– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 19 Mawrth 2025.
Ac eitem 6, dadl agored: a all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru? A galwaf ar Carolyn Thomas i agor y ddadl.
Diolch. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc pwysig hwn fel dadl agored gyntaf y Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd y cwestiwn—a all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru—yn sbarduno trafodaeth fanwl ynglŷn â dyfodol ein sector ynni yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at glywed syniadau a chyfraniadau Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ac efallai y byddaf yn cynnig rhai syniadau heriol hefyd.
Mae gan Gymru doreth o elfennau naturiol—tonnau, gwynt a haul—a all greu ynni a phweru ein cartrefi. Gallwn ei storio gyda batris, drwy greu hydrogen gwyrdd a thrwy ddefnyddio rhyng-gysylltwyr, a'i symud o gwmpas i ble mae ei angen a lle gallai'r gwynt fod yn chwythu. Mae cost nwy yn parhau i godi’n gyflym ac rydym yn dibynnu ar ei fewnforio ar gost uchel, ac mae angen inni ymbellhau oddi wrth danwydd ffosil niweidiol.
Gogledd Cymru sydd â’r taliadau ynni sefydlog ac unedol uchaf ym Mhrydain, oherwydd y rhwydwaith, dywedir wrthyf. A thaliadau ynni'r DU yw'r uchaf mewn unrhyw wlad ddatblygedig, gan nad ydym yn berchen ar ynni ac yn dibynnu ar fewnforion, ac eto mae gennym dair fferm wynt enfawr oddi ar arfordir gogledd Cymru—dyna ein golygfa allan i'r môr. Ond sut rydym yn elwa ohono? Ai prisio parthol yw'r ateb, fel y crybwyllwyd yn gynharach?
Mae angen inni sicrhau diogeledd ynni i bobl Cymru. Mae hynny’n golygu diwedd ar ddibynnu ar fewnforion tramor neu danwydd ffosil, a chanolbwyntio yn hytrach ar gynhyrchu ynni yma yng Nghymru i bobl am bris teg. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn allforiwr trydan net. Yn 2022, cynhyrchodd ddwywaith cymaint ag a ddefnyddiodd, ac mae oddeutu traean o’i chynhyrchiant yn dod o ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd, gyda’r gweddill yn dod o danwydd ffosil, nwy yn bennaf.
Mae angen inni droi’r fantol o blaid ynni glân, gwyrdd sydd o fudd i bobl leol. Byddai mwy o fusnesau Ewropeaidd a byd-eang yn hoffi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydym yn gweld cymaint o geisiadau yn cael eu cyflwyno ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn ogystal â llawer o ffermydd solar ar y môr, storio batri, ac fe glywais am gynnig ar gyfer morlyn llanw oddi ar fae Abertawe, sy'n ceisio cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Mae datblygwyr yn mynnu bod angen gweithredu i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol, megis oedi yn y broses ceisiadau cynllunio, ond yn aml, mae polisïau'n gwrthdaro. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dynodi parc cenedlaethol newydd yn y gogledd, ond beth y mae hynny’n ei olygu i ynni gwynt ar y tir a’i seilwaith? A ellir bwrw ymlaen i'w adeiladu? Mae angen inni adfer mawndiroedd, ond rydym yn adeiladu tyrbinau gwynt ar fawndiroedd, gan effeithio ar hynny. Beth sy'n cael blaenoriaeth? Rydym mewn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd.
Codais faterion ar ran dociau Mostyn, man geni'r fferm wynt yng Nghymru. Cafodd materion cynllunio a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu goresgyn yn y pen draw, ac yn flaenorol gyda Choleg Llandrillo yn y Rhyl, roeddent am fynd ati i adeiladu cyfleuster peirianneg er mwyn cynnal a chadw tyrbinau gwynt yn y Rhyl, ond dywedodd CNC 'na'. Mae'r Rhyl wedi'i chategoreiddio'n ardal risg llifogydd. Roeddent yn dweud 'na’ oherwydd hynny, ond mae angen sgiliau arnom i ynni gwyrdd allu mynd i’r afael â'r newid hinsawdd. Diolch byth, fe gafodd ei oresgyn, am fod rheswm yn drech.
Mae angen strategaeth gydgysylltiedig ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cydbwyso cost a budd prosiectau mawr. Mae'r UE wedi pasio deddf newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod systemau solar ar adeiladau masnachol a chyhoeddus newydd, ar bob un sy'n destun gwaith adnewyddu perthnasol erbyn 2027, ar adeiladau preswyl newydd erbyn 2029, ac adeiladau cyhoeddus presennol erbyn 2030. Dyna'r targedau sy'n cael eu gosod ar gyfer systemau solar ffotofoltaig ar bob adeilad. Dywedir wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn ystyried systemau solar ffotofoltaig gorfodol fel rhwystr i arloesi, ond hoffwn wybod pam. Pa fath o arloesedd polisi ynni domestig sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru y byddai systemau solar ffotofoltaig yn ei rwystro? Nid wyf yn deall.
Ar hyn o bryd, ni all y grid cenedlaethol ymdopi ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi ac mae angen ei adnewyddu’n sylweddol, a fydd yn cymryd blynyddoedd. Mae fferm solar yn cael ei hadeiladu yn Saltney, a dywedwyd wrthynt na allent gysylltu â'r grid tan 2038, ond mae datblygwyr ffermydd solar yn dysgu'n gyflym ac yn ymgorffori storio batri hefyd. Dywedodd Scottish Power wrth gyngor yn y gogledd, ar ôl 60 mis o ofyn ac aros, na allent gysylltu’r paneli solar ar eu llety gwarchod â’r grid ac â’u rhwydwaith lleol—ni allai ymdopi—ond fe ddaethant o hyd i ffordd o wneud hynny gyda storio batri. Dyna y mae angen inni fod yn meddwl amdano.
Mae’n rhaid inni gydnabod hefyd y bydd cynnydd yn nifer y mathau o ynni adnewyddadwy a symud oddi wrth ddibyniaeth ar nwy yn golygu seilwaith mwy gweladwy, gan gynnwys peilonau a cheblau, yn ein cefn gwlad ac ar fryniau, gan mai dyna ble mae’r gwynt yn chwythu fwyaf. Mae angen inni sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt yn elwa o dariffau is a bod ceblau'n cael eu gosod o dan y ddaear lle bo modd.
Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio mynd i’r afael â hyn. Maent wedi cyhoeddi Bil ar gynllun disgownt i sicrhau y bydd cartrefi ger peilonau newydd neu beilonau sy'n cael eu huwchraddio yn arbed hyd at £2,500 ar filiau dros 10 mlynedd. A yw hynny'n ddigon? A bydd gofynion cyfreithiol i gymunedau elwa’n uniongyrchol o gynnal seilwaith grid, i’w cyflwyno drwy’r Bil Cynllunio a Seilwaith.
Mae Ynni Cymru wedi ariannu prosiectau ynni lleol clyfar, gan greu ynni a’i ddefnyddio lle mae ei angen, gan helpu canolfannau hamdden a chymunedol, theatrau ac adeiladau cyhoeddus eraill gyda systemau solar ffotofoltaig i greu ynni, batris i’w storio lle bo angen, goleuadau ynni isel a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Dyna enghraifft wych o economi gylchol fach, lle mae ei hangen. Ac fel yr eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw, roedd 32 o bob 100 o geisiadau am grantiau Ynni Cymru yn llwyddiannus, sy’n dangos bod yr angen yno os oes mwy o arian. Mae £10 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond a allwn gael mwy yn y pot gan rai o’r datblygwyr mawr hyn?
Rwyf hefyd yn credu y dylai Ystad y Goron fod yn gweithio er budd pobl Cymru. Dylai ei swyddogaethau yng Nghymru gael eu datganoli’n llwyr i gorff newydd sydd â phrif nod o ailfuddsoddi’r holl arian yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru, ar ffurf cronfa gyfoeth sofran. Cymru yw'r wlad dlotaf ym Mhrydain, er gwaethaf ei thoreth o adnoddau naturiol. Mae’r system bresennol yn golygu bod y cyfoeth o ffioedd sy’n deillio o weithgarwch masnachol Ystad y Goron yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo i Loegr—sefyllfa afresymol ac od.
Mae ynni adnewyddadwy hefyd yn bwnc llosg i'n proses ddeisebau cyhoeddus. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy’n gweld pobl yn codi eu pryderon ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol a lleol niweidiol prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n dweud nad ydynt yn gweld manteision cymunedol digonol i’w hardal leol. Nid y broses ddeisebu yw’r ffordd fwyaf priodol bob amser o sianelu’r pryderon hyn—rydym yn credu efallai mai rhywbeth fel y broses gynllunio a allai fod y ffordd orau wrth symud ymlaen—ond mae’n ennyn diddordeb enfawr, sy’n wych ar gyfer ein Senedd. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Almaen a gosod paneli solar ger ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd parcio ac ar adeiladau masnachol, ac mae’r rheini sy’n gwrthwynebu prosiectau ynni gwynt a solar a chyfleusterau storio batri wedi codi hyn gyda ni.
O gael amser a buddsoddiad, rwy'n credu'n gryf y gall ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru ac y dylem ganolbwyntio ar gyflawni hynny. Yn bersonol, rwy'n credu bod dal a storio carbon yn eliffant gwyn drud, wedi’i hybu gan gwmnïau tanwydd ffosil sy'n mynnu cyllid cyhoeddus o’n trethi, y dylent fod yn ei ariannu eu hunain, mewn gwirionedd. Clywais gan Eni. Siaradais â hwy pan oeddent am gael cyllid gan y Llywodraeth i adeiladu piblinell enfawr fel rhan o brosiect HyNet. Gofynnais, 'Pe na baech yn cael yr arian gan y Llywodraeth, a fyddech yn ei ariannu eich hun?' 'Wel, byddem,' meddent, 'gan ein bod wedi buddsoddi cymaint yn barod.' Dylem fod yn eu dal at eu gair.
Yn hytrach, dylai’r cymhorthdal gwerthfawr gwerth biliynau o bunnoedd sy’n mynd tuag at ddal a storio carbon fynd at grantiau ar gyfer lleihau ein biliau, ein cadw’n gynnes, insiwleiddio ein stoc dai, atgyweirio ffenestri a thoeau sy’n gollwng a boeleri aneffeithlon, a gosod systemau solar ffotofoltaig ar ein toeau. Mae dal a storio carbon yn dechnoleg sydd heb ei phrofi. Mae wedi methu mewn 10 o 13 o brosiectau ar draws y byd, ac mae wedi achosi i drigolion fygu pan fydd pibellau wedi rhwygo. Gall hefyd wneud niwed amgylcheddol enfawr os yw'n gollwng. Mae technoleg yn datblygu, a gallai'r carbon deuocsid a ddaliwyd gael ei droi'n belenni ar gyfer prosiect arall a'i ailddefnyddio.
Nid wyf ychwaith yn derbyn bod ynni niwclear yn fath o ynni adnewyddadwy mewn unrhyw ffordd. Nid yn unig am ei fod yn dibynnu ar ddeunyddiau cyfyngedig, ond hefyd am ei fod yn golygu gadael y cyfrifoldeb o ymdrin â'r gwastraff gwenwynig i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. Mae’n syfrdanol meddwl am yr holl amser a’r biliynau o bunnoedd sydd eisoes wedi’u gwastraffu ar brosiectau niwclear ledled y DU sy'n dal heb eu cwblhau. Mae'n arian y gellid bod wedi'i wario'n buddsoddi mewn cynhyrchu ynni'r dyfodol sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ac ynni adnewyddadwy mwyfwy rhad a theilwng fel ynni gwynt, ynni solar, ynni hydrogen gwyrdd ac ynni'r llanw. Nid oes yn rhaid inni edrych yn bell i'w gweld yma yng Nghymru eisoes. Ac mae cynlluniau ar gyfer mwy, boed yn brosiect ynni llanw Morlais, yn ffermydd gwynt newydd ar y môr, neu'n forglawdd llanw posibl yng ngogledd Cymru neu Abertawe. Mae'r mathau hyn o ynni gwirioneddol adnewyddadwy yn golygu bod ynni niwclear yn dod yn fwyfwy diangen.
I grynhoi, mae arnom angen dull mwy strategol a gweledigaeth glir ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru, gan sicrhau budd cymunedol, gyda thariffau a biliau is i bobl Cymru. Mae angen i ynni gael ei gynhyrchu wrth y ffynhonnell i oresgyn anawsterau o ran cael cysylltiad â'r grid ac mae angen i'r Llywodraeth ddatblygu grantiau i helpu trigolion unigol a chymunedau i leihau costau biliau a datblygu sgiliau gwyrdd a sicrhau pontio teg. Diolch. Edrychaf ymlaen at glywed eich cyfraniadau nawr.
Diolch, Carolyn. Felly, mae'n debyg y gallwn ddweud, 'A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?' ac fe ddywedaf, 'Ddim ar hyn o bryd, na'. Mae ar Gymru angen cyflenwad dibynadwy o ynni a dyna ni. Mae gennym argyfwng diogeledd ynni ar hyn o bryd. Mae angen i'r ynni hwnnw gael ei ddarparu drwy'r prosiectau ynni adnewyddadwy sydd gennym yn barod, y rhai rydym eisoes yn gweithio tuag atynt, megis Awel y Môr, Morlais, fel y nodoch chi, a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill. Ond gadewch inni wynebu ffeithiau, rydym angen ein nwy o hyd. Mae angen LPG arnom o hyd ar gyfer rhai tai yn ein cymunedau gwledig na allant gael mynediad at unrhyw fathau eraill o ynni. Mae angen llosgwyr coed ac olew arnom o hyd.
Rwy’n anghytuno â chi ynglŷn ag ynni niwclear. Yn sicr, bu Virginia Crosbie, cyn-Aelod Seneddol Ynys Môn, yn gweithio’n galed iawn, a gwnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU gynnydd sylweddol tuag at ddatblygu gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn. Mae gennym orsaf Trawsfynydd hefyd, ac mae potensial yno i honno fod yn rhan bwysig o'r model hwn. [Torri ar draws.] Gallwch ymyrryd os mynnwch, Rhun.
Parhewch, Janet Finch-Saunders. Anwybyddwch unrhyw fwmian.
Fe wnaethom gyflwyno model ariannu newydd, ac fe wnaethom brynu safle Wylfa. Wedi wyth mis o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU, ymddengys bod y momentwm ar ynni niwclear yn Wylfa wedi’i golli. Dylai’r Senedd hon, a'r Llywodraeth yn wir, anfon neges glir heddiw at Lywodraeth y DU fod angen diweddariad clir arnom o ba gamau y maent wedi’u cymryd i ddenu buddsoddiad i Wylfa.
Rwy'n credu y gallai gymryd 15 mlynedd i gael caniatâd cynllunio yn unig. Mae Hinkley a Sizewell mor bell ar ei hôl hi, a thros gyllideb i'r fath raddau, yn cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac mae’n costio £43 biliwn nawr, rwy'n credu, ar gyfer un safle. Felly, gallai gymryd 20 mlynedd, 25 mlynedd, i ddod yn weithredol, a biliynau o bunnoedd o arian nad oes gennym. Mae EDF yn sybsideiddio'r gwaith adeiladu hwnnw hefyd. A ydych chi'n credu bod hynny'n rhwystr, wrth symud ymlaen?
Yn sicr, mae’n ymwneud â mwy na darparu’r ynni'n unig. Mae a wnelo â darparu'r swyddi y mae eu hangen yn ddirfawr ar Ynys Môn. Ond beth bynnag, rwy'n credu bod angen inni anfon neges glir heddiw—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ar y pwynt hwnnw, mae'n wirioneddol bwysig cofio beth a ddigwyddodd yma. Mae safbwyntiau gwahanol ar ynni niwclear, ond methodd y prosiect hwnnw am fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi methu ei gyflawni. Ac mae Carolyn yn llygad ei lle—fe gymerodd gymaint o amser i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae hynny oll wedi’i ddadwneud, sy’n ei gwneud yn bwysicach byth ein bod yn canolbwyntio ar yr holl agweddau eraill ar sut y gallwn greu swyddi a chynhyrchu ynni ar yr un pryd, mewn ffordd werdd, gan gadw llygad ar yr hyn y gellir ei wneud gydag Wylfa. Ond fe fethodd o dan y Torïaid.
Ni fethodd o dan y Torïaid. Fe fethodd am na chawsom ein hailethol i barhau â'r cynllun. [Torri ar draws.] Na.
Ochr yn ochr â’r cyflenwad sylfaenol o ynni a ddarperir gan ynni niwclear, fe allwn ac fe ddylem groesawu cyfleoedd ynni adnewyddadwy. Gyda’r holl afonydd a nentydd yng Nghymru, dylem weld prosiectau hydro bach a micro yn dechrau ledled y wlad. Fodd bynnag, mae buddsoddiad preifat yn y cynlluniau hyn yn cael ei atal am fod Llafur Cymru wedi tynnu'r tir o dan draed y rheini a oedd am i’r cynlluniau hyn fynd rhagddynt pan wnaethant ddechrau codi ardrethi busnes.
Ym mis Ionawr, cyflwynodd cyngor Rhondda Cynon Taf geisiadau cynllunio ar gyfer dau gynllun hydrodrydanol yn Nhrefforest. Mae ceisiadau o'r fath yn ysbrydoledig ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni ledled Cymru. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr y manylion ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu â holl awdurdodau Cymru i gyflwyno cynlluniau ynni dŵr newydd.
Mae potensial enfawr gydag ynni solar hefyd. Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â'r adeiladau. Mae gennyf benaethiaid sydd wedi gofyn i mi yn Aberconwy, 'Pam na allwn gael paneli solar ar ein to? Byddai hynny wedyn yn rhoi ffurf rad iawn o ynni i ni ar gyfer yr ysgol'. Ond nid oes unrhyw frwdfrydedd gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol i ganiatáu—[Torri ar draws.] Mae hyn yn mynd i fod yn hwyl.
Roeddwn yn mynd i gynnig, pe bai rhywfaint o arian grant ar gael gan y datblygwyr mawr hyn ar gyfer y prosiectau mawr, y gallai hwnnw fynd tuag at gynlluniau cymunedol fel gosod paneli solar ffotofoltaig ar ein hadeiladau cyhoeddus, tuag at gartrefi efallai ar sail arian grant—efallai y byddai hynny'n gweithio. A ydych chi'n credu bod hynny'n syniad da?
Ydw, ac a ydych chi'n cytuno, Carolyn, y dylai pob tŷ newydd gael paneli solar ar eu toeau? Rwyf wedi gweld dwy ystad newydd yn cael eu hadeiladu'n ddiweddar—dim un panel solar arnynt. Mae'n gyfle a wastraffwyd.
Mae Japan yn gwneud paneli solar ar dai newydd a godir gan gwmnïau adeiladu mawr yn ofynnol ar ôl mis Ebrill 2025. Beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod paneli solar ar bob eiddo newydd yng Nghymru? Bydd ynni solar yn orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus a masnachol newydd sy'n fwy na 250 metr sgwâr yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Sefydliad Ecoleg Gymhwysol wedi nodi capasiti ar gyfer ynni solar ger ffyrdd, dros feysydd parcio ac mewn ardaloedd diwydiannol yn yr Almaen. Ac rwy'n sylwi nawr fod Japan, yn hytrach na defnyddio paneli ffens, yn defnyddio paneli solar. Pe gallem gael y sgiliau yng Nghymru—. Yn amlwg, mae angen inni uwchsgilio ein gweithlu cyn bod unrhyw ran o hyn yn gyraeddadwy, ond dylai hynny fod yn nod i ni, dylai fod yn uchelgais i ni.
Mae angen iddynt fod ger ffyrdd, rheilffyrdd a thros feysydd parcio, nid o reidrwydd mewn caeau gwyrdd. Mae llawer o bobl yn y gymuned leol bellach yn ystyried bod ardaloedd gwledig hardd o Ynys Môn i wastadeddau Gwent dan fygythiad gan gaeau mawr agored sydd wedi'u gorchuddio â phaneli solar. Nid oes arnynt eisiau hynny. Mae perygl gwirioneddol y bydd y capasiti i gynhyrchu bwyd yn cael ei lesteirio, gan gynyddu dibyniaeth ar fewnforion. Ai dyna ein dymuniad ar gyfer y Gymru wledig? Dylai Llywodraeth Cymru oedi ceisiadau ar gyfer ynni solar ar ffermydd. Mae angen iddynt gynnal adolygiad o ynni solar ac mae angen iddynt ddatblygu strategaeth ynni solar.
Mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol gyda chynllun morlyn llanw. Gwn fod llawer o sgyrsiau yn mynd rhagddynt yn y gogledd ac mae cyn-gynghorydd rwy'n ei adnabod yno wedi gwneud llawer o waith ar hyn, ond eto, yn ei chael hi'n anodd cysylltu â Llywodraeth Cymru. Dyna oedd datganoli bob amser yn mynd i fod—fod Gweinidogion yn fwy hygyrch. Ond mae'r bobl hynny sy'n llunio cynlluniau da yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny, ac felly mae angen inni fod â mwy o ben busnes fel Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Mae angen inni edrych ar y cyfleoedd sydd i'w cael ar y môr. Mae'r cynnydd a wnaed gydag ynni gwynt i'w ganmol. Mae’r DU yn arwain y sector hwn yn fyd-eang. Yn ganolog i hyn mae proffesiynoldeb Ystad y Goron. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, am i’r sefydliad gael ei ddatganoli, ac maent wedi llwyddo i gael ambell awdurdod lleol i gytuno â hwy. [Torri ar draws.] Beth bynnag, diolch byth fod Llywodraeth Lafur Cymru yn synhwyrol yn hyn o beth, gan ei bod yn well gadael rhai pethau i fod. Os nad yw wedi torri, pam ceisio ei drwsio? A ydynt yn credu o ddifrif ei bod hi'n ddoeth creu sefydliad arall yng Nghymru a fyddai, yn seiliedig ar gost rheolwyr ac aelodau'r bwrdd yn yr Alban, yn costio dros £0.5 miliwn y flwyddyn?
Mae Ystad y Goron yn cyflwyno rowndiau prydlesu yn gynt nag erioed. O fewn blwyddyn i lofnodi’r cytundebau ar gyfer y bedwaredd rownd, roedd y bumed rownd wedi dechrau, ac mae Ystad y Goron yn gwario miliynau ar arolygu gwely’r môr i ganfod pa ardaloedd sydd fwyaf addas ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy. Yn hytrach na datganoli er mwyn datganoli—. A gadewch inni fod yn onest, byddai Plaid Cymru yn datganoli unrhyw beth a phopeth, gan eu bod am i Gymru fod yn annibynnol. Yr hyn y dylem ei wneud yw cydweithredu ag Ystad y Goron i greu cynllun gofodol cenedlaethol—[Torri ar draws.] Iawn.
Beth sydd gennych yn erbyn y syniad o Gymru yn cael rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol ei hun?
Yn y pen draw, rydym yn cael arian i Gymru drwy Ystad y Goron, felly pam y byddech—? Yn bersonol, ni fyddwn am ei datganoli i Lywodraeth Lafur Cymru.
Yn hytrach na datganoli er mwyn datganoli a pheryglu’r rôl y mae Cymru’n ei chwarae yn y chwyldro ynni adnewyddadwy, yr hyn y dylem ei wneud yw cydweithredu ag Ystad y Goron i greu cynllun datblygu morol gofodol cenedlaethol i Gymru. Fel y mae’r Senedd wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen, byddai cynllun o’r fath yn debyg i gynlluniau datblygu lleol ar y tir, ac fel y cyfryw, byddem yn gweld map manwl o wely’r môr yn cael ei greu, yn nodi’n glir pa brosiectau all fynd i ble, a ble y gallwn gael ardaloedd gwarchodaeth wedyn ar gyfer adfer natur a’n rhywogaethau naturiol.
Rwyf wedi sôn am Morlais, ond hoffwn ymhelaethu. Fis diwethaf, cawsant newyddion gwych, wrth i brosiect Cydnerth gael ei gymeradwyo. Bydd yn diogelu cynllun ynni'r llanw Morlais at y dyfodol drwy fuddsoddi yn ei seilwaith, gan alluogi capasiti grid 18 MW y cynllun i gynyddu, dros amser, i ganiatáu’r 240 MW llawn. Bydd yr ehangu'n creu hyd at 230 o swyddi newydd a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, gan ddiogelu lle'r rhanbarth yn y sector ynni llanw. Un o gryfderau allweddol Morlais yw'r model 'gosod a chwarae' y maent wedi'i ddatblygu. Er mwyn i ynni ffrwd lanw ddod yn fasnachol hyfyw, mae angen sicrwydd ar ddatblygwyr.
Heb Morlais, byddai’n rhaid i ddatblygwyr technoleg unigol ymdrin â chymhlethdodau caniatâd cynllunio, trwyddedu morol a chysylltiadau â'r grid trydan ar eu pen eu hunain. Drwy sicrhau’r caniatâd hwn ymlaen llaw, mae Morlais bellach wedi cael gwared â llawer o’r risgiau a allai arafu neu hyd yn oed atal buddsoddiad yn y sector fel arall. Mae hyn yn golygu y gall datblygwyr ganolbwyntio ar arloesi, gan ehangu eu technoleg, yn hytrach na gorfod ymdrin â phrosesau rheoleiddio cymhleth o'r dechrau.
Rwy'n gobeithio y gall Senedd Cymru, a Llywodraeth Cymru yn wir, ddysgu ac annog mwy o fodelau gosod a chwarae o'r fath. Yn wir, mae gan sawl safle o gwmpas Cymru gerhyntau llanw cryf tebyg, gan gynnwys Penmaen Dewi, Ynys Enlli a rhannau o afon Hafren. Rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i dynnu sylw at y cyfleoedd sylweddol ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a dylid eu datblygu ochr yn ochr â chyflenwad sylfaenol o ynni niwclear. Ond ar hyn o bryd, rydym mewn argyfwng diogeledd ynni, ac mae angen ein tanwyddau ffosil. Diolch.
Mae hon yn ddadl i’w chroesawu. Rwy'n credu inni weld yn y sesiwn flaenorol, mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, y diddordeb sydd gan y Siambr mewn ynni. Yn benodol—a soniodd Carolyn am hyn yn ei sylwadau agoriadol—rwy'n credu bod elfen brisio parthol polisi Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle i ni nawr i wneud pethau'n iawn ac i wneud rhywbeth a fydd o fudd i ddefnyddwyr a'r diwydiant drwy sicrhau biliau trydan rhatach. Ond dyna'r peth pwysig yma: mae angen inni wneud pethau'n iawn.
Ar hyn o bryd, y perygl yw y byddwn yn gweld lleoedd yng Nghymru yn cael eu paru â rhai o’r ardaloedd hynny lle mae galw mawr am ynni fel Llundain a Birmingham, na fyddant o fudd i bobl yng Nghymru, a byddwn yn gweld biliau ynni’n cynyddu. Felly, unwaith eto rwy'n gwneud y pwynt efallai fod angen meddwl am hyn yn fanylach. Rwy’n deall, wrth gwrs, beth y gallai rhai o’r canlyniadau anfwriadol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt fod mewn parth Cymru yn unig, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael y drafodaeth honno a’i chael yn iawn.
Cododd Jenny Rathbone, yn ei chwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet, bwynt pwysig iawn, sef pan fyddwn yn edrych ar bris ynni, mae'r ffaith ei fod yn ddibynnol ar bris tanwydd ffosil, sef nwy yn ein hachos ni, yn cyfyngu ar ein gallu i ddangos budd yr hyn y mae ynni adnewyddadwy yn ei olygu i bobl yn eu biliau ynni. Felly, unwaith eto, dyma gyfle inni wneud pethau'n iawn, ond mae gwir angen inni wneud hyn yn iawn. Ond yn benodol, ar ynni adnewyddadwy—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
I adeiladu ar hynny, hynny yw, un o'r pethau gwrthnysig am y system bresennol, sy'n system hynod ganolog, yw mai'r hyn sy'n digwydd, pan fydd y galw yn y canol yn cyrraedd lefel benodol, yw bod cynhyrchiant ynni sydd ymhellach i ffwrdd o hynny yn cael ei ddiffodd mewn gwirionedd. Felly, maent yn diffodd—. Mae capasiti ynni adnewyddadwy sy'n cynhyrchu yng Nghymru yn cael ei ddiffodd yn hytrach na'i fod ar gael i ddefnyddwyr lleol am bris rhatach. Mae'n hollol hurt. Felly, i bob pwrpas, nid yw gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o gynhyrchiant ynni gwastraff ar gael i'w ddefnyddio er budd dinasyddion Cymru ar hyn o bryd, oherwydd y system ganolog.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Unwaith eto, mae'n dod i'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud am yr angen i fynd i'r afael â rhai o'r materion strwythurol hynny yn y system ynni hefyd. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n diffodd cynhyrchiant ynni adnewyddadwy am gyfnodau estynedig o amser yn gwneud synnwyr. Mae'r holl fuddsoddiad yn cael ei wastraffu, a'r ffaith y gallai'r ynni hwnnw wedyn fod wedi cael ei roi i bobl yn lleol ac am bris rhatach—nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.
A gaf i—?
Carolyn, wrth gwrs.
A gaf i ofyn i chi—? Rydym yn edrych ar brisio parthol, ond eisoes, mewn ffordd, mae gennym brisiau gwahanol, onid oes, gyda'r tâl sefydlog sy'n cael ei dalu—tâl sefydlog uchel iawn—yng ngogledd Cymru? A phris yr uned hefyd. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y gallwn ei wneud, oherwydd mae angen inni weld budd i'r bobl yr effeithir arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu trafod hyn yn y dyfodol ac na chaiff penderfyniadau eu gwneud ar ein cyfer, ac y gallwn ni gael mewnbwn. A dyna pam roeddwn i eisiau dod â'r ddadl heddiw, y prynhawn yma. Felly, hoffwn wybod sut y gallwn gael cyfathrebu yn y dyfodol ynglŷn â hynny—mewnbwn mewn unrhyw drafodaethau.
Ie, ac rwy'n gobeithio bod y ffaith ein bod wedi treulio pedair munud cyntaf fy nghyfraniad yn sôn am brisio parthol a phrisio ynni yn brawf i Ysgrifennydd y Cabinet fod diddordeb mawr yn hyn a bod llawer o gyfle yma yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i gael sgyrsiau, nid yn unig o fewn y Llywodraeth, ond y tu allan i'r Llywodraeth, ynglŷn â sut i wneud hyn yn iawn, ac edrychaf ymlaen at y sgyrsiau hynny. I fod yn deg, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sgyrsiau hynny, felly edrychaf ymlaen at yr elfen honno.
Yn benodol ar yr ochr ynni adnewyddadwy i bethau fodd bynnag, un o fy mhryderon, a bod yn onest, ynglŷn â gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno yw ein bod yn mynd i glywed yr un math o bethau yn cael eu dweud dro ar ôl tro. Hynny yw, fe'i clywsom yn y cyfraniad cyntaf gan Janet Finch-Saunders, mae'n debyg y byddwn yn ei glywed mewn cyfraniadau eraill hefyd, sef ein bod ni'n dweud, 'Wel, mae angen inni wneud y peth hwn, mae angen inni wneud y peth arall' ac yn y blaen. Rwy'n credu bod angen inni symud ymlaen o hynny nawr a dweud, 'Ssut mae gwneud y pethau y dywedwn fod angen inni eu gwneud?', oherwydd nid yw hynny wedi digwydd.
Rwy'n credu bod angen ymdeimlad cliriach o gyfeiriad neu strategaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth yn union y ceisiwn ei gyflawni gyda pholisi ynni. Nawr, mae gennym yr egwyddor ganolog, sef datgarboneiddio Cymru a datgarboneiddio'r economi. Digon teg, ond efallai fod angen inni ddechrau meddwl ychydig yn ddyfnach nawr. Beth a wnawn gyda'r ffaith, er enghraifft, fod Cymru'n allforiwr ynni? Beth yw rhan hynny yn ein polisi ynni a'n strategaeth ynni yn y dyfodol? Ac i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae cyfyngiadau mawr ar adnoddau. Clywsom eto yn y cyfraniad blaenorol, ac yng nghyfraniad Carolyn, am yr holl brosiectau gwahanol sydd ar gael—morlyn llanw bae Abertawe; rydym wedi siarad am hydrogen, niwclear. Ond i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, ni all y Llywodraeth gamu i'r adwy ar bob un o'r prosiectau hyn. Felly, rwy'n credu y byddai sgwrs ehangach yn fuddiol efallai, yn gofyn 'Beth yr hoffem arbenigo ynddo? Beth rydym ni eisiau canolbwyntio o ddifrif arno?' A ydym am ganolbwyntio ar wynt ar y môr, er enghraifft, a gwneud y buddsoddiadau yno a dod yn symudwyr cyntaf gyda chynhyrchu gwynt ar y môr a'r holl fanteision sy'n dod gyda hynny ar y llwyfan rhyngwladol? A ydym eisiau canolbwyntio ar hydrogen? Mae potensial mawr i hydrogen, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, gyda'r prosiectau sydd ar y gweill yno, yn ogystal â'r biblinell a fyddai'n mynd i lawr coridor yr M4, a fyddai'n cael effaith wedyn ar leoedd fel Port Talbot, lle gallem archwilio rhai sgil-gynhyrchion fel dur hydrogen, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod achos dros feddwl, 'A ydym eisiau arbenigo mewn rhywbeth? A ydym am i Gymru gael ei hadnabod am fath penodol o gynhyrchiant ynni a datblygu'r dechnoleg honno?' Hoffwn glywed barn yr Aelodau.
O edrych ar yr amser, fe gadwaf at siarad am fudd cymunedol ynni, oherwydd y gwir amdani yw bod angen inni ddod â chymunedau gyda ni ar y pwynt hwn. Rydym yn ei weld dro ar ôl tro yn ein hetholaethau lleol, pan fydd prosiectau'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynhyrchu ynni ar raddfa fawr, maent yn aml yn wynebu llawer o wrthwynebiad lleol. Rwy'n credu y gallwn gyfarfod â phobl hanner ffordd mewn rhai achosion. Lle rydym yn edrych ar beth o'r arian cymunedol sydd ar gael—ac rydym wedi gwneud gwaith ar hyn ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—lle mae cronfeydd cymunedol ar gael, efallai y dylem fod ychydig yn fwy strategol ynglŷn â sut y defnyddiwn yr arian hwnnw, a'i ddefnyddio i ddatrys rhai o'r materion eraill sydd gennym mewn cymdeithas. Felly, er enghraifft, mae ôl-osod tai, gwneud tai'n gynhesach, gwell insiwleiddio, a rhoi paneli solar ar doeau tai i helpu, unwaith eto, i ostwng biliau ynni i bobl, yn un o'r atebion y gallwn eu canfod. [Torri ar draws.] Ie, Joyce.
Pan fyddwn yn siarad am baneli—ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylem eu rhoi ar adeiladau—rwy'n credu bod cyfle yma i wneud defnydd o grantiau i fusnesau fel ein bod, pan fydd busnesau'n gwneud cais am grantiau i ymestyn eu busnes, yn gosod gofyniad ochr yn ochr â hynny fod hwnnw'n gais cyfalaf i roi paneli solar arno. Rwy'n meddwl yma am gymuned wledig. Felly, yn aml iawn rydym yn rhoi grantiau i fusnesau sy'n gweithredu yn y cymunedau gwledig hynny; gallent fod yn ffermydd, gallent fod yn adeiladau eraill sy'n cael eu codi, ac mae cyfle go iawn, yn fy marn i, ichi osod ffocws ochr yn ochr â llwyddiant y grant ar roi atebion ynni gwyrdd i mewn. A bydd hynny'n gwneud llawer o bethau. Bydd yn helpu'r busnes i gael ynni rhad iawn i redeg eu cynhyrchiant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae ffermio'n enghraifft dda iawn o hynny, a hefyd, efallai, i redeg eu cerbydau, eu ceir, eu hoffer arall. Felly, rydym yn cael gwell defnydd o'r arian cyhoeddus sy'n mynd i mewn i hynny, oherwydd arian cyhoeddus ydyw yn y pen draw, pan fyddwch chi'n rhoi grant, a hefyd atebion gwell i'r bobl sydd angen yr help hwnnw.
Ie, ac rwy'n credu mai un o'r pethau gorau am y ffaith y gallwn helpu busnesau i gynhyrchu eu ynni eu hunain ar y safle neu eiddo domestig yn cynhyrchu ynni ar eu safle eu hunain yw ein bod yn eu hinswleiddio hefyd rhag rhai o'r siociau prisiau a welsom dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n gwybod am un neu ddau o fusnesau, nid yn unig yn fy rhanbarth i ond y tu allan i fy rhanbarth hefyd, sydd â galw uchel am ynni mewn gweithgynhyrchu, rhai ohonynt mewn bwyd a diod, a fyddai wedi elwa'n enfawr ac a fyddai wedi hoffi gweld rhyw fath o grant neu ryw fath o gymorth gan y Llywodraeth i allu cynhyrchu eu hynni eu hunain i wrthbwyso eu biliau ynni. Fel y gwyddom, mae pris ynni wedi bod yn un o'r gorbenion busnes mwyaf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; nid ydym wedi gwneud digon i fynd i'r afael â phethau'n ymwneud â hynny.
