– Senedd Cymru am 6:33 pm ar 29 Ionawr 2025.
Mae'r pleidleisiau cyntaf heddiw ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflogaeth. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Gwelliant 1 fydd nesaf, felly. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna ar welliant 1 wedi pasio.
Gwelliant 2 nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 13 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Gwelliant 3 fydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Mae'r bleidlais olaf ar yr eitem yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8803 fel y diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.
3. Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;
4. Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
5. Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.
6. Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:
a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;
b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;
c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a
d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yma yn gyfartal: 26 o blaid, 26 yn erbyn. Byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Ac felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod.
Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar Brexit a'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn dyfodol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, un yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Pleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwellant yna wedi'i gymeradwyo.
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8804 fel y diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodraeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw.