fynd a lleihau gwasanaethau. Dywed Shelter Cymru y bydd hyn yn arwain at gynnydd o £117,000 yng nghostau darparwyr cymorth tai ac atal digartrefedd yn ystod y chwe mis cyntaf yn unig, gan effeithio'n uniongyrchol ar staffio a'u gallu i atal digartrefedd.
Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, 'Cyrhaeddiad cenedlaethol, effaith leol', yn tynnu sylw at yr angen am sicrwydd o godiadau i gontractau ar gyfer gwasanaethau gofalwyr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol a gomisiynir gan wasanaethau gofalwyr lleol elusennol er mwyn talu'r gost gynyddol o gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, lle maent yn amcangyfrif bod y gost ychwanegol gyfunol i'w sefydliadau gofal lleol yng Nghymru o dalu'r rhain oddeutu £300,000 yn 2025-26.
Mae'r 16 hosbis elusennol yng Nghymru sy'n gweithredu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn gorfod ystyried toriadau sylweddol, a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu cau. Maent yn darparu gofal hollbwysig i fwy na 20,000 o blant ac oedolion yng Nghymru yr effeithir arnynt gan salwch angheuol a salwch sy'n cyfyngu ar fywyd bob blwyddyn ac yn darparu arbediad cost enfawr i'r GIG, gyda dros ddwy ran o dair o ofal hosbis yn cael ei ddarparu drwy godi arian elusennol, gan godi i dros 85 y cant yn achos hosbisau plant. Fodd bynnag, mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Canfu arolwg gan Hospice UK fod dros 20 y cant o hosbisau Cymru yn lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol neu wasanaethau hosbis ehangach, a bod 90 y cant yn cytuno bod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at lai o gymorth i'r system ehangach, fel ysbytai a chartrefi gofal. Maent yn dweud bod angen £5.9 miliwn o gyllid bob blwyddyn arnynt ar frys i dalu am effaith codiadau cyflog y GIG ar gostau staffio hosbisau os ydynt am ddiogelu dyfodol uniongyrchol gwasanaethau hosbis yng Nghymru a'r gofal hollbwysig y maent yn ei ddarparu, oni cheir trefniant cynaliadwy mwy hirdymor.
Maent yn croesawu'r £3 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ond yn ychwanegu na ellir disgrifio'r ffigur hwn fel cynaliadwy, o ystyried y bydd yn cael ei ganslo'n gyflym gan yswiriant gwladol a chynnydd isafswm cyflog o £1.8 miliwn, ac effaith ddisgwyliedig cynnydd yr 'Agenda ar gyfer Newid' ar gostau staffio hosbisau yn y dyfodol. Felly, mae cefnogi hosbisau Cymru gydag yswiriant gwladol a'r cynnydd isafswm cyflog yn hanfodol, gan gydnabod eu rôl allweddol yn darparu gwasanaethau allweddol i'r sector cyhoeddus a chymunedau lleol.
Felly, mae ein cynnig yn galw ar y Senedd hon i gydnabod yr effaith niweidiol y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar elusennau, sefydliadau nid-er-elw a mudiadau gwirfoddol Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael â hyn cyn i niwed pellach gael ei wneud. Un peth yw i welliant Llywodraeth Cymru ddweud eu bod wedi gwneud sylwadau, ac y byddant yn parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU, y dywedwyd wrthym y byddent yn gweithio law yn llaw â hwy, ond mae hyn wedi bod yn aneffeithiol, ac mae angen inni weld camau pendant a thryloyw ac atebol ar frys. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli:
b) bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; ac
c) bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 2 a 3 yn ei henw hi.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at:
a) y bwriad i ddyrannu ad-daliadau’r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail Fformiwla Barnett, a fyddai’n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr; a
b) y diffyg eglurder ynghylch swm llawn y costau i wasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru o ganlyniad i’r newidiadau hyn, lai na mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei phasio.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn amlwg, mae yna bryder mawr yn y Siambr hon ynglŷn â'r newidiadau hyn. Dyna pam y gwnaethom ni, fis Tachwedd, gyflwyno dadl Plaid Cymru ar y mater hwn, a dydyn ni heb newid ein barn o gwbl. Mi oedden ni'n pwysleisio, adeg hynny, faint o effaith mae'n mynd i'w gael ar gymaint o sectorau gwahanol, ar gymaint o bobl, ar gymaint o wasanaethau. Ac yn amlwg, mi ddaeth hynny hefyd drosodd yn glir yn ystod craffu ar y gyllideb, efo cymaint o bwyllgorau yn nodi eu pryder nhw o ran y newid hwn o ran yswiriant gwladol.
Felly, dwi'n gobeithio ein bod ni'n gallu bod yn unedig fel Senedd bod hwn yn newid sy'n mynd i effeithio'n fawr ar Gymru, bod hwn yn newid sy'n mynd i effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a dyna pam dwi yn siomedig o weld gwelliant y Llywodraeth heddiw. Ydy, mae'n cydnabod bod elusennau, cwmnïau nid er elw a sefydliadau gwirfoddol yn poeni, ond byddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru hefyd yn poeni'n ddirfawr am hyn, yn arbennig oherwydd, hyd yn oed lle bydd yna ad-daliad, bydd y fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio. Rydym ni wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg na fydd hyn yn ddigonol, na fydd hyn y swm yn ei gyfanrwydd yr ydym ni ei angen. Felly, mae yna ddiffyg yn mynd i fod, ac mae hyn yn mynd i effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Yn amlwg, yn gynharach heddiw, mi wnaeth Sioned Williams gyflwyno cwestiwn amserol ynglŷn â'r newidiadau lles, rhywbeth hefyd sy'n mynd i adael twll a bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, os byddwch chi'n gweithredu er mwyn rhoi'r gefnogaeth i'r rheini sydd dirfawr angen cefnogaeth yn ein cymunedau ni. Felly, os ydych chi'n ystyried beth sy'n mynd i ddigwydd o ran yswiriant gwladol a'r newidiadau lles, mae'n sefyllfa ddifrifol iawn.a
Byddwn i hefyd yn dadlau, o ran yr elusennau, cwmnïau nid er elw a sefydliadau gwirfoddol, nid dim ond poeni, maen nhw'n barod yn gorfod torri gwasanaethau. Maen nhw'n torri swyddi. Dwi'n gwybod am bobl sydd wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn fy nghymuned i, yn cefnogi'r bobl fwyaf bregus, wedi gorfod cefnogi mwy o lawer o bobl oherwydd y polisïau llymder rydym ni wedi'u gweld yn y blynyddoedd diwethaf yma, ac mae eu gwasanaethau nhw dan straen aruthrol yn barod. Os ydy'r gwasanaethau yna yn crebachu a bod yna fwy o alw, mae hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben.
