– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 21 Ionawr 2025.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gofal sylfaenol yn greiddiol i'r gwasanaeth iechyd. Dyma sut mae'r mwyafrif ohonon ni'n dod i gysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd. Os oes angen gofal mwy arbenigol arnon ni, mae'n agor y drws i'r gwasanaethau hynny. Heddiw, mae gweithwyr gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl nag erioed. Maen nhw'n darparu ystod ehangach o wasanaethau, sy'n golygu bod mwy o ofal ar gael i bobl yn agosach at eu cartrefi, ac yn gyflymach. Rŷn ni'n buddsoddi yn sgiliau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn ehangu cwmpas yr ymarfer ym maes gofal sylfaenol. Rŷn ni'n ariannu cymwysterau i helpu i ddarparu llwybrau clinigol newydd ym maes optometreg. Rŷn ni'n gwneud newidiadau deddfwriaethol i alluogi technegwyr fferyllol i ddarparu gwasanaethau clinigol. Rŷn ni hefyd wedi datrys y mater rheoleiddio oedd yn atal therapyddion a hylenyddion deintyddol rhag gallu rhoi triniaethau yn annibynnol. Mae'r newidiadau yma nid yn unig yn gwneud y proffesiynau hyn yn fwy deniadol, ond maen nhw hefyd yn galluogi'r gweithlu i ddarparu mwy o wasanaethau.
Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i ofal sylfaenol yng Nghymru, ym meysydd optometreg, fferylliaeth, deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau meddygon teulu. Ein bwriad yw parhau i wneud newidiadau o'r fath. Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd ymhob un o'r meysydd hyn.
Mae'r maes optometreg wedi cael ei ddiwygio yn sylweddol erbyn hyn. Mae newidiadau i'r contract wedi ehangu cwmpas y gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned. Bellach mae optometryddion ar y stryd fawr yn gallu rheoli, monitro a thrin nifer cynyddol o gyflyrrau llygaid, gan ddarparu gofal amserol yn agosach at y cartref. Mae hyn wedi lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai. Mae dros 2,000 o ymgynghoriadau y mis yn cael eu cynnal gan optometryddion presgripsiynu annibynnol yn y gymuned.
Mae diwygiadau cytundebol hefyd yn trawsnewid fferylliaeth gymunedol. Gwnes i gychwyn y diwrnod heddiw mewn fferyllfa ar y stryd fawr yn y Barri, a diolch i Gwawr Elis Jones a'r tîm am eu croeso. Mae £9.9 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu fel rhan o fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol eleni. Mae hyn yn gynnydd o 24 y cant yn y cyllid ers 2016-17. Bellach mae 99 y cant o fferyllfeydd yn rhoi triniaeth am ddim ar gyfer 28 o gyflyrau drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin: poen yn y cefn, yn y llwnc—edrychwch arlein am y rhestr ehangach o'r rheini.
Dirprwy Lywydd, cafodd dros 400,000 o bobl eu gweld a'u trin gan y gwasanaeth y llynedd. Dywedodd wyth o bob 10 o bobl y bydden nhw wedi mynd i rywle arall am help pe bai'r gwasanaeth yma ddim ar gael. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwasanaeth presgripsiynu mewn fferyllfeydd cymunedol sy'n cael ei gomisiynu'n genedlaethol.
Gall fferyllwyr hyfforddedig drin ystod ehangach o gyflyrau, fel heintiau'r glust, y trwyn a'r gwddf, heb fod angen ymweliad meddyg teulu. Ers ei lansio yn 2020, mae tua thraean o fferyllfeydd wedi mabwysiadu'r gwasanaeth rhagnodi annibynnol hwn. Cafwyd mwy na 0.25 miliwn o ymgynghoriadau. Mae'r ddau wasanaeth fferylliaeth hyn yn darparu mynediad cyflym a chyfleus i ofal ar gyfer ystod eang o fân afiechydon heb fod angen apwyntiad meddyg teulu, gan gefnogi gwasanaethau meddygon teulu i weld pobl ag anghenion iechyd mwy cymhleth.
Dirprwy Lywydd, rwy'n troi yn awr at ddeintyddiaeth y GIG. Mae'r amrywiad a wnaethom i'r contract presennol, sy'n canolbwyntio ar atal a thrin pobl ar sail risg ac anghenion, yn golygu bod mwy na 420,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers mis Ebrill 2022. Mae dros 142,000 yn fwy o bobl wedi derbyn gofal brys hefyd. Nid yw'r trefniadau hyn yn berffaith, ond maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ers dechrau'r pandemig.
Rydym yn canolbwyntio ar gontract deintyddol newydd, a fydd yn gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddeniadol i'r proffesiwn ac yn decach i gleifion. Rydym yn disgwyl ymgynghori ar y contract deintyddol newydd yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, rydym yn gweithredu cynnydd o 6 y cant i'r contract. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu hyn, ac rwy'n bwriadu cael y contract ar waith yn gynnar yn 2026.
