Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 21 Ionawr 2025.
Yr allwedd yno yw'r ffaith bod Nia yn gweithio mewn practis sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, yn hytrach nag un sy'n cael ei reoli gan bractis meddyg teulu. Yn amlwg, mae yna wahanol ffyrdd y mae angen i ni edrych ar y contract meddygon teulu i gael gwasanaeth mwy cyfannol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar bobl mewn gofal sylfaenol.