8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Y cyflenwad o dai cymdeithasol'

– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 5 Chwefror 2025.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:36, 5 Chwefror 2025

Eitem 8, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Y cyflenwad o dai cymdeithasol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.

Cynnig NDM8817 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Y cyflenwad o dai cymdeithasol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 4:36, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y cyflenwad o dai cymdeithasol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai a rannodd eu profiadau personol gyda ni drwy ein gweithgareddau ymgysylltu. Mae ein hadroddiad ar dai cymdeithasol yn rhan o gyfres o ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â'n blaenoriaeth drosfwaol i ddarpariaeth ac argaeledd tai priodol yng Nghymru. Fe wnaeth ein hadroddiad 17 o argymhellion, ac rwy'n falch fod 14 o'r rheini wedi'u derbyn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor gan Ysgrifennydd y Cabinet

Rydym yng nghanol argyfwng tai ac yn gynyddol, mae cyflenwad cyflym o dai cymdeithasol yn allweddol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, ym mis Mawrth 2024, fod Llywodraeth Cymru lai na hanner ffordd tuag at ei tharged o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd y Senedd hon. Rydym yn cydnabod bod cynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol wedi bod yn arbennig o heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn wyneb sawl sialens, yn cynnwys cost gynyddol deunyddiau a llafur, ond mae cyfleoedd i wneud mwy. Yn ein hadroddiad, galwn ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth dai hirdymor sy'n edrych y tu hwnt i dymhorau Senedd unigol, ac mae llawer o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn trafod beth y dylai strategaeth o'r fath ei gynnwys.

Clywsom fod angen i fàs critigol o 20 y cant fan lleiaf o stoc dai gwlad fod yn dai cymdeithasol er mwyn creu opsiynau i bobl a chydbwyso prisiau yn y farchnad breifat. Mae canran y tai cymdeithasol yn amrywio ar draws Ewrop, gyda'r cyfrannau uchaf yn yr Iseldiroedd, 29 y cant; Denmarc, 20 y cant; Awstria, 24 y cant. Yn yr Alban, y ffigur yw 23 y cant. Yma yng Nghymru ar y llaw arall, dim ond tua 16 y cant o'r stoc dai sy'n dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Pe byddem yn cyrraedd y ffigur o 20 y cant, byddai gennym oddeutu 60,000 yn fwy o gartrefi, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad mewn egwyddor y dylai tai cymdeithasol ffurfio canran fwy o'r stoc dai yng Nghymru. Nodwn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad i ddeall y camau sydd eu hangen i sicrhau canran uwch ac i lywio amserlenni. Byddwn yn ddiolchgar heddiw pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi amserlen i ni ar gyfer y gwaith hwn.

Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ynghylch mynd i'r afael â'r angen am fwy o gartrefi un ystafell wely. Clywsom fod galw sylweddol am gartrefi o'r fath, ond dywedodd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai y gallai hyn wrthdaro â sefydlu cymunedau cymysg. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r cartrefi cywir yn y mannau cywir, ac mae angen i gartrefi cymdeithasol adlewyrchu anghenion y boblogaeth.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 4:40, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol. O'r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ein hymchwiliad, credwn fod potensial i gipio gwerth tir i'w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fecanweithiau ffurfiol i gipio cynnydd yng ngwerth tir y tu hwnt i adran 106, ac rydym yn pryderu bod hwn yn gyfle a gollwyd. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall gipio mwy o werth tir er budd y cyhoedd, ac fel rhan o hyn, dylai ddyblu ymdrechion i geisio datganoli pwerau i gyflwyno treth ar dir gwag. Argymhellwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatgloi potensial safleoedd llai o fewn cymunedau sy'n bodoli'n barod, a galwyd am fwy o dryloywder mewn perthynas â pherchnogaeth tir. Rydym yn falch fod yr argymhellion hyn wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.

Mae tai a arweinir gan y gymuned yn elfen bwysig arall o'r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod y manteision y gall y dull hwn eu cynnig, gan gynnwys ei botensial i ddiwallu anghenion tai penodol yn ogystal â buddion ehangach. Fodd bynnag, yn ein hymchwiliad i asedau cymunedol, clywsom fod anhawster i gael gafael ar gyllid yn rhwystr rhag datblygu'r sector hwn. Yn flaenorol, gwrthododd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad y dylid sefydlu cronfa benodol yng Nghymru ar gyfer prosiectau tai cymunedol, felly rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i edrych o'r newydd ar y cynnig hwn, o gofio bod diffyg cyllid wedi'i brisio a'i strwythuro'n briodol yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sylweddol i ddatblygu tai a arweinir gan y gymuned. Rydym hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i ystyried ariannu swyddogion galluogi tai cymunedol ar draws pob awdurdod lleol. Mae ymgysylltu cynnar ac effeithiol yn rhan annatod o nodi anghenion a chyfleoedd ar gyfer datblygu tai cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau cefnogaeth y gymuned.

Ddirprwy Lywydd, Rwyf am droi nawr at yr argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethom argymell y dylid creu corfforaeth ddatblygu hyd braich i arwain ar ddarparu safleoedd ar raddfa fawr. Mae yna enghreifftiau o gyrff o'r fath mewn gwledydd eraill ar draws y byd, ac yn wir yng ngorffennol diweddar Cymru ei hun. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud y gall yr is-adran lle sicrhau'r un canlyniadau am gost is. O ystyried ein pryderon ynghylch y targed o 20,000, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ddatblygiadau preswyl ar raddfa fawr, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet dawelu meddyliau'r pwyllgor fod gan yr is-adran lle yr hyn sydd ei angen arni i wneud hyn.

Awgrymodd tystion y gallai caffaeliadau fod yn rhan fwy o'r ateb cyflenwi pe ceid hyblygrwydd pellach o ran cyflawni safonau, oherwydd y gost sydd ynghlwm wrth wella safon eiddo. Ar hyn o bryd, rhaid gwerthu cartrefi a gaffaelwyd na allant gyrraedd safon lawn o fewn 10 mlynedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond llety dros dro y gall cartrefi o'r fath ei ddarparu, nid cartrefi cymdeithasol sefydlog. I fod yn glir, nid ydym am weld safonau'n gwanhau yn gyffredinol, ond argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru yn datblygu safon ar wahân ar gyfer caffael cartrefi cymdeithasol parhaol nad ydynt byth o bosibl yn mynd i gyrraedd safon ansawdd tai Cymru yn llawn, ond sy'n dal i allu cyflawni ansawdd. Rydym yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. O ystyried nifer y bobl mewn llety dros dro yng Nghymru, mae angen mwy na datrysiadau tymor byr arnom os ydym am weld diwedd ar yr argyfwng tai presennol. Felly, unwaith eto, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa opsiynau eraill y mae'n eu harchwilio i gynyddu nifer y tai cymdeithasol parhaol.