Unwaith eto, rwy'n edrych ar yr amser, Lywydd. Fe wnaf orffen drwy ddweud fy mod ychydig yn ddryslyd ynglŷn â'r sylw a wnaed gan Janet Finch-Saunders am Ystad y Goron ac ymagwedd synhwyrol Llywodraeth Cymru, oherwydd y tro diwethaf imi edrych, roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. O na bai Llywodraeth y DU yn dod gyda Llywodraeth Cymru ar y daith honno.
Ar y gronfa gymunedol y soniais amdani a'u defnyddio mewn ffordd well, wel, rwy'n credu bod y gronfa gyfoeth sofran y gallem ei chael o ddatganoli Ystad y Goron yn bwysig iawn hefyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion ehangach hynny mewn cymdeithas. Ac unwaith eto, fe wnaethom edrych ar ôl-osod. Gallwn edrych hefyd ar yr agenda sgiliau, oherwydd, unwaith eto, i gyflawni llawer o'r prosiectau ynni adnewyddadwy yr ydym am eu cyflawni, mae angen i bobl yng Nghymru gael sgiliau i allu gweithio ar safleoedd o'r natur honno. Felly, ar y nodyn hwnnw, Lywydd, fe ddof i ben. Diolch.
Rwy'n falch iawn fod cynnig Carolyn Thomas ar sut yr awn ati i ddiwallu anghenion ynni Cymru wedi'i ddewis fel ein pwnc cyntaf ar gyfer y ddadl agored, ac rwy'n credu ei bod eisoes wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werth chweil a meddylgar am fater cymhleth ac amserol. Yn ddiweddar gwelsom yr effaith y gall bod yn ddibynnol ar bris byd-eang tanwydd ffosil ei chael ar ein cartrefi ac ar ein busnesau, a dyna pam y mae cael ffynhonnell ynni ddibynadwy a gwyrdd yn hollol hanfodol ar gyfer ein diogeledd ynni, ac mae'n hanfodol i sefydlogrwydd ein heconomi a'n cymdeithas ehangach yn y dyfodol.
Rydym wedi gosod y weledigaeth i Gymru bontio i system ynni sero net mewn ffordd sy'n creu mwy o fanteision i'n heconomi a'n cymdeithas na'r system sydd gennym heddiw, ac elfen hanfodol o hyn yw pontio i ynni adnewyddadwy a'i ehangu. Felly, rydym wedi gosod yr uchelgais i Gymru gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein defnydd o drydan erbyn 2035, ac yna i gadw i fyny â'r twf yn y galw wedi hynny. Ac mae hwn yn darged uchelgeisiol iawn, oherwydd gwyddom y bydd y galw am drydan yn tyfu'n sylweddol wrth i'n cartrefi, ein trafnidiaeth, a'n busnesau a'n prosesau diwydiannol symud oddi wrth danwydd ffosil. Rydym hefyd yn gwybod y bydd angen amrywiaeth o dechnolegau arnom i gyrraedd y targed hwn. Bydd angen mwy o wynt ar y tir, mwy o solar, ac mae angen inni barhau i weld ynni adnewyddadwy ar y môr, yn ynni gwynt ac ynni'r llanw, yn cael ei roi ar waith yn gyflym.
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y chwyldro ynni gwyrdd yn flaenoriaeth. Yn ystod y chwe mis diwethaf yn unig mae 10 datblygiad, sy'n cynhyrchu dros 459 MW, wedi cael cymeradwyaeth. Mae hynny'n ddigon i bweru 230,000 o gartrefi yng Nghymru. Felly, rydym yn bendant yn cyflawni. Rydym yn gwneud i bethau ddigwydd. Fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi nodi, ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn i gyd ar ei phen ei hun. Mae angen mewnbwn gan y sector preifat arnom yn bendant. Felly, dyna pam ein bod yn sefydlu amgylchedd sy'n ffafriol i ddatblygiad, ond un lle gallwn gadw'r manteision yng Nghymru, a lle mae gan ein cymunedau lais. Felly, dyna rai o'r rhesymau pam ein bod wedi symleiddio'r broses gynllunio, ac rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol i gyrff sy'n cydsynio. Rwyf hefyd wedi sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wynt ar y môr i nodi'r camau y mae angen inni eu cymryd i sicrhau buddion economaidd parhaol i Gymru o'r cyfleoedd sylweddol y mae gwynt ar y môr yn eu rhoi inni.
Ond rydym hefyd yn gwybod na all ein system ynni yn y dyfodol yng Nghymru ddibynnu ar ynni adnewyddadwy yn unig, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r uchelgais ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Mae'r dadansoddiad y mae'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol, NESO, wedi'i wneud yn dangos, yn debyg i'n targed ni, y gallwn ddarparu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion, ond mae angen capasiti anfon ar gyfer adegau pan na all ffynonellau adnewyddadwy gynhyrchu digon o gyflenwad ar gyfer adegau o alw brig eithafol. Felly, ddydd Llun roeddwn yn falch iawn o ymweld â SAE Renewables a'u prosiect storio batri 120 MW yng Nghasnewydd, ac mae gan y cyfleuster hwn botensial i ddarparu rôl ganolog wrth reoli'r galw brig trwy storio trydan a gynhyrchir yn adnewyddadwy i'w anfon i'r grid pan fo angen. Mae'r dadansoddiad NESO wedi dangos y gofyniad am gynnydd sylweddol mewn capasiti storio i helpu i reoli system ynni adnewyddadwy.
Nid wyf yn derbyn y cyhuddiad a wnaed y prynhawn yma nad ydym yn hygyrch i'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Byddwn i'n dweud mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Mae Llywodraeth Cymru yn treulio llawer iawn o amser yn ymgysylltu â'r sector ynni adnewyddadwy, ac mae ein drws bob amser ar agor. Os na allaf fynd i ymweld a chyfarfod â sefydliadau a datblygwyr fy hun, rwy'n sicrhau bod swyddogion yn cyfarfod â hwy'n gyflym iawn. Mae honiad arall y mae'n rhaid i mi wthio nôl arno y prynhawn yma yn ymwneud â chefnogaeth i Morlais. Mae Morlais yn brosiect gwych. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti o £8 miliwn ynddo, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y prosiectau hyn yn digwydd oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, naill ai cymorth ariannol neu'r amgylchedd cefnogol y ceisiwn ei ddarparu trwy gynllunio, ond gan sicrhau hefyd fod gan sefydliadau a busnesau y sgiliau sydd eu hangen arnynt i'w datblygu.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da iawn wrth weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu set o gynlluniau ynni lleol i fapio, yn fanwl, y galw a'r cyflenwad ar lefel leol. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd tuag at gynnwys Cymru gyfan yn y cynlluniau ynni lleol hynny. Ac roedd ymrwymiad hefyd i ddatblygu cynllun ynni cenedlaethol erbyn diwedd y llynedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â ble rydym arni gyda hynny hefyd, os gwelwch yn dda?
Mae'r cynlluniau ynni lleol hynny gennym yn llawn, ac rwy'n credu bod hynny'n gwneud rhannau eraill o'r DU yn eiddigeddus ohonom, ac rydym yn sicr yn gweithio i sicrhau bod ein cynllun cenedlaethol yn cyd-fynd â'r cynlluniau a nodwyd gennym trwy ein proses gynllunio ac yn y blaen, i wneud yn siŵr fod y ddau beth yn cyd-fynd. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried y dull rhanbarthol hefyd, i archwilio beth arall y gallem ei wneud yn y dyfodol trwy gyd-bwyllgorau corfforedig, a deall eu rôl bosibl yn y gofod hwn yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud yn y gofod hwn, ond o ran ein cynlluniau lleol, rwy'n credu ein bod mewn lle da bellach, ac mae hynny oherwydd y gwaith da y buom yn ei wneud gyda'n partneriaid llywodraeth leol, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda benodol hon hefyd.
Gan ein bod yn newid yn sylfaenol y ffordd yr awn ati i gynhyrchu a defnyddio ynni, rydym wedi cyd-gomisiynu NESO i ddatblygu'r cynllun ynni gofodol strategol. Nod y cynllun hwnnw yw datblygu'r system gost leiaf i gyrraedd sero net, ac mae hynny'n bwysig i bob un ohonom, er mwyn sicrhau bod gennym system effeithlon sy'n ystyried cost cynhyrchu, a'n blaenoriaethau gofodol ehangach yn ogystal, gan gynnwys adfer natur, ac sy'n cyd-fynd â'r pwynt a wnaed nawr gan Lee Waters. Felly, er y byddwn yn gweld newidiadau mawr yng Nghymru, rydym hefyd yn gwybod y bydd angen y pŵer anfon o gynhyrchiant pŵer nwy o hyd. Ond yr hyn rydym am ei weld yng Nghymru yw'r buddsoddiad a fydd yn cefnogi datgarboneiddio'r cyfleusterau hynny, a dyna pam ein bod wedi ymgynghori ar ein dull o ddal, defnyddio a storio carbon yng Nghymru, ac rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Newid Hinsawdd fod dal, defnyddio a storio carbon yn anghenraid yn ein dyfodol, a dyna pam y mae ein dull o weithredu yn darparu fframwaith clir sy'n cefnogi dal, defnyddio a storio carbon, ond—dyma'r rhan bwysig—dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae'n cyfrannu at ddatgarboneiddio.
Rydym hefyd eisiau gweld buddsoddiad mewn hydrogen carbon isel yng Nghymru, ac mae gennym arloesi gwych yn digwydd ym maes defnyddio hydrogen ledled Cymru, gan gynnwys treialon cartrefi hydrogen a'n hybiau hydrogen yng ngogledd a de Cymru. Bydd gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio diwydiant a sectorau allweddol eraill sy'n anodd eu datgarboneiddio, ac rydym am ddenu'r buddsoddiad hwnnw i Gymru. Rydym eisiau gweld—
Mae'n ddrwg gennyf, fe gymerodd eiliad imi brosesu'r hyn a ddywedoch chi am ddal, defnyddio a storio carbon. Dim ond pan ellir dangos ei fod yn cyfrannu tuag at leihau carbon meddech chi. Ond wrth gwrs, fe allech chi ddadlau nad oes dim ohono'n gwneud hynny, oherwydd mae carbon yn dal i gael ei gynhyrchu.
Mae'r ymgynghoriad a gyhoeddais—yn ôl ym mis Tachwedd, rwy'n credu—yn nodi ein dull polisi arfaethedig. Mae'r ymgynghoriad bellach ar gau, ac rydym yn ystyried yr ymatebion hynny. Ond roedd yr ymgynghoriad yn ymwneud â defnyddio'r dechnoleg hon mewn amgylchiadau lle mae'n arwain at ddatgarboneiddio yn unig. Felly, fe wyddom fod yna rai sectorau sy'n anodd iawn eu datgarboneiddio—cynhyrchu sment, er enghraifft. Nawr, mae sment yn sylwedd sylfaenol y bydd ei angen arnom ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ac yn y blaen. Ac os ydym eisiau sment ar gyfer y seilwaith, mae'n rhaid inni ei wneud mewn ffordd sy'n arwain at ei ddatgarboneiddio. Felly, dyna enghraifft o un o'r sectorau sy'n anodd eu datgarboneiddio.
Defnyddir sment ar gyfer concrit, ond erbyn hyn mae gennym dechnolegau'n datblygu lle gallwch ddefnyddio concrit di-sment. Mae ffatri newydd gael ei hadeiladu yn Wrecsam. I ddal a storio carbon, rhaid ichi adeiladu cyfleusterau mawr wrth ochr rhai newydd, ac mae adeiladu'r ffatrïoedd hynny wrth eu hochr, y simneiau i ddal carbon, yn mynd i gymryd llawer o gynllunio a llawer o adeiladu seilwaith, a bydd yn cymryd amser. Ac yna mewn rhai achosion, fel gyda HyNet, maent yn mynd i orfod adeiladu pibell, a fydd yn mynd trwy gymunedau—rwy'n meddwl bod honno'n 32 km o hyd—i gysylltu â'r llall. Felly, mae hynny'n mynd i ryddhau carbon hefyd. Unwaith eto, mae'n rhyddhau carbon i adeiladu, ac yna mae rhoi'r bibell i mewn yn mynd i gael effaith hefyd gyda charbon. Felly, a yw hynny'n rhan o weithio'r cyfan allan, a'r carbon sy'n cael ei gynhyrchu, a yw hynny—yr holl waith adeiladu—yn rhan o'r cyfrifiadau yn ogystal?
Ddoe, lansiwyd prosiect carbon deuocsid Aberdaugleddau yn y Senedd ac mae hwnnw'n edrych ar sut y gall RWE ddatgarboneiddio ei weithrediadau trwy ddefnyddio dal a storio carbon, ond mae eu model yn edrych i raddau helaeth ar atebion nad ydynt yn biblinellau. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â dulliau nad ydynt yn biblinellau, a fyddai'n flaenoriaeth yn yr ardal honno, ac rydym yn gobeithio cael ymateb i Lywodraeth y DU i'w galwad am dystiolaeth ar hyn yn fuan iawn.
Felly, i symud ymlaen at fod eisiau gweld y trawsnewid sy'n cyflymu twf yng Nghymru a dod â swyddi a chyfleoedd newydd ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol, mae hyn yn ymwneud â chynnal y budd hwnnw yma yng Nghymru. Ers amser, mae ein polisïau wedi cefnogi dull lle mae seilwaith ynni'n cael ei ddatblygu gyda chymunedau, ac mae'n ffafrio perchnogaeth leol yn benodol. Dyna pam rwy'n falch ein bod eisoes wedi cyflawni ein targed perchnogaeth leol o 1 GW erbyn 2030 a'n bod am gyflawni o leiaf 1.5 GW o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2035. Rydym hefyd yn cydnabod bod gan fusnesau unigol ac aelwydydd eu rôl i'w chwarae a'r cyfle i elwa o ynni adnewyddadwy ar eu safleoedd. Trwy ein rheoliadau adeiladu, mae gennym ofyniad i gartrefi ac eiddo annomestig leihau eu hallyriadau carbon yn y dyfodol, a byddwn yn ceisio cynyddu hynny yn y blynyddoedd i ddod.
Fe wnaethoch chi sôn am y targed perchnogaeth leol o 1 GW, ond ochr yn ochr â hwnnw, yn 2020, fe wnaethoch chi gyflwyno polisi a oedd yn dweud bod yn rhaid i bob prosiect adnewyddadwy yng Nghymru gynnwys elfen o berchnogaeth leol. A allwch chi roi syniad i ni pa mor llwyddiannus y buoch chi gyda hynny? Pa gyfran, yn fras, o brosiectau adnewyddadwy sydd wedi cael cyfran o berchnogaeth leol ers cyflwyno'r polisi bum mlynedd yn ôl?
Yn anffodus, nid oes gennyf y ffigurau hynny ar flaenau fy mysedd, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Adam Price ar hynny cyn gynted ag y gallaf, oherwydd, fel y dywedais, mae perchnogaeth leol yn rhywbeth yr ydym wedi'i ffafrio'n fawr ers amser maith.
Rwy'n meddwl tybed pa mor hael y bydd y Llywydd o ran—
Rwy'n teimlo'n hynod o hael y prynhawn yma, felly parhewch hyd nes eich bod wedi rhedeg allan o bethau i'w dweud.
Wel—
Iawn, mae'n well imi fod yn ofalus. O'r gorau. Parhewch hyd nes y byddaf i'n dweud.
O'r gorau. Felly, fe wnaf barhau, ond nid wyf am gyfeirio at bethau y siaradais amdanynt eisoes yn ystod y cwestiynau llafar y prynhawn yma, oherwydd rwy'n gwybod, mewn cwestiynau y prynhawn yma, ein bod wedi cael trafodaeth eithaf trylwyr am Ynni Cymru, er enghraifft. Ond rwyf am dynnu sylw at waith Banc Datblygu Cymru. Maent yn treialu cynllun benthyciadau i gefnogi aelwydydd yng Nghymru i ddatgarboneiddio eu cartref, ac rwy'n credu ei fod yn gadarnhaol iawn. A bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd iawn â'r gwaith a wnawn drwy Trydan Gwyrdd Cymru yn ogystal i geisio sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hasedau tir Llywodraeth Cymru ac yn archwilio sut y gallwn ddad-risgio, os mynnwch, y cyfleoedd i fuddsoddi ar ystad Llywodraeth Cymru drwy sicrhau bod safleoedd yn barod i fynd a'n bod yn gwneud y mwyaf o'r gwerth yr ydym yn ei gadw yng Nghymru. Ac mae Trydan Gwyrdd Cymru eisoes wedi bod yn cynnal ymgynghoriadau ar yr hyn y byddai cymunedau'n ei weld yn dderbyniol o ran buddion cymunedol, oherwydd credwn y gallwn fabwysiadu agwedd newydd tuag at fanteision cymunedol yn y gofod hwnnw. Ac mae angen meddwl ai'r gymuned leol benodol iawn a olygir neu a oes manteision y byddem am eu gweld ledled Cymru gan gwmni sy'n eiddo i Gymru. Felly, mae'r holl bethau hyn yn ddatblygiadau cyffrous sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Ac wrth gwrs, mae gennym gyfle i ddarparu swyddi gwyrdd. Mae'r strategaethau ynni rhanbarthol wedi nodi dros 200,000 o swyddi newydd ar draws ein rhanbarthau o'r cyfleoedd buddsoddi. Mae'r gwaith ar gynlluniau ardal leol, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach, bellach wedi nodi'r prosiectau a'r camau y mae angen inni eu cymryd er mwyn darparu'r swyddi hynny ym mhob ardal leol. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth cyffrous iawn.
Felly, yn ogystal â swyddi, bydd dod â'r ynni cost isaf hefyd yn hanfodol wrth inni fynd i'r afael â thlodi tanwydd a sicrhau economi gynaliadwy. Ac rydym yn gweithredu nawr, felly mae'r pethau y siaradais amdanynt yn gamau yr ydym yn eu cymryd nawr. Rydym yn cyflawni ar lawr gwlad i sicrhau bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn elwa o'r buddsoddiad sydd ei angen. A hefyd, drwy ein dull o reoli ein hadnoddau naturiol, rydym hefyd am sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n wynebu Cymru.