Rhan olaf y darlun gofal sylfaenol, a'r rhan fwyaf cyfarwydd efallai, yw ymarfer cyffredinol. Mae practisau meddygon teulu yn darparu 1.6 miliwn o apwyntiadau bob mis. Mae hynny'n cyfateb i weld hanner poblogaeth Cymru. Rydym wedi negodi diwygiadau helaeth i ymarfer cyffredinol i wella mynediad dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym newydd ailddechrau trafodaethau gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n ofynnol i bractisau weithredu systemau trin galwadau priodol i reoli'r nifer uchel o alwadau ac osgoi dychwelyd galwadau di-ri. Mae'n ofynnol iddynt gynnig ffordd ddigidol i bobl ofyn am ymgynghoriadau nad ydynt yn rhai brys a sicrhau bod mynediad ffisegol rhwng 8.30 yn y bore a 6 p.m. bob diwrnod gwaith.
Er gwaethaf y newidiadau hyn ac ymdrechion parhaus timau ymarfer gweithgar, gwn y gall pobl deimlo'n rhwystredig pan fyddant yn teimlo na allant gysylltu â'u practis neu'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiad, ond mae gwasanaethau gofal sylfaenol eraill a all helpu, fel fferyllfeydd, fel mai dim ond y rhai hynny sydd angen apwyntiad meddyg teulu sy'n ceisio apwyntiad meddyg teulu. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hynny. Nid oes rhaid i'r feddygfa fod yr unig opsiwn, ac nid dyma'r opsiwn mwyaf priodol bob amser.
Rwyf eisiau defnyddio gweddill y datganiad, Dirprwy Lywydd, i siarad am y newidiadau rydym wedi'u gwneud i wella mynediad at wasanaethau cymunedol, sy'n chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref.
O fis Ebrill 2023 fe wnaethom ddarparu £5 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd i fyrddau iechyd i ehangu gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol. Mae hyn wedi creu mwy na 100 o swyddi newydd, gan gynnwys ffisiotherapyddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, podiatryddion ac ystod o staff cymorth. Ac mae nifer y nyrsys ardal wedi cynyddu 49 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ers mis Tachwedd 2023. Mae hyn, yn ei dro, wedi cynyddu gwaith dros y penwythnos. Mae'r staff newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae amseroedd aros troed ddiabetig frys wedi lleihau o bedair wythnos i 48 awr gan ddefnyddio gwasanaethau podiatrydd. Mewn un mis yn unig, helpodd gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd estynedig Bae Abertawe 240 o oedolion hŷn trwy ymyrraeth gynnar, rheoli cydafiachedd cymhleth a chymorth diwedd oes, gan atal 110 o dderbyniadau i'r ysbyty. Ac mae rhaglen rhagsefydlu orthopedig Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi pobl sy'n aros am lawdriniaeth ar y glun a'r pen-glin trwy ymarfer corff a chefnogaeth gan gymheiriaid, wedi adrodd am ganlyniadau ôl-lawdriniaeth sylweddol ac enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o £2.86 am bob £1 sy'n cael ei gwario.
Dirprwy Lywydd, rwy'n glir mai parhau i fuddsoddi a diwygio gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yw'r peth iawn i'w wneud i'r cyhoedd ac i'r GIG ehangach. Un o fy mhrif flaenoriaethau yn fframwaith cynllunio'r GIG 2025-2028, a gyhoeddais cyn y Nadolig, yw meithrin capasiti yn y gymuned. Rwy'n disgwyl i gynlluniau lleol ddangos camau i barhau i wella mynediad at y gofal cywir, gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir, ym mhob cymuned ledled Cymru. Ond wrth i ni barhau i wneud newidiadau i wella gwasanaethau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod mynediad yn hawdd ac yn gyson ledled Cymru fel bod pobl yn deall i ble y gallant fynd i gael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac yn bwysig, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae eu hymrwymiad a'u cydnerthedd parhaus wedi bod yn gwbl allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau yn barhaus i wella mynediad a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a hoffwn hefyd ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n gweithio ym maes gofal cymunedol a gofal sylfaenol, ar hyd a lled Cymru.
Ysgrifennydd Cabinet, o ran y £5 miliwn o gyllid cylchol ar gyfer gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, byddai'n ddiddorol gwybod gennych sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu ar draws byrddau iechyd ledled Cymru, a sut mae Llywodraeth Cymru yn olrhain hynny i fesur ar gyflawnadwyedd ar draws y gwasanaeth. Nododd y datganiad fod gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn rheoli mwy o lwyth cleifion ac yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau yn nes at adref. Eto i gyd, mae'r data o ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn datgelu tueddiadau pryderus. Ar 31 Mawrth y llynedd, gostyngodd nifer y meddygfeydd yng Nghymru o 474 i lawr i 374—gostyngiad o 100 o feddygfeydd—ac mae nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng 25 y cant ers 2012, gyda gostyngiad pellach o 3.8 y cant ers sefydlu'r ymgyrch yn 2023. Felly, o ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael nifer y meddygfeydd teulu sy'n lleihau i'r gymhareb claf/meddyg teulu sy'n cynyddu, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gofal effeithlon hwnnw ar draws Cymru? Oherwydd, rydyn ni wedi clywed enghreifftiau, onid ydyn ni, gan Aelodau? Rwy'n meddwl am Alun Davies, i fyny ym Mlaenau Gwent, am bractis eHarleyStreet, am nifer y bobl yno yn gweld nifer y meddygon teulu sydd ar gael.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i uwchsgilio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ganmoladwy iawn. Fodd bynnag, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi tynnu sylw at rai heriau sylweddol ac, yn 2024, dywedodd bron i 20 y cant o feddygon teulu eu bod yn teimlo dan straen ac nad oeddent yn gallu ymdopi â'r rhan fwyaf o ddyddiau, a bod dros 40 y cant yn profi teimladau o'r fath o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ac mae mwy na 40 y cant o feddygon teulu yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Gan nodi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'r straen fel ffactorau sylfaenol. O ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i er mwyn gwella llesiant meddygon teulu a'u cadw, i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant, a'i fod yn trosi i ofal cleifion parhaus ledled Cymru?
