7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24

– Senedd Cymru am ar 18 Mawrth 2025.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Heledd Fychan.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:10, 18 Mawrth 2025

Eitem 7 sydd nesaf. Dadl ar adroddiad blynyddol Estyn 2023-24 yw hon. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM8856 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:11, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i agor y ddadl hon drwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchiad hanfodol, annibynnol o sut mae ein hysgolion a'n darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i symud ymlaen. I ni'r Llywodraeth, ac yn wir pawb sy'n buddsoddi mewn addysg, mae'n darparu sylfaen dystiolaeth hanfodol. Mae'n ein helpu i ddeall nid yn unig ble rydym ni arni, ond beth sydd angen i ni ei wneud i wneud cynnydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.

Llywydd, fe hoffwn i eto ddiolch o galon i holl arweinwyr ysgolion ac athrawon yng Nghymru. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad diwyro i ddysgwyr yn gwbl amlwg. Mae gen i'r fraint yn fy swyddogaeth yn Ysgrifennydd Cabinet o gwrdd â llawer o arweinwyr ac athrawon, ac mae gweld eu hangerdd yn uniongyrchol yn ysbrydoli rhywun ac yn gwneud ichi deimlo'n wylaidd iawn.

Rwy'n rhannu barn gyffredinol y prif arolygydd: mae gennym ni gryfderau sylweddol yn ein sectorau addysg a hyfforddiant. Mae hynny i'w weld mewn nifer o astudiaethau achos y mae Estyn yn eu hamlygu yn yr adroddiad hwn sy'n arddangos llawer o'r cryfderau ar draws ein sectorau addysg a hyfforddiant. Ond rwy'n gwybod hefyd bod angen i ni fynd i'r afael â'r heriau rydym ni'n dal i'w hwynebu.

Rwy'n croesawu ymagwedd Estyn at gyhoeddi'r adroddiad mewn dau gam, fel y mae wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r adroddiad cryno am y sector a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf yn cynnig cipolwg cynnar ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae angen gwella. Mae'r adroddiad blynyddol llawn a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn rhoi dadansoddiad manylach, gan gynnwys themâu trawsbynciol sy'n darparu dirnadaeth werthfawr am ein system.

Mae'r adroddiad yn nodi rhai heriau allweddol: presenoldeb, datblygu sgiliau, dilyniant disgyblion, ansawdd addysgu ac asesu, recriwtio a hunanwerthuso. Mae'r rhain yn gyson â'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â nhw. Fel y dywedais ar sawl achlysur, os nad yw dysgwyr yn yr ysgol neu mewn darpariaeth amgen, dydyn nhw ddim yn mynd i ddysgu. Er nad yw ysgol brif ffrwd yn iawn i bob plentyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i ddysgu. Mae ein ffigurau presenoldeb yn dangos arwyddion o welliant, ond mae cynnydd wedi bod yn rhy araf ac mae mwy i'w wneud.

Fe hoffwn i weld lefelau cyn y pandemig yn cael eu hadfer o fewn tymor y Senedd hon. Bydd hynny'n gofyn am ymdrech gydweithredol, barhaus, gan gefnogi dysgwyr unigol wrth fynd i'r afael â gwahaniaethau ar draws awdurdodau lleol, grwpiau blwyddyn a rhwng dysgwyr o wahanol gefndiroedd. Mae'r swm sylweddol o ddysgu a gollir gan y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn bryder arbennig ac mae'n rhaid gwella. Rwy'n gwneud buddsoddiadau sylweddol i gefnogi'r gwelliant hwn, yn enwedig mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, y mae eu gwaith yn hanfodol i gadw plant a'u teuluoedd mewn cysylltiad â'u haddysg.

Yn gysylltiedig â phresenoldeb mae'r mater o ymddygiad mewn ysgolion. Mae trafodaethau a digwyddiadau diweddar wedi atgyfnerthu ein pryderon am amgylcheddau ysgol a diogelwch staff. Fel y dywedais o'r blaen, rhaid i ysgolion fod yn fannau diogel. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na mynychu gwersi gan ofni am eu llesiant neu eu diogelwch. Ond mae angen i ni gyd gydnabod bod materion ymddygiad yn gymhleth, yn aml wedi'u gwreiddio mewn heriau cymdeithasol ehangach na all ysgolion fynd i'r afael â nhw ar eu pennau eu hunain. Bydd adolygiad thematig Estyn ar ymddygiad a ddisgwylir ym mis Mai a'n huwchgynhadledd ymddygiad sydd ar ddod yn archwilio'r cymhlethdodau hyn ac yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:15, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Llythrennedd a rhifedd yw sylfeini dysgu ac maen nhw'n allweddol i wella system addysg Cymru. Byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar fframwaith llythrennedd a rhifedd diwygiedig a fydd yn rhoi'r offer i athrawon ddatblygu'r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm ni waeth beth fo'u harbenigedd. Bydd hyn yn ganllaw statudol sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd o ran ymgyrraedd at welliannau. Ochr yn ochr â newidiadau i'r canllawiau, rwyf wedi buddsoddi £1.1 miliwn ychwanegol eleni mewn rhaglenni llwyddiannus i gefnogi llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr ymchwil ar raglen addysgu iaith gyda llythrennedd, sydd eisoes wedi gweld dysgwyr yn gwella eu sgiliau darllen hyd at 20 y cant. Mae'r ffrydiau gwaith ychwanegol yn cynnwys prosiect y Rhaglen Iaith a Llythrennedd dosbarth cyfan ar gyfer plant saith i naw oed, datblygu rhaglen iaith a llythrennedd i blant iau ar gyfer dysgwyr iau rhwng pump a saith oed ac ehangu dysgu proffesiynol ynghylch gwyddor darllen a sillafu mewn hyd at 40 o ysgolion.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu pecyn o gymorth cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd a fydd yn sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel i wella ansawdd addysgu yn y meysydd hyn. Bydd hyn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch sut mae dysgwyr yn datblygu a sut beth yw ymarfer effeithiol. Rwyf wedi dyrannu £10 miliwn arall i gefnogi hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Cyhoeddais yn ddiweddar y bydd Cymru nawr yn cymryd rhan mewn asesiadau rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr blwyddyn 5. Bydd cyfranogiad yn PIRLS—cynnydd mewn astudiaeth llythrennedd darllen rhyngwladol—a TIMSS—tueddiadau mewn astudiaeth mathemateg a gwyddoniaeth ryngwladol—yn cynnig cyfle i ddarparu sicrwydd ar lefel genedlaethol ynghylch cyflawniad dysgwyr yn gynharach ac i gefnogi addysgu a dysgu.

Nid yw dysgu o ansawdd uchel yn bosibl heb addysgu o ansawdd uchel. Mae angen i athrawon allu manteisio ar y dysgu proffesiynol gorau i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. O fis Medi eleni bydd corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol yn cael ei sefydlu i symleiddio a chyflymu cefnogaeth i ysgolion. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, undebau llafur, Estyn a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol. Bydd mynd i'r afael â sut rydym ni'n gwella ansawdd addysgu yn rhan allweddol o'r cynllun hwn.

Fel y mae'r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw ato, mae anawsterau wrth recriwtio athrawon mewn rhai pynciau uwchradd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn darparu cymhelliant penodol i raddedigion mewn meysydd pwnc blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnig hyd at £15,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i ddysgu'r pynciau hyn. Cynigir cymhellion pellach i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith eto, bydd recriwtio a chadw yn allweddol i'n cynllun gweithlu strategol.

Cadarnhaodd ein hadolygiad o drefniadau gwella ysgolion ledled Cymru swyddogaeth ac ymrwymiad allweddol arweinwyr ysgolion ac athrawon i arwain system o hunan-wella trwy gydweithredu o ansawdd uchel. Mae hyn yn cyd-fynd â phwyslais parhaus Estyn ar hunanwerthuso a'r cyfle i ddarparu'r offer i'n holl ysgolion wella'n gyson ledled Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gydag Estyn i sicrhau ein bod yn rhoi'r gefnogaeth i ymarferwyr ysgol ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r model newydd hwn o wella. Bydd awdurdodau lleol nawr yn arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol, gan eu galluogi i ddatblygu system wella leol gyfannol sy'n diwallu anghenion unigryw eu cymunedau. Mae hyn yn darparu atebolrwydd a pherchnogaeth glir ar gyfer yr ystod lawn o bolisi addysg, o'r cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol, gwelliant, a thegwch a llesiant. Rydym yn gwybod bod ar rai ysgolion angen cymorth ac ymyrraeth fwy dwys gan eu hawdurdodau lleol. Dyna pam, yn 2024-25, rwyf wedi rhoi £5 miliwn i awdurdodau lleol ddarparu cymorth mwy penodol i ysgolion sy'n achosi pryder.