Yn 2015, fe ymwelais i ac aelodau eraill o'r pwyllgor amgylchedd ar y pryd â Baden-Württemberg. Rwy'n meddwl bod Llyr Gruffydd yn un ohonynt. Ac ymhlith y cynlluniau ynni cymunedol gwych a welsom, fe wnaethom ymweld â phentref bach y tu allan i Freiburg gydag oddeutu 300 neu 400 o ddinasyddion ar y mwyaf. Roedd ganddynt 50,000 o gwsmeriaid ar gyfer yr ynni adnewyddadwy yr oeddent yn ei gynhyrchu o wynt, dŵr, solar a biomas. Nid yw hynny'n bosibl o dan y rheoliadau yr ydym ni'n dal i fyw oddi tanynt. Mae'n cael ei wneud yn anodd iawn i unrhyw fenter fach ddechrau ar hyd y llinellau hynny. Ac fe welsom hynny mewn pentrefi eraill hefyd, lle roedd cynlluniau hydro a ffyrdd eraill y gallem fynd i'r afael â hyn. Felly, rydym yn bell iawn o ble mae angen inni fod ar hynny. Ond er gwaethaf yr holl ymdrechion ar lefel gymunedol, mae'n eironig nad yw'r Almaen wedi gallu diffodd ei gorsafoedd pŵer glo. Oherwydd ei fod wedi diffodd ei holl orsafoedd pŵer niwclear ar ôl Chernobyl—am resymau da iawn—nid yw'n gallu diffodd ei gorsafoedd pŵer glo oni all ddod o hyd i feysydd ynni sylweddol iawn i gadw ei ddiwydiant i fynd.
Euthum ar ymweliad ychydig wythnosau yn ôl gyda Llyr a'r pwyllgor i Stuttgart a chawsom gyfarfod gydag EnBW, sy'n awyddus i wneud fferm wynt Mona oddi ar ogledd Cymru, mewn gwirionedd. Roedd yn ddiddorol clywed eu bod yn edrych ar roi paneli solar ffotofoltaig ar bob adeilad newydd yn y dyfodol ac maent wedi buddsoddi yn y grid hefyd. Felly, mae ganddynt gynlluniau ar waith i newid pethau'n gyflym, a oedd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n credu bod gennym lawer i'w ddysgu gan wledydd eraill sy'n gwneud hyn, a chamu ymlaen, a hoffwn wybod pam nad ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, a rhoi paneli solar ffotofoltaig ar adeiladau.
Iawn, diolch am hynny. Rwy'n credu mai'r pwynt roeddwn eisiau ei wneud yw cyfeirio'n ôl at y drafodaeth a gawsom yn gynharach am systemau prisio parthol a'r ffordd y maent yn llesteirio menter, oherwydd mae pris wedi'i osod ar y drutaf, nwy. Pan fydd y gwynt yn chwythu'n galed, dywedir wrth lawer o'r araeau i gau, oherwydd nid ydynt eisiau gorfod eu talu am ynni nad ydynt yn meddwl y gellir ei ddefnyddio yn y wlad hon. Ond mae'n hollol amlwg y gallem fod yn cynyddu ein hallforion ynni pe bai gennym system wahanol, ac mae angen inni addasu hynny.
Un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni sero net yw trwy arbed ynni, ac rwy'n credu ei bod yn un o'r ffyrdd y mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rwyf am ganmol y sefydliad ynni cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'r gyfadran pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn sicr wedi bod yn un o brif yrwyr y cynlluniau adeiladu ynni sero net sydd gennym nawr, gan ddefnyddio adeiladwaith ffrâm bren wedi'i adeiladu mewn ffatrïoedd ac y mae modd eu codi wedyn yn gyflym iawn, heb yr holl broblemau a gewch gyda'r tywydd.
Felly, rwy'n credu fy mod am weld dau beth gan Lywodraeth y DU. Un yw bod yn rhaid iddynt adolygu eu rheoliadau adeiladu, oherwydd maent yn dal i ganiatáu i'r chwe chwmni adeiladu mawr adeiladu tai gwael sy'n mynd i fod yn faich ar y bobl sy'n mynd i orfod cael morgeisi i brynu'r llefydd hyn; yna bydd yn rhaid iddynt ôl-osod yr addasiadau sero net i'w galluogi i beidio â gorfod gwario cymaint o arian ar ynni. Felly, bob tro y clywaf Keir Starmer neu Angela Rayner yn siarad am y 1.5 miliwn o gartrefi gwych y byddant yn eu hadeiladu yn ne-ddwyrain Lloegr, rwy'n teimlo fel sgrechian, oherwydd mae'n drychineb ac mae'n gwneud cam â phobl a fyddai wrth eu bodd yn cael eu cartref eu hunain ac sy'n mynd i orfod byw mewn cartref is na'r safon o ran arbed ynni.
Yr ail beth yr hoffwn weld Llywodraeth y DU yn ei wneud, ac un ar gyfer Rachel Reeves yw hyn, yw gwrthdroi penderfyniad trychinebus George Osborne yn 2015 i ddileu cymhellion treth i'r sector preifat ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan fod hynny wedi cau piblinell o gyfalaf i gynhyrchu llawer mwy o weithgaredd yn y maes hwn.
Rwyf am ddiolch i Rebecca a Lee am dynnu sylw at y cynlluniau ynni lleol, oherwydd roeddwn yn dal i feddwl beth oedd Cyngor Caerdydd yn ei wneud, ac fe edrychais yn gyflym ar un Cyngor Caerdydd. Mae'n amlwg ei fod newydd ei gyhoeddi, oherwydd mae'r gofod ar y dechrau ar gyfer y rhagair yn dweud 'nodyn gan y cynghorydd'. [Chwerthin.] Ond serch hynny, rwy'n siŵr fod gwaith ardderchog wedi'i wneud, ac mae'r crynodeb gweithredol yn cynnwys ffeithiau diddorol iawn. Eu trosolwg yw y gellid cyflawni dyfodol sero net Caerdydd gyda'r hyn sy'n cyfateb i 12 fferm solar Ffordd Lamby—ac i'r rhai ohonoch nad ydych yn dod o Gaerdydd, Ffordd Lamby yw ein canolfan ailgylchu—ac mae cynlluniau i adeiladu fferm solar fawr ar y gorlifdir hwn—syniad ardderchog, rydym wedi bod yn siarad amdano ers blynyddoedd lawer, ac ni allaf ddeall yn iawn pam nad ydym wedi ei wneud eto—yn ogystal â'r hyn sy'n cyfateb i 115,000 o doeau domestig gyda phaneli solar ffotofoltaig. Mae hyn o ddiddordeb mawr i mi, oherwydd rwy'n synnu nad yw pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain, sy'n penderfynu bod angen ail-deilsio'r to, yn rhoi paneli solar ar eu toeau. Dyma bobl sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn berchen ar eu cartref, felly mae ganddynt arian i'w wneud, a pham nad ydynt yn ei wneud? Mae hon yn sgwrs a gefais gyda nifer o bobl. 'Pam fod gennych dowyr i fyny yno ac nad oes gennych baneli solar yn cael eu gosod ar y to sy'n wynebu'r de?'
[Anghlywadwy.]—i osod systemau solar ym mhob tŷ newydd, ac roeddent yn dweud mai'r rheswm am hynny yw y bydd yn gwneud pris yr uned yn rhy ddrud i bobl. Mae gan y rhan fwyaf o bobl forgais y maent yn ei dalu dros nifer o flynyddoedd, felly mae ychwanegu £20,000 at bris gwerthu tŷ, neu £10,000, pan fo’n forgais mawr, yn werth chweil yn y diwedd, gan y bydd yn sicr o gael ei dalu’n ôl cyn bo hir. Beth yw eich barn chi? A yw hynny'n rhywbeth y byddech yn meddwl amdano?
Rwy’n sylweddoli bod morgeisi rhai pobl yn ddrud iawn ac na allant fenthyg rhagor, ond nid wyf yn sôn am—. Mae digon o bobl—. Mae oddeutu 40 y cant o bobl yn berchen ar eu cartrefi'n gyfan gwbl, ac felly mae'n ddiddorol iawn deall pam nad yw pobl yn gwneud yr hyn sy'n gwbl amlwg, gan y gellir gwneud yr arian yn ôl o fewn 10 mlynedd, yn enwedig gyda chynnydd prisiau ynni, prisiau tanwydd ffosil. Dyna'r peth iawn i'w wneud i'r amgylchedd ac i'w pocedi.
Mae Caerdydd yn dechrau meddwl am wres a phŵer cyfunedig. Nid wyf yn gwybod ers sawl blwyddyn y mae Celsa wedi bod yn gweithredu, ond o'r diwedd, rydym bellach yn cael gwres a phŵer cyfunedig i lawer o'r cartrefi yn yr ardal a arferai gael ei galw'n Tiger Bay, yn yr ardal hon. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld yr holl waith adeiladu sy'n mynd rhagddo, ac mae'n ymwneud â gwres a phŵer cyfunedig, ac mae hynny i'w groesawu'n llwyr. Ond mae wedi cymryd mor hir â hyn.
Anghofiais ddweud ar ddechrau fy sylwadau fod angen imi gyfeirio’r Aelodau at fy natganiad o fuddiannau, gan fy mod yn cefnogi Awel Aman Tawe, rwy’n un o'r buddsoddwyr, ac rwy’n cael taliad bach am hynny, a hefyd mae fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy, sydd, yn amlwg, yn un o’r cwmnïau mwy sy’n gweithredu gyda'r bwriad o ddatblygu ynni adnewyddadwy ledled Cymru.
I fynd yn ôl at y prisiau parthol, y broblem yn ogystal â'r her sydd gennym o ran ynni cymunedol, yw bod yn rhaid inni allu egluro i bobl nid yn unig fod hyn yn dda i'r blaned, ond fod hyn yn dda i bob un ohonom gan y bydd yn costio llawer llai, cyhyd ag y gallwn sicrhau y gallwn brofi hynny. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cynllun prisio parthol hwn yn iawn, fel bod pobl, pan fyddant yn cwyno am y tarfu a achosir gan y gwaith o adeiladu systemau ynni adnewyddadwy, yn gallu gweld y bydd manteision iddynt, drwy ymuno â chynlluniau ynni cymunedol yn eu hardaloedd lleol, yn ogystal â gallu bod yn sicr o gael pris llawer gwell am eu hynni yng Nghymru, gan ein bod yn mynd i fod yn gyfrannwr mawr o ran ynni adnewyddadwy, a fydd o fudd i Brydain gyfan, a gallai hefyd wella ein cydbwysedd mewnforion/allforion.
Rwy'n falch iawn fod pob un o'r 22 awdurdod lleol bellach wedi ymuno â chynlluniau ynni lleol. Felly, da iawn i Rebecca am hynny, gan y gallwn graffu ar hynny nawr, a cheisio darganfod beth yn union y maent yn ei wneud. Un o’r rhwystredigaethau a deimlais yng Nghaerdydd yw’r diffyg uchelgais i roi paneli solar ar ysgolion, oherwydd yr ateb bob amser oedd, ‘Nid yw’r ysgolion mewn defnydd yn yr haf pan fo’r haul yn tywynnu fwyaf’, ond mae hynny'n camddeall y mater, oherwydd gyda batris, yn amlwg, fe allwch werthu'r trydan i'r grid unrhyw bryd, pa un a oes angen yr ynni hwnnw arnoch yno y diwrnod hwnnw ai peidio. Felly, hyd y gwn i, yr unig baneli solar sydd wedi’u gosod ar ysgolion yng Nghaerdydd yw’r rhai sydd ar y pedair ysgol Gatholig—Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant—gan iddynt ymuno â menter gydweithredol ynni solar Egni, sy’n rhan o Awel Aman Tawe.
Rwy'n credu bod Awel Aman Tawe yn enghraifft wirioneddol wych o fenter gydweithredol sy’n gweithio, oherwydd, wedi’i lleoli yn nyffryn Aman, dechreuodd drwy osod paneli solar ar saith canolfan gymunedol leol a’u gwneud yn fwy hyfyw, ond ers hynny, mae wedi gosod dwsinau o brosiectau solar a gwynt ar draws de Cymru a thu hwnt. Mae ar fin lansio cynnig cyfranddaliadau treigl gwerth £30 miliwn ar gyfer gosod systemau solar ar doeau ar draws Cymru a Lloegr. Felly, da iawn, Awel Aman Tawe. Un o’r pethau pwysicaf yw bod unrhyw elw a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi mewn datblygiadau a rhaglenni addysg yn y dyfodol, ac yn sicr, mae’n rhaid inni gael y rhaglenni addysg hyn, fel y gall pobl ddeall pam fod angen inni wneud hyn. Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Lywydd, felly rwyf am eistedd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am gyflwyno'r cynnig yma heddiw. Fel Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, mi allwch chi ddychmygu fy mod i'n optimistaidd iawn ynglŷn â'r potensial sy'n cael ei gynnig i ni drwy ynni adnewyddol.
Mae gennym ni hen, hen, hen hanes o gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddol yn Ynys Môn. Dwi'n meddwl bod y cofnodion am y melinau gwynt cyntaf yn Ynys Môn yn mynd yn ôl i rywbeth fel 1303 yn Niwbwrch. Ac, wrth gwrs, yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mi oedd yna dwf mawr, mawr yn natblygiad melinau gwynt ar draws yr ynys, bob un yn gallu gweld y llall fel eu bod nhw'n gallu penderfynu pa bryd i roi'r hwyliau i fyny, ac yn y blaen, a hynny wedi cael ei yrru gan sychder, yn golygu bod y melinau dŵr ddim yn gweithio cystal ag y buon nhw a'r corn laws ac ati yn cynyddu pris grawn. Ac mi welsom ni ar yr ynys werth cynhyrchu'r ynni a defnyddio'r ynni yna ein hunain. A beth welsom ni dros amser oedd twf tanwydd ffosil a melinau'n cael eu gyrru gan stêm wedi'u gyrru gan lo yn tynnu'r angen am y defnydd yna o ynni adnewyddol yn lleol yn Ynys Môn. Dwi'n meddwl bod yna lot o wersi yn hynny i ni o ran annibyniaeth ynni: edrych ar beth ydy'n hanghenion ni ein hunain a thrio diwallu'r anghenion hynny ein hunain.
Heddiw, mae gennym ni'r fersiynau modern o dyrbinau gwynt. Fe wnaf i ddatgan budd bod un o'r tair fferm wynt ar Ynys Môn wedi'i datblygu'n rhannol ar dir sy'n perthyn i fy nheulu i. Ond, mae yna gymaint mwy, wrth gwrs, erbyn hyn, ar draws yr ynys, lle rydyn ni'n gallu gweld y posibiliadau. Mae Morlais sydd wedi cael ei grybwyll yn barod yn gynllun dwi'n falch iawn ohono fo oherwydd ei arloesedd yn y modd mae o'n cynhyrchu ynni, ond hefyd fel model o gynhyrchu a datblygu sector newydd fel menter gymdeithasol. Mae'n fodel, onid ydy, ar gyfer sut y dylem ni fod yn datblygu pethau. Ynni gwynt môr: mae yna gymaint o fudd all ddod i'n cymunedau ni o ddatblygu porthladd Caergybi fel hwb ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt môr. Gwynt môr yn arnofio ydy'r genhedlaeth nesaf eto, wedyn, yn fwy ac yn bellach o'r tir.
Os ydym ni'n edrych ar Gymru'n ehangach, mae yna dechnolegau eraill, wrth gwrs. Dwi'n cymryd diddordeb mawr yn y cynlluniau cafodd eu trafod yr wythnos yma ar gyfer moryd yr afon Hafren. Na, wnaeth y lagŵn yn Abertawe ddim gweithio ac mae'n drueni bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â gweld y cyfle amlwg a oedd yn y fan honno, ond gadewch i ni edrych ar beth mae modd ei wneud ym moryd yr afon Hafren rŵan. Mae hydrogen yn faes mae gen i ddiddordeb mawr ynddo fo a chynhyrchiant hydrogen gwyrdd, ac o bosib canfod hydrogen o dan ein tir ni yng Nghymru. Beth rydyn ni'n ei weld yn fan hyn ydy bod yna dirwedd amrywiol iawn, iawn, iawn.
Fy apêl i mewn dadl fel hyn ydy arnom ni fel Senedd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym ni gynllun cenedlaethol, strategaeth genedlaethol, ar sut i wneud yn fawr o'r cyfleon. Dwi'n meddwl bod yna sawl haen i'r hyn y dylem ni fod yn ei weld mewn strategaeth o'r fath—hynny ydy, beth ydy'r blaenoriaethau fel sectorau ynni adnewyddol? Dwi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw yn y fan hon. Beth ydyn ni'n meddwl ydy ein cryfderau ni? Sut ydyn ni am wneud yn fawr o'r cryfderau hynny? Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau ein bod ni'n gwneud yn fawr o'r cyfleon hynny? Ble mae buddsoddiad cyhoeddus angen mynd i mewn, un ai ohono'i hun neu fel modd i annog rhagor o fuddsoddiad gan y sector preifat ac yn y blaen? Rydyn ni angen adnabod hynny. Rydyn ni angen adnabod beth sydd yn ein siwtio ni fel gwlad.
Mae solar yn enghraifft, reit? Nid dim ond pa fath, ond sut rydyn ni’n defnyddio’r gwahanol ddulliau o gynhyrchu ynni. Mae ‘arloesedd’ yn air sydd wedi cael ei ddefnyddio lot heddiw. Mae solar yn faes lle mae yna gymaint y gallwn ni ei wneud drwy arloesi. Roedd Jenny Rathbone yn cyfeirio at bethau cwbl amlwg fel gwneud yn siŵr bod ysgolion, pob adeilad cyhoeddus, wedi cael eu gorchuddio efo cymaint o baneli solar ag sy’n bosibl, a phob maes parcio cyhoeddus wedi cael eu gorchuddio efo paneli solar, a fyddai’n rhoi to ar gyfer pan fydd hi’n bwrw a chynhyrchiant pan fydd hi’n braf.
Mae yna gynlluniau ar y gweill yn Ynys Môn ar hyn o bryd sy’n dangos sut yn union i beidio â gwneud solar. Mi soniodd Jenny Rathbone eto am y syniad o ddatblygu ar ardal ddiwydiannol yng Nghaerdydd. Mae’r syniad o roi paneli solar ar filoedd o erwau o dir amaethyddol, tir amaethyddol mewn ardal oedd mor gynhyrchiol bod angen 50 o felinau gwynt er mwyn malu ei grawn hi mewn hanes—. Pam byddem ni eisiau tynnu’r tir yna allan o ddefnydd cynhyrchiant bwyd, creu hagrwch mewn ardal sy’n ddibynnol ar dwristiaeth a chreu drwgdeimlad efo’r boblogaeth wrth wneud hynny, pan allem ni fod yn ateb ein hanghenion solar ni mewn ffyrdd mwy arloesol? Ie, toeau, ond hefyd ochrau ffyrdd, ffensys sydd yn baneli solar ac yn y blaen. Mae angen inni fod yn symud yn llawer cyflymach hyd yn oed nag y gwnaeth Carolyn Thomas gyfeirio ato yn Ewrop rŵan—targedau o fewn rhyw bedair blynedd i fynnu cael solar ar dai preifat. Wel, mae angen symud ymlaen heddiw.