Mae capasiti adeiladu yn her arall sy'n wynebu landlordiaid cymdeithasol. Mae'r capasiti hwnnw wedi cael ei effeithio gan chwyddiant costau deunyddiau a chyfraddau llog uchel, ac mae'r pwysau presennol, yn ei dro, yn effeithio ar fuddsoddiad mewn sgiliau. Dywedwyd wrthym y bydd angen 12,000 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yng Nghymru erbyn 2028 i allu cyflawni nodau datgarboneiddio. Galwasom ar Ysgrifennydd y Cabinet i gydweithio â'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ddatblygu strategaeth ar gyfer denu mwy o bobl i'r diwydiant adeiladu, gan gynnwys trwy gynlluniau prentisiaethau. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud bod camau sylweddol eisoes yn cael eu cymryd. Hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ba asesiad a wnaeth o effeithiolrwydd y camau hyn i gynyddu capasiti yn y maes adeiladu a darparu mwy o gartrefi.

Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae angen i Lywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol os ydym am weld diwedd ar yr argyfwng tai. Hoffwn ddiolch eto i bawb a chwaraeodd ran yn yr adroddiad hwn a—

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 4:46, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad? 

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr, Carolyn Thomas.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi newydd sôn am brinder trydanwyr a phlymwyr, ac yn flaenorol rydych chi wedi sôn eu bod yn aml iawn yn gwneud y ddwy flynedd gyntaf ond yna'n cael trafferth dod o hyd i leoliad, oherwydd iechyd a diogelwch neu beth bynnag, gydag adeiladwyr a phlymwyr ac ati. Felly, efallai ei fod yn rhywbeth y gallem fynd ar ei drywydd gyda'r Gweinidog sgiliau hefyd. Gallai hynny fod yn ddefnyddiol wrth symud ymlaen.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rwyf wedi ei drafod gyda Gweinidogion a'i godi yma yn y Siambr, fel y gwyddoch, Carolyn. Rwy'n credu y caiff ei ystyried. Yn sicr, ymwelais â fy ngholeg lleol a chlywais yn glir iawn fod dysgwyr yn aml iawn yn gwneud y ddwy flynedd, fel y dywedwch, ac yna ni allant gael prentisiaeth ac maent yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl, sy'n drueni go iawn, onid yw? Felly, rwy'n gobeithio y gellir mynd i'r afael â hynny'n effeithiol. 

Fel y dywedais, diolch yn fawr i bawb a chwaraeodd ran yn yr adroddiad. Rwy'n edrych ymlaen nawr at gyfraniadau'r Aelodau.  

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 4:47, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, diolch gan y Ceidwadwyr Cymreig i'r Cadeirydd gwych, John Griffiths, a phawb ar y pwyllgor a gymerodd ran yn y gwaith o gynhyrchu'r adroddiad hwn cyn fy nghyfnod i ar y pwyllgor. Diolch i bawb, gan gynnwys fy Aelod fy hun.

Fel y mae'r Cadeirydd newydd nodi, mae yna argyfwng tai cymdeithasol yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eto mae Llywodraeth Cymru fwy neu lai wedi rhoi'r gorau i adeiladu tai. Er i Lywodraeth Cymru osod targed cychwynnol o adeiladu 20,000 o gartrefi newydd i'w gosod ar rent cymdeithasol erbyn 2026, maent wedi penderfynu troi cefn ar y syniad o adeiladu tai cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ddarparu tai yn lle. 

Hyd yn oed wedyn, maent wedi methu'n llwyr â chyrraedd y targedau cyflawni ar gyfer tai cymdeithasol, gan ddarparu llai na 9,000 o gartrefi, sy'n llai na hanner eu targed, fel y nododd y Cadeirydd. O'r cartrefi hynny, mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif mai tua 7,400 o'r rhain a fyddai'n cael eu gosod ar rent cymdeithasol mewn gwirionedd, lefel wael o gyflawniad unwaith eto gan y Llywodraeth Lafur. 

Dywed arbenigwyr y dylai'r stoc tai cymdeithasol fod yn 20 y cant o'r farchnad dai, ond yng Nghymru dim ond 16 y cant o'r stoc dai sy'n dai cymdeithasol. Mae hyn ymhell islaw rhannau eraill o'r DU fel yr Alban, y mae eu stoc dai cymdeithasol yn 23 y cant. O ganlyniad, mae 140,000 o bobl yn aros ac yn ysu am gael to uwch eu pen yng Nghymru. Yn ôl Archwilio Cymru, byddai angen £740 miliwn ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed tai cymdeithasol, ac eto nid yw'r gyllideb ddrafft ond wedi dyrannu £81 miliwn ychwanegol. 

A sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu adeiladu'r tai pan fo ganddynt brinder enfawr o sgiliau a swyddi yn y diwydiant adeiladu, fel y dywedwyd? Yn frawychus, mae Cymru yn colli 300 o weithwyr adeiladu bob blwyddyn ar hyn o bryd ac mae angen 12,000 o adeiladwyr erbyn 2028 i ateb y galw presennol yn y diwydiant adeiladu. Eto i gyd, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 10—

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 4:49, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru fwy neu lai wedi rhoi'r gorau i adeiladu tai cymdeithasol newydd, ond rwyf newydd glywed y bydd 52 yn rhagor o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu ar draws gogledd Cymru mewn tri awdurdod eleni yn unig, sy'n wych, ac rwy'n cael fy ngwahodd i lawer o ddatblygiadau o'r fath o dai cymdeithasol newydd, cynnes ar draws gogledd Cymru. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n gywir, Laura. Rydym yn dal i adeiladu.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, os mai dyna sy'n digwydd yng ngogledd Cymru, ond mae'r darlun ar gyfer Cymru gyfan yn eithaf brawychus, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny fel Aelod sydd nid yn unig yn cynrychioli gogledd Cymru ond sy'n eistedd yma ar ran Cymru gyfan.

Fel roeddwn i'n dweud am y gweithwyr adeiladu bob blwyddyn, mae angen 12,000 o adeiladwyr erbyn 2028 i ateb y galw presennol yn y diwydiant adeiladu, ac eto gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 10, fel y dywedais, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros dai weithio gyda'r Gweinidog diwylliant a sgiliau i ddenu mwy o bobl i'r diwydiant, sy'n drueni mawr yn fy marn i, yn enwedig o gofio eich rôl yn y gorffennol, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, hoffwn glywed beth sydd gennych i'w ddweud am hynny.