Mae'n sefyllfa sy'n mynd i gael effaith eithriadol ar gymaint o bobl yn ein cymunedau ni, a dwi eisiau gweld mwy o weithredu gan y Llywodraeth na'r hyn rydym ni'n ei weld. Dydy llythyru ddim yn ddigon. Dydy gwneud galwadau ddim yn ddigon. Mae angen inni fod yn unedig, a hefyd fod yn onest o ran y bwlch a'r effaith y bydd o'n ei chael ar yr arian sydd ar gael i ni. Oherwydd y tu hwnt i benawdau'r gyllideb, mae'n rhaid inni ddechrau gofyn faint o'r arian hwnnw fydd yn gorfod mynd tuag at gadw'r gwasanaethau fel y maen nhw. Felly, mae hi'n broblem ddifrifol.
Felly, dwi yn ddiolchgar ein bod ni'n cyfle i gael y drafodaeth yma heddiw. Yn amlwg, mae gwelliannau Plaid Cymru yn mynd â'r cynnig yn bellach, a'r galwadau yn bellach, o ran y Llywodraeth. Yr hyn dydyn ni ddim yn ei wybod eto, wrth gwrs, ydy, beth ydy gwir gost y newid hwn i Gymru. Mi fyddai hi'n dda gwybod yn ymateb y Llywodraeth heddiw os oes yna fwy o waith wedi'i wneud o ran hynny, mwy o ddealltwriaeth o ran yr effaith, a hefyd ddeall os ydych chi wedi asesu pa wasanaethau fydd yn crebachu a ddim yn gallu parhau. Faint o swyddi sy'n cael eu colli yn y sectorau hollol hanfodol yma oherwydd y newid hwn? Dwi'n gobeithio, fel roeddwn i'n dweud ar ddechrau'r cyfraniad hwn, y gallwn ni uno fel Senedd, ond hefyd ein bod ni'n gallu herio rhai o'r penderfyniadau niweidiol hyn. Mae yna wasanaethau yn mynd i gael eu colli ar yr union adeg lle mae yna mwy o bobl, yn anffodus, yn mynd i fod angen y gefnogaeth ganddynt.
Mae'r ddadl heddiw yn un na ddylem fod yn ei chael. Ar un adeg, roedd gennym ganghellor yr wrthblaid a addawodd na fyddent yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio. A dweud y gwir, fe'i dyfynnaf yn uniongyrchol pan ddywedodd,
'yn sicr ni fyddwn yn cynyddu...treth incwm nac yswiriant gwladol'.
Wel, beth a ddigwyddodd yr eiliad y daeth canghellor yr wrthblaid yn Ganghellor? Cywir, fe gynyddwyd cyfraniadau yswiriant gwladol, gan roi costau ychwanegol i fusnesau, gan arwain at arafu nifer y swyddi sydd ar gael a chyflogau is ym mhocedi pobl. Pwy ddywedodd nad yw Llafur yn gwybod beth a wnânt ar yr economi? Mae'r tlodi y mae'r Blaid Lafur yn crio dagrau crocodeil drosto yn llythrennol yn deillio o'u gweithredoedd eu hunain ac ni wnânt dderbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Roeddent yn honni eu bod wedi etifeddu twll du economaidd, ond nid oedd hynny'n wir ychwaith. Ni allodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddod o hyd iddo. Rhagor o anwireddau Llafur i gyfiawnhau eu hagenda sosialaidd.
Ac fe glywn lawer ganddynt am yr hyn a etifeddwyd ganddynt, oni wnawn? Ond beth a etifeddwyd mewn gwirionedd? Fe wnaethant etifeddu'r twf uchaf yn y G7 gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf ac maent wedi llwyddo i golli'r holl gynnydd hwnnw mewn cwta wyth mis. Ym mis Ionawr, crebachodd yr economi o dan Lafur, tra bod economïau gwledydd tebyg ledled y byd wedi tyfu. Gwyddom fod trethi uwch yn arwain at drychineb economaidd; rydym yn deall hynny, ond nid ydynt hwy'n ei ddeall ac mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Dyna pam y mae cynnydd yswiriant gwladol Llafur—yr un y gwnaethant addo na fyddent byth yn ei wneud—mor niweidiol. Ac nid yn unig ei fod yn niweidio busnesau a'n heconomi, mae'n niweidio ein helusennau hefyd. Amcangyfrifir y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol yn costio £1.4 biliwn i'r trydydd sector. Meddyliwch am yr effaith y bydd hynny'n ei chael ar y gwasanaethau y mae cymaint o bobl ledled y wlad yn dibynnu arnynt. Bydd rhai o'n bobl dlotaf, rhai o'n pobl fwyaf sâl, rhai o'n pobl leiaf ffodus ar eu colled. Bydd ymgyrchoedd cymunedol hanfodol yn gweld toriadau ac mae'r rhai sydd angen y gefnogaeth na all neb ond elusennau ei darparu yn llythrennol yn gorfod mynd hebddi.
Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid yn Senedd y DU, Kemi Badenoch, i Brif Weinidog y DU yn gynharach heddiw a fyddai'n eithrio hosbisau, neu hyd yn oed hosbisau plant yn unig, o'i dreth ar swyddi. Yn gywilyddus, fe wrthododd y Prif Weinidog. Gorchmynnodd ei ASau Llafur i'w flocio, gan orfodi'r dreth honno ar hosbisau plant. Lywydd, ni ddylem adael i Lafur bregethu am gyfiawnder cymdeithasol byth eto. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw—i gefnogi'r busnesau a fydd yn llythrennol yn mynd yn fethdalwyr, i gefnogi'r gweithwyr a fydd yn gweld eu cyflogau'n lleihau, i gefnogi'r rhai heb waith ond sy'n chwilio amdano, a fydd yn gweld y farchnad swyddi'n crebachu, i gefnogi'r elusennau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt pan fyddant fwyaf o'u hangen, ac i gefnogi'r rhai sydd angen elusennau am nad oes unrhyw un ohonom yn gwybod pryd y bydd eu hangen arnom ni ein hunain. Mae treth Llafur ar swyddi yn gic yn y dannedd i'r holl grwpiau hynny a mwy. Mae'n bryd inni gael ei gwared arni a chael gwared ar Lywodraeth Lafur ddiwerth hefyd.