Fe sonioch chi am wasanaethau optometreg a fferylliaeth, ac mae ehangu'r gwasanaethau hynny yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar ymwybyddiaeth a hygyrchedd i'r cyhoedd, onid ydyw? Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dangosfwrdd clystyrau gofal sylfaenol newydd ym mis Medi'r llynedd i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dangosfwrdd hwn i hyrwyddo a monitro effeithiolrwydd gwasanaethau optometreg a fferylliaeth estynedig i sicrhau bod mynediad teg i bob cymuned? Ac fel y dywedais i, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Nid yw llawer o bobl rwy'n siarad â nhw yn gwybod am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin, ac mewn gwirionedd gallant fynd at eu fferyllfeydd i gael trafod y cyflyrau hyn mewn gwirionedd—fel y dywedais i, dolur gwddf a gwahanol bethau, heintiau'r frest, er enghraifft—felly mae'n dda gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hynny ar draws y system.
Fe grybwyllodd y datganiad ddeintyddiaeth. Er bod y datganiad yn nodi bod dros 420,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ddeintyddol lawn ers mis Ebrill 2022, mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn parhau i fod yn bryder. Pwysleisiodd maniffesto etholiad cyffredinol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol 2024 yr angen am opsiynau gyrfa cynaliadwy ym maes deintyddiaeth y GIG. Felly, pa strategaethau sy'n cael eu gweithredu i sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn ddewis gyrfa deniadol a chynaliadwy? Oherwydd, mae llawer o'r deintyddion yr wyf i'n siarad â nhw yn dweud na allant fforddio parhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud nawr. Ac fe ddywedoch chi am y diwygiadau contract sy'n dod i rym, yr ydych yn gobeithio y byddant ar waith erbyn diwedd 2026. Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers 2021. Gwnaeth y Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan, ddatganiad ar hyn yn 2021, gan ddweud ei fod yn mynd i gael ei gwblhau yn fuan iawn, felly hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r deintyddion ledled y wlad y bydd hyn yn cael sylw. A hefyd ar ddeintyddiaeth hefyd, mae pryder cynyddol am bydredd deintyddol ymhlith plant ifanc ledled y wlad; mae 32.4 y cant o blant yng Nghymru yn arddangos pydredd deintyddol, o'i gymharu â 23.7 y cant yn Lloegr, felly hoffwn wybod beth arall rydych chi'n ei wneud i wella mynediad i wasanaethau plant i ddeintyddion hefyd.
Felly, rwyf eisiau sôn ychydig mwy am wasanaethau gofal cymunedol. Mae ychwanegu dros 100 o swyddi proffesiynol perthynol i iechyd a'r 49 nyrs ardal amser llawn yn galonogol, ac rwyf am dalu teyrnged i rôl ein nyrsys ardal. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ar draws ein cymunedau. Fodd bynnag, mae cynllun gweithlu strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn amlygu'r angen am sefydlogrwydd parhaus y gweithlu, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu gofal cymunedol i ateb gofynion iechyd y dyfodol ledled Cymru. Ac mae'r datganiad yn pwysleisio'r angen am fynediad cyson ar draws Cymru. Nod cyflwyno'r dangosfwrdd clwstwr gofal sylfaenol oedd mynd i'r afael â hynny, fel y soniais i yn gynharach. Felly, rwyf am bwysleisio i chi, Ysgrifennydd Cabinet—. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru—boed hynny yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin—yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau fferylliaeth hynny, pan nad ydym wedi gweld pawb yn rhagnodwyr annibynnol? A byddai'n ddiddorol gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud ynghylch hynny hefyd. Diolch, Llywydd—Dirprwy Lywydd.
Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau; fe wnaf fy ngorau i ateb o leiaf y rhai allweddol. O ran y £5 miliwn, dyrannwyd y rheini i ehangu'r gweithlu ledled Cymru o ran gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei weld mewn gwirionedd yw'r lefel uchaf erioed o gyllid a ddyrannwyd i gefnogi nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithlu'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac mae hynny ledled Cymru. Crybwyllais y datblygiadau ym myrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ym myrddau iechyd Bae Abertawe, ond gallwn fod wedi cyfeirio at yr ymarferwyr eiddilwch ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, rwy'n siŵr y bydd ganddo ddiddordeb ynddynt, neu'r gwaith y mae Caerdydd a'r Fro yn ei wneud mewn perthynas â'r rhaglen orthopedig; soniais am honno yn fy natganiad. Ond hefyd mae Hywel Dda wedi lansio gwasanaeth strôc cymunedol integredig, sy'n lleihau amseroedd aros mewn ysbytai. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd, ar draws Cymru, ym mhob un o'r byrddau iechyd, lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n dda a chynhyrchiol iawn, a chael canlyniadau amlwg, effeithiau amlwg ar ganlyniadau cleifion, sy'n amlwg yn fesur llwyddiant mewn perthynas â'r buddsoddiad hwnnw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig mewn perthynas â'r pwysau ar feddygfeydd. Rwy'n credu bod byrdwn fy natganiad yn ymwneud â thynnu sylw at yr ystod o ffyrdd eraill y gall pobl gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, sy'n cael dwy effaith: un yw lleihau'r galw ar wasanaethau meddygon teulu, a hefyd sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn y ffordd fwyaf cyfleus posibl. Felly, mae ganddo'r ddau fudd hynny, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig bod pobl yn parhau i wneud y dewisiadau hynny. Rydym yn gweld galw cynyddol am wasanaethau meddygon teulu. Lle mae'r galw hwnnw'n gallu cael ei fodloni'n well mewn mannau eraill, a dweud y gwir dylem fod yn chwilio am y dewisiadau amgen hynny. Felly, dylai fod yn fwy cyfleus i ni, ond dylem hefyd fod yn gwneud hynny'n rhagweithiol. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gall rhywun sicrhau bod y cyhoedd yn deall ystod y gwasanaethau hynny, ac, ar un ystyr, yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau newid mewn cenhedlaeth o ran mynediad pobl at ofal iechyd. Bydd hyn yn cymryd blynyddoedd, rwy'n credu, i'w wreiddio, fel ffordd o ddeall sut y gall y gwasanaeth iechyd ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnom.
Roeddwn mewn fferyllfa, fel y soniais i yn fy natganiad y bore yma, ac yn trafod yn helaeth iawn gyda'r fferyllydd yno y strategaethau yr oeddent wedi'u defnyddio i weithio gyda meddygfeydd lleol i dynnu sylw at yr ystod o ddewisiadau amgen. Felly, os bydd rhywun yn galw ac yn gofyn am feddyg teulu, mae yna sgwrs sy'n dweud, 'Wel, ydych chi wedi rhoi cynnig ar eich fferyllydd lleol? Mae'n fferyllfa ragnodi, felly byddwch yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch yno.' Felly, mae'n sicrhau bod hynny'n rhan o'r drafodaeth drwy feddygfeydd, ond hefyd o ran ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus a hefyd y gwaith y mae fferyllfeydd eu hunain yn ei wneud i hyrwyddo'r ystod gynyddol o wasanaethau y gallant eu darparu. Mae hefyd yn wybodaeth sydd ar gael drwy GIG 111, dros y ffôn ac ar-lein, felly rwy'n annog Aelodau i gyfeirio eu hetholwyr at y gwasanaethau hynny, a gallwn ni i gyd chwarae rhan, rwy'n credu, i annog pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny.
Gofynnodd gyfres o gwestiynau mewn perthynas â mynediad at ddeintyddiaeth. Mae negodi contract yn ymarfer ar gyfer dau barti; nid yw'n gwbl o fewn pŵerau'r Llywodraeth. Felly, mae'r pethau hyn weithiau'n cymryd mwy o amser na, a dweud y gwir, y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod nifer o ddiwygiadau wedi bod i'r contract presennol, ac rydym wedi bod mewn cyfnod o amrywiad blynyddol, ac, er bod pob un o'r rheini wedi ceisio adlewyrchu canlyniad a dealltwriaeth sy'n dod i'r amlwg o newidiadau yn y galw, ac, yn amlwg, mae bwlch yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau'r GIG, yr ydym yn amlwg yn gwybod amdano ac wedi ei drafod yn y Siambr hon lawer gwaith, rwy'n derbyn hefyd nad yw cael set flynyddol o amrywiadau yn darparu'r platfform sefydlog hwnnw sy'n bwysig ar gyfer cydnerthedd arferion ac am ein gallu i ddisgrifio gyda hyder ac mewn ffordd ddeniadol sut mae practis deintyddol yn edrych. Felly, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y pwynt pryd y bydd gennym y contract newydd hwnnw ar waith, a fydd yn llwyfan newydd i wneud deintyddiaeth, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn decach i gleifion ac yn fwy deniadol i'r proffesiwn. Gallaf ddweud, fel y gwnes i yn fy natganiad, ein bod ni'n disgwyl ymgynghori ar hynny yn y gwanwyn, a byddwn ni'n gweld beth mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn eu dweud. Mae'n amlwg yn gontract a drafodwyd gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, a fy nisgwyliad i yw y bydd hynny ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn nesaf, felly gwanwyn y flwyddyn nesaf, fan bellaf. A'r hyn rydw i wedi'i glywed hefyd, wrth siarad â deintyddion, yw eu bod nhw'n gwerthfawrogi ychydig mwy o amser paratoi pan fydd newidiadau i gontractau, fel y gallant wneud yr addasiadau angenrheidiol i'w practis.