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gwtogi cyllid i brentisiaethau 14 y cant, ac er iddynt adfer y cyllid hwnnw yn y gyllideb ddrafft hon, mae'r niwed eisoes wedi'i wneud. Er mwyn adennill y cannoedd o weithwyr adeiladu sy'n gadael y diwydiant a chael Cymru i adeiladu, rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi cwmnïau adeiladu a buddsoddi mewn hyfforddiant i'r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu cynllun cymorth i alluogi mentrau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a darparu cyllid prentisiaeth priodol, gan greu gyrfaoedd disglair a'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd.

Roedd hefyd yn siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 9 yn yr adroddiad hwn, gan roi safonau afrealistig o flaen darparu tai i'r digartref. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y safonau ansawdd tai presennol yn creu gwrthdaro posibl rhwng ansawdd a nifer y tai cymdeithasol. Dywedodd cyfrannwr arall i'r adroddiad hefyd y bydd yn rhaid i landlordiaid tai cymdeithasol ddargyfeirio cyfalaf oddi wrth ddatblygiadau i gyrraedd y safonau, gan arwain yn y pen draw at ddarparu llai o gartrefi cymdeithasol oherwydd y costau uwch. Mae 13,000 o bobl ddigartref yng Nghymru yn byw rhwng darpariaethau llety dros dro, gan symud o wely a brecwast i wely a brecwast. Os byddai datblygu safon ar wahân ar gyfer tai cymdeithasol, mewn cydweithrediad â TPAS Cymru, yn caniatáu i ni gartrefu teuluoedd a phlant, dylai hynny fod yn flaenoriaeth.

Nid yn unig hynny, ond nid yw'r system bresennol yn gwneud y gorau o'r hyn sydd gan landlordiaid i'w gynnig. Y llynedd, roedd y rhaglen gaffael bresennol ar gyfer tai cymdeithasol wedi'i gordanysgrifio ddwywaith cymaint â'i chapasiti, ac eiddo sydd eisoes yn cydymffurfio â safonau. Roedd hwn yn gyfle buddsoddi gwerth £200 miliwn i Lywodraeth Cymru, cyfle i ddarparu man cychwyn i bobl heb gartref, ond eto mae oedi yn system gynllunio Llafur yn gwneud i landlordiaid droi eu cefnau ar ddarparu tai cymdeithasol, yn hytrach na'u denu.

Ar y llaw arall, mae gan Blaid Geidwadol Cymru weledigaeth glir ar gyfer landlordiaid. Byddem yn creu tasglu i gynllunwyr fynd i'r afael â'r awdurdodau lleol arafaf, gan greu mwy o dai cymdeithasol. Nid yw'r sector cynllunio yn addas i'r diben. Yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, mae system gynllunio Cymru yn gostus, yn hir ac yn gymhleth. Mae'n rhaid i bethau newid.

Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried argymhelliad 5 a sefydlu corfforaeth ddatblygu genedlaethol i arwain ar safleoedd ar raddfa fawr. Bydd hyn yn cyflymu datblygiad, gan sicrhau bod cymunedau'n gallu cael mewnbwn go iawn o gam cynnar. Os ydym am roi diwedd ar deuluoedd yn byw mewn llety gwely a brecwast, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried y blaenoriaethau hyn, buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, a blaenoriaethu cymunedau sy'n gweithio i adeiladu cartrefi. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud mewn ymateb i'r adroddiad hwn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:53, 5 Chwefror 2025

Dwi am ganolbwyntio ar ddau argymhelliad pwysig sydd yn yr adroddiad ond sydd wedi cael eu gwrthod gan y Llywodraeth, yn anffodus, sef un am sefydlu Unnos fel corff lled braich o'r Llywodraeth, er mwyn cyflymu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, a'r ail un yn ymwneud â hyblygrwydd o ran safonau wrth addasu tai presennol yn gartrefi ar gyfer y sector cymdeithasol.

Dwi'n troi yn gyntaf at argymhelliad 5 yr adroddiad, argymhelliad sydd wedi ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. Ond fe gafwyd tystiolaeth helaeth gan randdeiliaid sydd yn cefnogi'n gryf sefydlu corff datblygu cenedlaethol i arwain ar ddatblygu tai mewn ffordd strategol. Mae sefydlu Unnos fel endid hyd braich i yrru'r gwaith o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn bolisi Plaid Cymru ers blynyddoedd, ac er yn croesawu cynnwys rhaglen Unnos y Llywodraeth bresennol, ddaeth i fod drwy'r cytundeb cydweithio, mae angen datblygu Unnos fel endid ar wahân efo pwerau penodol. Gwych oedd gweld cefnogaeth gan randdeiliaid, a chymeradwyaeth y pwyllgor i hyn. Galwodd arbenigwyr, gan gynnwys Shelter, y Chartered Institute of Housing, Community Housing Cymru, ac eraill, am gorff annibynnol i ymyrryd yn y farchnad dir a'r system gynllunio.

Ddoe yn y Senedd, fe wnes i gynnal cyfarfod bord gron i drafod argyfwng tai Cymru efo cynrychiolwyr o'r sector tai, ac unwaith eto, fe gafwyd arwyddion clir o gefnogaeth ar gyfer y weledigaeth o Unnos sydd yn cael ei hamlinellu yn adroddiad y pwyllgor, ac roedd hynny'n wych o beth i weld yn digwydd. Mae'r pwyllgor, yn yr adroddiad, yn cydnabod sefydlu is-adran tir o fewn Llywodraeth Cymru—neu is-adran lle, rwy'n meddwl maen nhw'n ei alw fe erbyn hyn—a'r gwaith mae hwnnw yn ei wneud efo datblygwyr a buddsoddwyr i gyflawni safleoedd enghreifftiol ar dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth, ond mae llawer o'r rhanddeiliad yn credu y gellir gwneud llawer iawn mwy pe bai'r dull yma yn cael ei ehangu.

Rwy’n nodi nad ydy’r Llywodraeth ar hyn o bryd ddim yn gweld yr angen am gorff o’r math oherwydd sefydlu’r is-adran arbennig yma, ac mae hynny yn siomedig. I fod yn effeithiol, byddai angen i gorff hyd-braich gael pwerau cywir, arbenigaeth broffesiynol a gweledigaeth hirdymor sy’n cyd-fynd â Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Er bod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad yma, rwy’n siŵr y bydd y drafodaeth am Unnos yn parhau dros y misoedd nesaf.