Wel, mae hwn yn gynnig syfrdanol o sinigaidd gan y Ceidwadwyr, ac fe ddechreuodd yn y ffordd glasurol gan Mark Isherwood, sydd, unwaith eto, yn beio popeth ar Gordon Brown ac aeth ati wedyn i ddyfynnu un o'i areithiau ei hun yn 2004. Un peth y byddwn i'n ei ddweud am Mark Isherwood, ar ôl 20 mlynedd yn y Siambr hon, yw ei fod o leiaf yn gyson. Mae hanes yn dangos bod cyni'n ddewis gwleidyddol yn nhymor y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Bob blwyddyn, gostyngodd gwariant y pen mewn termau real bob blwyddyn rhwng 2010 a 2020, yn wahanol i economïau eraill y Gorllewin, a chydnabyddir bod y cwymp y cyfeiriodd ato yn 2008 yn wasgfa fyd-eang. Felly, ymgais dda, ond nid yw'r economegwyr yn cydnabod y darlun a baentiwyd gennych.
Nawr, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r dadleuon am gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid wyf yn credu mai dyma'r dreth gywir i'w chodi, ac rwy'n gresynu at y ffaith bod trethi eraill wedi'u diystyru, a chaiff hon ei gadael ar ôl fel un o'r ychydig rai sy'n weddill y gellir eu defnyddio. Nid wyf yn meddwl mai hon a ddylai fod wedi'i dewis. Ond mae diffyg sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Nawr, bob ychydig wythnosau, cawn alwadau gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i wario mwy o arian ar wahanol raglenni, ac nid ydynt byth yn dweud wrthym sut y byddant yn eu hariannu. Felly, gadewch imi ofyn hyn iddynt: y cynnydd o 40 y cant yn y buddsoddiad cyfalaf yn y GIG yng nghyllideb y DU eleni, o ble y byddech chi'n codi'r arian ar gyfer hynny? Os nad o gyfraniadau yswiriant gwladol, o ble? Nid oes gennych ateb. Y £235 miliwn o gyfalaf ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi'i gyhoeddi: o ble y byddent yn cael hwnnw os nad o yswiriant gwladol? Ac nid oes ganddynt ateb, oherwydd mae eu safbwynt yn gwbl anghydlynol ac yn hollol oportiwnistaidd, ac yn gwbl groes i'r hyn a wnaethant hwy eu hunain.
Ac os oes unrhyw un ohonoch wedi rhoi eich hun trwy'r anghysur o ddarllen dyddiaduron Simon Hart, fe wneuthum hynny ar eich rhan, ac roedd y penderfyniad i alw'r etholiad cyffredinol ar y pryd yn un sinigaidd iawn, wedi'i wneud gan wybod yn iawn am y twll a oedd yn cael ei adael i Lywodraeth newydd. Mae'n mynd ymlaen i ddweud, mewn gwirionedd, fod y carchardai ar fin methu'n llwyr. Roeddent yn gwybod am y llanast a adawent ar ôl. Ac efallai fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud na allent ddod o hyd i dwll du, fel roeddent yn dweud, a'r rheswm syml am hynny yw oherwydd bod y rhagdybiaethau a wnaeth y Canghellor Ceidwadol ar gyfer y gyllideb honno, ac y seiliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eu rhagolwg arnynt, yn gwbl afrealistig, ac mae'r Resolution Foundation wedi dweud, pe bai Canghellor Ceidwadol wedi dychwelyd, y byddent wedi gorfod dod o hyd i £20 biliwn i lenwi'r gwariant a oedd wedi'i ymrwymo.
Felly, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau oddi ar y meinciau Ceidwadol ar drethi yswiriant gwladol. Maent wedi gadael llanast ofnadwy. Fe wnaethant adael gwasanaethau cyhoeddus wedi'u torri at yr asgwrn. Mae'r Llywodraeth hon wedi etifeddu economi bydredig. Nid wyf yn credu eu bod wedi gwneud y dewis cywir o ran pa dreth i'w chynyddu, ond roedd yn rhaid iddynt gynyddu rhyw dreth, ac rydym yn parhau i wynebu amseroedd anodd. A byddai iddynt fwy o hygrededd yn llygad y cyhoedd, a gafodd wared arnynt o Gymru yn yr etholiad cyffredinol, pe baent yn cydnabod eu gwaddol eu hunain.
Diolch i Lee am fod yn un o'r unig Aelodau Llafur yma i amddiffyn eu methiannau. Diolch i chi, Lee, am sefyll dros eich penderfyniad. Nid oes enghraifft well o gyn lleied o syniad sydd gan Lafur am dwf economaidd na'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol. Trwy gydol yr etholiad cyffredinol, ac wedi hynny, clywsom gan Syr Keir Starmer ei fod eisiau gweld twf economaidd, ond nid ydym wedi clywed unrhyw fanylion ynglŷn â sut y bwriadai gyflawni hyn, ac mae'r ychydig gamau sydd wedi'u cymryd wedi bod yn gwbl wrthgynhyrchiol ac yn groes i synnwyr cyffredin. Nid yn unig y mae'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol cyflogwyr yn torri ymrwymiad maniffesto, mae'n dreth uniongyrchol ar dwf, sy'n atal llawer o fusnesau bach rhag cyflogi staff newydd neu gynyddu cyflogau staff presennol. Mae ein busnesau wedi bod yn brwydro yn erbyn argyfwng costau gwneud busnes ers gormod o amser, a nawr maent yn wynebu'r dreth hon ar dwf. Sut y mae hyn yn gwneud unrhyw synnwyr? Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen: nid yw twf yn bolisi ynddo'i hun. Rydym i gyd eisiau twf wrth gwrs, ond trwy bolisi economaidd cadarn yn unig y gellir ei gyflawni—rhywbeth y mae'r ddwy Lywodraeth Lafur ar y naill ochr a'r llall i'r M4 yn amlwg yn cael trafferth ei ddeall.
