5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 21 Ionawr 2025.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:38, 21 Ionawr 2025

Mae gofal sylfaenol yn gyfrifol am dros 90 y cant o gysylltiad cleifion â'r system iechyd, ond eto mae’n parhau i gael ei dangyllido, ac mae'r canran o arian sy’n mynd at ofal sylfaenol wedi crebachu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, mae hyn yn cael ei amlygu yn y ffaith bod dros 600 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd yr OECD yma yng Nghymru, heb unrhyw arwydd bod hyn am gael ei unioni. Yn wir, collodd yr NHS yng Nghymru 51 o feddygon teulu rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024 yn unig.

Rŵan, dydy cywiro'r camau yma ddim am fod yn hawdd nac am ddigwydd dros nos, ond dyma rai mesurau tymor byr, wedi’u llywio gan ein trafodaethau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, a allai leddfu rhai o’r pwysau mwyaf uniongyrchol. Yn gyntaf, nodwyd bod diffyg argaeledd y gallu i archebu apwyntiad ar-lein mewn practisau yng Nghymru yn rhwystr arbennig i gael trefn apwyntiadau mwy effeithiol. A allai'r Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau a ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried neilltuo cyllid penodol i gefnogi costau cyflwyno systemau apwyntio ar-lein ar raddfa ehangach? Mae gan systemau ymgynghori fideo, megis system Babylon, botensial sylweddol i feithrin mwy o hyblygrwydd mewn cyswllt staff a chleifion, ond mae’n amlwg nad yw’n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yma, yn enwedig o'i gymharu â phractisau meddygon teulu yn Lloegr. Pam? Pa fesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg o’r fath?

Mae gan nyrsys ymgynghorol rôl i’w chwarae, ond ers i’r Llywodraeth dynnu ariannu tuag at y rôl yma nôl yn 2008 mae eu niferoedd nhw wedi disgyn. Oes bwriad ailgyflwyno cyllideb er mwyn cyflogi mwy, neu o leiaf er mwyn creu llwybr gyrfa ar gyfer nyrsys ymgynghorol a datblygu sgiliau'r nyrsys yma yng Nghymru?

Yn olaf, mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi galw am uwchraddio rolau llywyddion gofal neu care navigators i wella dealltwriaeth cleifion o'r broses brysbennu, er mwyn sicrhau nad yw amser yn cael ei wastraffu wrth ailgyfeirio cleifion i'r lefel briodol o ofal. Ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yng nghynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer gofal sylfaenol?

Gan droi at fater gofal cymunedol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn amlwg yn elfen bwysig o gyflawni yng nghyd-destun y gronfa integreiddio ranbarthol a'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach, y rhaglen Further, Faster. Ond mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym ni fod cylchoedd gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol yma yn rhy aneglur ac nad ydyn nhw’n llwyddo i feithrin cydweithio ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rŵan, mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes angen deddfwriaeth i osod y byrddau yma ar sylfaen statudol gan y gall cyfarwyddyd gweinidogol orfodi cydweithio rhanbarthol mwy systematig beth bynnag. Felly, gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pam nad yw’r cyfeiriad gweinidogol yn gweithio, neu o leiaf ddim hyd yma? 

Mae'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach hefyd yn nodi yr angen i ymgysylltu â'r trydydd sector i gynyddu nifer y cydlynwyr cymunedol a'r opsiynau atgyfeirio. Ond mae'n anochel y bydd yr uchelgais hwn yn cael ei danseilio'n llwyr gan benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb unrhyw warant o ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer sefydliadau trydydd sector a phractisau meddygon teulu. Mae cangen Cymru o Marie Curie, er enghraifft, sy'n bartner allweddol yn y ddarpariaeth o ofal lliniarol, yn edrych ar gynnydd o dros £0.25 miliwn yn y flwyddyn nesaf ac mae elusen Tenovus mewn sefyllfa tebyg iawn. Mae’r BMA hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd y bydd meddygfeydd teulu’n cau o ganlyniad i’r mesurau hyn, sydd ddim yn syndod o gwbl pan ystyriwn ni fod meddygfa fel Meddygfa Treflan yn fy etholaeth i yn wynebu £19,000 ychwanegol mewn costau.

Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder, eglurder y mae dirfawr ei angen er mwyn i'r sefydliadau hyn oroesi yn ystod y cyfnod heriol yma, tybed a all y Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau gyfanswm y costau ychwanegol y mae sefydliadau trydydd sector a meddygon teulu perthnasol yn disgwyl eu talu. Diolch.