Yn ail, rwyf am drafod argymhelliad 9. Mi wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth helaeth am y prif heriau sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol a'r galw am fwy o hyblygrwydd mewn safonau ansawdd er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol, ac felly mae'n anffodus fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i weithio efo TPAS Cymru a chymdeithasau tenantiaid i ddatblygu safon ar wahân ar gyfer caffael cartrefi cymdeithasol parhaol. Roedd TPAS yn dadlau er bod rhaid cyrraedd safonau iechyd a diogelwch, mai’r flaenoriaeth ydy symud pobl allan o lety dros dro ac i gartrefi parhaol. Ac efo 11,000 o bobl, gan gynnwys 3,000 o blant, mewn llety dros dro, mae'n rhwystredig iawn i lawer ohonom ni nad ydy’r Llywodraeth am fod yn bragmataidd efo’r mater yma.

Mae adeiladau a chartrefi y gellid eu defnyddio fel tai cymdeithasol yn cael eu gadael yn wag oherwydd diffyg hyblygrwydd o gwmpas safonau. Mae cydymffurfio â chyrraedd EPC A yn ychwanegu £15,000 fesul cartref, ac mae cymdeithasau tai wedi dadlau y gallai llacio’r gofyniad i EPC B alluogi darparu 1,000 o gartrefi ychwanegol efo’r un un lefel o gyllid. Mi oedd rhai tystion yn nodi y gallai caffael eiddo presennol—acquisitions—helpu cyflenwi mwy o gartrefi cymdeithasol a helpu gwella cyflwr y stryd fawr, er enghraifft, ond mae'n rhaid i gartrefi sydd wedi cael eu prynu yn y modd yma ac sydd ddim yn cyrraedd y safonau gael eu gwerthu ar ôl 10 mlynedd. Mae angen osgoi hyn drwy gael mwy o hyblygrwydd, tra hefyd, wrth gwrs, yn gweithio efo tenantiaid i ddatblygu safon newydd ar gyfer acquisitions a allai fod yn gartrefi cymdeithasol parhaol ond efallai fyddan nhw byth yn cyrraedd y safon ansawdd yn llawn.

Efo’r sylwadau yna, gaf i ddiolch am gael cyfrannu at waith y pwyllgor ar yr adroddiad pwysig yma? Diolch yn fawr.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:58, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn ond ni chymerais ran yn yr adroddiad terfynol gan fy mod newydd gael fy mhenodi gan y Gweinidog i gadeirio'r tasglu cartrefi fforddiadwy. Er mwyn osgoi gwrthdaro, dylwn ddatgan buddiant yn y trafodion heddiw fel bod pobl yn gwybod am y rolau deuol hynny.

Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith y mae'r tasglu'n ei wneud, sut y mae'n ymwneud â'r ymchwiliad a gyflawnodd y pwyllgor, a sut y mae'n bwrw ymlaen â llawer o'r themâu sydd eisoes wedi'u trafod yma y prynhawn yma. Gofynnwyd iddo yn ei gylch gorchwyl i edrych ar ddau beth—rhwystrau tymor byr i dai fforddiadwy, ac yn ail, i edrych ar unrhyw newidiadau y gallai fod eu hangen i'r system. Rydym yn edrych ar ddadflocio safleoedd sydd eisoes yn rhaglen Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol, y rheini sy'n wynebu risg o oedi, a chwilio am yr hyn a elwir yn 'ddefnydd yn y cyfamser'—tai dros dro ar dir cyhoeddus—a gofynnwyd inni edrych hefyd ar symleiddio'r ddarpariaeth o gartrefi newydd.

Mae'n eithaf amlwg o'r gwaith a wnaed eisoes nad oes bwled hud, ond mae yna gyfres o ymyriadau a all wneud gwahaniaeth yn fy marn i. Yn y grŵp, mae gennym bobl sydd â phrofiad o lywodraeth leol—aelod Cabinet ac uwch swyddog o ogledd Cymru a de Cymru—cynrychiolydd o gymdeithas dai—un o ogledd Cymru, un o dde Cymru—cynrychiolydd o'r comisiwn dylunio ac o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, ac rydym wedi cael academyddion ac eraill sydd wedi mynychu trafodaethau unigol i gefnogi hynny. Ddoe, cyfarfûm â datblygwyr tai ac yfory rwy'n cyfarfod â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Felly, mae'n waith cyflym. Rydym yn bwriadu adrodd erbyn diwedd mis Mawrth a mis Ebrill, mewn dau gam, ac rydym yn edrych ar atebion ymarferol; nid adroddiad i lunio dadansoddiadau pellach o'r broblem yw hwn, ond i edrych ar bethau a allai fod o gymorth.

Mae'n eithaf clir o'r sylwadau a gyflwynwyd i ni fod datblygwyr yn teimlo bod y broses yn rhy hir. Mae'n cymryd gormod o amser i geisio adeiladu cartrefi a chael cynigion drwy'r system, a chan fod argyfwng tai, mae cefnogaeth gref i weld awdurdodau cynllunio'n rhoi blaenoriaeth i geisiadau tai cymdeithasol. Mae arfer da yn Abertawe ac yng nghyngor Conwy lle mae ganddynt dimau datblygu, felly pan ddaw cais ger eu bron, maent i bob pwrpas yn cloi pawb mewn ystafell ac yn gwneud iddynt weithio ar y cais hwnnw. Felly, cynllunio, priffyrdd, draenio, bioamrywiaeth—yr holl adrannau gwahanol y mae angen iddynt roi sêl bendith ar brosiect gyda'i gilydd i allu goresgyn rhwystrau a chyflymu ceisiadau—

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 5:01, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

A oes ots gennych os na wnaf, gan fod llawer gennyf i fynd drwyddo, ac rwyf am sicrhau fy mod yn rhoi cymaint â phosibl o'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd?

Rydym yn awyddus i nodi arferion da pellach. Y cwestiwn felly yw sut y mae sicrhau y cânt eu mabwysiadu'n gyson—sut y mae eu lledaenu a'u hefelychu ar raddfa fwy? Ac rwy'n credu mai cydgynhyrchu yw'r ffordd o wneud hynny.

Mae datblygwyr hefyd wedi dweud wrthym y gall swyddogion cynllunio benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn rhai siroedd o dan bwerau dirprwyedig, ond mewn siroedd eraill, mae’n rhaid iddo fynd i’r pwyllgor cynllunio, sy’n ychwanegu amser ac ansicrwydd. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod y pwysau sydd ar adrannau cynllunio. Wedi’r cyfan, ers 2010 a dechrau cyni, mae cynghorau lleol Cymru wedi colli 40 y cant o’u staff, ac un o’r rhwystredigaethau y mae datblygwyr yn sôn wrthym yn gyson amdanynt yw nad yw bellach yn hawdd cael gafael ar swyddogion cynllunio i drafod ceisiadau wyneb yn wyneb, i gael sgyrsiau ymarferol i helpu i ddatrys materion. Mae hynny’n amlwg yn broblem.