Mae angen pwysleisio wrth bobl pa mor fuan mae modd cael y buddsoddiad yn ôl. Dwi wedi buddsoddi fy arian fy hun mewn system gymharol fach ar fy nghartref fy hun. Y prif gymhelliad oedd chwarae fy rhan yn amgylcheddol, ond, bydd, mi fydd o wedi talu amdano’i hun o fewn rhyw saith mlynedd. Fe wnes i ychwanegu un rhan newydd at y system sy'n golygu bod ynni solar yn cynhesu dŵr y tŷ i gyd, ac mae hynny’n talu amdano’i hun mewn blwyddyn. Wel, siawns y dylem ni fod yn gallu bod yn arwain pobl i’w helpu nhw i wneud y penderfyniadau yma eu hunain. Felly—[Torri ar draws.] Sori, Carolyn, wrth gwrs.
Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â systemau solar; dylem fod yn eu gosod ar adeiladau, ar dir trefol yn hytrach na thir amaethyddol, ond bydd datblygwyr yn datblygu, a ydych chi'n cytuno, yn y mannau hawsaf a rhataf? Dyna pam ei fod yn digwydd ar ein tir glas. Felly, a ydych chi'n cytuno efallai fod angen y cynllun cenedlaethol hwnnw arnom, strategaeth wrth symud ymlaen, fel nad yw'n digwydd ar ein tir amaethyddol?
Dwi'n cytuno'n llwyr. Mi soniodd y Gweinidog, dwi’n credu, am yr angen i glymu’r cynllunio a’r nod o ran cynhyrchiant ynni. Mae angen i’r cyfan glymu at ei gilydd, a pheidio â gwneud miloedd o erwau o dir amaethyddol ym Môn y lle hawsaf a rhataf i wneud solar. Extraction ydy hyn—cwmnïau mawr o’r tu allan i Gymru yn gwneud elw mawr oddi ar ein cymunedau ein hunain. Mi ofynnais i un cwmni pam eu bod nhw’n dewis tir amaethyddol ym Môn. Ie, am ei bod hi’r ffordd rataf iddyn nhw ei wneud o. Fe ofynnais i wedyn, 'Dewch ag un budd i mi o ddefnyddio’r tir da amaethyddol yma ar gyfer fferm solar', a’r ateb a gefais i oedd, 'Llai o draffig amaethyddol.' Mae’r traffig amaethyddol yna’n cynnal swyddi amaethyddol. Mae’r swyddi amaethyddol yna yn cynnal cymunedau gwledig. Mae'r cymunedau gwledig yna yn creu gwead ein gwlad ni, yn ei gwneud hi yr hyn ydy hi. Felly, mae angen i ni fod gymaint mwy arloesol. Ac mae'n rhaid i ni gofio pwy sydd wrth wraidd unrhyw gynlluniau rydyn ni'n eu datblygu: pobl Cymru a chymunedau Cymru ydy hynny. Mae eisiau cofio beth ydy'r budd rydyn ni ei angen iddyn nhw.
Mae cysylltedd ynni'n gorfod bod yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru. Nid cysylltu yn y ffordd ratach, ond cysylltu mewn ffordd sydd yn adnabod yr angen i ddod â phobl efo ni. Nid gosod peilonau ar draws Cymru, neu drwy Ddyffryn Tywi, neu ar draws Ynys Môn, ydy'r ffordd i annog pobl i ddod efo ni ar y daith adnewyddol yma. Ond gwneud y buddsoddiadau, rhannu'r gost ar draws defnyddwyr ynni yn gyffredinol, er mwyn gwneud y buddsoddiad lle allwn ni mewn tanddaearu, ac yn y blaen. Dwi'n cadw llygad ar y cloc.
Mae yna gyfleon enfawr o'n blaenau ni. Mae'r economi yn gallu ennill, cymunedau'n gallu ennill, pan ydyn ni'n ei wneud o yn iawn, a'r amgylchedd hefyd. Rydyn ni'n gwneud hyn. Rydyn ni eisiau llawer, llawer, llawer, llawer mwy o ynni yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae'r drafodaeth ar niwclear yn y cyd-destun gwyrdd yn un bwysig i'w chael. Hynny ydy, diwallu'r anghenion enfawr yna sydd yn mynd i ddatblygu mewn blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae'r drafodaeth honno yn un economaidd ac amgylcheddol mewn llefydd fel Ynys Môn.
Ond mae yna gymaint o haenau i hyn. Arweiniad gan Lywodraeth, strategaeth gan Lywodraeth sy'n bwysig, ac mewn dadl fel heddiw, sydd yn fath newydd o ddadl yma yn y Senedd, beth rydyn ni eisiau ydy gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn clywed y themâu sy'n codi yma: angen am strategaeth, angen am arloesedd ac angen gwneud yn fawr ar y cyfleoedd sydd gennym ni fel gwlad yn y maes ynni.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r ddadl ffurf hirach hon? Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau. Yn ail, hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl dda iawn hyd yma, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dal i feddwl hynny ar ôl i mi wneud fy nghyfraniad.
Y mathau o ynni adnewyddadwy a ddefnyddir fwyaf yw ynni solar, ynni gwynt ac ynni dŵr. Mae'n ddyddiau cynnar. Os cymharwch hyn â stêm, er enghraifft, roedd bron i 200 mlynedd rhwng cynhyrchu'r stêm cyntaf a James Watt yn cynhyrchu rhywbeth a oedd yn effeithlon. Mae bio-ynni a phŵer geothermol yn bwysig iawn mewn gwledydd eraill.
Nid wyf yn ystyried ynni niwclear yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy. Mae ynni niwclear yn golygu gorfod cloddio am wraniwm, sy'n amlwg yn ffynhonnell anadnewyddadwy. Rwy'n feirniadol o ynni niwclear am resymau eraill, ond fe'i gadawaf ar hynny am y tro.
Gall gosodiadau ynni adnewyddadwy fod yn fawr neu'n fach, ac maent yn addas ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig. Mae ynni adnewyddadwy yn aml yn cael ei ddefnyddio ynghyd â thrydaneiddio pellach. Mae iddo nifer o fanteision. Gall trydan ddarparu gwres a phŵer a gellir ei ddefnyddio i bweru cerbydau. Y nod yw i ffynonellau ynni adnewyddadwy gymryd lle tanwydd ffosil er mwyn arafu, ac yn y pen draw, atal newid hinsawdd. Achosir newid hinsawdd yn bennaf gan allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ac ar batrymau tywydd.
Edrychwch ar bŵer stêm. Datblygodd yn araf dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd, gan symud ymlaen drwy ddyfeisiadau drud a gweddol gyfyngedig ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg i bympiau defnyddiol yn y 1700au i injans stêm gwell Watt ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif—260 mlynedd o'r dechrau i gael y fersiwn well.
Rwy'n mynd i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy yn eu tro nawr. Yn gyntaf, pŵer solar. Nid yw pŵer solar yn newydd, yn yr ystyr ei fod wedi'i ddefnyddio ers cyn Crist, pan ddefnyddiwyd drychau i gynnau tanau. Heddiw, mae gennym systemau gwresogi a bwerwyd gan ynni solar a cherbydau trydan pwerus. Heddiw, rydym yn dal golau'r haul i gynhyrchu trydan defnyddiol. Mae ynni solar yn golygu defnyddio ymbelydredd o'r haul. Gall gynhyrchu gwres, a gellir defnyddio'r gwres hwnnw i gynhyrchu trydan. Mae'n ddi-garbon, ac nid yw'n cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Caiff ynni solar ei greu gan yr ymasiad niwclear yng nghraidd yr haul, ac rydym yn cael budd ohono. Mae paneli solar yn dibynnu ar olau'r haul. Dim ond yn ystod y dydd y maent yn cynhyrchu trydan, pan fydd golau'r haul yn tywynnu arnynt. Nid yw paneli solar yn creu unrhyw nwyon niweidiol, felly maent yn ecogyfeillgar. Os yw'r haul yn tywynnu ar banel solar, gallwch ddefnyddio'r trydan ar gyfer eich anghenion pŵer eich hun, gan leihau eich bil trydan, a gellir gwerthu unrhyw ynni dros ben i'r grid. Os yw'n gymylog, maent yn llai effeithiol, ac yn y nos, nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw drydan o gwbl.
Mae gennym ffermydd solar hefyd, sef ardaloedd mawr o dir wedi’u gorchuddio â miloedd o baneli solar sy’n cynhyrchu trydan. Fel y gŵyr Rebecca Evans, gan ei bod hi a minnau’n rhannu un, mae un ger Ysbyty Treforys sy’n cynhyrchu trydan sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty. Felly, mae'n teithio pellter byr iawn. Cynhyrchiant lleol ydyw. Rwy'n gefnogwr brwd i gynhyrchiant ynni lleol. Mae gan rai ffermydd solar baneli solar sefydlog sydd bob amser yn wynebu'r un cyfeiriad. Mae gan rai baneli symudol sy'n troi fel eu bod bob amser yn wynebu'r haul yn uniongyrchol. Mae hyn yn eu helpu i gynhyrchu cymaint o drydan â phosibl o olau haul uniongyrchol. Hefyd, mae gan ffermydd solar fatris sy'n storio ynni fel y gallant barhau i ddarparu trydan pan nad oes golau uniongyrchol. Mae'r haul yn cynhesu'r ddaear hyd yn oed pan nad oes heulwen uniongyrchol. Pe na bai'n gwneud hynny, ni fyddem yn gallu byw yma.
Felly, ble nesaf? Mae Japan wedi datblygu paneli solar tryloyw a all ddefnyddio golau UV i gynhyrchu trydan. Gallai'r paneli hyn fod yn ddewis ynni-effeithlon yn lle ffenestri, a byddent yn cynhyrchu trydan 24 awr y dydd. Mae ymchwil yn America wedi cyfrannu at ddylunio paneli solar a all ddal ynni gwres o ymbelydredd isgoch o'r haul, a fyddai hefyd yn gweithio 24 awr y dydd. Felly, mae gennym dipyn o ffordd i fynd, ond rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
Ar dyrbinau gwynt, mae gwynt yn ffynhonnell gynyddol o ynni dibynadwy a glân ledled y byd, ac yn rhan hanfodol o'r daith at sero net. Mae wedi cael ei ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd. Yn 200 CC, cafodd pympiau dŵr wedi'u pweru gan wynt eu hintegreiddio yn Tsieina, ac mae melinau gwynt wedi cael eu defnyddio ledled y byd, gan gynnwys yn y dwyrain canol, Ewrop a Phrydain.
Yn Nenmarc, roedd ynni gwynt yn rhan bwysig o drydaneiddio datganoledig yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Erbyn 1908, roedd 72 o eneraduron trydan gwynt a chanddynt gapasiti rhwng 5 kW a 25 kW. Cafwyd cynnydd mawr ym 1978, lai na 50 mlynedd yn ôl, pan adeiladwyd tyrbinau gwynt aml-megawat cyntaf y byd. Paratôdd hynny y ffordd ar gyfer llawer o'r technolegau a ddefnyddir mewn tyrbinau gwynt modern. Roedd y gwaith o adeiladu'r adenydd yn arbennig o bwysig, a chafodd gymorth gan arbenigwyr awyrenegol o'r Almaen. Roedd gan yr orsaf bŵer a oedd yn gallu darparu 2 MW dyrau tiwbaidd, adenydd y gellid rheoli eu goleddf a thri llafn. Mae'n edrych yn gyfarwydd iawn.
Pwysleisiodd datblygiad ynni gwynt masnachol Denmarc welliannau cynyddrannol i gapasiti ac effeithlonrwydd, yn seiliedig ar fasgynhyrchu tyrbinau, a chanlyniad ymarferol hyn oedd bod pob tyrbin gwynt masnachol yn defnyddio cynllun tri llafn ysgafn a wynebai'r gwynt. Dechreuodd ynni gwynt ar y môr ehangu y tu hwnt i dyrbinau dŵr bas gwaelod sefydlog yn negawdau cyntaf y 2000au. Daeth tyrbin gwynt arnofiol dŵr dwfn gweithredol capasiti mawr cyntaf y byd yn weithredol oddi ar Norwy yn 2009. Mae hynny 15 mlynedd yn ôl.
Mae dau fyth yn bodoli am dyrbinau gwynt. Y cyntaf yw eu bod yn swnllyd iawn. Maent yn clicio pan ddônt ymlaen, ond fel arall, maent yn dawel. Maent am iddynt fod yn dawel am eu bod am iddynt droi ynni'r gwynt yn ynni trydanol; nid ydynt am ei droi yn sŵn. Yr ail yw eu bod yn lladd adar. Rwyf wedi ymweld â sawl fferm wynt, ac nid wyf erioed wedi gweld aderyn marw.
Gan droi at fôr-lynnoedd llanw, mae morlyn llanw bae Abertawe yn brosiect ynni adnewyddadwy yn Abertawe sydd â'r potensial i fod yn arloesol. Fe'i cynlluniwyd i fod yn forlyn llanw cyntaf y byd sy'n cynhyrchu ynni, gyda chapasiti o 320 MW, a'r gallu i bweru oddeutu 120,000 o dai am 120 mlynedd. Mae'r morlyn yn cynnwys tyrbinau tanddwr, a'i nod yw cyfrannu'n sylweddol at strategaeth ynni'r DU, gan ddarparu ffynhonnell o ynni cynaliadwy a helpu i leihau allyriadau carbon ar yr un pryd.
Yn anffodus, cafodd ei atal gan ddiffyg gweledigaeth y Llywodraeth Geidwadol. Gwyddom fod môr-lynnoedd llanw yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy. Mae ynni'r llanw yn cael ei gynhyrchu gan rymoedd disgyrchiant y lleuad a'r haul, sy'n golygu ei bod yn ffynhonnell gyson o bŵer. Mae'n rhagweladwy iawn. Yn wahanol i ynni gwynt a solar, mae patrymau'r llanw yn rhagweladwy, sy'n galluogi cynhyrchiant ynni dibynadwy. Cynhyrchir gwybodaeth am y llanw ar gyfer sawl blwyddyn i'r dyfodol, ond gellir ei chynhyrchu ar gyfer oes morlyn llanw. Mae pobl yn gwybod pryd y bydd y llanw'n mynd a dod.
Mae ei effaith amgylcheddol yn isel. Mae systemau ynni'r llanw fel arfer yn cael effaith fach iawn ar yr amgylchedd o gymharu â thanwydd ffosil. Nid oes unrhyw nwyon tŷ gwydr yn cael eu cynhyrchu yn ystod eu gweithrediad. Mae ganddynt oes hir. Gall seilwaith ynni'r llanw fel tyrbinau a morgloddiau gael bywyd gweithredol o fwy na 50 mlynedd. Nid ydym yn siŵr pa mor hir y gallant bara. O ran effeithlonrwydd ynni, gall môr-lynnoedd llanw gyflawni cyfraddau effeithlonrwydd uchel, gan drosi cyfran sylweddol o ynni cinetig o'r llanw yn ynni trydanol.
Mae angen gwell technoleg batri arnom. Gallai datblygiadau batris yn y dyfodol gynnwys batris graffîn, alwminiwm aer, magnesiwm haearn, calsiwm haearn, sinc aer, batris dot cwantwm, batris lithiwm sylffwr, batris haearn sodiwm, batris anod silicon, batris cyflwr solet. Nid wyf yn gwybod pa un o'r rhain a fydd fwyaf llwyddiannus, neu a fydd unrhyw dechnoleg batris arall yn cael ei dyfeisio. A gaf i roi cymhariaeth â fideos i chi? A ydych chi'n cofio Betamax, yna VHS, yna Blu-ray, ac yna lawrlwythiadau? Bellach, mae gennym fideo ar alw. Rwy'n credu bod yr un peth yn mynd i ddigwydd gyda batris. Rydym yn aros am naid fawr mewn technoleg batris. Bydd hwnnw’n gam mawr ymlaen.
Rydym ym mlynyddoedd cynnar datblygiad ynni adnewyddadwy. Bydd rhai mathau'n fwy llwyddiannus nag eraill. Yn allweddol i ddatblygiad ynni adnewyddadwy newydd fydd casglu ymbelydredd isgoch uwchfioled yr haul yn effeithlon, datblygu nifer fawr o fôr-lynnoedd llanw, creu darpariaeth ynni leol. Datblygwyd y grid i gynhyrchu trydan mewn gorsaf bŵer a'i ddosbarthu. Mae gallu’r grid i dderbyn ynni gan fusnesau ac unigolion yn llwyddiant technolegol aruthrol. Mae gennym y gallu i gynhyrchu trydan ym mhobman, gyda phob ardal yn dod yn hunangynhaliol neu bron yn hunangynhaliol. Mae gormod o gymunedau am i rywun arall gynhyrchu eu hynni.
Yn olaf, yr elfen allweddol yw technoleg batris—mae llawer o bosibiliadau. Gwella storio a'r gallu i ddarparu cyfleuster storio rhad yw'r datblygiad pwysicaf ar gyfer y dyfodol. Y dewis arall yw bod llawer o'r ddaear yn dod yn anghyfannedd. Yn olaf, rydym ym mlynyddoedd cynnar datblygiad ynni adnewyddadwy. Y gymhariaeth rwy'n hoffi ei defnyddio yw'r rheilffyrdd. Pan ddechreuodd, rwy'n siŵr fod rhai pobl yn dweud bod mynd ar geffyl yn gyflymach, ond wrth iddo ddatblygu, daeth gwelliannau'n gyflym. Rwy'n disgwyl i'r un peth ddigwydd gydag ynni adnewyddadwy.
Rwy'n ddiolchgar i Mike am y daith honno ar hyd y gorwel technolegol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol agos. Os caf grynhoi'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau rydym wedi'u cael hyd yma, rwy'n credu y gallwn ateb y cwestiwn arholiad a osodwyd i ni gan Carolyn Thomas: mae Cymru'n gallu; gall Cymru gyrraedd sefyllfa ynni gwbl adnewyddadwy, gan gael gwared â thanwyddau ffosil yn gyfan gwbl o’n holl ddefnydd o ynni, a heb droi at ynni niwclear ychwaith. A'r rheswm am hynny yn bennaf yw ein bod yn wlad wyntog, ar y tir ac ar y môr, felly mae gennym fynediad at y dechnoleg aeddfed honno. Ond mae technoleg solar ffotofoltaig, wrth gwrs, wedi cyrraedd y pwynt lle mae technoleg ynni solar yn gweithio'n hollol iawn yng Nghymru hefyd.