Yn olaf, gwnaeth yr Aelod bwynt am iechyd deintyddol plant, ac, yn benodol, mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud wedi rhyddhau capasiti apwyntiadau ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc, a gwn y byddwch yn falch o glywed ein bod yn parhau i fuddsoddi, er enghraifft, yn ein rhaglen Cynllun Gwên, y soniodd y Prif Weinidog amdani yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach; mae 60,000 o blant wedi elwa ar y cynllun hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; hyfforddwyd 5,000 o athrawon a chynorthwywyr addysgu i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Felly, mae honno'n rhaglen lwyddiannus, ac rydym yn gwybod ei bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae gofal sylfaenol yn gyfrifol am dros 90 y cant o gysylltiad cleifion â'r system iechyd, ond eto mae’n parhau i gael ei dangyllido, ac mae'r canran o arian sy’n mynd at ofal sylfaenol wedi crebachu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, mae hyn yn cael ei amlygu yn y ffaith bod dros 600 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd yr OECD yma yng Nghymru, heb unrhyw arwydd bod hyn am gael ei unioni. Yn wir, collodd yr NHS yng Nghymru 51 o feddygon teulu rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024 yn unig.
Rŵan, dydy cywiro'r camau yma ddim am fod yn hawdd nac am ddigwydd dros nos, ond dyma rai mesurau tymor byr, wedi’u llywio gan ein trafodaethau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, a allai leddfu rhai o’r pwysau mwyaf uniongyrchol. Yn gyntaf, nodwyd bod diffyg argaeledd y gallu i archebu apwyntiad ar-lein mewn practisau yng Nghymru yn rhwystr arbennig i gael trefn apwyntiadau mwy effeithiol. A allai'r Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau a ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried neilltuo cyllid penodol i gefnogi costau cyflwyno systemau apwyntio ar-lein ar raddfa ehangach? Mae gan systemau ymgynghori fideo, megis system Babylon, botensial sylweddol i feithrin mwy o hyblygrwydd mewn cyswllt staff a chleifion, ond mae’n amlwg nad yw’n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yma, yn enwedig o'i gymharu â phractisau meddygon teulu yn Lloegr. Pam? Pa fesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg o’r fath?
Mae gan nyrsys ymgynghorol rôl i’w chwarae, ond ers i’r Llywodraeth dynnu ariannu tuag at y rôl yma nôl yn 2008 mae eu niferoedd nhw wedi disgyn. Oes bwriad ailgyflwyno cyllideb er mwyn cyflogi mwy, neu o leiaf er mwyn creu llwybr gyrfa ar gyfer nyrsys ymgynghorol a datblygu sgiliau'r nyrsys yma yng Nghymru?
Yn olaf, mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi galw am uwchraddio rolau llywyddion gofal neu care navigators i wella dealltwriaeth cleifion o'r broses brysbennu, er mwyn sicrhau nad yw amser yn cael ei wastraffu wrth ailgyfeirio cleifion i'r lefel briodol o ofal. Ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yng nghynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer gofal sylfaenol?
Gan droi at fater gofal cymunedol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn amlwg yn elfen bwysig o gyflawni yng nghyd-destun y gronfa integreiddio ranbarthol a'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach, y rhaglen Further, Faster. Ond mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym ni fod cylchoedd gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol yma yn rhy aneglur ac nad ydyn nhw’n llwyddo i feithrin cydweithio ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rŵan, mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes angen deddfwriaeth i osod y byrddau yma ar sylfaen statudol gan y gall cyfarwyddyd gweinidogol orfodi cydweithio rhanbarthol mwy systematig beth bynnag. Felly, gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pam nad yw’r cyfeiriad gweinidogol yn gweithio, neu o leiaf ddim hyd yma?
Mae'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach hefyd yn nodi yr angen i ymgysylltu â'r trydydd sector i gynyddu nifer y cydlynwyr cymunedol a'r opsiynau atgyfeirio. Ond mae'n anochel y bydd yr uchelgais hwn yn cael ei danseilio'n llwyr gan benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb unrhyw warant o ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer sefydliadau trydydd sector a phractisau meddygon teulu. Mae cangen Cymru o Marie Curie, er enghraifft, sy'n bartner allweddol yn y ddarpariaeth o ofal lliniarol, yn edrych ar gynnydd o dros £0.25 miliwn yn y flwyddyn nesaf ac mae elusen Tenovus mewn sefyllfa tebyg iawn. Mae’r BMA hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd y bydd meddygfeydd teulu’n cau o ganlyniad i’r mesurau hyn, sydd ddim yn syndod o gwbl pan ystyriwn ni fod meddygfa fel Meddygfa Treflan yn fy etholaeth i yn wynebu £19,000 ychwanegol mewn costau.
Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder, eglurder y mae dirfawr ei angen er mwyn i'r sefydliadau hyn oroesi yn ystod y cyfnod heriol yma, tybed a all y Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau gyfanswm y costau ychwanegol y mae sefydliadau trydydd sector a meddygon teulu perthnasol yn disgwyl eu talu. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran yr impact o ran taliadau, mae’r gwaith hwnnw yn dal yn mynd yn ei flaen. Wrth gwrs, allaf i ddim sôn am gefnogaeth ariannol benodol i feddygon teulu ar hyn o bryd. Rŷn ni yng nghanol, fel gwnes i sôn yn y datganiad, ein trafodaethau pellach gyda nhw o ran y contract, felly. Ond mae’r pethau yma’n cael eu trafod yn gyson rhyngom ni â’r meddygon teulu ar hyn o bryd, fel byddai’r Aelod yn ei ddisgwyl.