Ddirprwy Lywydd, mae'r codiad treth hwn yn effeithio ar bob sector mewn cymdeithas, fel y clywsom—ein practisau gofal iechyd, ein busnesau, ein helusennau, ein darparwyr gofal allweddol sy'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol hynny. Fel y gwyddom i gyd, mae'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, ac ni fyddant yn gallu fforddio ehangu, diolch i'r polisi economaidd anllythrennog hwn. Mae maint elw llawer o'n busnesau bach a chanolig yn fach iawn ac ond yn ymwneud â chael dau ben llinyn ynghyd. Bydd ffermwyr, busnesau cludo nwyddau a busnesau lletygarwch yn enwedig yn cael trafferth. Nid oes unrhyw reswm heddiw i gyd-Aelodau Llafur yma beidio â chefnogi'r cynnig hwn. Mae'n drist nad ydynt yn mynd i wrando ar yr hyn y ceisiwn ei ddweud. Mae mor amlwg â'r dydd fod y codiad treth hwn yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar fusnesau, ond ar elusennau hefyd ac fel y clywsom, ar sefydliadau nid-er-elw, yn ogystal â llawer o fudiadau gwirfoddol eraill. Fe glywsom yn y Siambr sut y mae awdurdodau lleol eisoes dan bwysau yn ariannol, a byddant yn teimlo effaith y codiad treth hwn. Dywedir wrthym fod arian yn dod gan y Llywodraeth ganolog i wneud iawn am hyn, ond nid yw'n glir faint o hyd. Ac wrth gwrs, mae ein hawdurdodau lleol yn ymdrin â'r cwmnïau preifat sy'n hollbwysig ar gyfer darparu gwasanaethau statudol, fel gofal cymdeithasol, fel gofal cartref. Bydd eu cynnydd i yswiriant gwladol yn cael ei drosglwyddo trwy fwy o gostau i'n cynghorau ac yn y pen draw, i deuluoedd gweithgar ledled Cymru trwy godi'r dreth gyngor. Dyna sut y mae'n mynd o gwmpas. Dim ond un set o arian sy'n bodoli.
Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i osgoi cyfrifoldeb ac yn ceisio honni nad yw hi'n gyfrifol am yr hyn y mae Keir Starmer yn ei wneud. Ond, fel y dywedais i ac eraill, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wrthsefyll polisïau gwael yn San Steffan ac i ddadlau dros bobl Cymru, rhywbeth y methodd y Llywodraeth Lafur hon ei wneud gyda HS2, methodd ei wneud â thaliadau tanwydd y gaeaf, ac fel y clywsom yn ddiweddar, methodd ei wneud gyda'r codiad treth ar ffermwyr. Nawr, Ddirprwy Lywydd, roedd y Llywodraeth Lafur hon yn llawer rhy hapus i geisio beirniadu pob penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth flaenorol San Steffan, ond mae'n llawer rhy hapus i aros yn dawel nawr ei bod hi'n wleidyddol anghyfleus. Bydd pleidleisio dros ein cynnig heddiw yn anfon neges glir i bobl Cymru nad yw'r Senedd hon yn hapus â'r modd amlwg y cafodd y maniffesto ei dorri a'i bod eisiau i Lywodraeth Cymru wrthwynebu Llywodraeth y DU a beirniadu'r ymosodiad uniongyrchol hwn ar ddinasyddion Cymru, sefydliadau nid-er-elw, elusennau a busnesau bach. Diolch.
Yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol, mae 84 y cant o fudiadau yn pryderu am eu gallu i fforddio'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr, mae 34 y cant yn dweud eu bod yn ystyried lleihau nifer eu staff llawn amser, ac mae 14 y cant yn ystyried dirwyn eu gwasanaethau i ben. Ac mi fyddai gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol i rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas. Dwi wedi bod yn tynnu sylw at y problemau sydd yn wynebu dau o fudiadau yn fy etholaeth i, sef Antur Waunfawr a GISDA, ar ôl iddyn nhw gysylltu efo'u pryderon. Mae yna lawer mwy wedi cysylltu ers hynny. Mae gwasanaethau cymorth tai wedi bod yn mynegi eu gofidiau hefyd. Dyma sector sydd yn cefnogi rhai o'r trigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, pobl sydd yn wynebu colli eu cartref, pobl sy'n byw mewn llety dros dro cwbl anaddas am lawer rhy hir, a merched sydd yn ffoi rhag camdriniaeth a thrais yn y cartref. Dyma'r bobl fydd yn cael eu heffeithio gan y cynnydd yma.
Er bod yna groeso i'r cynnydd o £21 miliwn yn y grant cymorth tai, mi ddywedodd tystion wrth y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol yn ddiweddar fod diffygion ariannol sylweddol yn wynebu'r sector ledled Cymru. Mi ddywedodd Cymorth Cymru fod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn peri risg i gynaliadwyedd gwasanaethau ac y gallai arwain at ddiswyddiadau neu at gontractau yn cael eu rhoi yn ôl. Mi ddywedodd Platfform, pe bai prosiectau cymorth tai yn dod i ben, byddai'n rhaid i bob person sy'n cael cymorth droi at wasanaethau statudol sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n gwybod pa mor heriol fyddai dod o hyd i arian ar gyfer hynny.
Dyna pam mae ein gwelliant ni yn gresynu at y bwriad i ddyrannu ad-daliadau'r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail fformiwla Barnett. Mi fyddai hynny'n gadael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr. Mae ein gwelliant ni hefyd yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch y swm fydd yn dod i lywodraeth leol, a hynny lai na mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf ac ar ôl i gyllideb Cymru gael ei phasio. Felly, mi rydyn ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud pob dim posibl rŵan i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod costau'r cynnydd yn cael eu talu'n llawn gan Drysorlys y Deyrnas Unedig. Ac yn ogystal â hyn, mae'r trydydd sector angen gwybod ar frys pa arian sydd ar gael iddyn nhw er mwyn lliniaru effaith y cynnydd yswiriant gwladol ar y gwasanaethau hanfodol y maen nhw'n eu darparu.
Rŵan, dwi'n deall bod llymder y Torïaid wedi creu problem i'r Llywodraeth Lafur, a dwi yn cytuno efo Lee Waters—nid cynyddu yswiriant gwladol ydy'r ateb. Dylid diwygio'r system drethi a chreu system decach. Dylai'r rhai efo'r ysgwyddau llydan dalu mwy. Dyna'r ffordd ymlaen, nid cynyddu yswiriant gwladol, sydd am waethygu problemau i'r union bobl y dylem ni fod yn eu cefnogi yn llawn.
