5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 21 Ionawr 2025.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 5:02, 21 Ionawr 2025

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, bydd y ganolfan iechyd 19 Hills sydd newydd ei hagor yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd yn darparu ystod o wasanaethau cynradd a chymunedol a ddarperir gan ymarferwyr cyffredinol ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae'n gwasanaethu nifer o gymunedau cymharol ddifreintiedig lle mae'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol iawn, gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal iechyd yn llai tebygol o'i gael. Tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r ganolfan iechyd 19 Hills i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol mewn mynediad at ofal iechyd gan y rhai yn y gymuned sydd angen y gwasanaethau hynny yn ddirfawr ond nad ydynt yn eu derbyn ar hyn o bryd, i sicrhau bod potensial tynnu'r gwasanaethau hyn o'r sector acíwt i ofal sylfaenol ac i leoliad cymunedol yn cael ei wireddu'n llawn.