Gwnaeth e bwynt pwysig ynglŷn â safonau ar-lein i alluogi pobl i gael mynediad hafal at apwyntiadau trwy’r safonau priodol. Rwy’n credu pan welwn ni lansiad ap y gwasanaeth iechyd bydd hyn yn cryfhau’r cynnig, os hoffwch chi, a’r cyfle i bobl allu gweithredu ar-lein trwy greu apwyntiadau. Rŷn ni wedi darparu cyllideb er mwyn sicrhau helaethu mynediad hafal o ryw £12 miliwn, rwy’n credu, fel rwy’n cofio, tuag at hynny, ac mae hynny’n cael ei weithredu gan fyrddau iechyd, yn gweithio ar y cyd gyda meddygon teulu.
Rydym ni wedi, fel gwnes i sôn yn fy natganiad, blaenoriaethu buddsoddiad mewn nyrsio cymunedol, ac mae hynny wedi dwyn ffrwyth o ran cynnydd yn y niferoedd sydd ar gael. Wrth gwrs, mae angen mwy o hynny arnom ni, ond y nod sydd gyda ni yw sicrhau bod darpariaeth nyrsio yn gallu sicrhau ar y penwythnos rhyw 80 y cant o’r hyn sydd ar gael yn ystod yr wythnos. Dŷn ni ddim wedi cyrraedd y nod hwnnw eto, ond dyna’r gwaith sydd wrthi ar hyn o bryd, ond mae’r niferoedd wedi eu cynyddu.
Gwnaeth yr Aelod yr un pwynt, rwyf i’n credu, y gwnaethon ni ei drafod wythnos diwethaf o ran Further, Faster, ac rwy’n credu mai her yr Aelod yw bod angen dodi’r RPBs ar sail statudol fel bod y rheini'n gallu sicrhau cydweithio, ond nid dyna yw swyddogaeth yr RPBs; nid byrddau ydyn nhw ar gyfer delifro, byrddau ydyn nhw ar gyfer cydlynu gwaith dau gorff sydd eisoes yn statudol ac sydd eisoes â chyfrifoldebau sylfaenol mewn statud ac mewn cyfrifoldebau eraill. Felly, dwi fy hun ddim yn credu mai creu strwythur statudol arall, eto fyth, o ran ein cenedl or-gymhleth, yw'r ateb i hyn; rwy'n credu mai gwell cydweithio yw'r ateb.
Fe wnaeth yr Aelod roi her arall i fi, lle mae enghraifft o weithgaredd o ran gorchymyn gweinidogol wedi gweithio. Wel, fe wnaeth y Prif Weinidog, pan oedd hi'n Weinidog iechyd, roi gorchymyn i fyrddau iechyd Hywel Dda a bae Abertawe i greu bwrdd ar y cyd i gydweithio o ran darparu gwasanaethau ar y cyd, ac mae hynny wedi gweithio; rŷn ni'n gweld ffrwyth hynny'n digwydd yn barod o ran gwaith orthopedig, ond mewn ffyrdd eraill hefyd. Felly, mae ein system ni wedi'i strwythuro i ddatganoli pwerau gweithredol, fel mae'r Aelod yn gwybod, i'r byrddau iechyd, a hynny ar y cyfan yw'r ffordd iawn o wneud pethau. Mae'n her benodol, rwy'n credu, i greu cydweithio rhanbarthol; dŷn ni ddim wedi gwneud cymaint o hynny ag y dylem ni fod wedi, felly dyna'r neges dwi wedi ei rhoi i'r sector yn gyffredinol: os na welwn ni fwy o hynny'n digwydd, byddaf yn barod i barhau i ddefnyddio'r pwerau gweinidogol hynny i sicrhau bod hynny'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi ddim fy hun yn credu bod creu corff statudol yn mynd i fod yn fwy effeithiol na'r gallu i orchymyn cyrff sydd eisoes yn bodoli i gymryd camau penodol.
Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd Cabinet.
Rwy'n croesawu pwyslais y datganiad ar ofal sylfaenol fel prif bwynt cyswllt y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gael gyda gwasanaethau gofal iechyd, a dyna pam, yn amlwg, mae ei gefnogi a buddsoddi ynddo a'i ategu mor bwysig. Rwyf wedi codi yma, gyda chi o'r blaen, ganfyddiadau fy arolwg iechyd diweddar yn fy etholaeth i, ac roedd llawer o'r pwyntiau a godwyd yno ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu neu gysylltu â nhw neu fethu cael apwyntiad. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud ac rwy'n falch, er eich bod wedi cyfeirio'n briodol at y newidiadau i helpu pobl i gael mynediad at feddygon teulu, eich bod yn cydnabod bod yna rwystredigaeth o hyd, ac mae'n debyg bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd i ategu'r hyn a gyflawnwyd eisoes.