Mae'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o 13.8 y cant i 15 y cant eleni ym mis Ebrill, a gyhoeddwyd gan y Canghellor, yn gywilyddus. Mae wedi achosi pryder mawr i gyflogwyr, busnesau bach, sefydliadau nid-er-elw ac elusennau, yn ogystal â llawer o awdurdodau lleol. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Jane Hutt, rwyf bob amser wedi bod â pharch mawr tuag atoch, ond rydych chi wedi ei wneud eto:
'Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le
'Yn cydnabod:
'a) nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli;'
Am esgus gwan a gwael. A'ch bod yn cydnabod
'bod elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru yn poeni am effaith cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr'.
Ac rydych chi'n cydnabod
'bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau, a bydd yn parhau i wneud sylwadau, i Lywodraeth y DU ar ran gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru' ynglŷn â'r yswiriant gwladol. Ond dim byd o gwbl am y cynnydd i'r bil cyflog i'n hawdurdodau cyhoeddus, ac yn bwysig iawn, ein cyflogwyr sector preifat gweithgar. Ac yna, wrth gwrs, yr esgus gennych eto ynghylch y toriadau i fudd-daliadau lles. Nid yw'n syndod eich bod bellach yn cael eich galw'n 'y blaid gas'. Er bod mesurau wedi'u rhoi ar waith i helpu i warchod rhai o'r microfusnesau lleiaf, fel y lwfans cyflogaeth, mae cyllideb Llywodraeth Lafur y DU wedi pwyso'n helaeth ar fusnesau llai, ac ar adeg pan fônt yn wirioneddol agored i niwed. Daw'r cynnydd hwn hefyd ar adeg pan fo hyder busnesau mor isel yn yr economi yma yng Nghymru. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y data cynnyrch domestig gros diweddaraf, a ddangosodd gynnydd bach o lai na 0.2 y cant yn y tri mis cyn mis Ionawr 2025. Fe wyddom mai Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, sef 70 y cant; a'r nifer uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth; yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, gyda'r lluosydd ar gyfer busnesau o bob maint yng Nghymru yn cynyddu i 56.8 y cant ym mis Ebrill 2025-26; a'r ail gyfradd oroesi isaf i fusnesau yn y DU. Gallwch ochneidio, ond ni allwch guddio na gwadu'r hyn rydych chi'n ei wneud i Gymru a'i sector busnes. Mae hyn yn hynod bryderus ac yn dangos y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr ond yn ychwanegu straen ac effaith bellach ar amgylchedd economaidd a busnes sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yng Nghymru.
Bydd yr effaith hon i'w theimlo gan drydydd sector Cymru hefyd. Mae elusen flaenllaw yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddi dalu £250,000 ychwanegol y flwyddyn oherwydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid yw hynny'n elusengar iawn ar ran Llywodraeth Cymru. Rhoddodd yr elusen gofal canser, Tenovus, dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ddechrau'r flwyddyn hon, yn nodi y bydd y cynnydd hwn yn 'ddinistriol', ac roeddent yn annog Gweinidogion y DU i ailystyried, neu i Lywodraeth Cymru liniaru'r effaith mewn rhyw ffordd. Daw hyn yn sgil datganiad gwan a phathetig iawn gan y Prif Weinidog pan gafodd ei herio gan fy nghyd-Aelod Darren Millar yr wythnos diwethaf: o, eu bod wedi cael trafodaethau anffurfiol gyda Llywodraeth Lafur y DU am hyn. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn credu hynny. Hoffwn weld gohebiaeth lle mae'r Prif Weinidog wedi dangos pryder go iawn am bobl Cymru.
Mewn tystiolaeth yn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid, amlinellwyd cost ychwanegol y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr i'r sefydliadau canlynol: cyflogeion uniongyrchol y GIG, £112 miliwn; llywodraeth leol, £77 miliwn; athrawon, £33 miliwn; gwasanaethau tân ac achub, £4 miliwn ychwanegol. Nid yw'n dderbyniol. Heb sicrwydd o arian ychwanegol i'r sefydliadau elusennol hyn, mae'r posibilrwydd yn cynyddu y gwelwn rai o'r elusennau hyn yn methu. Am y rheswm hwn y galwaf i a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar frys i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y sectorau hyn yn cael ad-daliad a sicrwydd. Bydd effeithiau'r cynnydd hefyd i'w deimlo gan y rhai sy'n gweithio yn y maes meddygol—meddygon teulu, cartrefi gofal—
Mae angen ichi ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda, Janet.
—a hosbisau. Mae'n annerbyniol fod gofyn bellach i unrhyw un o'r sefydliadau hyn, unrhyw un o'r busnesau y soniais amdanynt, dalu am hyn. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yna alwad gref a sylweddol am fwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ad-daliad am gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr?
Janet, mae angen ichi orffen, os gwelwch yn dda.
Ac yn onest, fel y dywedais, mae'n gwaethygu bob dydd, ers i'ch Llywodraeth Lafur ddod yn Lywodraeth y DU yn San Steffan.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl hon ac i fanteisio ar y cyfle, fel y bydd pawb ohonom o amgylch y Siambr, rwy'n siŵr, i ddathlu a chydnabod rôl y trydydd sector—rwy'n credu ein bod i gyd wedi gwneud hynny heddiw—yng Nghymru a bywyd Cymru. Ac rydym yn falch o'r berthynas sydd gennym â'r sector. Eleni, mae'n 25 mlynedd ers lansio ein cynllun trydydd sector unigryw. Ac oherwydd ein cynllun, mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau a llwybrau sydd wedi'u datblygu'n dda lle gall y trydydd sector godi eu pryderon yn uniongyrchol—yn uniongyrchol gyda mi, fel y gwnaethant yn ystod ein cyfarfod diweddar o gyngor partneriaeth y trydydd sector. Dyma'r ffordd rydym wedi ymgysylltu â'r trydydd sector, a chael y berthynas agored, onest honno fel y gall rhanddeiliaid fwydo'n ôl i mi, i ni ac i Lywodraeth Cymru a chyd-Aelodau unrhyw broblemau a phryderon, yn ogystal â chyfleoedd yn y dyfodol.
Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod trydydd sector cynaliadwy yn golygu gwell cefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf o'i angen, fel y mae eu gallu i ymateb i'r galw am eu gwasanaethau a phwysau ariannol annisgwyl. Felly, rydym yn cydnabod—wrth gwrs ein bod yn cydnabod, ac rydym wedi datgan hynny'n glir—fod newidiadau gan Lywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol wedi achosi pryder. Ddirprwy Lywydd, yn ystod cyngor partneriaeth y trydydd sector yr oeddwn yn ei gadeirio fis diwethaf, codwyd pryderon penodol ar draws y sectorau am effaith cynnydd i yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus sy'n comisiynu gwasanaethau gan y trydydd sector. Nawr, mae'n bwysig cofnodi heddiw hefyd, yn y ddadl hon, fod Llywodraeth y DU wedi cydnabod yr angen i ddiogelu'r busnesau a'r elusennau lleiaf, a dyna pam ei bod wedi mwy na dyblu'r lwfans cyflogaeth i £10,500, sy'n golygu na fydd mwy na hanner y cyflogwyr sydd â rhwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai'n gweld unrhyw newid neu ar eu hennill yn gyffredinol yn 2025.
Ond oherwydd ein bod yn cydnabod y pryderon a godwyd, nid yn unig yng nghyngor y trydydd sector, yn amlwg, ond mewn sylwadau a wnaed ac mewn dadleuon yn y Siambr hon, rydym wedi cydnabod bod angen inni ymgysylltu'n uniongyrchol ar hyn gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae pawb yn y Siambr yn amlwg yn ymwybodol nad yw yswiriant gwladol wedi ei ddatganoli. A dyna pam yr ysgrifennodd ein Hysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â dyraniad y cyllid hwn a'r costau ychwanegol i gyflogwyr gwasanaethau dan gontract sy'n darparu ar ran y sector cyhoeddus. Ac wrth gwrs, fe ailadroddodd y pryderon hyn pan gyfarfu â'r Prif Ysgrifennydd ar 27 Chwefror. Roedd yn glir y dylai Llywodraeth y DU ariannu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru yn llawn yn yr un modd â gwasanaethau cyhoeddus Lloegr. Ac yn ogystal, cododd Prif Weinidog Cymru ei phryderon yn uniongyrchol gyda'r Canghellor yn ysgrifenedig, ac yna pan gyfarfu â'r Canghellor fis diwethaf, ym mis Chwefror, ynglŷn â'r dyraniad disgwyliedig o gyllid i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol wedi'i dalu'n llawn. Rydych chi'n sôn sut y câi elusennau llai eu hystyried. A yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau am yr elusennau mwy, pobl fel Women's Aid, pobl fel Tenovus? A ydych chi wedi gwneud unrhyw sylwadau amdanynt hwy? Fe wyddom, ac rydych chi'n cydnabod yn eich gwelliant, yr effaith y bydd yn ei chael ar y gwaith y maent hwy yn ei wneud i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A ydych chi wedi gwneud unrhyw sylwadau am yr elusennau mwy?
[Anghlywadwy.]—mae sylwadau wedi'u gwneud, rwyf eisoes wedi nodi, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'r Prif Weinidog ar draws y bwrdd, ond rwyf am ddweud hefyd, mewn ymateb i'ch cwestiwn, fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid i gyflogwyr sector cyhoeddus i dalu am gostau cynyddol cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n bwysig i'r cyrff sydd hefyd yn comisiynu gwasanaethau gan y trydydd sector, ac yn bwysig, fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid gan ddefnyddio diffiniad swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gyflogwr sector cyhoeddus, ac rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sut y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei gyfrifo. Ond ein hamcangyfrif cychwynnol o gost ychwanegol yswiriant gwladol i gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yw £253 miliwn.
Felly, rwyf am ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod yswiriant gwladol yn un her a godwyd yn y ddadl heddiw, ond wrth gwrs, roeddwn yn ymwybodol drwy gyngor partneriaeth y trydydd sector o faterion ehangach sy'n wynebu'r sector, fel galw cynyddol am eu gwasanaethau, heriau codi arian, ac maent wedi cael eu hystyried heddiw, yn ogystal â recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr. Ac rwyf am adrodd yn ôl i'r Senedd fod hyn yn rhywbeth lle rydym yn cryfhau ein perthynas â'r trydydd sector, a'r mis diwethaf cytunodd y Cabinet ar god ymarfer cyllido diwygiedig ar gyfer y trydydd sector, sy'n dod o dan ein cynllun statudol ar gyfer y trydydd sector. Mae'n mynd i'r afael â'n pwerau a'n cyfrifoldebau. Nawr, mae'r cod diwygiedig hwnnw'n cydnabod pwysigrwydd cyllid aml-flwyddyn—sy'n bwysig iawn i'r trydydd sector—a phwysigrwydd sicrhau bod costau'n cael eu hadennill yn llawn. Felly, bydd y cod hwn yn cael ei gyhoeddi fis nesaf a bydd yn siapio ein perthynas ariannu â'r sector am flynyddoedd i ddod.
Ddirprwy Lywydd, ar draws fy mhortffolio, yn unol â'r cod, cynyddais linellau cyllideb 3 y cant ar gyfer 2025-26, ac rwyf wedi darparu cyllid aml-flwyddyn lle bo modd. Enghraifft o'r cyllid grant a ddyfarnwyd i'r trydydd sector fydd darparu gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl, a bydd hwn yn gyfnod o dair blynedd rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2028, a bydd cyfanswm o £36 miliwn ar gael i'r gwasanaethau cynghori allweddol hynny, i helpu pobl mewn angen ac ar draws ystod o amgylchiadau a nodweddion. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i annog yr holl gyrff sector cyhoeddus i fabwysiadu'r cod cyllido ar gyfer y trydydd sector, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi hynny yn eich ymgysylltiad â'r sector cyhoeddus hefyd.
Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y sector mewn meysydd fel Newid, sydd â'r nod o ddarparu sgiliau digidol i'r sector, Credydau Amser Tempo, sy'n annog gwirfoddoli, y gronfa benthyciadau asedau cymunedol. A hefyd gadewch inni gydnabod bod Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cefnogi 40,000 o sefydliadau'r trydydd sector. [Torri ar draws.] Ymyriad cyflym iawn, os yw'n dod—
Diolch. Clywsom lawer o sylwadau gennych am y sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU ynghylch pa mor bwysig yw hi eu bod yn ariannu'r cynnydd i yswiriant gwladol i'r cyhoedd a'r trydydd sector. Dywedwyd wrthym yn yr etholiad cyffredinol y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd er budd Cymru, ond eto, rydych chi wedi nodi bil o £0.25 biliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu. A yw'r bartneriaeth honno'n cyflawni i Gymru mewn gwirionedd?
Rwy'n credu bod yr amser wedi dod imi fynd i'r afael â rhai o'r sylwadau agoriadol a wnaed gan Mark Isherwood ar y pwynt hwn. Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl 14 mlynedd o gyni, a'n gadawodd gyda'r twll du hwn, fe ddewisodd Mark Isherwood ailysgrifennu hanes yn hytrach na defnyddio hyn fel cyfle i herio a chraffu go iawn—sy'n hollol iawn—ar y ffyrdd yr awn i'r afael â—[Torri ar draws.] Ni wnaf dderbyn ymyriad gennych, Mark, na; rwy'n siŵr eich bod chi'n mynd i ymateb. I'r union bwynt a wnaethoch chi, Tom, amdanom ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, chwalodd y Ceidwadwyr yr economi, a gadawodd dwll du o £22 biliwn. A diolch, Lee Waters, diolch am gywiro'r cofnod; diolch unwaith eto am ein hatgoffa ni i gyd yn y Siambr o'r llanast y gwyddai'r Torïaid eu bod yn ei adael—y llanast y gwyddent eu bod yn ei adael. Dyna oedd eu gwaddol. A ydych chi wedi anghofio'r streiciau? A ydych chi wedi anghofio, o dan eich rheolaeth—? A phan ddaeth Llywodraeth Lafur y DU i mewn, fe wnaethant godi cyflogau'r sector cyhoeddus yn uwch na chwyddiant, a gallodd ein Prif Weinidog ni gyhoeddi hynny pan ddaeth yn Brif Weinidog. A hefyd mae Llywodraeth y DU wedi ein helpu i ddarparu cyllideb o £1.6 biliwn ar gyfer 2025-26, y gwnaethoch chi fethu ei chefnogi. Rydych chi'n methu—. Fe wnaethoch chi fethu cefnogi'r trydydd sector, ac rydym ni'n ei gefnogi nawr yn ein ffordd ni.
Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid trydydd sector, fel y gwnaethom dros y blynyddoedd, i ymdopi â phwysau, adeiladu sector cynaliadwy, cefnogi pobl ledled Cymru, ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y pwysau—
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau.
—gan gydnabod eu rôl, ond hefyd os caf ddweud, i gloi, rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn unol â'r ymateb i'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw.
Galwaf ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad yn ein dadl hynod bwysig heddiw ar y codiadau i yswiriant gwladol; y dreth ar swyddi, fel rwy'n hoffi ei galw, a osodwyd gan y Blaid Lafur.
Agorodd Mark Isherwood y ddadl gydag agoriad cynhwysfawr iawn, fel y daethom i'w ddisgwyl gan yr Aelod. Ac amlinellodd sut oedd Gordon Brown yn bensaer cyni, a dechreuodd hyn i gyd o dan Gordon Brown. A gallwn i gyd gofio'n ôl i 2010, Liam Byrne, oni allwn? Nid ydynt yn hoffi ei glywed, ond nid oedd arian ar ôl. Ac yn ôl i'r dyfodol yw hi gyda Llafur, onid e? Talu mwy, cael llai; dyna beth a gewch gan Lafur.
Nododd Mark Isherwood, fel y gwnaeth Aelodau eraill, yr effaith y bydd y cynnydd i yswiriant gwladol yn ei chael ar y trydydd sector—ac rwy'n gwybod gan yr holl sefydliadau rwy'n cyfarfod â hwy o ochr iechyd y portffolio sut y mae hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy. Ac rwy'n gwybod, Mark Isherwood, cymaint a wnaethoch i hyrwyddo materion cyfiawnder cymdeithasol yn y Siambr hon, a'r holl elusennau yr effeithir arnynt.
Fe wnaethoch chi sôn am gyllideb Llywodraeth Cymru a'r economeg hurt sydd gan Lywodraeth Cymru yma, am nad ydynt yn ariannu'r codiadau yswiriant gwladol a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein systemau. Rydych—[Torri.] A ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Mike?
Ni chaf wneud hynny, am nad wyf i wedi bod yma, ond rwy'n—
O, wel, dyna ni, felly. [Chwerthin.]
A rhestrodd Mark Isherwood nifer o elusennau: Tenovus, Adferiad, Shelter Cymru, Carers Trust, a phob un ohonynt yn codi'r problemau gyda'r costau yswiriant gwladol uwch a'r pwysau y bydd y cynnydd yn ei roi ar ein system GIG ehangach, am eu bod yn arbed llawer iawn o arian i'r GIG ac mae hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy.
Amlinellodd Heledd ei phryderon hi a phryderon ei phlaid am y cynigion hyn. Fel Mark, amlinellodd ei phryderon am y newidiadau, ac mae ein pleidiau'n sefyll gyda'i gilydd ar y mater hwn—fod hon yn dreth greulon a osodwyd gan Lafur ar ein helusennau ac ar bobl weithgar y wlad hon. A thynnodd sylw hefyd at y ffaith bod elusennau'n gorfod gwneud toriadau nawr. Nid toriadau ar gyfer y dyfodol; mae'r bobl hyn yn lleihau gwasanaethau nawr. Gallwn gael geiriau cynnes gan y Llywodraeth, ond heb weithredu, fe welwn y gwasanaethau cyhoeddus hyn yn ein gadael.
Cododd Tom Giffard y sylwadau a wnaed gan y Canghellor pan oedd hi'n ganghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves, yn dweud nad oedd hi'n mynd i godi trethi ar bobl sy'n gweithio. Mae'n debyg i'r addewidion a wnaethant i ffermwyr, onid yw, nad oeddent yn mynd i wneud unrhyw newidiadau yno. Mae'n ddrwg gennyf, mae Llafur wedi dweud celwydd wrth yr etholwyr ac fe gânt eu cosbi am wneud hynny mewn etholiadau yn y dyfodol. Tynnodd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gadael ein gwlad yn economi a oedd yn tyfu ac mai Llafur a chwalodd ein heconomi, ac maent yn gwthio tuag at argyfwng ariannol arall. Ac fe dynnodd sylw hefyd at yr holl filiynau o bobl sy'n gweithio ledled y wlad yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn.