Mae yna broblemau hefyd gyda dehongliadau gwahanol gan wahanol swyddogion tirwedd, er enghraifft, mewn rhai cynghorau, gan ddyblygu'r hyn a elwir yn amodau cyn-gychwyn. Felly, gall amodau sydd eisoes wedi’u bodloni mewn ceisiadau cynllunio gael eu hailgyflwyno, ac mae'n rhaid iddynt gael eu gosod a’u cymeradwyo ar wahân, a chael eu diwygio ymhellach gan swyddogion o bosibl, sy’n ychwanegu at oedi a rhwystredigaeth. Gellir mynd i'r afael â pheth o hyn drwy hyfforddiant, a pheth ohono drwy ddull mwy safonol. Credaf mai’r cwestiwn mawr y mae angen inni edrych arno a mynd i’r afael ag ef yw a ddylai tir a nodir mewn cynllun datblygu lleol ddod gyda rhagdybiaeth ar gyfer datblygu pan gytunir ar y CDLl ai peidio. Bydd hyn yn creu mwy o sicrwydd o gyflenwad tir ac yn lleihau amser a chost datblygiadau. Felly, ar ôl ichi gael caniatâd mewn egwyddor, a ddylech hefyd gael rhai hawliau datblygu a ganiateir, cyhyd â'u bod yn unol â mesurau diogelu polisi, i symleiddio'r broses gynllunio? Mae manteision ac anfanteision i hynny, ac rydym yn gweithio drwy hyn, a byddwn yn ffurfio barn gyfunol ar hynny.

Hefyd, beth y gellir ei wneud yn y tymor byr i fynd i’r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl mewn llety dros dro? Yng Nghaerdydd, yn Llanilltud Fawr, maent wedi defnyddio tai dros dro ar dir cyhoeddus i adeiladu cartrefi dros dro. A allwn ni wneud mwy o hynny? Mae yna safbwyntiau cymysg. Sut y gallwn gyflymu’r broses o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd? Tai sy'n cael eu hystyried yn 'eiddo gwag' gan landlordiaid cymdeithasol—sut y gellir dod â hwy yn ôl i ddefnydd? Fflatiau uwchben siopau yng nghanol trefi neu estyniadau i'r atig ar gyfer teuluoedd sy’n wynebu gorlenwi—mae’r rhain oll yn bethau a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, a dyna’r materion rydym yn gweithio drwyddynt, Ddirprwy Lywydd, a byddwn yn adrodd ar hynny i Ysgrifennydd y Cabinet erbyn diwedd mis Ebrill. Diolch.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:04, 5 Chwefror 2025

Diolch am y cyfle i siarad yn y drafodaeth yma. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor, roeddwn i'n dadlau am yr angen i gynnal ymchwiliad i'r maes, a dwi'n falch iawn gweld bod y pwyllgor wedi cyflawni darn o waith mor drylwyr, ac mae'n flin gen i fy mod i wedi gadael y pwyllgor cyn gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Roeddwn i eisiau pigo i fyny ar un pwynt yn unig, os caf i, sef yr argymhelliad gan y pwyllgor i gynyddu'r stoc dai gyhoeddus i 20 y cant. Dwi am ddadlau nad ydy hyn, mewn gwirionedd, yn ddigonol, ac mae fy safbwynt i felly'n seiliedig ar dystiolaeth—tystiolaeth, dwi'n credu, ddaru chi glywed gan Housing Europe.

Yn gyntaf, os caf i gau lawr unrhyw gyhuddiad mai fy unig uchelgais i ydy i weld pawb yn byw mewn tŷ cymdeithasol—ddim o gwbl. Ystyriwch fathemateg elfennol y sector. Os ydy rhywun yn prynu tŷ ar y farchnad agored, yna mae’n debygol y byddan nhw’n gorfod cael morgais. Ar dŷ gwerth £250,000, gall rhywun fod yn talu morgais yn ôl dros chwarter canrif neu ragor, ac ar gyfraddau heddiw, yn ddibynnol ar wahanol amodau, mi fyddan nhw’n talu dros £1,300 y mis, gan ddiweddu i fyny yn talu allan tua £400,000 am y tŷ yna. A pheidiwch ag anghofio, mae’r taliadau morgais yma bron yn gyfan gwbl, 99.9 y cant, yn mynd allan o Gymru, ac mae yna hyd at £40 biliwn o forgeisi yn fyw yng Nghymru ar hyn o bryd—pres sy'n llifo allan o Gymru. Mae hynny’n lot o bres.

Mewn tŷ cymdeithasol, mi fyddai rhywun, yn lle talu £1,300 mewn morgais sy'n mynd allan o Gymru, mi fyddai rhywun yn talu £500 y mis. Mi fuasai hynny yn rhyddhau £800 yn fisol i'r teulu neu’r unigolyn yna i'w wario ar bethau eraill—diddordebau, cynilo ar gyfer taliad ar gyfer tŷ preifat eu hunain—a'r pres yna i gyd yn cael ei droi a’i gylchdroi yn yr economi leol. Mae’n gwneud synnwyr ariannol, felly, i gael tai cymdeithasol. A dyna pam fod pobl yn Awstria, yr Almaen, y Swistir, yn y gwledydd Sgandinafia ac eraill yn rhentu tai. Ond yn fwy na hyn, o rentu tŷ cymdeithasol, mae'r pres nid yn unig aros yn lleol, mae'n mynd nôl i'r stoc dai ac yn galluogi pobl i adeiladu mwy.

Ond ta waeth am hynny, at fy mhrif bwynt: dwi yn awyddus i weld uchelgais o o leiaf 30 y cant o’r stoc dai yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus. Dyma ydy’r ffigur, fel ddaru ni glywed, yn yr Iseldiroedd, ac mae’r Iseldiroedd yn wlad debyg iawn i ni mewn sawl ffordd. Yn wir, dyma oedd y ffigur yng Nghymru nôl yn y 1970au, cyn i Thatcher benderfynu gwerthu’r stoc dai gyhoeddus a chreu yr argyfwng tai presennol.

Dwi wedi cyfeirio sawl gwaith mewn trafodaethau blaenorol at Fienna fel arfer da yn y maes yma, ac mae stoc dai gyhoeddus Fienna yn 60 y cant. Ac mae'r tai yn agored i bawb—yn lawfeddygon, yn benaethiaid diwydiant, yn lanhawyr, yn yrwyr bysus. Ond nid yn unig hyn, maen nhw’n dai o’r ansawdd uchaf, yn amgylcheddol, yn economaidd, ac yn sicrhau mynediad at bethau fel trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, iechyd, hamdden a llawer iawn mwy o hanfodion bywyd.