Felly, a gaf i ofyn heddiw pa sicrwydd y gallwch ei roi bod cryfhau mynediad at feddygon teulu a gofal sylfaenol yn parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i waith Llywodraeth Cymru? Ac o ran y gwasanaethau ehangach a allai fod ar gael yn y gymuned nawr trwy ddulliau eraill, boed hynny drwy fferyllfeydd neu rywle arall, a oes ffordd y gallwn gael ymarfer mapio sy'n addysgu pobl ac sy'n gwneud pobl yn ymwybodol o ble y gellir dod o hyd i'r gwasanaethau hyn, fel y gallwn gynyddu gallu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau hynny, nid dim ond trwy eu meddyg teulu yn y dyfodol?
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud pwynt pwysig, ac mae eraill wedi cyffwrdd â hyn hefyd, am her y galw yn y system a darparu mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn benodol. Rwy'n credu ei fod yn dirwedd eithaf cymhleth, oherwydd mae'n dirwedd sy'n newid. Felly, yn amlwg, mae lefel y galw yn cynyddu a'r cwestiwn yw a yw proffil y galw hwnnw'n newid hefyd. Felly, efallai y bydd pobl eisiau gweld meddyg teulu ar unwaith, ond mae dau gwestiwn yn hynny o beth, onid oes: ai'r meddyg teulu yw'r person iawn i ddarparu'r gofal ac a oes yna, os caf ei roi yn y termau hyn, angen ar sail dda am frys, neu a yw hynny'n rhywbeth y mae'r claf yn ei ffafrio. A bydd yn amrywio, yn amlwg, o achos i achos. Nid yw'n glir i mi fod patrwm amlwg yno; bydd meddygon teulu yn adrodd am wahanol bethau.
Rwy'n credu bod yna ymdeimlad hefyd, pan fydd cymaint o agweddau eraill ar ein bywyd modern ar gael gydag ymdeimlad gwirioneddol o fod ar unwaith, yna mae lefel o ddiffyg amynedd pan na all pobl weld meddyg teulu ar unwaith, ac efallai y bydd hynny'n ddigon teg, ond bydd amgylchiadau eraill lle nad yw'r brys hwnnw, efallai, yno. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun eithaf cymhleth. Yr hyn sy'n hollol wir yw, lle rydym yn gwybod bod dewisiadau amgen eraill, fel yr wyf wedi bod yn siarad amdanynt yn y datganiad, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn deall ble y gallant gael mynediad atynt. Rwy'n credu bod dealltwriaeth pobl o sut rydych chi'n cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn gyffredinol, o safbwynt cleifion, naill ai yn eich meddygfa neu adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae her i ni yna, oherwydd mae'r ddwy ran hynny o'r GIG o dan bwysau sylweddol iawn. Felly, rwy'n credu bod achos dros edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl i lywio drwy'r GIG yn well. Mae GIG 111 wedi bod yn effeithiol iawn wrth wneud hynny, ond wrth i ni sicrhau lefel mor ddiwygiedig yn y system, mae her gyson i ni, rwy'n credu, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod pobl yn gallu llywio drwy'r gwasanaeth yn y ffordd honno.
Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn derbyn eu triniaeth gan ddarparwyr yn Lloegr. Pan fyddaf yn siarad ag optegwyr, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu, maent yn aml yn dweud wrthyf am gymhlethdodau ymdrin â darparwyr yn Lloegr o ran systemau technoleg gwybodaeth yn benodol; mae yna lawer o aneffeithlonrwydd yn y broses hefyd. Tybed, o ran yr hyn rydych chi wedi'i amlinellu heddiw, pa ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi i'r mater hwn, a pha waith sydd wedi mynd rhagddo wrth rannu llwyfannau digidol.
Y mater arall, wrth gwrs, y gwnaethoch chi sôn amdano yw gwella mynediad at ddarparwyr gofal sylfaenol. Un o'r problemau mawr sydd gennym ar draws Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yw denu gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol i ddod i weithio yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Yn aml, y mater a godwyd—mae'n fater hanesyddol ers peth amser—yw'r broblem gyda rhestr perfformwyr meddygol Cymru gyfan, felly, un rhestr i Gymru. Tybed ers i chi fod yn y swydd, a ydych chi wedi ystyried hyn. Mae llawer o brinder staff yn deillio o'r mater o gael meddygon teulu, efallai, yn cael eu hyfforddi yn rhywle arall yn Lloegr, ond heb fod yn barod i ddod i Gymru oherwydd cymhlethdodau gorfod cofrestru ar restr perfformwyr gwahanol. Felly, a gaf i ofyn, hefyd, a ydych chi wedi ystyried hyn, ac ystyried y posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gael un rhestr perfformwyr ar gyfer Cymru a Lloegr?
Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'n gwneud pwynt pwysig i'r rhannau hynny o Gymru sydd ar y ffin. Mae'n dirwedd fwy heriol hyd yn oed na'r un y mae'n ei ddisgrifio, rwy'n credu, yn ymarferol, oherwydd nid oes un dull o weithredu o ran TG yn GIG Lloegr, ac felly hefyd mewn sawl rhan o GIG Cymru. Felly, yr hyn rydych chi'n edrych arno mewn gwirionedd yw'r trefniadau TG sy'n bodoli ar lefel ymddiriedolaeth neu fwrdd, felly mewn gwirionedd mae'n ddarlun mwy cymhleth na hyd yn oed yr un y mae ef yn ei ddarlunio.