Ar yr un pryd, mae arweinyddiaeth genedlaethol yn hanfodol. Er mwyn cryfhau ein hymdrechion ar y cyd, rydym ni wedi sefydlu tîm gwella addysg newydd o fewn Llywodraeth Cymru i weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol. Bydd hyn yn rhoi pwyslais ar flaenoriaethau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion, ac ymrwymiad cenedlaethol i rannu arfer da ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol o'r system, mae Estyn bellach yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu amlach—arolygiad craidd ac ymweliad interim o fewn cyfnod o chwe blynedd i bob ysgol yng Nghymru. Mae hyn yn darparu cyngor annibynnol rheolaidd a her i'r system. Bydd yr ymweliad interim yn cefnogi darparwyr gyda chynlluniau hunanwerthuso a gwella.

Rwyf eisoes wedi trafod yr adroddiad yn fanwl gyda'r prif arolygydd ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu ag Estyn ar eu gwaith. Llywydd, nid yw'n bosibl i mi ymdrin â phob agwedd ar yr adroddiad yn yr araith agoriadol hon, ond rwyf wedi canolbwyntio ar feysydd lle mae'r Llywodraeth yn gweithredu, ac y bydd yn parhau i weithredu. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes i hyrwyddo gwelliant a darparu'r system addysg orau i Gymru, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau yr Aelodau. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:21, 18 Mawrth 2025

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Tom Giffard, yn gyntaf, i gynnig gwelliannau 1 a 2.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 5:21, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn dechrau, roedd arna i eisiau dim ond datgan buddiant, fel ei fod ar gofnod, bod aelod o'm teulu yn gwneud gwaith achlysurol i Estyn, ond nid oedd yn rhan o gynhyrchu'r adroddiad hwn.

Yr adroddiad, rwy'n credu, yw'r diweddaraf, ynte, mewn cyfres hir o adroddiadau digalon sy'n datgelu cyflwr ofnadwy addysg yng Nghymru ar ôl 26 mlynedd hir o Lafur digyfaddawd. Dywedodd adroddiad y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol wrthym ni fod gennym ni'r canlyniadau addysgol gwaethaf o'u cymharu ag unrhyw le yn y DU. Roedd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir nad oedd methiannau'r system addysg yng Nghymru yn ymwneud â'n demograffeg na'n tlodi, ond â phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. A nawr, heddiw, mae adroddiad Estyn yn dangos Llywodraeth Cymru yn cysgu wrth y llyw, yn methu â chefnogi staff addysgu ac yn methu â chymryd o ddifrif y problemau yn ein system addysg. Llywydd, mae angen Llywodraeth sy'n blaenoriaethu'r dystiolaeth dros yr ideoleg mewn addysg, i ddilyn yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r byd, yn hytrach na dull canolog 'rydym ni'n gwybod orau'. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw chwyldro addysg, ac mae hynny'n golygu bod angen Llywodraeth Geidwadol arnom ni yng Nghymru yn yr etholiad nesaf.

Un o'r meysydd pryder y mae'r adroddiad yn ei nodi yw recriwtio a chadw ein staff addysgu, ac mae'n un yr wyf yn gwybod fy mod i ac Aelodau eraill wedi sôn wrthych chi amdano sawl gwaith yn y Siambr hon, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r adroddiad yn nodi bod y gostyngiad mewn recriwtio yn 'bryder sylweddol', gydag ysgolion uwchradd yn arbennig yn dioddef yn sylweddol, gan fod nifer y myfyrwyr addysg gychwynnol athrawon wedi gostwng bron i hanner ers 2014. Mae hynny'n gwymp bron y tu hwnt i ddealltwriaeth ac yn rhywbeth nad ydym ni hyd yn oed wedi teimlo'i effaith yn llawn hyd yn hyn. Yn ogystal, cyfeiriodd y prif arolygydd at bryderon ynghylch effaith y materion recriwtio hyn ar feysydd pwnc penodol, fel mathemateg, gwyddoniaeth a Chymraeg. Ac o ystyried mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg oedd yr isaf yn y DU, mae hynny'n gwneud y pryderon hynny hyd yn oed yn fwy brys.

Ac er bod recriwtio a chadw athrawon Cymraeg yn fater sy'n cael sylw cyson drwy'r adroddiad, nid oes gennym ni gynllun gweithlu digonol i gyd-fynd â'r Bil Iaith ac Addysg Gymraeg (Cymru). Mae'r Bil yn uchelgeisiol ac mae'n un sydd wedi cael ei gefnogi mewn egwyddor gan fy mhlaid i, ond rydym ni, yn ogystal â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wedi codi pryderon na fydd modd cyflawni'r holl beth oni bai ei fod yn cyd-fynd â chynllun gweithlu digonol sy'n darparu'r staff addysgu sydd eu hangen arnom ni i'w gyflawni mewn gwirionedd. Yn hytrach, rhoddwyd llawer gormod o gyfrifoldeb ar ein hysgolion i ddatrys prinder gweithlu drostynt eu hunain, heb i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd yr un iot o gyfrifoldeb i gyflawni hynny.

Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar ddau faes arall yr oeddwn am gyfeirio atyn nhw: y cwricwlwm a phresenoldeb. O ran y cwricwlwm, gwyddom fod y dull hwn sy'n seiliedig ar sgiliau yn un sydd wedi methu bron ym mhob man y mae wedi'i gyflwyno, ac eto, dyma'r union fodel y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gopïo. Pan gyflwynodd gwledydd fel yr Alban a Seland Newydd y model hwn, fe wnaethon nhw orfod cefnu arno oherwydd ei fod wedi siomi eu plant. Ac rydym ni'n gwybod y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, ryw bryd, yn gorfod gwneud yr un peth. Serch hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod angen, ac rwy'n dyfynnu, mwy o gefnogaeth i helpu athrawon i ddeall y cwricwlwm yn y lle cyntaf. Pam y mae model diffygiol yn cael ei gopïo a'i fabwysiadu, a hyd yn oed wedyn nad yw ein gweithlu yn ei ddeall yn ddigonol? Mae'n anghrediniol.

Yn olaf, o ran presenoldeb, mae'r adroddiad yn tynnu sylw fod canran y disgyblion oedran uwchradd sy'n absennol am fwy nag 20 y cant o'r sesiynau wedi mwy na threblu o 4.6 y cant i 16.3 y cant rhwng 2018-19 a 2022-23. Rydym ni wedi gweld Llywodraeth Cymru o'r blaen yn croesawu'r cynnydd bach yn niferoedd presenoldeb yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, ond unwaith eto yn anwybyddu'n llwyr y ffaith bod ein niferoedd yn llawer is na gweddill y Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr arolygydd nad oes gan ysgolion ac awdurdodau lleol y gallu i ymdopi â chynnydd sylweddol mewn absenoldebau parhaus, felly lle Llywodraeth Cymru yw cynnig arweiniad. Ond dro ar ôl tro, boed hynny'n bresenoldeb y gweithlu, y cwricwlwm, safonau addysgol, mae gennym ni Lywodraeth yma yng Nghymru nad oes arni eisiau ysgwyddo cyfrifoldeb. Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn gweld presenoldeb, recriwtio, cadw disgyblion a chefnogaeth gyda'r cwricwlwm yn cael sylw, gyda phryderon sylweddol, ac eto flwyddyn ar ôl blwyddyn nid ydym yn gweld unrhyw gynllun go iawn i ddatrys unrhyw un o'r pryderon hynny. Mae'n bryd i ni weithredu dull radical, ffres sydd ei angen mor ddybryd yn ein hysgolion, y math o ymagwedd a welodd addysg o dan Lywodraeth Geidwadol y DU a weithredodd ar y dystiolaeth, edrych ar yr hyn a weithiodd mewn gwirionedd, a weithredodd ar y dystiolaeth honno wrth roi'r polisi hwnnw ar waith, a gwylio canlyniadau'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad.