Rŵan, rwy’n derbyn na fyddwn ni’n cyrraedd lefelau Fienna yma yng Nghymru, ddim am gyfnod beth bynnag, ond mae 30 y cant o dai o dan berchnogaeth gyhoeddus yn gyraeddadwy. O gael y lefel yma, byddwn ni’n gweld newid trawsnewidiol go iawn yn y farchnad dai, gyda lefelau digartrefedd yn disgyn a neb yn gorfod byw mewn llety dros dro. Wrth gwrs, mi fyddai’n rhaid i’r datblygiadau yma fod yn sympathetig i anghenion cymunedol ac ateb galw lleol er mwyn sicrhau fod cymunedau yn hyfyw.

Felly, dwi’n edrych ymlaen at glywed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld rhinwedd yn yr uchelgais yma, a pha gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn cynyddu’r stoc dai gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 5:08, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Ychydig wythnosau yn ôl, mynychais agoriad 18 o fflatiau carbon niwtral ar faes parcio bach iawn y tu ôl i hostel YMCA yn The Walk. Roeddent yn hyfryd, wedi'u dylunio'n hardd, yn olau iawn, gyda phob fflat yn cael ei chynhesu gan bympiau gwres o'r aer, fel y gallai tenantiaid reoli'r gwres i gyd-fynd â'u hanghenion penodol, gyda'u drws ffrynt eu hunain a gardd gymunedol braf. Rwy'n credu bod pensaer CFW Architects—Jeff Murray yw ei enw—a’r adeiladwyr a gydweithiodd yn wych ar wasgu’r manylion dylunio cain olaf o siâp a oedd yn eithaf cymhleth—maent llwyr haeddu gwobr gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a dweud y gwir. A gall unrhyw un fynd i edrych arno, gan fod caffi gan yr YMCA sy'n edrych allan ar yr adeilad newydd gwych hwn.

Dyma’r cartrefi cyntaf a adeiladwyd gan yr YMCA yng Nghaerdydd ers 1981. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn rhaid mai dyna un o’r rhesymau pam ein bod mewn sefyllfa mor anodd. A’u her fwyaf nawr yw sut ar y ddaear y maent yn mynd i annog y tenantiaid newydd hyn, yn eu llety dros dro dynodedig ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed, i symud ymlaen. Oherwydd nid oes unman yng Nghaerdydd i symud ymlaen iddo, a bod yn onest.

Sut y gallwn drethu mannau parcio ceir sy'n gysylltiedig â busnesau mewn ardaloedd fel Caerdydd lle ceir cysylltiadau trafnidiaeth da? Ni allwn fforddio caniatáu i’r lleiniau bychain hyn o dir, y gellid eu defnyddio i gartrefu pobl mewn ardal drefol fel yr un rwy'n ei chynrychioli, beidio â chael eu defnyddio ar gyfer tai, o ystyried lefel yr angen.

Felly, nid yw'r uchelgais presennol i adeiladu 20,000 o gartrefi yn y Senedd hon yn ddim ond diferyn o law yn y môr o gymharu â’r angen, ac rwy’n sylweddoli ein bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni hynny hyd yn oed. Mae Cyngor Caerdydd wedi adeiladu dros 1,600 o dai cyngor ers 2017 ac mae hwnnw’n gyflawniad da mewn ardal lle mae tir yn eithaf drud, ac mae cymdeithasau tai wedi adeiladu 500 ychwanegol o gartrefi, a’u huchelgais yw adeiladu 4,000 arall mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Ond mae'r angen yn aruthrol, ac mae'r cyngor wedi gwneud ymrwymiad enfawr i barhau â'i bolisi tai yn gyntaf. Er mwyn atal pobl rhag byw ar y stryd, maent wedi gorfod trosi’r rhan fwyaf o’r tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd, yn fy amser i fel y cynrychiolydd, yn dai dros dro, ac wrth gwrs, mae canlyniadau enfawr i’r penderfyniad hwnnw, ond rwy’n deall pam eu bod yn gwneud hynny, gan fod cost llety dros dro, mewn hosteli neu westai, y maent hefyd yn eu defnyddio, yn ddrud iawn.

Felly, rwy’n llwyr gefnogi eich cynigion ar gyfer treth ar dir gwag. Rydym am weld ‘ie’ i drethi cyngor llawer uwch ar dai sy'n wag ar ôl chwe mis, ‘ie’ i weld Banc Datblygu Cymru yn ariannu datblygiadau tai cymdeithasol yn uniongyrchol, a llawer mwy o waith yn mynd rhagddo i drosi adeiladau presennol yn gartrefi, yn enwedig uwchben siopau, fel y crybwyllwyd eisoes, ac i drosi eiddo manwerthu gwag y gellir ei drawsnewid yn ymarferol i ddarparu llety preswyl yng nghanol trefi.

Mae’r sefyllfa i bobl sy’n byw mewn llety yn y sector rhentu preifat yn gwbl enbyd, ac mae un etholwr sy’n oedolyn sengl yn ei 50au newydd gael codiad rhent o 28 y cant wedi’i orfodi arni. Nid oes unrhyw ffordd y gall fforddio prynu eiddo, ac mae'n amheus gennyf a fyddai'n bodloni’r gofynion ar gyfer bod ar y gofrestr tai. Felly, mae'n newyddion da iawn clywed bod Lee Waters yn cynnal archwiliad dwfn o sut y gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn o'r sefyllfa hon, ond mae gwir angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith, oherwydd fel arall, mae'n bwydo llawer o'r datrysiadau poblyddol a gor-syml y mae'n rhaid inni eu gwrthsefyll er lles y gymuned.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:13, 5 Chwefror 2025

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl heddiw, a hoffwn ddechrau drwy groesawu a diolch am y gwaith helaeth y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn ei ymchwiliad i dai cymdeithasol, a’r diddordeb y mae Aelodau, yn y gorffennol a’r presennol, wedi’i ddangos yn hyn ac yn y ddadl, gan gynnwys Mabon ap Gwynfor a minnau, yr oeddem ein dau yn gyn-aelodau o’r pwyllgor. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau o’r pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd, a’r holl bobl a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad.

Un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth yw cyfle i bob teulu. Gwyddom fod cyfle yn dechrau yn y cartref, ac o’r herwydd, mae sicrhau cyflenwad iach o dai cymdeithasol yn hynod bwysig, ac rwy'n croesawu'r cyfle i nodi’r hyn a wnawn i gefnogi hyn.

Yma yn y Senedd, rwy'n credu bod pob un ohonom yn cydnabod pwysigrwydd tai o ansawdd da yng Nghymru. Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd, ac yn helpu i ysgogi twf economaidd. Gall tai fforddiadwy o ansawdd da gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl hefyd a gwella canlyniadau addysgol, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiysgog ei chymorth i’r tai mwyaf fforddiadwy—tai rhent cymdeithasol.