Mae gennym rai manteision ychwanegol i gyrraedd yno’n gynt, o bosibl, na gwledydd eraill oherwydd ein daearyddiaeth unigryw, ac felly gallwn ddatrys un o’r problemau, sef problem graidd ysbeidioldeb—y dunkelflaute, fel y maent yn ei alw yn yr Almaen—sef yr hyn a wnewch yn y cyfnodau tywyll, di-wynt hynny pan na all ynni solar na gwynt fodloni’r galw. Wel, mae gennym lynnoedd ym mynyddoedd Cymru, felly mae gennym gapasiti storio eithriadol, ac nid o ran batris yn unig, sy’n dal i fod yn dechnoleg ddatblygol ac arbrofol; mae gennym fatris naturiol yn Ninorwig a Ffestiniog, a byddwn yn ychwanegu at hynny cyn bo hir o bosibl gyda phrosiect Glyn Rhonwy—capasiti storio enfawr yno.
A hefyd, fel y clywsom mewn nifer o gyfraniadau, ar hyd ein harfordir helaeth, mae gennym botensial rhyfeddol—bron yn unigryw. Prin yw’r lleoedd eraill sydd â’r potensial sydd gennym ni gydag ynni'r llanw, ac mae’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy sy’n rhagweladwy. Felly, os rhowch y rheini at ei gilydd, rydych chi'n datrys problem ysbeidioldeb. Ac nid ni yn unig sy'n dweud hynny. Edrychwn ar amcanestyniadau'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol ar gyfer 2050, pan fydd y DU, yn ôl eu hamcanestyniadau, yn cyrraedd sefyllfa sero net—o ffynonellau adnewyddadwy yn achos Cymru—ac maent yn rhagweld y bydd cyfanswm yr angen am ynni yng Nghymru yn 41 TWh y flwyddyn, a chyfanswm yr ynni a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy yn 71 TWh. Ac yn wir, os ychwanegwch yr ychydig gynhyrchiant sydd hanner ffordd rhwng Dyfnaint a Chymru—ac rwy'n credu y gallwn gymryd hanner hynny, oni allwn—mae'n fwy na 80 TWh. Felly, 100 y cant yn fwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu erbyn 2050 yng Nghymru o gymharu â’n defnydd o ynni. Mae'r dyfodol yn edrych yn eithaf cadarnhaol os gwireddwn ein potensial.
Y cwestiwn yw sut y gallwn gyrraedd yno. Mae gwahanol lwybrau, ac o gael y sgwrs honno, byddai'n ddefnyddiol mynd yn ôl at un o’r papurau arloesol gwreiddiol gan Amory Lovins, un o feddylwyr mawr ynni cynaliadwy a sylfaenydd y Rocky Mountain Institute. Ysgrifennodd bapur ym 1976 yn nodi'r hyn a alwai'n llwybrau ynni caled a meddal. Roedd y llwybr caled a ddisgrifiodd yn dibynnu ar dechnolegau cynhyrchu trydan cymhleth, ar raddfa fawr, wedi'u dosbarthu drwy gridiau foltedd uchel gan ddefnyddio peiriannau sefydliadol sy'n rhoi pŵer i fiwrocratiaethau canolog mewn oligopolïau corfforaethol, gan ymyleiddio dinasyddion. Mae'n swnio'n gyfarwydd iawn, ac roedd ganddo farn benodol. Roedd y llwybr caled yn pwysleisio graddfa, safoni, rheolaeth ganolog. Roedd y llwybr meddal yn blaenoriaethu, ie, effeithlonrwydd ynni—rydym eisoes wedi clywed cyfeirio at hynny yn achos Cymru—ond hefyd, dosbarthu ynni adnewyddadwy, felly ar raddfa gymunedol, systemau ynni wedi'u teilwra'n lleol, perchnogaeth leol, perchnogaeth gymunedol, a mwy o reolaeth gan ddinasyddion a chyfranogiad cymunedol.
Ar draws Ewrop, rydych chi wedi gweld gwahanol wledydd yn dilyn llwybrau gwahanol. Felly, yn y bôn, yn Nenmarc ac yn yr Almaen, maent wedi dilyn llwybr llawer meddalach. Felly, mae gennych chi, wyddoch chi—. Mae bron i hanner capasiti ynni adnewyddadwy Denmarc yn eiddo i'r gymuned, neu'n eiddo cydweithredol. Yn yr Almaen, mae'r Energiewende, y trawsnewidiad ynni, yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan feddwl llwybr meddal. Ac mae gennych 40 y cant o gapasiti ynni adnewyddadwy, gyda dros 60 y cant o ynni gwynt yn yr Almaen nad yw'n eiddo i gorfforaethau, ond i ffermwyr neu gymunedau unigol. Ffrainc: llwybr caled iawn, yn seiliedig ar niwclear. Y DU: llwybr caled—mae'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog wedi'i breifateiddio, ond eto, mewn gwirionedd, yn system anhygoel o ganolog. Y llwybr caled—am gyfnod, y rhuthr am nwy, a nawr, llwybr caled, ond gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy a niwclear.
Rwy'n credu mai'r broblem i mi gyda'r llwybr caled yw mater cyfiawnder ynni. Felly, gyda llwybr caled, mae'r manteision a'r costau wedi'u dosbarthu'n anwastad, os mynnwch. Mae'r manteision i berchnogion cyfalaf i raddau helaeth. Maent yn gwneud elw enfawr. Yr un cwmnïau sydd—. Hynny yw, i lawr y grisiau, BP Pulse sy'n gwefru ein ceir. Yn y bôn, mae'r un cwmnïau a oedd yn rhedeg tanwydd ffosil, mewn llawer o achosion bellach yn rhannu'r ysbail o ynni adnewyddadwy. Yn gwneud yr elw, ac eto mae'r gymuned yn gorfod talu'r costau, o ran effaith ar y dirwedd. Heddiw ddiwethaf, cefais e-byst gan etholwyr nad ydynt yn gallu cysgu oherwydd gwarantau sy'n cael eu cyhoeddi gan Green GEN i adeiladu peilonau ar draws eu tir ac ati. Felly, mae'r costau—. Ac mae'r costau'n fwy dwys mewn ardaloedd penodol fel Cymru, sydd ag ynni adnewyddadwy, ond eto nid ydym yn cael y budd.
Felly, rwy'n credu bod cwestiwn yma i ni: pa lwybr yr hoffem ei ddilyn? Ac ar y tir, os meddyliwch am anghenion ynni Cymru, rydym wedi ein cloi i mewn i system galed yn y DU, ond mewn gwirionedd dylem fod yn dilyn y math o fodel Nordig a llwybr meddalach ar y tir—ar raddfa gymunedol ac yn eiddo i'r gymuned. Felly, mynd â'r gymuned gyda ni, fel y gall pobl weld y manteision yn hytrach na dilyn y model economi echdynnol y cawsom brofiad chwerw ohono yng Nghymru ers gormod o amser. Ac os ydym am ddewis y llwybr meddal, mae yna bethau y gallwn eu gwneud. Gallwn ddarparu hawliau datblygu a ganiateir i'w gwneud hi'n haws cael datblygiadau ar raddfa gymunedol ac yn eiddo i'r gymuned. Gallwn osod terfynau ar ddatblygiadau o ran eu maint a'u dwysedd, fel y gallwn atal y math o ruthr gwyrdd corfforaethol a welwn. Mae'r ffigurau'n anhygoel. Ar hyn o bryd, mae ceisiadau ar gyfer 700 o dyrbinau yng Nghymru, a 46,000 erw o ddatblygiad solar a storio batri ledled Cymru. Nid pobl Cymru sy'n mynd i wneud y budd mwyaf o hynny. Felly, gallem wneud paneli solar ar doeau'n orfodol, fel y dywedwyd. Gallwn ddefnyddio cynlluniau ynni ardal leol, oni allwn, mewn ffordd gydgysylltiedig, i ddatblygu'r math hwnnw o lwybr meddal?
Rwy'n credu bod dull hybrid yn bosibl. Ar y môr, gallem dderbyn yr angen am ddatblygiad ar raddfa fawr yno, a'i gefnogi. Felly, gallech gael y llwybr meddal ar raddfa gymunedol ar y tir, ond ar y môr, gyda môr-lynnoedd llanw, gyda gwynt arnofiol, gydag ynysoedd ynni—. Mae Gwlad Belg a Denmarc yn adeiladu ynys ynni sefydlog; gallem wneud hynny oddi ar arfordir Cymru mewn datblygiad ar raddfa fwy o'r math hwnnw. Ac mewn gwirionedd, gallem greu synergedd rhwng y datblygiadau ar raddfa fawr—a gorau oll os oes gennym gyfran gyhoeddus ynddynt, gyda llaw, a datganoli Ystad y Goron fel y gallwn gael y refeniw ohonynt, hyd yn oed os ydynt, mewn rhai achosion, yn eiddo preifat. Gallech greu cronfa gyfoeth sofran, fel y dywedodd Carolyn Thomas, a fyddai'n buddsoddi wedyn yn y datblygiadau ynni lleol ar raddfa gymunedol ar y tir, fel y gallech greu synergeddau rhwng y ddwy system. Rwy'n credu mai dyna'r math o weledigaeth a allai weithio'n dda i Gymru, ac rwy'n credu bod angen inni ddatgysylltu ein hunain o lwybr y DU, sy'n cael ei yrru gan agwedd gorfforaethol, ganoledig, ac nad yw bob amser yn mynd i ddarparu'r manteision gorau i'n dinasyddion.
Rwy'n falch iawn o ddilyn yr araith feddylgar honno gan Adam Price, ac rwyf hefyd yn cytuno mai'r ateb i'r cwestiwn, 'A all Cymru ar ei phen ei hun ddiwallu ein hanghenion drwy ynni adnewyddadwy?' yn amlwg, yw 'Gall.' Arloesedd sydd ei angen arnom ar gyfer cyflenwad sylfaenol, nid niwclear. Nid wyf yn cytuno â safbwynt amwys y Llywodraeth fod angen hydrogen glas fel ffordd i ddiwydiant bontio, neu ddal a storio carbon ar gyfer cynhyrchu concrit. Tactegau oedi yw'r rhain—tactegau oedi a gyflwynwyd gan y diwydiant tanwydd ffosil oherwydd y buddiannau economaidd enfawr i'r diwydiant hwnnw. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf digalon dros y blynyddoedd diwethaf yw'r ffordd y mae'r agenda hon wedi'i gwthio'n ôl. Ddoe, fe welsom y dde yn y DU yn dilyn y dde yn yr Unol Daleithiau gan droi ei hwyneb yn erbyn sero net fel nod cyraeddadwy, gyda Kemi Badenoch, arweinydd y Blaid Geidwadol, yn dweud nad oedd yn gyraeddadwy ac y byddai'n niweidio'r economi. Wel, nid yw hynny'n wir yn ffeithiol; mae'n gyraeddadwy. Efallai nad yw eisiau wynebu'r hyn sy'n gysylltiedig â'i gyflawni.
Ac o ran niweidio'r economi, nid wyf yn credu bod pobl yn wynebu maint a chyflymder y newid sy'n dod tuag atom a'r effaith economaidd y bydd hynny'n ei chael. Rwy'n credu mai yn ôl yn 2007 y cynhyrchodd yr Arglwydd Stern ei adolygiad ar gyfer y Trysorlys lle dywedodd, oni bai ein bod yn cael allyriadau carbon i lawr i sero net, y byddai'r niwed economaidd blynyddol i'n heconomi yn ostyngiad o 5 y cant—5 y cant—mewn cynnyrch domestig gros bob blwyddyn. Nawr, nid enciliad mo hynny, ond dirwasgiad economaidd parhaus os methwn gael allyriadau carbon dan reolaeth. Felly, pan glywn arweinydd y Blaid Geidwadol yn dweud bod cyrraedd sero net yn niweidiol yn economaidd, mae'n dangos anwybodaeth o'r ffeithiau ac mae'n anghyfrifol o ran y wyddoniaeth a'r methiant i wynebu'r hyn y mae cymuned wyddonol y byd yn ei ddweud yn uchel ac yn glir. Pan fydd gwyddonwyr, sy'n bobl ofalus, yn defnyddio'r gair 'catastroffig' i ddisgrifio'r newid hinsawdd sy'n dod tuag atom—. Dyna beth y mae panel y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn ei ddweud—rydym yn wynebu newid hinsawdd catastroffig. Nawr, gadewch i bob un ohonom feddwl sut beth fyddai 'catastroffig' yn y cymunedau a gynrychiolwn.
Nawr, rwy'n gwybod bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn fater gwyddoniaeth wleidyddol cymhleth iawn yn ogystal â mater gwyddoniaeth hinsawdd, ac nid ydym yn meddwl digon am uniad y ddau. Mae newid yn anodd, ac mae yna gyfaddawdu, ac mae yna bobl nad ydynt eisiau i dir gael ei ddefnyddio ar gyfer solar, a phobl nad ydynt eisiau peilonau'n agos i ble maent yn byw, ond mae hynny'n rhannol am nad ydym yn cyfleu trafodaeth onest iddynt ynglŷn â sut olwg sydd ar beidio â gwneud unrhyw beth. Oherwydd mae newid hinsawdd catastroffig ym mhob un o'n cymunedau yn mynd i fod yn ddinistriol i'r economi a'r gymdeithas a dyfodol ein cymunedau. Mae Janet Finch-Saunders yn twt-twtian. Wyddoch chi, rwyf wedi eistedd trwy gymaint o areithiau ganddi yn galw arnom, pan fyddwn ni'n mynd i Gynhadledd y Partïon, i roi camau beiddgar ar waith, i sefyll dros yr argyfwng natur, ac mae yna anghysondeb gwybyddol, datgysylltiad dwfn rhwng yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn haniaethol a'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol, a dyna rwy'n ei ystyried yn ddigalon am y ddadl hon. Nid ydym yn wynebu maint, cyflymder a difrifoldeb peidio â mynd i'r afael â hyn ar y raddfa y mae angen inni ei wneud.
Nawr, mae heriau gwirioneddol yma, ac rydym wedi gweld nifer ohonynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae angen inni fynd i'r afael â mater swyddi. Rydym yn cau diwydiannau sy'n gyflogwyr mawr ond yn llygrwyr carbon enfawr: mae'n effaith andwyol ar ein heconomi yn y tymor byr, ac yn un real ac arwyddocaol iawn, ac ni ddylem ei ddiystyru. Nid oes gennym stori ddigon da am y pontio teg y siaradwn amdano'n haniaethol. Nid oes gennym gynllun ar gyfer pontio teg. Felly, pan fyddwn ni'n dweud, 'Ni chaiff eich ffatri, eich pwll glo ganiatâd i fwrw ymlaen', nid oes gennym ateb amgen, ac un o'r paradocsau, un o'r pethau sy'n ein dal yn ôl rhag pontio teg, yw'r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn cael pontio teg—ôl-osod tai er mwyn arbed ynni, creu tyrbinau gwynt. Nid oes gennym sgiliau i'w gwneud, ac eto rydym yn gweld gwrthwynebiad am ein bod yn cael gwared ar swyddi, ac mae anghysondeb yma nad yw Llywodraethau ym mhob man yn ei wynebu ac yn cynllunio'n strategol ac yn paratoi ar ei gyfer. Ac nid oes unrhyw esgus, rydym yn gwybod ei fod yn dod, mae'r wyddoniaeth yn glir, rydym yn gwybod am yr effeithiau niweidiol, ac nid ydym yn cynllunio ar ei gyfer. Ac rydym yn mynd i wynebu adlach ddifrifol, oherwydd nid yw'r wyddoniaeth yn mynd i fynd yn haws, ac nid yw'r effeithiau tymor byr yn mynd i leihau. Mae'r gymuned wyddonol wedi dweud nad ydym yn mynd i wynebu newid llinol, rydym yn mynd i wynebu uchafbwyntiau a chafnau yma. Fe gawn argyfyngau sydyn, fe gawn sychder, fe gawn stormydd, fe gawn farwolaethau, fe gawn aflonyddwch economaidd enfawr. Rydym yn gwybod hynny, mae'n digwydd eisoes. Mae'n mynd i fynd yn fwy dwys. Pam nad ydym yn wynebu'r hyn y mae'n ei olygu i'n polisïau?
Mae cynnydd Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ynni lleol yn wych ac yn haeddu cryn glod, a chlod hefyd i'r Sefydliad Materion Cymreig a ddechreuodd y gwaith hwn yn ôl yn 2019 gyda'i adroddiad lle gosododd fap ffordd ymarferol a dechreuodd y gwaith yn Abertawe ar gynlluniau ardal leol. Ac rydym wedi cael adroddiadau da iawn gan gomisiwn sero net Cymru, a sefydlwyd yn y cytundeb gyda Phlaid Cymru, ac a ddywedodd wrthym beth sydd angen inni ei wneud erbyn 2035. Cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ei argymhellion hefyd, yn 2023. Felly, nid oes unrhyw esgus yma. Fe wyddom beth sydd angen inni ei wneud. Mae'n anodd. Mae'n anodd, ac mae'n mynd i fod yn ddrud yn y tymor byr, ond rydym hefyd yn gwybod—gadewch i'r cofnod o'r ddadl hon fod yno ar gyfer y dyfodol i'w chwilio gan ddeallusrwydd artiffisial—fe wyddom ei fod yn dod, fe wyddom ei fod yn mynd i ddigwydd. Felly, pan fydd hyn yn cael ei chwilio mewn 50 mlynedd, gadewch inni beidio ag esgus nad oeddem yn gwybod, nid oeddem eisiau ei wynebu, dyna i gyd. Nid oeddem am wynebu'r gymuned ffermio nad oedd eisiau torri allyriadau a lleihau llygredd, nid oeddem am wynebu'r buddsoddwyr mawr a'r corfforaethau mawr a ddywedodd wrthym ei fod yn rhy ddrud ac yn rhy anodd, nid oeddem am wynebu'r dde amgen a ddywedodd wrthym, trwy eu rhyfeloedd diwylliannol a'u poblyddiaeth, ei bod hi'n haws creu rhwygiadau a chael problemau ymrannol. Mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau y mae pawb ohonom wedi'u gwneud ac mae angen inni eu perchnogi.