Dyma ddyfodol ein plant, nid arbrawf ideolegol Llafur Cymru. Maen nhw'n haeddu gwell, ynghyd â'n hathrawon Cymraeg, sy'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i'w helpu i adeiladu'r dyfodol hynny. Mae'n amlwg, ar ôl cael 26 mlynedd i symud ymlaen ym maes addysg, nad oes gan y Llywodraeth Lafur lipa hon gynllun na chyfeiriad o ran addysg yng Nghymru. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r cynllun hwnnw. Mae'n ddull a brofwyd sy'n gweithio o ran trwsio rhywbeth, a dyna beth fyddwn ni'n eiriol yn daer amdano o nawr tan etholiad nesaf y Senedd ymhen blwyddyn.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:27, 18 Mawrth 2025

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n hapus i gynnig y gwelliant yna. Ar yr un pwynt, mae'n braf cael cyfle i drafod adroddiad Estyn y prynhawn yma. Gaf i ddiolch, yn yr un ffordd ag y mae eraill wedi gwneud, i'r prif arolygydd a staff Estyn am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad yma, ac i athrawon a staff yn ein hysgolion ar draws Cymru hefyd am y gwaith aruthrol maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd er lles plant a phobl ifanc Cymru?

Nawr, mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyd-destun heriol mae ysgolion wedi'i wynebu dros y cyfnod diwethaf, gyda'r sialensiau o weithredu newidiadau a diwygiadau i'r system addysg tra bod cyllidebau ysgolion yn crebachu ar yr un pryd. Er gwaethaf yr holl waith caled mae nifer o athrawon a disgyblion yn ei wneud, mae'r heriau yn parhau, fel rŷn ni wedi clywed eisoes, ac mae hynny o ganlyniad i ddiffyg gweithredu pwrpasol gan y Llywodraeth Lafur hon. Dyna pam mae ein gwelliant ni yn debyg i welliant y Ceidwadwyr, ac yn tynnu sylw yn benodol at yr heriau hyn.

Gaf i ddechrau â rhai pwyntiau allan o adroddiad Estyn? Presenoldeb: rŷn ni wedi clywed yn barod fod lefelau presenoldeb mewn ysgolion ers y pandemig wedi syrthio. Mae adroddiad Estyn yn dweud hyn:

'Ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig.'

Mae data diweddaraf y Llywodraeth yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn 2023-4 yn 90.5 y cant. Roedd hwnna'n bedwar pwynt canran i lawr ar bum mlynedd yn ôl. Ac i'r rhai sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, y gyfradd yw 84.8 y cant. Mae hynny yn ostyngiad o dros chwe phwynt mewn pum mlynedd. 

Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw presenoldeb mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn at y cwricwlwm a chael cyfle hefyd i wella eu sgiliau a'u gwybodaeth, sydd yn sail ac yn sylfaen bwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, yn broffesiynol a hefyd yn bersonol. Allwn ni ddim caniatàu i'r genhedlaeth nesaf yn enwedig, a'r rhai mwyaf difreintiedig yn arbennig, aros mor hir â degawd nes gweld gwelliannau. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a ydy hi'n gallu rhoi sicrwydd i ni fod pethau yn mynd i wella ynghynt na'r 10 mlynedd y mae Estyn yn ei nodi o ran lefelau presenoldeb yn ein hysgolion, yn arbennig ysgolion uwchradd? 

Y pwynt nesaf o ran recriwtio athrawon—mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o bethau sy'n peri pryder, ac, dwi'n dyfynnu, 

'mae recriwtio athrawon cymwys priodol yn parhau i fod yn risg i’r system addysg.'

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod yr heriau recriwtio yn fwy amlwg ar gyfer addysg ysgol uwchradd, yn arbennig mewn pynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth. Ond, o bryder i ni i gyd, mae'r diffyg athrawon cymwys sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem benodol, ac yn bryder mawr wrth i ni weld taith Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) drwy'r Senedd yma, sydd yn gosod nodau uchelgeisiol iawn o ran datblygu sgiliau dwyieithog ein plant ni ar gyfer y dyfodol, a hefyd y nod, wrth gwrs, o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae diffyg recriwtio athrawon i mewn i hyfforddiant athrawon hefyd yn broblem. 

Felly, wrth ystyried hyn i gyd, beth rŷn ni'n gweld yn digwydd yn rhy aml yw bod athrawon sydd ddim yn athrawon mewn pwnc penodol yn gorfod dysgu'r pwnc hwnnw oherwydd does yna ddim athrawon arbenigol yn yr ysgol. A does dim rhyfedd wedyn bod adroddiad Estyn yn dweud hyn:

'Mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon uchel.'

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid ailedrych ar y cymhelliant sydd yn cael ei roi i ddenu athrawon i mewn i'r proffesiwn, ac i ddenu pobl ifanc yn arbennig i mewn i gael eu hyfforddi i fod yn athrawon. Mae hyn yn rhywbeth mae arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd wedi ei nodi yn ddiweddar. Felly, dwi am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: a ydy'r ddwy ffrwd waith y mae hi wedi cyfeirio atynt sawl gwaith yn y Senedd yma yn mynd i gael eu gweithredu, sef yr ymchwil ar y system cymhelliant sy'n mynd i gael ei gyhoeddi cyn diwedd y tymor yma, ac a fyddwn ni'n gweld ffrwyth gwaith y cynllun strategol yn ei gyfanrwydd cyn yr etholiad nesaf? 

Jest i gloi, Llywydd, un pwynt bach am safonau. Rŷm ni wedi clywed yn barod am y safonau gwaethaf yn hanes Cymru. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd i ni fod cynlluniau yn eu lle i sicrhau cynnydd mewn safonau dros y blynyddoedd nesaf? Diolch yn fawr. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 5:33, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Darllenais adroddiad gwahanol i Tom Giffard, oherwydd roeddwn i'n meddwl bod llawer iawn i'w ddathlu yn hyn, ac rwy'n credu y dylem ni ganmol gwaith ein holl broffesiynau addysgu am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Mae yna lawer o heriau wedi'u cyflwyno; yn arbennig, bydd llawer ohonoch chi wedi gweld Panorama neithiwr am y problemau a grëwyd i blant yn ystod pandemig COVID, ar ôl gwarafun i blant lawer o'r ffyrdd y maen nhw fel arfer yn dysgu drwy beidio â chaniatáu iddyn nhw fynd allan, methu cwrdd â'u neiniau a theidiau, methu mynd i'r parc a'r holl fathau hynny o bethau. Mae'r plant hyn bellach yn y dosbarthiadau derbyn a blwyddyn 1, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny a rhai o'r problemau y mae'n eu creu i'n hysgolion.

Yn enwedig yn yr ysgol lle rydw i'n llywodraethwr, rwy'n gwybod bod rhai pobl ifanc wedi colli'r arfer o godi yn y bore, ac maen nhw'n treulio'r nos yn gwylio'r teledu neu raglenni eraill sy'n cael eu sgrinio. Yn amlwg, maen nhw'n flinedig y peth cyntaf yn y bore ac nid ydyn nhw'n cyrraedd yr ysgol ar amser, ac mae hynny'n fater heriol iawn ac mae angen i ni barhau i geisio gweithio arno. 

O ran ymddygiad, fe hoffwn i ailadrodd canlyniadau'r treial hapsamplu rheolyddedig dall a gynhaliwyd yn y sefydliad troseddwyr ifanc yn Aylesbury, sydd yn llyfr diweddaraf Kevin Morgan, lle mae pobl sy'n bwyta deiet maethlon yn lleihau eu hymddygiad troseddol, yn achos y troseddwyr mwyaf treisgar, 37 y cant. Rwy'n gobeithio, yn y gynhadledd y byddwch chi'n ei chynnal ym mis Mai, y byddwch chi'n edrych ar hyn yng nghyd-destun ein hysgolion uwchradd, oherwydd rwy'n ofni bod y ddarpariaeth gaffeteria mewn ysgolion uwchradd yn annog pobl i fwyta'r holl bethau anghywir, ac mae hynny'n amlwg yn effeithio ar eu hymddygiad.