Mae’r dystiolaeth fod angen mwy o gartrefi fforddiadwy arnom yn ddiymwad. Mae gormod o bobl yn byw mewn llety dros dro o hyd, ac mae un unigolyn sy’n cysgu allan, neu un teulu heb le i’w alw’n gartref, yn un yn ormod. A dyna pam ein bod yn canolbwyntio fel Llywodraeth ar ddarparu mwy o gartrefi ochr yn ochr â chymorth atal, gyda'r nod o wireddu ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth.

Mae ein lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yn dwyn ffrwyth. Mae tai cymdeithasol wedi derbyn dros £1.4 biliwn yn nhymor y Llywodraeth hon, ac er gwaethaf y digwyddiadau byd-eang heriol sy’n wynebu’r sector tai, mae’r sector yn parhau i ymateb i’r her. Mae’r ddarpariaeth yn parhau i fod ar y lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2007-08, gan gynnwys darparu bron i 9,000 yn rhagor o gartrefi rhent yn y sector cymdeithasol hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon. Mae ein hamcanestyniadau ar gyfer y sector yn dal i ddweud wrthym fod llif cadarn o gynlluniau i ddarparu mwy o gartrefi yn ystod tymor y Llywodraeth hon a'r nesaf, ond rwy’n ddiamynedd.

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r sector am eu hymrwymiad parhaus. Dywedais wrth yr Aelodau yn ôl ym mis Hydref fy mod wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn nodi’r uchelgais clir i wneud popeth yn ein gallu ar y cyd i ddarparu pob cartref ychwanegol sy'n bosibl. Helpodd yr ymatebion i lywio gwaith y tasglu cartrefi fforddiadwy, a hoffwn ddiolch i Lee Waters am ei rôl yn hyn o beth ac am gadeirio'r tasglu, yn ogystal â’r Aelodau yma sydd wedi bod yn cymryd rhan. Fel y dywedodd Lee, maent wedi bod yn canolbwyntio ar ddatgloi rhwystrau a chefnogi cynlluniau sy’n wynebu risgiau posibl i’w hamserlenni cyflawni.

Nododd y gwaith hwn hefyd gynlluniau a all ddechrau nawr a chyflawni erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon. Rydym yn darparu £10 miliwn ychwanegol ar gyfer y cynlluniau hyn yn 2024-25. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi 16 o gynlluniau ledled Cymru, gan alluogi'r ddarpariaeth o 238 o gartrefi na fyddent fel arall wedi cael eu darparu yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Ac rwy’n falch fod Lee wedi gallu rhoi blas o rywfaint o’r gwaith sydd wedi mynd rhagddo, ac rwy’n awyddus i weld canlyniadau’r gwaith hwnnw.

Mae’r pwyllgor, yn gywir ddigon, yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol i gyllid hirdymor. Bydd rhoi sicrwydd mwy hirdymor i'r sector yn helpu i gryfhau'r llif datblygu. Dyna pam fy mod wedi derbyn eu hargymhelliad i archwilio sut y gallwn gydymgeisio ag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru i ddarparu sefydlogrwydd ariannol mwy hirdymor. Drwy’r gyllideb ddrafft ddiweddar, rydym wedi sicrhau £81 miliwn ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb ar gyfer tai cymdeithasol i’r lefel uchaf erioed ar gyfer blwyddyn unigol: £411 miliwn ar gyfer 2025-26. Mae hon yn gyllideb gadarnhaol gyda ffocws clir ar gyflenwi tai a gwasanaethau atal.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:17, 5 Chwefror 2025

Ond, er hynny, dim ond 4.9 y cant o'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf sydd yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai ac adfywio, o dan 5 y cant o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddigon?

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur 5:18, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Diolch, Siân. Fel y dywedais, mae hwn yn ffocws gwirioneddol i ni ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu o fewn y cyllid sydd ar gael i ni. A gwyddom ein bod wedi cael arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn hon na fyddem wedi'i gael fel arall, ac rwyf wedi ceisio amlinellu sut rydym yn buddsoddi'r £10 miliwn ychwanegol y gallasom ddod o hyd iddo eleni.

Mae adeiladu cartrefi'n cymryd amser, ac mae angen y gallu ar bob landlord cymdeithasol i ddiwallu’r angen uniongyrchol am dai drwy gaffael, lle y bo’n briodol. Dyna pam y bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar draws y grant tai cymdeithasol a’r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Bydd y cyllid yn cefnogi ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent ychwanegol yn y sector cymdeithasol, yn ogystal â chwblhau cartrefi a ddechreuwyd yn 2025-26 yn nhymor nesaf y Senedd. 

Hoffwn droi yn fyr at argymhelliad 4, sydd wedi’i grybwyll ac a dderbyniais mewn egwyddor. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylem anelu at ganran uwch o dai cymdeithasol yn y stoc dai. Fodd bynnag, er ein bod yn darparu’r lefelau uchaf erioed o dai fforddiadwy, bydd cynnydd pellach i gyflymder a graddfa’r ddarpariaeth yn cymryd amser ac yn galw am ymrwymiad dros sawl tymor Llywodraeth. Ond rwyf wedi ymrwymo i gynnal dadansoddiad i ddeall y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau canran uwch ac i lywio amserlenni.

Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll argymhellion, ac efallai’n ddealladwy, wedi canolbwyntio ar y rhai sydd heb eu derbyn. Fel y dywedais, o'r 17 argymhelliad a gyflwynwyd, dim ond tri a wrthodais. Ond er fy mod wedi'u gwrthod, nid wyf yn anghytuno â rhai o’r egwyddorion a nodwyd yn yr argymhellion, gan fod yn rhaid inni wneud mwy ym mhob un o’r tri maes, ond efallai nad y dull a awgrymwyd gan y pwyllgor yw’r dull gweithredu cywir i'r Llywodraeth hon bob amser. Ond hoffwn roi sicrwydd i aelodau'r pwyllgor nad yw gwrthod yr argymhellion yn golygu ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau yn y meysydd hyn, ac rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i mi i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl i bobl Cymru.

Er fy mod yn anghytuno ag argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r angen am safon ar wahân ar gyfer caffael, rydym eisoes wedi cyflwyno hyblygrwydd sylweddol yn ein prosiectau a ariennir gan y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Byddwn yn parhau i adolygu ein safonau, gan weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn darparu'r bragmatiaeth sydd ei hangen, a bydd y cyhoeddiad cynnar ynglŷn â pharhad y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro yn cefnogi ein partneriaid i barhau â'r prosiectau o ansawdd sydd ar y gweill yn y maes hwn.