Mae yna faterion cymhleth yr ydym yn eu hwynebu, yn enwedig yn gysylltiedig â'r grid, ynghylch derbynioldeb y cyhoedd, ynghylch sgiliau y mae'n rhaid inni gynllunio ar eu cyfer ac y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy. Ac roedd Adam Price yn hollol iawn yn ei bwynt am berchnogaeth, a dyma'r darn arall nad ydym yn siarad digon amdano. Rwyf am i Gymru gofleidio'r cyfleoedd y mae'r pontio i economi gynaliadwy yn eu cyflwyno i ni, ac mae yna gyfleoedd go iawn. Ond hefyd, ni ddylai'r enillion ollwng allan o Gymru a mynd i rywle arall. Felly, mae'n anodd iawn gwneud achos brwdfrydig dros ddatblygiad ac wynebu gwrthwynebiad lleol gwirioneddol pan fydd manteision y cynllun hwnnw'n mynd i gronfa athrawon Canada neu Lywodraeth Sweden, neu Lywodraeth yr Almaen, sydd oll yn buddsoddi'n helaeth mewn cynlluniau ynni gwyrdd yn y wlad hon, a ninnau heb fod yn gwneud hynny. A dyna pam rwy'n credu mai creu GB Energy gan Lywodraeth y DU yw'r ffordd iawn ymlaen, ac mae angen iddi ehangu a buddsoddi yn hynny gyda hyder. Ond fel erioed, mae Cymru'n mynd i gael cam os nad ydym yn ofalus, wrth i'r adnoddau naturiol sydd gennym gael eu hecsbloetio gan eraill, gan ein gadael i oddef canlyniadau byrdymor gwneud hynny. Ac ni ddylem adael i hynny ddigwydd.
Ond gadewch imi orffen, Lywydd, drwy ailadrodd y pwynt pwysig i fy nghyd-Aelodau. Nid yw'r cyflymder yr ydym yn barod i symud arno, yr amwysedd y mae pob rhan o'r Siambr yn ei roi mewn cyfraniadau 'Ie, ond—' yn gyfartal â lefel yr her a wynebwn.
Mae yna gymaint dwi'n cytuno gyda fe. Beth fyddwn i yn gwthio’n ôl ychydig bach arno fe, wrth gwrs, yw bod yn rhaid inni fynd â phobl gyda ni ar y siwrnai yma, ac mae'n ffin denau rhwng gwthio’n galed a thynnu pobl tu ôl i ni. Ac ar adegau, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn bragmatig yn hynny o beth. Ond dwi'n cytuno 100 y cant ynglŷn â maint yr her a maint yr ymateb sydd ei angen. A gadewch inni atgoffa ein hunain ble rŷn ni: 34 y cant o holl drydan Cymru sydd yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd. Mae hynny i fyny o 27 y cant yn 2022, ond, wrth gwrs, fel rŷn ni'n gwybod, mae'n dibyniaeth ni lawer, lawer yn rhy drwm ar danwydd ffosil, yn enwedig nwy, wrth gwrs, gyda gweithfeydd mawr mewn llefydd fel Penfro a Chei Connah yn ganolog i hynny.
Ac mae hynny'n dod nôl at y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r dewis yma rhwng y llwybr caled a'r llwybr meddal. A dwi yn teimlo, er efallai y gallwn ni reidio dau geffyl mewn gwahanol gyd-destunau—ar y tir ac yn y môr—heb ein bod ni'n gweld y shift sylfaenol yma i ffwrdd o'r model hub and spoke lle rŷn ni'n cael y canolfannau yma sydd yn cynhyrchu lot fawr o ynni, sydd yn cael ei gyfleu yn aneffeithiol ac yn aneffeithlon iawn ar draws y wlad, gyda transmission loss ac yn y blaen, ac yn y blaen—heb ein bod ni'n symud i fodel sydd yn fwy o ryw fath o rwydwaith gwe pry cop, lle mae yna lawer mwy o gynhyrchiant yn digwydd ar raddfa lai mewn mwy o lefydd—sydd yn gyfundrefn llawer mwy resilient, gyda llaw, achos os oes peth o'r wifrynnau yna yn mynd lawr, wel, mae gyda chi'r cysylltedd a'r rhyngddibyniaeth i allu pwyso ar eraill i gynhyrchu; yn y model hub and spoke, os oes un o'r canolfannau mawr yn mynd lawr, mae hanner y wlad yn mynd mas; mae'n rhaid inni gael y sifft benderfynol yna yn y grid, i bob pwrpas, oherwydd y grid yw'r broblem, yn ei hanfod, fan hyn—dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y nod rŷn ni'n awyddus i'w gyrraedd. Ac wrth gwrs y rhwystredigaeth arall inni fan hyn yw dyw'r grid ddim wedi ei ddatganoli. Felly, fe allwn ni gael y dadleuon yma mor aml â rŷn ni eisiau, ond heb fod y symudiad decisive yna yn dod o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Grid Cenedlaethol, yna rŷn ni'n mynd i fod yn nofio yn erbyn y llif yn rhy aml o lawer.
Nawr, mae yna gyfleon, wrth gwrs. Mae yna beryglon, fel rŷn ni wedi'i glywed. Ond yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, dwi'n ofni, yw sefyllfa lle mae yna gwmnïau lu—cwmnïau rhyngwladol mawr—yn glanio yn ddisymwth ar gymunedau ar hyd a lled Cymru, yn chwilio am ganiatadau i ddatblygu'r projectau mawr yma, rhai ohonyn nhw'n addas, rhai ohonyn nhw yn gwbl anaddas, yn fy marn i. A'r hyn gewch chi wedyn, wrth gwrs, yw cymunedau yn adweithio i hynny—cymunedau sydd efallai yn cael eu brawychu ac sydd yn taro nôl. Problem y gyfundrefn yw hwnna, sy'n creu y gwrthdaro yma, a dyw e ddim, wrth gwrs, yn rhywbeth rŷn ni eisiau ei weld. Mae yna 126—. Wnes i gyfeirio at yr ystadegau yma yn gynharach. Mae yna 126 o brojectau ynni adnewyddadwy gyda'r National Energy Systems Operator ar hyn o bryd—hynny yw, yn geisiadau gan y sector ynni am gysylltiadau i'r grid cenedlaethol yma yng Nghymru. Maen nhw'n brojectau o bwys, hynny yw projectau arwyddocaol—nid projectau bychan, felly, fel ynni cymunedol, ffermydd solar bach, ffermydd gwynt bychan ac yn y blaen, ac nid projectau chwaith, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi clywed, sy'n mynd i ddiwallu anghenion lleol, ond projectau o bwys cenedlaethol sydd angen cysylltiad i is-orsaf, wrth gwrs, er mwyn wedyn allforio y trydan yna ar linellau foltedd uchel 400 kV neu 132 kV—yr extraction yma roedden ni'n sôn amdano fe, neu'n clywed amdano fe, yn gynharach.
Nawr, mae cyfanswm allbwn arfaethedig y cynlluniau yma yw 40 GW, sydd tua 25 gwaith anghenion trydan Cymru ar hyn o bryd. Felly, pe baem ni'n llwyddo i ddadgarboneiddio ein heconomi ni yn llwyr a symud tuag at gyfundrefn ynni, trafnidiaeth a gwresogi carbon sero, yna pe bai'r rheini i gyd yn dod i fwcl, mi fydden ni â mwy na digon ar ein plât. Ond diffyg rheoleiddio, dwi'n teimlo, diffyg cynllun, diffyg cydlynu, sy'n agor y drws i hyn. Mae llawer o'r dechnoleg hefyd, wrth gwrs, yn newydd—storio trydan batri yn un ohonyn nhw sydd yn dod yn fwyfwy cynhennus mewn sawl cymuned. Dyw'r drefn rheoleiddio ddim yn ddigonol i gwrdd â scale a nifer y projectau sy'n dod ymlaen. A dyna, i raddau, dwi'n teimlo, yw pam rŷn ni'n gweld cymaint o brojectau yn cael eu twlu i mewn i'r pot gan y cwmnïau yma; hynny yw, rhyw fath o speculative punt yw nifer o'r rhain, yn aml iawn. Mae yna 79 o brojectau storio batri mawr wedi gwneud cais i'r Grid Cenedlaethol yma yng Nghymru, mewn un ffurf neu'r llall, ar hyn o bryd. Mae rhai ohonyn nhw yn cynhyrchu trydan ar yr un safle ac yn storio'r trydan, ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw—dros 40—yn brojectau storio yn unig. Fe wnes i sôn gynnau fod un ohonyn nhw, jest un—Ynni Celyn, yn fy rhanbarth i—yn mynd i gostio mwy neu lai yr un faint â'r buddsoddiad yn yr electric arc furnace ym Mhort Talbot, ym mhentref bach Gwyddelwern, sydd â chwpl o gannoedd o bobl yn byw ynddo fe. Beth rŷn ni'n ei weld yw Klondike newydd. Mae yna gold rush yn digwydd o flaen ein llygaid ni, ac mae yna gwmnïau yn heidio i mewn i'r cymunedau yma yn chwilio am eu cyfle i wneud arian mawr yn sydyn iawn. Ac rŷn ni nôl, wrth gwrs, i diriogaeth y glo a'r llechi, fel rŷn ni wedi clywed gan ambell i gyfraniad y prynhawn yma. Felly, mae angen i'r prosesau cynllunio a rheoleiddio ac mae angen i'r polisi Llywodraeth gadw lan gyda hyn, neu, fel rŷn ni'n gwybod, y cymunedau, ar ddiwedd y dydd, fydd yn adweithio ac wedyn, wrth gwrs, mi fyddwn ni i gyd yn colli'r frwydr o safbwynt symudiad tuag at fwy o ynni adnewyddadwy.
Mi bigaf i lan ar y pwynt a wnaethpwyd pan oedd Luke yn siarad ynglŷn â chronfeydd cymunedol. Mae gennym ni, yn ardal Clocaenog, brofiad yn sir Ddinbych ac ardaloedd o sir Conwy o flynyddoedd mawr o ynni gwynt a phrojectau yn darparu cronfeydd cymunedol. Dwi wedi cael pobl yn dod ataf i nawr yn dweud yn blwmp ac yn blaen, 'Rŷn ni wedi rhedeg mas o bethau i ofyn amdanyn nhw', ac mae hwnna'n gadael blas cas; mae e'n gadael rhywbeth ym mol pobl sy'n teimlo, 'Rŷn ni wedi cael ein prynu ychydig, fan hyn, gan y cronfeydd yma.' Nawr, peidiwch â fy nghael i'n rong, maen nhw wedi gwneud gwaith da, llawer o'r buddsoddiadau yma, ond dwi yn teimlo bod yr amser wedi dod, fel awgrymwyd, nid i brynu pethau ond i fuddsoddi mewn pobl, mewn sgiliau, mewn mentrau cymunedol, mewn rhywbeth fydd yn gadael legasi llawer mwy cyfoethog a llawer mwy adeiladol, os liciwch chi, o safbwynt creu cymunedau mwy cydnerth i fedru, efallai, cymryd mwy o reolaeth o'u dyfodol eu hunain. Jenny.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedoch chi am brosiect Clocaenog a phobl yn meddwl eu bod wedi rhedeg allan o bethau i ofyn amdanynt. Mae hyn yn mynd â ni'n ôl at rôl awdurdodau lleol, oherwydd ni allwch ddisgwyl i'r cyngor tref neu gyngor cymuned y pentref ddweud, 'Iawn, dyma sut rydym ni'n mynd i ddatgarboneiddio'r holl dai yn yr ardal.' Mae'n rhaid i chi gael arweinyddiaeth gan yr awdurdod lleol i ddweud, 'Ydym, rydym yn cynhyrchu cymaint â hyn o arian budd cymunedol, nawr mae angen inni gael cynllun mwy.' A dyna un o wendidau'r sefyllfa hon. Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gamu i'r adwy. Ni allwch ddisgwyl i ddinasyddion cyffredin wybod, 'Dyma sut rydych chi'n mynd i ddatblygu ynni adnewyddadwy.' Mae hon yn dechnoleg newydd.
Yn wir, a dyna pam rwy'n teimlo weithiau bod rhai o'r cwmnïau rhyngwladol mawr hyn yn rhedeg cylchoedd o'n cwmpas ni yma yng Nghymru gyda'r mathau hyn o bethau. Ac un o'r cwestiynau rwy'n ei ofyn i rai o'r cwmnïau hyn—. Pan fyddant yn dweud, 'A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynglŷn â ble gallem fuddsoddi ein cronfa gymunedol?', y cwestiwn cyntaf rwy'n ei ofyn iddynt yw, 'Wel, edrychwch, dywedwch wrthyf yn gyntaf: pa ganran o'ch elw rhagamcanol yw hyn?' Distawrwydd. Mae'n gwestiwn nad ydynt eisiau ei ateb. Nawr, nid yw hynny'n diystyru'r ffaith eu bod yn creu swyddi mewn ffyrdd eraill ac yn dod â buddsoddiad ac ati, ond mae'n teimlo mewn gwirionedd—. Yr holl beth echdynnol hwnnw. Mae yna deimlad, wyddoch chi, o ble mae'r gyfran gymunedol go iawn yn hyn? Ble mae'r ymrwymiad go iawn gan y gymuned? Ac nid ydym yn ei weld.
Dydyn ni ddim yn ei weld e. Felly, ie, mae angen cymysgedd o brojectau mawr a bach, ac mae Cymru, wrth gwrs, yn benthyg ei hun yn berffaith ar gyfer hynny, fel rŷn ni wedi clywed. Ond adeiladau cyhoeddus—dwi wedi gweld cynlluniau ysgolion unfed ganrif ar hugain sy'n dweud eu bod nhw'n mynd i gwrdd â safonau BREEAM, ac rŷch chi'n gweld y darluniau yma gan gynllunwyr sy'n dangos paneli solar ac yn y blaen; chwe mis lawr y lein, wrth gwrs, 'O, mae'r gost wedi mynd lan. Mae'n rhaid inni dynnu rhywbeth mas', ac, yn sydyn iawn, dyw'r adeilad ddim yn edrych tamaid yn debyg i'r hyn welais i yn yr ymgynghoriad fuodd, efallai. Felly, mae'n rhaid inni drio symud o fanna hefyd. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i'n cymunedau ni ddod yn gyntaf yn yr hafaliad yma.
Ac mae'n rhaid inni gymryd ysbrydoliaeth gan bobl fel Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris. Mae yna mwy y gall ein cymunedau ni ei wneud, ac nid dim ond ar scale bach hefyd, achos mae Morlais yn enghraifft, onid yw e, o'r hyn all ddigwydd ar scale lawer, lawer mwy ond yng nghyd-destun mentergarwch cymunedol a mentergarwch cymdeithasol. Felly, mae angen reset pan fo'n dod i'r meddylfryd yma—symud oddi wrth yr hub and spoke i symud tuag at rywbeth sy'n llawer haws i'w hymgorffori o fewn ein cymunedau ni ond sydd hefyd yn llawer mwy resilient pan fo'n dod i sicrhau bod y ddarpariaeth yna yn un gynaliadwy.
Joyce Watson yw'r siaradwr olaf sydd gennyf sydd wedi gofyn am gael siarad cyn imi ofyn i Carolyn Thomas ymateb. Felly, Joyce Watson.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan, a diolch i'r rhai a gyflwynodd y ddadl hon yma heddiw. Nodais yn flaenorol ein bod yn symud tuag at drydydd chwyldro diwydiannol, y cyntaf oedd stêm, yna nwy, ac ynni adnewyddadwy wedyn, ond tybed a ydym mewn gwirionedd yn mynd yn ôl at y chwyldro cyntaf, lle roedd y pŵer i gyd yn cael ei gynhyrchu'n naturiol yn y lle cyntaf.
Rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud, am y tro cyntaf erioed, mai ynni adnewyddadwy, ynni gwynt a solar yn bennaf, a gynhyrchodd y rhan fwyaf o drydan Prydain y llynedd. Ar yr un pryd, yn ôl Comisiwn Aber Afon Hafren, y mae ei adroddiad wedi cyrraedd y penawdau heddiw, mae'r galw am drydan yn y DU yn debygol o fwy na dyblu erbyn 2050. Felly, dyna'r paramedrau, mewn gwirionedd, ar gyfer y drafodaeth hon y prynhawn yma. Mae'n amlwg, ac mae pawb yn cytuno, fod achos dros fwy o ynni adnewyddadwy: y manteision amgylcheddol wrth gwrs, mwy o ddiogeledd ynni, buddsoddiad economaidd, a bod ffynonellau adnewyddadwy yn cynhyrchu trydan yn rhatach na gorsafoedd nwy.
Felly, os edrychwn ar y manteision amgylcheddol, maent wedi cael eu crybwyll sawl gwaith heddiw, ond datgarboneiddio'r ffordd y cawn ein hynni a hefyd, manteision amgylcheddol—ac mae wedi cael ei drafod—cael eich ynni wedi'i gynhyrchu a'i ddarparu'n lleol.
Mae'r diogeledd ynni'n eithaf clir; mae'r ffaith bod ein biliau ynni wedi saethu trwy'r to yn deillio o ansicrwydd ein cyflenwadau ynni fel y maent ar hyn o bryd. Ac mae'r buddsoddiad economaidd yn amlhaenog o ran hyfforddiant, o ran swyddi, ac o ran ailfuddsoddi'r enillion o gynhyrchu ynni gwyrdd yn uniongyrchol i'r cymunedau hynny. Ond mae'n rhaid inni fod yn glir yma—a chlywais beth a ddywedodd Llyr—mae'n rhaid inni fod yn glir ynglŷn â buddsoddi yn y ffordd y cynhyrchwn yr ynni. Mae'n eithaf sicr y bydd angen mwy o ynni gwyrdd yn llawer cyflymach nag y caiff ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid i rywun fuddsoddi yn hynny i wneud iddo ddigwydd, ac mae hefyd yn amlwg nad yw cyllid y DU o reidrwydd mewn sefyllfa i ariannu hynny, ond bydd GB Energy yn dod yn rhan o'r peth.