Rwy'n credu bod y cwricwlwm newydd yn gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylem ni ddathlu hynny. Roedd dyfyniad gwych mewn adroddiad ar Feithrinfa Chuckles ym Metws, yng Nghasnewydd:

'Mae'r Cwricwlwm Newydd... yn awr yn caniatáu i blant fod yn blant ac i dyfu a dysgu mewn ffordd sy'n hwyl, sy'n golygu eu bod mor barod i arbrofi ac ystyried pethau newydd.'

Dyna'n union beth sydd ei angen arnom ni, ac mae'r feithrinfa honno wedi'i chynllunio i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac maen nhw'n gweld y canlyniadau bob dydd. Maen nhw'n treulio amser ar greu gweithgareddau i'w plant sy'n herio'r plant ac nid ydyn nhw wedi'u claddu mewn gwaith papur diystyr. Felly, mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid i ni eu dathlu mewn gwirionedd. Mae hynny'n newyddion gwych i'r plant ac i'r athrawon sy'n gwneud gwaith mor wych.

Fe hoffwn i ddychwelyd yn fyr at bwysigrwydd prydau ysgol gynradd cyffredinol am ddim, oherwydd rwy'n credu y byddai'n wych gweld hynny'n fwy ymgorfforedig yn y cwricwlwm cyfan, yr holl gysyniad o beth yw bwyd, beth sy'n dda i chi, o ble mae'n dod, tymhoroldeb, yn ogystal â phethau amlwg fel sut i gyfrif, faint mae pethau'n ei gostio, o ble maen nhw'n dod, beth yw'r gost carbon, beth yw'r gost i'r amgylchedd, a dim ond i gydnabod bod rhai awdurdodau lleol yn bellach ar hyd y llwybr o ran caffael bwyd lleol, sy'n amlwg yn fwy ffres, mwy maethlon, nag eraill. Cefais sioc o glywed bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn dal i gaffael cyw iâr Thai, yn hytrach na Red Tractor.

Ond, heddiw, cwrddais â disgyblion blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Glyncoed ym Mhentwyn, a phan ofynnais iddyn nhw a oedden nhw'n tyfu unrhyw lysiau a ffrwythau, fe roeson nhw restr hir enfawr i mi, a oedd yn hollol wych—disgyblion blwyddyn 2 oedd y rhain. Dywedodd un ohonyn nhw wrthyf ei bod hi'n tyfu melonau dŵr, ac roeddwn i'n meddwl, 'Hmm, efallai ddim.' Dywedais, 'Wel, bydd yn rhaid i mi ddod i weld hynny.' Ond rwy'n credu bod cymaint o fanteision mewn ysgolion sydd mewn gwirionedd â darpariaeth awyr agored dda i allu tyfu bwyd, ac mae'n cael effaith wych o ran tawelu plant pryderus, os ydyn nhw'n ymdopi â rhywfaint o drawma yng ngweddill eu bywydau. Ac mae hefyd yn cefnogi dysgu teuluol. Roedd Chuckles Nursery yn dda iawn am gynnal gweithdai bwyd iach, diwrnodau coginio, darparu cardiau bwyd a bwydlen i deuluoedd eu defnyddio gartref. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ffyrdd da iawn lle mae dysgu teuluol, ynghyd â dysgu ysgol, mor bwysig, oherwydd dim ond am chwe awr y mae'r plentyn yno yn yr ysgol; mae gweddill ei amser deffro yn y cartref, ac felly mae'n rhaid i ni gael partneriaeth.

Gwelaf fod amser wedi cario'r dydd arnaf, ond rwy'n credu bod yna fater allweddol iawn ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. Mae gennym ni lai o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ond mwy o blant sydd ar y lefel uchaf o gynllun statudol, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob ysgol yn dda am ymyrryd yn gynnar er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y byddant byth yn cyrraedd cam lle mae'n rhaid cael cynllun statudol.

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 5:39, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n croesawu'r adroddiad. Mae'n allweddol i roi cipolwg i ni ar iechyd ein system addysg ac yn argoel o'r cynnydd rydym ni'n gwybod y mae ei angen yn ddirfawr. Mae gwella addysgol yn sylfaenol i sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial llawn. Dim ond un addysg ffurfiol gaiff blant, ac, os na chaiff honno ei chyflwyno'n dda, mae'r effeithiau'n bellgyrhaeddol nid yn unig i'r plentyn unigol ond i'r gymdeithas gyfan. Felly, rwy'n croesawu'r pethau positif yn yr adroddiad, yn enwedig y gofal a'r gefnogaeth a gynigir yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd; rwy'n croesawu bod cryn bwyslais ar ddiogelu a llesiant a bod y blynyddoedd cynnar yn perfformio'n dda—yn hollol allweddol wrth osod y sylfeini ar gyfer yr hyn sydd ar y gorwel. Fodd bynnag, roedd yn bryderus darllen bod anghysondeb rhwng ysgolion mewn llawer o feysydd, gan gynnwys presenoldeb a datblygu cwricwlwm. Roedd hefyd yn bryderus darllen y canfuwyd fod ansawdd yr addysgu a'r asesu yn is na'r disgwyl, gan arwain at ddiffygion mewn addysgu a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar ddysgwyr. Mae gwella ysgolion mewn modd cadarn a chyson yn gwbl angenrheidiol i gynyddu safonau. Os na cheir prosesau hunanasesu a rheoli perfformiad cadarn, ni fydd safonau yn gwella. Yn fy mhrofiad blaenorol, lle rydw i wedi gweld y pethau hyn yn ddiffygiol, mae cysylltiad clir wedi bod yn aml ag arweinyddiaeth ysgol. Heb arweinyddiaeth gref—mewn unrhyw wasanaeth—mae gwelliant yn annhebygol.

Yn anffodus, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gormod o feysydd pryder ac anghysondeb o hyd. Rydym ni i gyd yn gwybod goblygiadau beth mae system addysg wan yn ei gynnig; does ond angen i ni edrych ar ein canlyniadau PISA ein hunain yng Nghymru, yn ogystal â'r nifer syfrdanol o ddisgyblion sy'n gadael ein hysgolion yn anllythrennog.

Heriau sy'n wynebu ein hysgolion: fel yr ydym ni eisoes wedi clywed ambell waith, un o'r materion allweddol hynny yw cadw athrawon. Mae'r un peth yn wir yn y gwasanaeth iechyd: mae cadw pobl broffesiynol a recriwtio mewn gwirionedd yn eithaf sylfaenol. Ac fel rydym ni wedi clywed—ac, eto, does arna i ddim eisiau ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud—yn amlwg, mae wedi bod yn anodd recriwtio staff i'r meysydd pwnc cywir, gan arwain at athrawon yn cyflwyno pynciau y tu allan i'w prif feysydd profiad, a all achosi problem.

Nawr, fe glywsom ni hefyd am Estyn yn awgrymu'r cymhellion hynny i athrawon. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am rai o'r ymyriadau posib o ran hynny, felly rydych chi wedi ateb rhai o'm cwestiynau yno'n rhannol. Ond fe hoffwn i hefyd ddeall ymhellach pa ymyriadau pellach y gall y Llywodraeth eu rhoi ar waith i gynyddu safonau addysgu yn ein hysgolion—ac fe glywsom ni rywfaint o hynny, rwy'n gwybod—yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, lle mae pethau wedi bod yn llawer rhy amrywiol, gydag ansawdd addysgu ac asesu ddim yn ddigon da.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut y derbyniodd tua thraean o'r ysgolion a arolygwyd argymhelliad i fynd i'r afael ag anghysondebau yn ansawdd yr addysgu. Yn aml, yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn darparu adborth pwrpasol i ddisgyblion i'w helpu i ddeall sut a pham roedden nhw'n dysgu, yn ogystal â beth. Mae'r adborth a'r asesiad hwn yn allweddol er mwyn caniatáu i'n disgyblion herio eu hunain ac i wella eu dysgu eu hunain.