Ac yna, fe wnaeth Lee Waters, y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, ei ymyriad am y toriadau gwariant y bu'n rhaid i'r Llywodraeth Geidwadol eu gwneud. Ac fel y nodais yn gynharach, ni fyddem wedi gorfod gwneud y penderfyniadau anodd hynny pe bai ei blaid ef wedi bod ychydig yn well gyda'i rheolaeth ariannol yn ôl cyn 2010. Ac meddai, 'Ble y byddai'r Ceidwadwyr yn dod o hyd i'r arian i wneud rhai o'r newidiadau yr hoffem eu gweld?' Wel, fe ddywedaf wrthych beth i'w wneud: pam na wnewch chi symud o'r neilltu a gadael i blaid sydd eisiau trwsio Cymru i ddod i mewn? Ac fe ddywedwn wrthych chi'n fuan sut y gwnawn y newidiadau i Gymru. A soniodd hefyd am lyfr Simon Hart. Gallaf ddweud ei fod yn ddeunydd darllen cystal â gwrando ar ei bodlediad, ond dyna ni. [Torri ar draws.] Tynnodd Peter Fox—. Nid wyf yn meddwl y bydd yn hoffi clywed hynny.
Tynnodd Peter Fox sylw at ba mor bwysig ydyw, sut y mae cael economi sefydlog yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, ac yn enwedig eich profiad chi, Peter, mewn llywodraeth leol, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar lywodraeth leol. A beth fydd yn digwydd yw y bydd ein llywodraeth leol a'n cynghorau ledled Cymru yn y pen draw yn gwthio'r dreth hon ymlaen i bobl sy'n gweithio ar ffurf treth gyngor uwch. Dyna pam ein bod ni ar y meinciau hyn eisiau cael refferenda trethi cyngor, i wneud yn siŵr nad ydym yn gwthio mwy o drethi ar bobl sy'n gweithio. Ond soniodd hefyd am y busnesau ac elusennau eraill sy'n mynd i gael eu heffeithio gan hyn.
Fe wnaeth Siân Gwenllian bwyntiau pwerus iawn am y 34 y cant o elusennau sy'n lleihau nifer eu staff ledled Cymru a'r 14 y cant o elusennau sydd eisoes yn dirwyn gwasanaethau i ben. Dylai hynny ddychryn pob un ohonom yn y Siambr hon. Mae'r elusennau hynny'n gwneud gwaith anhygoel, ac mae colli'r gwasanaethau'n mynd i gael effaith. Nododd yr effaith ar elusennau yn ei hetholaeth, ac yn enwedig yr effaith ar dai. Rwy'n credu bod honno'n broblem enfawr sy'n cael ei cholli yma, am y bobl fregus ledled Cymru, ac yn enwedig, fel y soniodd, y menywod sy'n ffoi rhag trais domestig a'r elusennau sy'n eu cefnogi gyda thai. Ni allwn golli hynny.
Janet Finch-Saunders, fe ddywedoch chi—rydych chi bob amser yn rhoi araith angerddol i ni, onid ydych, Janet—sut y mae'r cynnydd hwn i yswiriant gwladol yn gywilyddus. Nid wyf yn anghytuno â chi. Mae'n gywilyddus. Mae'n dreth ar swyddi a threth ar bobl sy'n gweithio, ac ni allwn ganiatáu iddo ddigwydd. Ac rydych chi'n iawn, Janet, Llafur yw'r blaid gas nawr, ac fe fydd pobl yn gweld y niwed a wnânt trwy wneud mwy o bobl yn ddi-waith. Onid yw mor eironig? Maent yn newid y system fudd-daliadau, ond maent yn mynd i wthio mwy o bobl i mewn i'r system honno yn sgil y cynnydd i yswiriant gwladol. A hefyd canfyddiadau'r Pwyllgor Cyllid ein bod yn dal heb gael atebion gan y Llywodraeth ar faterion fel addysg, ein GIG, a'n gwasanaethau cyhoeddus ehangach—rhywbeth nad yw'r Llywodraeth wedi'i weld eto. Ac fel rydych chi'n dweud, mae'n gwaethygu bob dydd.
Ac yna fe wnaeth y Trefnydd ei haraith. Fel chithau, Drefnydd, rwy'n croesawu ac yn diolch i'r trydydd sector am bopeth a wnânt. Ond mae'n drueni heddiw, onid yw, nad yw'r Llywodraeth yn ein cefnogi ar y cynigion hyn, oherwydd nid oes ond angen ichi edrych yn ôl. Nid yw mor bell yn ôl â hynny pan oedd y Llywodraeth Lafur hon yn hapus iawn i gefnogi cynigion a gwelliannau yn rhoi celpen i Lywodraeth y DU ar faterion a gadwyd yn ôl. Am newid; mae'n ymddangos eu bod wedi cael amnesia ac nad ydynt yn cofio beth a ddigwyddodd yn y gorffennol. Un peth y methoch chi sôn amdano, Drefnydd, oedd y pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein GIG, rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac i Aelodau eraill, y pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein deintyddion a'n meddygon teulu a'n gwasanaethau iechyd ehangach ledled Cymru, rhywbeth nad wyf yn credu bod y Llywodraeth Lafur hon yn ei ddeall. Ac yna dechreuodd y Trefnydd ar y dadleuon gwleidyddol arferol—
James, mae angen ichi orffen nawr, os gwelwch yn dda.
—iawn, fe ddof i ben nawr, Ddirprwy Lywydd—y dadleuon yn erbyn ein plaid a'n cyflawniad fel Llywodraeth. Rwy'n falch o gyflawniad y Ceidwadwyr, ac rwy'n meddwl bob amser, pan fyddant yn dechrau ymosod arnoch chi, mae'n dangos eu bod yn colli'r ddadl. Dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, 26 mlynedd mewn grym—mae arnaf ofn fod y gêm ar ben. Mae'n bryd trwsio Cymru, a dim ond un blaid yma sy'n gallu ei thrwsio, sef y Ceidwadwyr Cymreig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y Cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohirir y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.