Un arall o’r argymhellion y canolbwyntiwyd arnynt oedd argymhelliad 5 a’r is-adran lle, a nodaf unwaith eto fod pethau o fewn hynny y gwelsom ein bod yn gwneud yn dda ynddynt. Mae ein cronfa datblygu tir ac adeiladau yn parhau i fod ar agor, ac rwy'n erfyn ar y sector cyhoeddus i fanteisio ar y cynllun, sydd wed'i lunio i ddefnyddio safleoedd segur ar gyfer darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy, a hyd yma, mae’r gronfa wedi gwario £37 miliwn ar 51 o brosiectau.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:21, 5 Chwefror 2025

(Cyfieithwyd)

Mae’n bryd dirwyn i ben, Ysgrifennydd y Cabinet.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dros weddill tymor y Llywodraeth hon, byddaf yn canolbwyntio fy ymdrechion ac ymdrechion fy swyddogion ar gyflawni. Mae hynny’n cynnwys darparu cartrefi a chyflawni yn erbyn yr ymrwymiadau a wnaed mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor ac Archwilio Cymru. Ac yn olaf, hoffwn ailadrodd wrth Aelodau'r Senedd fy mod wedi bod ac y byddaf yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu cartrefi sydd eu hangen yn daer yng Nghymru. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:22, 5 Chwefror 2025

Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw, Ddirprwy Lywydd, ac mae yna rai themâu cyffredin. Soniodd Laura Anne Jones, er enghraifft, am faterion sy'n codi gydag adrannau cynllunio ein hawdurdodau lleol, ac adleisiwyd hynny gan eraill, a chredaf ein bod yn gwybod bod angen cynyddu’r capasiti, ac mae hynny'n rhan sylweddol o'r gwaith o gynhyrchu’r nifer llawer mwy o dai sydd eu hangen arnom, gan gynnwys cartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu, a gwn fod camau'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y materion hynny ac i gynyddu capasiti, ac rwy'n credu bod pob un ohonom yn gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n dwyn ffrwyth cyn gynted â phosibl.

Soniodd Siân Gwenllian am y cartrefi ychwanegol y gallem eu cael, er enghraifft, ar ein strydoedd mawr, ac unwaith eto, mae honno’n thema a grybwyllwyd gan fwy nag un Aelod, ac wrth gwrs, byddai llawer o fanteision i hynny. Byddai’n helpu i adfywio canol ein trefi a’n dinasoedd, lle gwyddom fod nifer ychwanegol o ymwelwyr yn werthfawr iawn i gefnogi’r sector manwerthu, ac wrth gwrs, byddai hynny hefyd yn galw am gynyddu nifer yr eiddo un ystafell wely, sydd unwaith eto yn angen pwysig nas diwallwyd a nodir gennym yn ein hadroddiad.

Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Lee Waters, Ddirprwy Lywydd, am ddarparu diweddariad gwerthfawr iawn i’r Aelodau ar ei waith i Ysgrifennydd y Cabinet ar edrych ar ble mae’r rhwystrau, ble mae’r mannau cyfyng, sut y gellid eu goresgyn. Fel y dywedodd Lee, mae i'r gwaith hwnnw ffrâm amser eithaf cyfyng o ran adrodd ddiwedd mis Mawrth neu ym mis Ebrill, felly edrychaf ymlaen yn fawr, fel yr Aelodau eraill rwy'n siŵr, at weld y casgliadau a’r cyfraniad y gall ei wneud i gynnydd angenrheidiol.

Gwn fod cryn ddiddordeb gan Mabon mewn tai, ac roedd hynny’n amlwg iawn pan oedd yn aelod o’r pwyllgor, ac mae’n dda gweld Mabon yn parhau â’r diddordeb hwnnw ac yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Byddai’r Pwyllgor, Mabon, yn cytuno’n fawr â chi nad 20 y cant yw’r nod terfynol i'n huchelgeisiau ar gyfer y ganran o’n stoc dai gyffredinol a ddylai fod yn gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu; credaf fod 30 y cant yn strategaeth fwy hirdymor ond un y gellir ei chyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd y ffigur o 20 y cant yn cael ei gyflawni dros dymor y Senedd nesaf, felly rydym yn sôn am oddeutu pum mlynedd arall, ac os gallwn adeiladu 60,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy ychwanegol i'w rhentu dros y cyfnod hwnnw, byddai hynny’n gyfraniad mawr i'r gwaith o ddiwallu’r angen sydd gennym.

Jenny, mae bob amser yn dda pan fydd aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, fel Mabon, yn cymryd rhan mewn dadleuon ar adroddiadau pwyllgorau, felly diolch yn fawr iawn eto am eich diddordeb a'r enghraifft a roesoch o adeilad YMCA, yr wyth fflat carbon niwtral—

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Deunaw, mae'n ddrwg gennyf, o fflatiau carbon niwtral. Ni allaf ddarllen fy llawysgrifen fy hun, mae arnaf ofn. Llety dros dro, ond pwysig iawn, a gwyddom am y mater sy'n codi gyda llety dros dro’n arwain o bosibl at dai parhaol wrth inni edrych ar rai o’r safonau sy’n berthnasol.

Unwaith eto, fe sonioch chi am eiddo uwchben siopau, ac unwaith eto, mae hynny'n bwysig iawn, a hefyd, wrth gwrs, y problemau gyda'r sector rhentu preifat a'r cynnydd yn y rhent a wynebodd eich etholwr, oherwydd yr hyn a wyddom—. I ddod at gyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, rwy’n croesawu eich ymrwymiad cryf, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymgysylltu â’r pwyllgor, gan dderbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion, ac i edrych hefyd ar y rhai a wrthodwyd o ran sut i wneud cynnydd, hyd yn oed os nad yw yn y ffordd y mae’r pwyllgor yn ei awgrymu. Rydym yn croesawu hynny’n fawr.

Rwy'n credu bod ymdrech ar y cyd, onid oes, ar draws y Senedd a chyda Llywodraeth Cymru i weld cartrefi cymdeithasol fforddiadwy ychwanegol yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Yr hyn sydd wrth wraidd y cyfan, gan ddychwelyd at yr hyn y soniodd Jenny amdano a'r enghraifft a roddodd o’r sector rhentu preifat, yw y gall y cartrefi cymdeithasol fforddiadwy hyn i'w rhentu ddarparu llawer mwy o’r cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy y gwyddom fod eu hangen yn daer ar bobl yng Nghymru. Felly, byddwn yn dweud bod hwn yn adroddiad pwysig iawn gan y pwyllgor, ac yn un y gobeithiaf y bydd yn arwain at y math o gamau gweithredu y mae pob un ohonom yn dymuno eu gweld. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:27, 5 Chwefror 2025

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.

cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.