Mae safon wael addysg yn un o'r rhesymau pam mae gormod o bobl yn gadael Cymru mewn ymgais i sicrhau bod eu plant yn cael yr addysg orau. Felly, ni allwn ni fforddio i'n plant syrthio ymhellach y tu ôl i weddill y DU os ydym ni wir eisiau'r gorau iddyn nhw. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â chyflwr addysg yma yng Nghymru. Ni all pethau fynd ymlaen fel hyn. Efallai y byddai'n well fyth pe baen nhw'n camu o'r neilltu a gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig roi cynnig arni. Diolch.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Llafur 5:43, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn gwneud cyfraniad byr heddiw yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymgysylltiad agored ac adeiladol gan y prif arolygydd a'i dîm, ac fe hoffem ni ddiolch iddyn nhw am eu hamser gyda ni yn y pwyllgor ar 5 Mawrth.

Fe glywsom ni, ers imi ddechrau ar y swydd, y bu arolygiadau ysgol amlach yn flaenoriaeth. Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24, defnyddiodd Estyn yr ymweliadau hyn i ddwyn arweinwyr ysgolion i gyfrif ac i gynnig cefnogaeth ymarferol i ysgolion. Rydym yn croesawu'r dull hwn. Mae gwella presenoldeb, cynyddu safonau, gweithredu diwygiadau a chefnogi llesiant disgyblion a staff i gyd yn heriau sylweddol anodd i'n hysgolion. Mae angen cefnogaeth rheng flaen Estyn ar y system ysgol i ddatblygu atebion, ochr yn ochr ag atebolrwydd cadarn, i oresgyn yr heriau hynny.

Mae adroddiad Estyn yn nodi rhai enghreifftiau o arfer da, ond mae hefyd yn amlwg, mewn rhai meysydd, nad yw'r system ysgolion yng Nghymru yn perfformio fel y dylai. Fe hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at ddau ddarn o waith pwyllgor sydd ar ddod sy'n tynnu'n helaeth ar ganfyddiadau Estyn. Bydd y cyntaf yn ystyried recriwtio a chadw athrawon. Mae'r prif arolygydd wedi pwysleisio bod prinder athrawon yn cael effaith ddiriaethol ar ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig mewn rhai meysydd pwnc. Fe wyddom ni fod dysgu effeithiol yn amhosibl heb addysgu effeithiol, felly bydd canlyniadau dysgwyr yn dioddef os bydd ysgolion yn parhau i gael trafferth recriwtio a chadw athrawon o ansawdd uchel.

Bydd yr ail yn canolbwyntio ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddatgymalu'r consortia rhanbarthol a rhoi gwasanaethau gwella ysgolion yn ôl yn nwylo awdurdodau lleol. Mae hyn yn newid mawr, gan fod consortia rhanbarthol wedi'u sefydlu dim ond degawd yn ôl, a bydd goblygiadau sylweddol i ysgolion yn sgil hyn. Byddwn yn ystyried a yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddigon da i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion, ochr yn ochr â'r cyrff cenedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u sefydlu yn ddiweddar i'w helpu. A byddwn yn edrych yn fanylach ar bryderon Estyn am ansawdd addysgu a dysgu, yn enwedig ymhlith ysgolion uwchradd.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, Estyn, ac amrywiaeth o randdeiliaid i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Fel bob amser, rwy'n gobeithio y gall ein gwaith, sy'n cael ei wneud ar sail drawsbleidiol, nodi camau ymarferol i helpu'r system ysgol i gyflawni ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Diolch.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:46, 18 Mawrth 2025

Dwi’n croesawu'r cyfle i ni gael trafodaeth ar yr adroddiad pwysig hwn heddiw. Hoffwn innau ategu fy niolch i Estyn a hefyd, wrth gwrs, i'n holl ddarparwyr addysg ni. Dwi'n gwybod bod yna ganolbwyntio wedi bod heddiw ar ysgolion, ac, wrth gwrs, mae honno'n un elfen, ond yn amlwg mae hwn yn adroddiad sy'n edrych ar addysg yn ei chyfanrwydd gydol oes, ac mae yna sylwadau pwysig iawn, dwi'n meddwl, y mae angen i ni adlewyrchu arnyn nhw o ran hynny hefyd.

Mi oeddwn i eisiau gofyn yn benodol, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y sylwadau o ran y Gymraeg. Yn amlwg, mae hwn yn ffocws pendant o ran yr adroddiad hwn. Wrth gwrs, mae yna rai astudiaethau achos sydd yn wych i'w gweld, yn ysbrydoledig, ond mae yna bryderon amlwg y mae sylw wedi'i dynnu atyn nhw yn yr adroddiad hwn—yr anghysondeb, yn arbennig, felly, o ran ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg. Byddwn i'n hoffi gwybod beth ydy rhai o'r camau rydych chi wedi eu cymryd yn sgil rhai o'r pethau hyn. Yn amlwg, mae gennym ni Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), ond mae yna bryderon mawr yn dod drwodd mewn rhai meysydd fan hyn.

Dwi'n gwybod fy hun o waith achos yn fy rhanbarth i, mewn rhai ysgolion cyfrwng Saesneg nad ydyn nhw'n rhedeg lefel A yn y Gymraeg, er bod yna ddysgwyr eisiau gwneud lefel A yn y Gymraeg. Felly, sut ydym ni'n sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael? Dwi hefyd yn gwybod am rai ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle mae'r niferoedd sydd eisiau cymryd lefel A yn y Gymraeg wedi bod yn isel, lle mae yna anogaeth wedi bod iddyn nhw beidio â rhedeg y cwrs hwnnw. Dwi'n meddwl bod hynny yn gyfan gwbl annerbyniol. Rydyn ni'n gwybod, o ran sicrhau parhad, o ran y rheini efo’r Gymraeg, o ran recriwtio athrawon yn y dyfodol, pa mor bwysig ydy lefel A Cymraeg fel pwnc. Felly, byddwn i'n hoffi cael rhai adlewyrchiadau gan y Llywodraeth ar hynny.

Un o'r elfennau eraill oedd yn tynnu sylw oedd, os caf i ddyfynnu'r adroddiad fan hyn:

'Yn aml, roedd cysylltiad disgyblion â hanes a diwylliant Cymru wedi’i gyfyngu i ddigwyddiadau cul, fel eisteddfod yr ysgol.'

Dwi'n meddwl, unwaith eto, rydyn ni'n dod yn ôl i'r anghysondeb hwnnw o ran profiadau. Felly, mi ydw eisiau gofyn, o ran rhai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd, o ran dysgu hanes yn ein hysgolion ni: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiad hwnnw’n gyson i bawb?

Byddwn i'n hoffi tynnu sylw at un llwyddiant o ran y Gymraeg, sef y sector Cymraeg i oedolion, lle mae'r adroddiad yn tynnu sylw bod y sector hwn yn dangos cryfder sylweddol unwaith eto. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cael canmoliaeth hefyd, a'r bartneriaeth efo Llywodraeth Cymru, felly mae'n bwysig tynnu sylw at hynny.

Dwi'n meddwl, o ran ein carchardai ni, fod yr anghysondeb yn parhau o ran profiadau addysgu. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig ydy hynny. Felly, efallai rhai o'r sylwadau byddwn i'n gofyn i chi adlewyrchu arnyn nhw, y tu hwnt i ysgolion: sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny yn gyson? Sut ydyn ni'n sicrhau bod y profiadau hynny hefyd ar gael yn y Gymraeg? A sut ydyn ni'n parhau efo'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud o ran y sector Cymraeg i oedolion, ond ein bod ni'n sicrhau ein bod ni ddim yn methu ein pobl ifanc ni yn y maes hwn? Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw aros tan eu bod nhw'n oedolion i gael y cyfleoedd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, felly cysondeb mwy na dim.