Rydym hefyd yn gwybod, os edrychwch chi ar y dadansoddiad a wnaed gan Rystad, y bydd yn 10 gwaith rhatach i gynhyrchu trydan o ynni solar nag y bydd o nwy. Felly, dyna beth enfawr arall i feddwl amdano ar gyfer y dyfodol. Ond bydd maint y buddsoddiad, y datblygiad a'r dechnoleg yn arwain at fwy o fanteision yn y diwedd. Ac rwyf eisoes wedi sôn am Great British Energy; mae eraill wedi sôn am Ynni Cymru yma yng Nghymru, ac mae angen inni gael budd, ond beth yw'r buddion, mewn gwirionedd? Wel, os edrychwch ar ddadleoliad pobl dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n fwy nag erioed, ac yn rhannol o ganlyniad i newid hinsawdd. Clywais y ffigurau hynny ddoe. Nawr, os na all pobl fyw lle maent a'u bod yn dechrau symud—ac roedd hwn yn bwynt y dechreuodd Lee ei wneud yn gynharach—rydym yn mynd i gael haen ychwanegol arall sy'n dod i lawr y lôn o sut ydym ni'n mynd i allu helpu pobl. A yw pobl yn barod i helpu pobl os cânt eu dadleoli? Ac os ydym yn parhau i gynhyrchu ynni yn y ffordd y gwnawn—gan gyflymu'r newid yn y patrymau tywydd, os mynnwch—mae hynny'n mynd i ddigwydd yn eithaf cyflym, ac nid oes rhaid i chi fynd yn bell iawn—dim ond edrych ar Ewrop ar hyn o bryd sydd angen ichi ei wneud; mae ar garreg ein drws, pan edrychwch ar y tanau yng Ngwlad Groeg, yn Ffrainc, yn yr Eidal, ac yna'r llifogydd sy'n digwydd yn sgil hynny hefyd. Mae rhai o'r lleoedd hynny'n dod yn anghyfannedd nawr yn y ffordd yr arferai pobl fyw ynddynt. Felly, mae brys y tu ôl i hyn.
Mae'n rhaid inni wneud rhai dewisiadau, a dyna beth rwy'n dod ato. Felly, bydd yn golygu bod yn rhaid inni adeiladu peilonau; bydd yn golygu y bydd yn rhaid inni gael rhyng-gysylltwyr; bydd yn golygu y bydd gennym geir trydan ac inswleiddio yn ein heiddo a'n cartrefi newydd. Ni allwn ddibynnu ar un cyflenwad yn unig. Mae angen cymysgedd o'r holl bethau hyn. Mae'n rhaid inni fod yn onest gyda phobl pan fyddwn yn dweud nad yw'r dewisiadau hyn yno ac na fydd yn rhaid eu gwneud. Ond rwy'n cytuno hefyd na ddylid eu gwneud dros bennau pobl ychwaith; dylai'r gymuned fod yn rhan o'r penderfyniadau hynny, ac elwa o ganlyniad i gael hynny'n digwydd yn agos atynt.
Fel y gwyddom, gennym ni yma y mae'r tai lleiaf effeithlon o ran eu defnydd o ynni, yn y DU yn sicr, os nad yn Ewrop, ac mae llawer o'n tai dros 100 oed. Mae hynny'n golygu, ac mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi ynddo, fod yn rhaid inni ddatgarboneiddio peth o'r stoc dai honno ac mae'n rhaid inni inswleiddio'r stoc dai bresennol. Mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw fod yn rhaid i ni, pan fyddwn yn adeiladu tai newydd, osod paramedrau i sicrhau nad ydym yn adeiladu'r un problemau i mewn ag yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy eisoes, am eu bod yno yn y ddaear ar hyn o bryd, a chyfeiriodd Jenny at hynny.
Ie. Wel, rwy'n credu ein bod mewn lle gwell nag yn Lloegr, yn sicr o ran hynny, ond mae'n rhaid inni ddatgarboneiddio nifer fawr iawn o'n cartrefi, ac fel y dywedwch, mae llawer ohonynt yn 100 oed ac yn adeiladau carreg ac yn anodd iawn i'w hôl-osod. Ond a ydych chi'n cytuno â mi felly fod angen inni roi llawer mwy o arian tuag at y rhaglen Cartrefi Clyd, yn enwedig cynlluniau'n seiliedig ar ardal, fel y gallwn gael llawer mwy o'r cymunedau tlotaf wedi'u hôl-osod a rhyddhau arian iddynt ei wario ar bethau eraill wedyn? Yn amlwg, rwy'n gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid gyda ni yn yr ystafell, felly rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth—. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n cytuno bod angen inni fuddsoddi llawer mwy o arian yn hynny.
Afraid dweud bod yn rhaid inni roi mwy o arian i mewn i Cartrefi Clyd, ac mae'n ymwneud â mwy na'r carbon yn unig, gan nad oes rhaid iddynt losgi mwy o danwydd i'w cadw'n gynnes; mae hefyd yn ymwneud â lefel o gyfiawnder i'r bobl hynny a hawl ddynol i fyw mewn cartref cynnes a pheidio â gorfod gwresogi un ystafell yn unig mewn hen gartref am na allant fforddio'r trydan. Felly, mae yna effaith lawer mwy eang na chynhesu cartref yn unig.
Rydym wedi edrych ar lawer o bethau yma heddiw. Soniais am ddadleoli pobl. Mae angen inni feddwl o ddifrif am hynny. Clywsom am bontio, ac rwy'n byw yn sir Benfro. Ni allwn droi'r tap i ffwrdd dros nos, oherwydd byddai pobl yn eithaf diymgeledd pe bai eu swyddi'n diflannu dros nos, ond mae angen pontio teg, ond pontio sy'n amserol hefyd, nid un sy'n mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.
Mae angen inni fuddsoddi mwy yn y sgiliau, Jenny, a'r grid. Pwy sy'n berchen ar y grid? Rydym i gyd yn gwybod pwy sy'n berchen ar y grid. Beth a wnawn am hynny? Beth a wnawn am ddosbarthu'r ynni y mae pawb ohonom yn gobeithio y byddwn yn ei gynhyrchu, a phwy fydd yn berchen ar y rhwydwaith dosbarthu hwnnw? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol y mae'n rhaid inni eu gofyn. Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i'r atebion iddynt, oherwydd clywais lawer o sôn yn yr ystafell nad ydym eisiau allforio ein hynni—dyna beth a ddeallais gan Blaid Cymru ac efallai fy mod wedi cael hynny'n anghywir—ond mae'n ymddangos yn beth rhyfedd iawn i mi, os gallwch chi gynhyrchu ynni dros ben a'i allforio, a gwneud rhywfaint o arian i'w ailfuddsoddi yn eich gwlad ar yr un pryd, pam na fyddech chi'n gwneud hynny?
Rwyf wedi cael dau gais am gyfraniadau ychwanegol. Rwyf wedi cytuno i'r ddau: Lee Price—. 'Lee Price', dyna gyfuniad o'r ddau. [Chwerthin.] Lee Waters.
Am ddelwedd ofnadwy, Lywydd. Roeddwn eisiau manteisio ar newydd-deb ein rheolau ar gyfer y ddadl hon i ddod i mewn i ymateb i ddau bwynt pwysig iawn a wnaeth Joyce Watson yn ei chyfraniad. Yn gyntaf ar fater dadleoli pobl, rwy'n credu bod hwn yn bwynt nad yw wedi cael ei drafod. Rydym i gyd yn gweld ac yn teimlo effaith adlach o ganlyniad i lawer o bobl yn symud oherwydd rhyfeloedd ac oherwydd grymoedd economaidd. Ni fydd hynny'n ddim o'i gymharu â'r mudo a'r ceisio lloches yn seiliedig ar yr hinsawdd a welwn o ganlyniad i diroedd y gwyddom eisoes y byddant yn anghyfannedd oherwydd newid hinsawdd sydd eisoes yn digwydd yn yr atmosffer. Nid ydym ar y trywydd iawn i gyflawni targedau 2050 ledled y byd, felly mae hyn yn dod tuag atom ac mae'n mynd i wneud i lawer mwy o bobl symud tua'r gogledd a symud tuag at Ewrop a'r DU, ac mae hynny'n mynd i achosi aflonyddwch cymdeithasol enfawr. Mae hynny'n mynd i ddigwydd. Felly, dyna reswm pellach pam y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn lliniaru hyn cyn gynted â phosibl. Nid yw pob peth arall yn gyfartal; mae newid cyflym yn dod tuag atom.
Ac i ail bwynt pwysig iawn Joyce Watson, sy'n ymwneud â'r galw cynyddol am drydan a wynebwn, ceir dwy weledigaeth wahanol o'r galw am ynni yn y dyfodol. Mae yna rai fel Elon Musk a Jeff Bezos, sydd eisiau defnyddio digon o ynni, fel y maent yn ei weld, i'n hanfon i Mars ar ôl dryllio'r blaned yma, a phweru ceir hedfan. A dyna farn ar y dde technegol, sydd â phob math o syniadau ffantastig ynghylch defnyddio ynni i wneud mwy o bethau. Ac yna mae yna safbwyntiau fel yn y llyfr hwn sy'n ysgogi'r meddwl gan yr Athro Gareth Wyn Jones, yn seiliedig ar ei ddarlith Nation.Cymru yma yn y Senedd rai misoedd yn ôl, sy'n gwneud y pwynt fod angen inni fyw ar lai o ynni fel planed, oherwydd mae effaith ecolegol cynhyrchu mwy a mwy a mwy yn mynd i fod yn gatastroffig i'n bioamrywiaeth, ac ni fydd hynny'n cefnogi bywyd dynol. Hyd yn oed os yw technoleg yn llwyddo i ddod o hyd i ffordd o gynhyrchu'r holl ynni ychwanegol, ni fydd yr ecosystem yn gallu ei gefnogi. Ac rwy'n credu nad ydym yn siarad digon am ddefnyddio llai o ynni. Dywedir yn aml mai'r math rhataf o ynni yw'r ynni nas defnyddir; arbed ynni. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i Jenny Rathbone.
Diolch. Roeddwn i'n edrych ar gynlluniau di-ynni Dŵr Cymru. Dim ond 3 y cant o'r glawiad sy'n cael ei yfed, felly rydym yn caniatáu iddo fynd i'r system garthffosiaeth, lle mae'n rhaid ei drin a'i bwmpio'n ôl i mewn i fywydau pobl. Felly, mae'n rhaid cael newid enfawr yn y ffordd rydym yn gwerthfawrogi ac yn rheoli dŵr, oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn hollol anobeithiol am wneud hynny.
Yn hollol. I gloi'n fyr, mae gennym wastraff enfawr; mae gennym wastraff adnoddau enfawr ac rwy'n credu nad yw'r hyn a ddisgrifiwyd yn gywir gan Joyce Watson, a'r hyn yr anelwn tuag ato ar hyn o bryd, sef defnydd ychwanegol yn unig, yn gynaliadwy. Nid nad yw'n ddymunol; yn syml iawn, ni fydd modd ei gynnal. A dylem fod yn meddwl ac yn dadlau'n ofalus iawn ynglŷn â sut rydym yn lleihau'r defnydd o ynni, sut rydym yn cynyddu arloesedd ac effeithlonrwydd, cyn inni ddechrau ceisio cynhyrchu cynhyrchiant ychwanegol.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Lywydd, am gael defnyddio'r elfen seneddol newydd hon. Roeddwn i eisiau ymateb yn arbennig i'r hyn y gwnaeth Lee Waters ein hatgoffa ohono'n gynharach, sef pwysigrwydd brys. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ac rwy'n gyflymwr—rwy'n credu bod angen inni symud yn llawer cyflymach nag a wnawn. Wrth feddwl am y ddau fodel, fel rwy'n eu disgrifio, y meddal a'r caled, y corfforaethol yn erbyn y raddfa gymunedol a pherchnogaeth gymunedol, yn aml, defnyddir y ddadl, yn enwedig gan y sector corfforaethol, 'Dim ond ni sydd, os ydych chi am gyrraedd yno'n gyflym.' Nawr, mae yna resymau pam y mae'r ffordd y cynlluniwn y system ar hyn o bryd, sy'n seiliedig ar fuddsoddiadau corfforaethol cymhleth ar raddfa fawr, pam eu bod yn gallu gwneud y ddadl honno, ond mae'r dystiolaeth yn pwyntio i gyfeiriad gwahanol. Felly, pan edrychwn ar wledydd lle ceir perchnogaeth leol sylweddol iawn, rydym wedi gweld y gwledydd hynny'n cyrraedd trawsnewidiadau ynni llawer cyflymach, yn enwedig y gwledydd Nordig, er enghraifft. Felly, os ydym am frysio, mae angen inni ddatgysylltu ein hunain oddi wrth y modelau corfforaethol, ac mae angen inni ei wneud ein hunain. Ac yna rydych chi'n alinio perchnogaeth leol, cefnogaeth leol, ac rydych chi'n cyrraedd yno'n gyflymach, oherwydd byddwch yn colli unrhyw wrthwynebiad sydd yno, pryderon ac ati. Felly, rwy'n credu bod achos cryf dros droi at y math o fodel sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn union am fod angen inni gyrraedd yno yn gynharach.
O ran y cwestiwn ar allforio, yn hollol, os oes gennym ddigonedd o ynni, yna pam ddim allforio, ond dylech ddechrau gyda llunio eich system ynni leol o amgylch eich anghenion lleol. Yn benodol, mae'r mater hwn wedi codi yn Sgandinafia yn ddiweddar, lle mae eu prisiau ynni wedi bod yn isel iawn, ac mae rhyng-gysylltwyr wedi bygwth gyrru'r pris ynni i fyny, oherwydd byddai'n well gan berchnogion y cwmnïau werthu i'r Almaen a chael—. Felly, mae'n rhaid i chi seilio eich cynllun ynni ar berchnogaeth leol ac anghenion lleol, mewn ffordd deg, mewn ffordd sy'n darparu buddion i'ch cymunedau eich hun, ac edrych ar allforio ynni wedyn.
Yng nghyd-destun y drafodaeth ar brisio parthol a gawsom yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn drawiadol iawn edrych ar wahanol leisiau'r sector corfforaethol. Felly, mae Octopus Energy, gyda rhyw fath o feddwl cymdeithasol, yn dweud, 'Edrychwch, yn hollol, ewch am brisio parthol, fel y gallwch chi rannu budd ynni adnewyddadwy helaeth lleol gyda phobl leol.' Mae'r sector ynni adnewyddadwy corfforaethol yn dweud, 'Na, peidiwch â gwneud hynny. Peidiwch â gwneud hynny oherwydd mae hynny'n difetha ein model ariannol, oherwydd rydym yn ei seilio ar ragweladwyedd pris.' Nid yw'r cwmnïau ynni adnewyddadwy corfforaethol hynny'n cael eu gyrru'n sylfaenol gan angen lleol a chyflawni budd lleol; maent yn seiliedig yn y bôn ar eu mantolen. Felly, mae angen inni wrando ar leisiau pobl fel Octopus Energy ac adeiladu'r math hwnnw o lwybr meddalach, yn hytrach na'r model corfforaethol sy'n mynd â ni ar hyd lôn bengaead.
Carolyn Thomas nawr sy'n ymateb i'r ddadl yna. Carolyn.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Mae'n eang iawn, onid yw? Mae'n cwmpasu cymaint, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Rwy'n mynd i geisio crynhoi cystal ag y gallaf.
Mae angen inni weithredu'n gyflym. Mae gennym argyfwng diogeledd ynni. Mae gennym lawer o ddatblygwyr mawr yn ymddangos nawr gyda llawer o geisiadau cynllunio, ac mae llawer o'r cwmnïau mawr hyn yn medi'r enillion, fel y dywedwyd. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn dod â'r gymuned gyda ni, a gobeithio y gallwn wneud yn siŵr fod gennym fwy o gynlluniau ynni sy'n eiddo i'r gymuned, mwy o fuddsoddiad cymunedol a budd cymunedol, gyda biliau is hefyd o bosibl.
Mae angen inni ystyried yr effaith ar yr hinsawdd, fel y nododd Lee. Os nad ydym yn gwneud hynny, gallai fod yn gatastroffig i'n hinsawdd, i'n natur. Mae un o bob wyth tŷ yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, ond mae yna effaith fyd-eang ar bobl hefyd. Mae angen iddo fod yn bontio teg, gan wneud yn siŵr ein bod yn dod â phobl gyda ni a gwneud yn siŵr fod y sgiliau yn eu lle hefyd. Roedd gennyf ddiddordeb mawr, fel Janet ac eraill, mewn gwneud yn siŵr fod gennym baneli solar ffotofoltaig ar bob adeilad, ar dai, yn y dyfodol. Hoffwn i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hynny, ac edrych ar hynny eto, gan ei ymgorffori. Mae gwledydd eraill, gwledydd Ewropeaidd eraill, yn gwneud hynny nawr. Meddai Joyce, pan fyddwn yn rhoi grantiau i fusnesau, pam na wnawn yn siŵr—mae'n arian cyhoeddus—eu bod yn buddsoddi mewn ynni solar ac ynni adnewyddadwy?
Mae cael costau ynni wedi'u cysylltu â nwy i'w weld yn anghywir hefyd. Dylem geisio cyrraedd ynni adnewyddadwy. Mae newid i nwy yn anghywir. A hefyd diffodd ein hynni adnewyddadwy pan allem fod yn gwneud yn siŵr ei fod ar gael i bobl leol hefyd mewn cynlluniau lleol; mae gwir angen edrych ar hynny.
Mae angen strategaeth arnom hefyd. Rydym wedi trafod cymaint o wahanol elfennau heddiw. Mae angen strategaeth genedlaethol arnom ar gyfer y dyfodol, a gweithio gyda GB Energy fel bod gennym y strategaeth orau i Gymru, i'r Cymry, a gweithio gyda GB Energy, gan wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â hi. Mae yna gynllun ynni cenedlaethol, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf yn siŵr a yw hwnnw yr un peth.
Soniwyd am edrych ar reoliadau adeiladu, ar gyfer tai newydd sy'n cael eu hadeiladu, i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd safon dda, oherwydd nid ydym am fod yn ôl-osod y rheini yn y dyfodol, sy'n bwysig iawn. Ac mae angen inni fuddsoddi yn y gronfa Cartrefi Clyd ar gyfer pobl sydd â thai nad ydynt yn cyrraedd y safon ar hyn o bryd, fel y gallwn fuddsoddi a helpu pobl yn lleol i gael eu biliau ynni i lawr, i gael cartrefi cynnes a buddsoddi mewn ynni solar.
I orffen, mae llawer wedi'i ddweud heddiw. 'A all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?' oedd fy nghwestiwn ar ddechrau hyn. Mae Adam a Lee yn dweud y gall. Rwy'n credu bod gennym ddigonedd o ynni naturiol yma. Mae gennym ein mynyddoedd, mae gennym ein llynnoedd, mae gennym y môr, mae gennym wynt. Mae gennym haul weithiau, ac mae angen inni ddal y pethau hynny er budd ein hinsawdd, pobl Cymru, ein trigolion, a dod â'r biliau i lawr a gweithredu cyn gynted â phosibl. Diolch.
Daw hynny â'r ddadl agored heddiw i ben. Diolch yn fawr, Carolyn a phawb.