Gaf i hefyd adlewyrchu o ran rhai o'r sylwadau ar anghenion dysgu ychwanegol? Mae hynny hefyd yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn. Dwi'n gwybod bod yna fuddsoddi wedi ei wneud, ond yr un peth fyddwn i'n meddwl byddem ni i gyd eisiau ei weld fyddai bod yr astudiaethau achos arbennig yma ddim yn rhai sy'n haeddu cael sylw wedi'i dynnu atyn nhw, gan fod y profiadau yma yn gyson ledled Cymru. Ddylai fo ddim fod yn loteri cod post o ran eich hawl chi i gael y math o addysg sydd yn gadael ichi allu cyflawni'r hyn rydych chi'n gallu ei gyflawni i'r gorau y gallwch. Mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, o ran y Gymraeg. Felly, gaf i ofyn o ran yr heriau sydd fan hyn, sut ydyn ni am sicrhau'r arferion da hyn, bod athrawon ledled Cymru yn cael y cyfle i fynd ati i roi'r math yma o astudiaethau achos ar waith yn eu hysgolion nhw, a chael yr amser hefyd o ran dyblygu rhai o'r pethau rydyn ni wedi eu gweld sydd yn gweithio'n dda?

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 5:51, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ganolbwyntio ar bobl ifanc 14 i 19 oed, sydd yn fy marn i angen rhywfaint o bwyslais a mwy o sylw a gwelliant. Rwyf wedi sôn o'r blaen, sawl gwaith mewn dadleuon a chwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, fy mod yn aml yn cael cwynion gan rieni a disgyblion eu bod eisiau cynnig mwy galwedigaethol nag sydd ar gael yn eu hysgol. Ond, wrth gwrs, nid yw'r colegau addysg bellach yn cael eu hariannu i ddarparu'r addysg alwedigaethol honno yn yr oedran hwnnw, ac mae'r ysgolion yn awyddus iawn, yn ddealladwy, i gadw eu cyllideb ar gyfer y disgyblion hynny, ac mae hynny'n effeithio wedyn ar ansawdd yr addysg y mae rhai o'r disgyblion hyn yn ei derbyn, ac yn wir eu presenoldeb. Weithiau, maen nhw'n colli diddordeb yn yr ysgol ac yn diflasu, oherwydd nad ydyn nhw'n cael y dewisiadau maen arnyn nhw eu heisiau a'r addysg mae arnyn nhw ei eisiau. Ac os bydd eu presenoldeb yn gostwng, yna wrth gwrs pan fyddant yn barod ac yn gallu ymgymryd â chwrs galwedigaethol yn 16, ac yn mynd ymlaen i'w coleg addysg bellach, efallai nad oes ganddyn nhw'r safonau gofynnol mewn Saesneg neu fathemateg a fyddai'n eu galluogi i wneud y cyrsiau galwedigaethol hynny y maen nhw'n dymuno eu dilyn. Felly, yna, mae'n rhaid iddyn nhw geisio cyrraedd y safonau hynny cyn mynd ymhellach. Weithiau, maen nhw'n colli diddordeb yn llwyr ac yn disgyn i'r categori NEET—ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gyfres bwysig iawn o faterion i'r dysgwyr hynny, y teuluoedd hynny, y cymunedau hynny, ac yn wir ein heconomi. Ac mae'n gofyn am lawer mwy o gydweithrediad rhwng ein hysgolion a'n colegau addysg bellach. Mae'n gofyn am gyngor llawer gwell o ran gyrfaoedd ac elfen fwy annibynnol o gyngor i'r disgyblion ysgol hynny. Rwy'n credu bod llawer o'r materion hyn wedi cael eu cydnabod ers amser maith, ond nid ydym ni wedi gweld lefel y cynnydd sydd ei angen os ydym ni am wneud cynnydd mawr i ddarparu atebion neu o leiaf wneud cynnydd. Ac rwy'n credu y byddai'r mathau hyn o faterion yn rhan bwysig o strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol a fyddai'n edrych ar bob agwedd ar fwrw ymlaen â'r dewisiadau galwedigaethol hynny, gan ymestyn dewis a chyfleoedd. Felly, rwy'n gobeithio y gwelwn ni fwy o bwyslais gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol ar y materion hyn a chynnydd sylweddol yn y dyfodol agos.

Y mater arall roedd arnaf i eisiau ei grybwyll heddiw yw adroddiad Estyn ar Ysgol Gynradd Langstone yn Nwyrain Casnewydd, sy'n dda iawn i'w weld, o ystyried eu bod yn cael eu dyfynnu fel enghreifftiau o arfer da wrth weithredu'r cwricwlwm newydd a darparu math o addysg safonol a dychmygus sy'n ei wneud yn gam mawr ymlaen i'n dysgwyr yma yng Nghymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr arweinwyr mewn ysgol yn canfod y ffyrdd effeithiol hyn o ennyn sylw a dychymyg dysgwyr. Ac rwyf yn credu ei bod hi'n hollol briodol ein bod yn cydnabod arfer da pan gaiff ei weld a phan ydym ni'n gwybod am hynny, oherwydd mae'n bwysig gwneud yn siŵr y caiff ei gydnabod a'i ledaenu. Ac wrth gwrs, mae'r ysgolion hynny, y timau ysgol hynny, y disgyblion hynny a'r teuluoedd sy'n eu cefnogi, yn haeddu cydnabyddiaeth ac yn haeddu'r anogaeth o'u crybwyll mewn adroddiadau, fel adroddiad blynyddol Estyn eleni.

Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny, Llywydd, ac rwy'n gwybod bod yna lawer o arferion da iawn eraill ar draws Dwyrain Casnewydd ac ar draws Cymru, a gwneud yn siŵr bod yr holl safonau o'r gwerth arbennig hwnnw fyddai'n fodd o ddatblygu addysg yma yng Nghymru.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Democratiaid Rhyddfrydol 5:56, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy sylwadau ar un maes penodol, a hynny'n ymwneud â thlodi plant. Mae adroddiad Estyn mewn gwirionedd yn tynnu sylw at effaith tlodi plant ar addysg. Fe wyddom ni mai'r amcanestyniad yw y gallai tlodi plant yng Nghymru effeithio ar dros 34 y cant o'n plant erbyn diwedd y degawd hwn, felly mae'n rhaid i ni gymryd y camau beiddgar sydd eu hangen arnom ni i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel. Yn yr adroddiad, mae arweinyddiaeth ac ymroddiad ysbrydoledig mewn llawer o ysgolion ledled Cymru, ac maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir i gefnogi plant sy'n wynebu caledi, ond er gwaethaf ymroddiad ein harweinwyr ysgolion, ni allwn ni anwybyddu'r tueddiadau pryderus sy'n parhau i effeithio ar ein disgyblion tlotaf. 

Fel y nododd Cefin Campbell, un o'r rhai mwyaf pryderus yw ynghylch presenoldeb ysgol is. Ers y pandemig, rydym ni wedi gweld dim ond cynnydd bach, 0.5 y cant, mewn presenoldeb, ac mae llawer o'r plant hynny o gefndiroedd tlotach. Felly, tybed a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gynlluniau sydd ganddi i leihau absenoldeb ac, yn benodol, i gau'r bwlch hwnnw rhwng plant difreintiedig a'u cyfoedion.

Un o'r rhwystrau mawr eraill rhag mynychu'r ysgol yw cost ariannol addysg. Canfu arolwg blynyddol Plant yng Nghymru 2024 ar dlodi plant a theuluoedd fod 25 y cant o rieni wedi cadw eu plant gartref oherwydd caledi ariannol. Roedd llawer yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis ond gwneud hynny i arbed eu plant rhag y cywilydd o beidio â chael y dillad neu'r offer cywir, gan effeithio ar hyder, datblygiad ac ymdeimlad o berthyn eu plant yn y pen draw.

Mae gwisgoedd ysgol, fel y gwyddom ni, yn gost arbennig o drwm. Mae dros 80 y cant o rieni yn teimlo mai dyma'r gost anoddaf i'w rheoli, gyda 73 y cant yn gorfod prynu gwisgoedd gan fanwerthwyr arbenigol, sy'n llawer drutach na dewisiadau amgen y stryd fawr. Mae'r grant hanfodion ysgol yn cynnig cymorth ariannol hanfodol i lawer o deuluoedd, ac mae'n dda gweld bod y cymhwysedd wedi ehangu. Fodd bynnag, fel y mae'r arolwg yn tynnu sylw ato, mae meini prawf y grant yn parhau i fod yn bur gyfyng ac mae'r swm a ddarperir yn dal i fod yn annigonol. I deuluoedd incwm isel, gall hyd yn oed diffyg o ddim ond £12 neu £20 wneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, a allai Llywodraeth Cymru amlinellu'r hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud gydag ysgolion o ran y plant hynny sy'n gorfod prynu eu gwisgoedd gan y manwerthwyr arbenigol hynny, a hefyd a ydych chi'n mynd i gynyddu'r grant hanfodion ysgol yn unol â chwyddiant?

Ac yn olaf fe hoffwn i ganolbwyntio ar addysg blynyddoedd cynnar. Mae adolygiad thematig Estyn yn tynnu sylw at yr effaith barhaus y mae tlodi ac anfantais yn ei chael ar ein plant ieuengaf, sy'n anodd iawn ei wrth-droi. Mae'r canfyddiadau'n anffodus yn gyfarwydd: mae mynediad at addysg gynnar yn parhau i fod yn anghyson, gyda gwahaniaethau enfawr rhwng rhanbarthau. Mae Estyn yn adrodd am system hynod annheg, lle nad oes gan lawer o rieni ddewis ble i anfon eu plant ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar. Maen nhw'n adrodd bod lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi'u llethu, gan ddarparu bwyd, dillad a chymorth ymarferol i deuluoedd sy'n profi caledi ar lefelau llawer gwaeth nag a welwyd o'r blaen. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â thlodi, yn enwedig yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 6:00, 18 Mawrth 2025

(Cyfieithwyd)

Mae angen adroddiadau arolygwyr arnom ni sy'n cyflwyno cipolwg cynhwysfawr ar ein system addysg yn ei holl ffaeleddau. Fe ddylem ni groesawu hynny; ni ddylem ni fod yn amddiffynnol mewn ymateb iddo. Mae'n ddefnyddiol bod her onest yn cael ei chyflwyno ynglŷn â chyflwr yr ysgolion yn ein gwlad, ac mae'n amlwg o'r adroddiad bod arfer rhagorol ledled Cymru—mentrau i wella presenoldeb yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, diwygio'r cwricwlwm yn ysgol gynradd Langstone yng Nghasnewydd, a mentrau ailweithio rhifedd sy'n arwain y sector yn Ysgol y Creuddyn yng Nghonwy. Mae yna ymarfer rhagorol, ond mae hefyd yn amlwg bod yna ymarfer proffesiynol anghyson iawn hefyd. Mae Estyn yn adrodd nad yw dros hanner yr holl ysgolion uwchradd yn ddigon da yn eu haddysgu a'u hasesu—dros hanner. Mae'n dweud bod gormod o amrywiaeth ar addysgu mathemateg a phroblem wirioneddol gyda recriwtio athrawon, yn enwedig o ran dysgu mathemateg, gwyddoniaeth, digidol, daearyddiaeth ac ieithoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn targedu ystod o gymhellion at feysydd pwnc blaenoriaeth lle mae prinder—mewn gwirionedd, swm o £15,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i ddysgu mathemateg, cemeg, ffiseg, bioleg, dylunio, technoleg, TG, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern, yn ogystal ag ystod o fesurau eraill penodol, ac mae angen hynny oherwydd bod gennym ni broblem amlwg. Dywed Estyn, ers 2014, fod nifer y myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd wedi gostwng bron i hanner ac, yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae recriwtio, yr hyn maen nhw'n ei ddweud, 'ymhell islaw’r lefelau cyn y pandemig'—yn 'bryder sylweddol', meddai'r adroddiad. Ac mae'r penaethiaid yn adrodd wrth Estyn yn rhy aml...nad yw ansawdd ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ofynnol.'

Ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gweithlu presennol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw addysgu'n aml y tu allan i'w maes arbenigedd ac mae hynny'n ychwanegu at broblemau cadw staff. Gadewch i mi ddyfynnu adran fer iawn o adroddiad y prif arolygydd. Dywed:

'Er gwaethaf y cynnydd diweddar i gyflog cychwynnol newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn, mae sawl mater sylfaenol sy’n llesteirio recriwtio effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys anhyblygrwydd cymharol amodau gwaith athrawon, gostyngiad yn nifer y bobl rhwng 20 a 25 oed a chanfyddiad gwael y cyhoedd o addysgu fel proffesiwn.'

Ac rwy'n credu y dylem ni fyfyrio ar hyn:

'canfyddiad gwael y cyhoedd o addysgu fel proffesiwn'.

Pan fyddwch chi'n ystyried y ddadl gyhoeddus am addysgu a gawsom ni dros genhedlaeth neu fwy, mae wedi bod yn un negyddol iawn, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw grym addysgu da, a beth y gall fod, ac rydym ni'n adnabod athrawon sy'n gweld y swydd fel galwedigaeth, fel galwad. Roeddwn i'n ffodus i gael nifer o athrawon a wnaeth effaith arnaf, un yn arbennig yn Amman Valley Comprehensive fel y'i gelwid ar y pryd, fy athro gwleidyddiaeth Safon Uwch, Adrian Phillips—ac rwy'n siŵr y gall cyd-Aelodau ddychmygu sut oeddwn i yn 17 oed; yn union fel rydw i heddiw, i fod yn onest, ond ychydig yn arwach, credwch neu beidio—ac roedd yn rhywun a harneisiodd hynny, a heriodd hynny, a sianelodd hynny, a gafodd effaith ddofn arnaf, sydd, dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn rhywbeth rwy'n dal i'w werthfawrogi a'i drysori ac yn meddwl amdano yn aml, ac rwy'n dal i fod mewn cysylltiad ag ef. Mae athrawon da yn newid bywydau. Mae athrawon da yn ysbrydoli cenhedlaeth o bobl, ac nid wyf yn argyhoeddedig y byddwn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athrawon trwy fynd ati o safbwynt gwahanol offerynnau. Nid ydym yn siarad digon am athrawon fel gweision cyhoeddus, athrawon fel ffigyrau ysbrydoledig, athrawon fel pobl sy'n gallu dyrchafu eraill, a dyna beth rwy'n credu y dylem ni ddechrau siarad amdano eto fel cymhelliant i gael pobl i'r proffesiwn addysgu ac i'w cadw yno.

Dydw i ddim yn poeni gormod am bobl sy'n gadael y byd addysg; rwy'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n swydd anodd ac rydym ni i gyd yn adnabod pobl sydd wedi cael digon, ac mae'n dda iddyn nhw ac mae'n dda i'r system eu bod nhw'n symud i wneud pethau eraill, ond mae angen i ni fod yn denu cenhedlaeth newydd.

Ac rwy'n meddwl a byddaf yn gorffen ar hyn, Llywydd: mae'n beryglus myfyrio ar straeon, ond, fel tad plant yn y system addysg, rwyf wedi cael fy nharo gan ba mor ddigalon rydym wedi troi rhai pynciau i'w haddysgu a pha mor ddigalon rydym ni wedi troi rhai pynciau i ddysgu amdanyn nhw, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, hyd yn oed mewn pynciau efallai nad ydym ni o reidrwydd yn cael ein hysbrydoli ganddyn nhw, gall athro da ddod ag ef yn fyw a gall athro drwg ei fygu i farwolaeth. Rwy'n credu ein bod ni wedi creu system lle rydym ni'n addysgu i brofi, rydym ni'n gwthio am gyfres o ganlyniadau a metrigau, ac mae wedi lladd gormod ar lawenydd dysgu ac ysbryd ymchwilio. Felly, rwy'n credu, fel rhan o ymgysylltu â mwy o bobl yn y byd addysgu, mae angen i ni siarad mwy am ei rym i ysbrydoli a'i rym i newid. Diolch.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn amlwg, roedd yna lawer o bwyntiau yn y fan yna rwyf wedi gwrando arnyn nhw'n ofalus. Dydw i ddim yn mynd i allu ymateb iddyn nhw i gyd, ond fe wna i geisio ymdrin â'r prif rai.

Tom, fel y dywedodd Jenny Rathbone, rwy'n credu eich bod chi wedi darllen adroddiad gwahanol, ac a gaf i ddweud wrthych chi'n glir iawn, i mi, mae adroddiad Estyn a fy araith i gyd yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb, ac fe fyddaf i byth yn osgoi'r cyfrifoldeb sydd arnom i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n plant a'n pobl ifanc? Rwyf wir yn gresynu, yn wahanol i Peter Fox, nad oeddech chi wedi canolbwyntio ar asesiad llawer mwy cytbwys o'r adroddiad a'ch bod wedi dewis nodi'r pwyntiau arferol rydych chi'n eu gwneud, sy'n anghywir mewn gwirionedd. Nid yw'n gwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau yn unig; mae'n gwricwlwm sy'n cynnwys sgiliau a gwybodaeth, a'r gwir yw bod angen y ddau beth hynny er mwyn i blant a phobl ifanc lwyddo.

Cefin Campbell, diolch am eich cyfraniad a'ch cydnabyddiaeth o waith y proffesiwn addysgu. Yn amlwg, rwy'n bryderus iawn am y negeseuon yn yr adroddiad am bresenoldeb, a gallaf ddweud wrthych chi'n sicr nad ydym yn aros 10 mlynedd i adfer ein lefelau presenoldeb i'r hyn y mae angen iddyn nhw fod. Dyna pam y cyhoeddais £8.8 miliwn i fynd i'r afael â'r heriau presenoldeb rydym yn eu hwynebu. Bydd llawer o'r arian hwnnw yn mynd ar swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny rhag addysg. Mae gennym lawer ohonyn nhw eisoes, ac rydym yn gweld tystiolaeth dda iawn o'u gwaith, a bydd y cyllid ychwanegol hwnnw'n ein galluogi ni i adeiladu ar y gwaith hwnnw a'i wella.

Mae sawl Aelod wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn ynglŷn â recriwtio a chadw, ac roeddwn i eisiau dweud fy mod i'n cymryd y materion hynny o ddifrif. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi nad materion sy'n unigryw i Gymru yn unig ydyn nhw. Mae hon yn broblem rydym yn ei gweld ledled y byd, mewn gwirionedd. Rydym yn gwneud yn dda o ran recriwtio cynradd. Mae recriwtio uwchradd yn llawer mwy heriol, i'r pynciau arbenigol hynny yn arbennig, ac rydym hefyd yn wynebu heriau o ran recriwtio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw yn sicr.

Rwyf wedi cyhoeddi'r cynllun gweithlu strategol newydd, yr ydym yn mynd i fod yn gweithio arno mewn ffordd gyfannol i edrych ar yr ystod o heriau rydym yn eu hwynebu drwyddi draw, ac maen nhw i gyd yn bwydo i mewn i hyn. Mae'n ymwneud â llesiant, mae'n ymwneud ag ymddygiad, mae'n ymwneud â phresenoldeb. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd Lee am statws y proffesiwn addysgu a'r gwahaniaeth a gaf rhwng yr hyn rydym yn ei glywed yn y Siambr hon am yr agweddau negyddol ar hyn a'r hyn rwy'n ei gael pan fyddaf yn mynd allan i siarad ag arweinwyr ysgol ac athrawon. Mae cryn dipyn o athrawon a phenaethiaid wedi dweud wrthyf, 'Y swydd orau yn y byd,' ac mae'n wirioneddol ysbrydoledig. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio hynny, oherwydd rwy'n credu bod addysgu yn alwedigaeth. Mae wedi newid—nid yw'n ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth i blant a phobl ifanc yn unig mwyach; mae'n ymwneud â'r ystod honno o gymorth cofleidiol i blant a phobl ifanc. Mae gennym yr ymchwil ar y taliadau cymhelliant, ac, yn amlwg, mae angen i ni werthuso'r rheini, ond byddwn ni hefyd yn edrych ar beth mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn ac edrych ar arferion da rhyngwladol i fynd i'r afael â'r heriau hyn hefyd.

Cefin, fe wnaethoch chi godi pryderon penodol, fel y gwnaeth Heledd, ynglŷn â'r Gymraeg, ac, o ran y Gymraeg, roedd yna bryderon yn yr adroddiad a oedd yn bwysig iawn, y mae angen eu hystyried o ddifrif, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gennym waith i'w wneud yno. Mae gwella'r hyn rydym yn ei gynnig trwy Hwb yn rhan allweddol o'n cwricwlwm newydd. Rydym hefyd yn buddsoddi llawer i wella sgiliau ein hymarferwyr i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd yn rhaid i ni gael newid sylweddol i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, ac rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio ar hynny.

Gwnaeth Peter a nifer o Aelodau eraill bwyntiau am ansawdd addysgu, a diolch eto, Peter, am eich cyfraniad cytbwys, ac am groesawu'r pethau cadarnhaol am lesiant, ac mae nifer o Aelodau wedi sôn am y pethau cadarnhaol ynghylch y blynyddoedd cynnar hefyd. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig sy'n ystyried pa mor dda mae ysgolion yn addysgu. Bydd hwnnw'n rhoi mwy o wybodaeth i ni i helpu gyda'n gwaith yn y maes hwn. Rydym yn parhau i fuddsoddi tua £35 miliwn bob blwyddyn yn natblygiad proffesiynol y gweithlu, ac yn y flwyddyn sydd i ddod, bydd £13.5 miliwn yn cael ei roi'n uniongyrchol i ysgolion i fuddsoddi mewn dysgu proffesiynol. Ac fel y dywedais yn fy araith, rydym yn sefydlu corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol, yr wyf yn gobeithio y bydd yn helpu gyda chynnig mwy cydlynol yn y maes hwnnw. Ac ar ben hynny, mae gennym ein rhaglenni cymorth cenedlaethol. Rwyf wedi cyflwyno cymorth cenedlaethol ar ddylunio ac asesu'r cwricwlwm, sy'n ymateb i'r pryderon y mae rhai ysgolion wedi'u codi am ddatblygu'r cwricwlwm, ac mae gennym hefyd raglenni cenedlaethol ar gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd hefyd.

Os gallaf droi at bwyntiau Jane Dodds am dlodi, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol iawn amdano. Rwy'n credu bod gennym ni hanes da yng Nghymru o ran cefnogi plant sy'n byw mewn tlodi mewn ysgolion, ac, fel y byddwch wedi'i weld yn adroddiad Estyn, mae'r gwaith mae ysgolion yn ei wneud yn y maes hwnnw yn cael ei ganmol. Rydym eisoes yn buddsoddi dros £13 miliwn yn y grant hanfodion ysgol. Mae hwnnw'n grant sy'n cael ei arwain gan alw ac rydym yn hyrwyddo'r defnydd o'r grant hwnnw, yn ogystal â'n cynnig o ran bwyd ysgol, sy'n bwysig iawn. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi ariannu cynlluniau treialu diogelu rhag tlodi i weithio mewn ysgolion, ac rydym yn cefnogi gwaith Plant yng Nghymru o ran hyfforddiant ar effaith tlodi mewn ysgolion. Ond mae hynny'n mynd ochr yn ochr, wedyn, â'n cyllid ar gyfer y grant datblygu disgyblion, sy'n cael ei ddiogelu i wneud yn siŵr y gallwn ni ganolbwyntio'n benodol ar y disgyblion hynny, ac mae gennym ni hefyd bartneriaeth â'r Sefydliad Gwaddol Addysgol i fynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi. Ond mae hynny, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn ffocws i ni wrth i ni anelu at gau'r bwlch cyrhaeddiad.

A gallaf weld, Llywydd, fod fy amser ar ben. Fe wnes i geisio ymateb i rai o'r pwyntiau. Os gallaf ddiolch i bawb am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu ein bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif ar yr adroddiad hwn. Fel y dywedodd Lee, mae'n bwysig ein bod ni'n cael yr adborth hwnnw, y da a'r drwg, ac rwy'n cymryd hynny o ddifrif a byddaf yn parhau i weithio gydag Estyn, gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n harweinwyr ysgol a'n hathrawon i fynd i'r afael â'r materion hyn. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:14, 18 Mawrth 2025

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, mi wnawn ni ohirio'r holl bleidleisiau o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.