Mae'r hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud o safbwynt digidol yng Nghymru yn ddeublyg. Yr elfen hanfodol i hyn, a chrybwyllais hyn yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, yw cael pensaernïaeth ddigidol genedlaethol ar waith i Gymru, fel y gall mentrau, wedyn, naill ai ar lefel bwrdd iechyd neu ar lefel genedlaethol yng Nghymru, i gyd gydymffurfio â'r daith yr ydym eisiau i'r system fod arni. Nid ydym yn y lle hwnnw eto, ond mae'n sicr yn flaenoriaeth i gael y bensaernïaeth honno ar waith. Bydd hynny wedyn yn caniatáu dull unwaith i Gymru ar gyfer nifer penodol o ymyriadau, a fydd yn helpu gyda'r her y mae'n ei disgrifio. Ni fydd yn ei datrys, oherwydd nid oes dull 'unwaith i Loegr' dros y ffin, ond bydd yn cyfrannu at ddatrys hynny, o leiaf.
Ond yna bydd rhai pethau rwy'n credu—. Wyddoch chi, nid oes angen i ni ailddyfeisio'r olwyn yn gyson, nac oes? Mae yna bethau sy'n bodoli—ceisiadau masnachol—sydd ar gael i fyrddau iechyd neu bractisau eu prynu eu hunain, a'r peth tyngedfennol yw eu bod nhw i gyd yn ffurfio rhan o'r darlun mwy yna gyda'i gilydd, felly rwy'n credu bod hynny'n bwysig ym maes digidol.
Cefais y cyfle i siarad â rhywun yn ddiweddar mewn cinio yr oeddwn yn bresennol ynddo, ac roeddwn wedi cael diwrnod pan oeddwn wedi cael fy atgoffa drwy gydol y diwrnod o'r heriau yn y GIG yng Nghymru, ac roeddwn i'n teimlo, ar ddiwedd y dydd, ychydig yn isel. Eisteddais wrth ymyl menyw yn y cinio ac eglurodd i mi ei bod yn ymarferydd nyrsio mewn practis ym Mhowys. Disgrifiodd pa mor llwyddiannus oedd y model, y morâl a'r pethau am y practis hwnnw a oedd wedi ei denu i weithio yno, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth i'n hatgoffa ni i gyd mewn ffordd lesol, mewn gwirionedd, bod pobl sy'n dewis gweithio yn GIG Cymru bob dydd sy'n ymroddedig, yn cael eu sbarduno ac sydd â lefelau uchel iawn o gymhelliant. Felly, er yr holl heriau, ac mae wedi sôn am rai ohonyn nhw heddiw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn mai profiad y rhan fwyaf o bobl yw eu bod yn mynd i mewn i waith wedi'u hysgogi i helpu pobl a gallu gwneud hynny mewn ffordd rydyn ni i gyd yn ddiolchgar amdani.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r anawsterau y mae llawer o gleifion yng Nghwm Rhymni a thrwy gydol y de-ddwyrain yn eu cael wrth geisio cael apwyntiadau meddygon yn y meddygfeydd hynny sy'n cael eu rhedeg gan eHarley Street. Mae'r cwmni preifat hwn yn cynnal meddygfeydd ym Margoed, Gelligaer, Brynmawr, Tredegar a llawer o rai eraill, ac mae cleifion yn ei chael bron yn amhosibl cael yr apwyntiadau hynny, ond pan fyddan nhw'n cyrraedd y feddygfa, mae'r ystafelloedd aros bron yn wag. Nawr, rydyn ni'n gwybod, ac mae wedi cael ei godi yn y Siambr nifer o weithiau, nad yw meddygon wedi cael eu talu gan eHarley Street; mae miloedd o bunnau yn ddyledus iddynt, ac o ganlyniad, mae llawer o feddygon yn gwrthod gweithio mwy o shifftiau yn y meddygfeydd hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw cleifion yn cael y gofal y maent yn ei haeddu.
Rwyf wedi codi pryderon yn y Siambr ers wythnosau lawer am hyn, ac am lywodraethu clinigol hefyd, tâl meddygon, a'r pwysau sy'n cael ei roi ar nyrsys yn y meddygfeydd hynny. Mae'n ymddangos bod pawb yn cytuno bod rhywbeth mawr o'i le yma, ond does neb eto yn ymddangos eu bod yn addo yn union yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod hyn yn gwella yn y meddygfeydd hynny ac nad yw'n cael ei ailadrodd. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd am hyn, ac a allech chi sicrhau'r Siambr y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod cleifion yn dechrau cael y gofal eto y maen nhw'n ei haeddu?
Rwy'n credu imi grybwyll yn y cwestiynau yr wythnos diwethaf, pan gododd Alun Davies a'r Aelod y pwyntiau pwysig iawn hyn yn y Siambr, y dylid talu'r staff, yn amlwg, y dylid talu cyflenwyr, yn enwedig oherwydd ein bod yn gwybod beth yw goblygiadau'r dewis arall. Mae'n amlwg ei fod yn iawn yn ei dermau ei hun, ond mae'n amlwg bod ganddo ganlyniadau parhaus os nad yw pobl yn cael eu talu. Fe wnes i'n glir—a byddaf yn ailadrodd hynny—fy mod i wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd, a mynegi fy mhryderon, i wneud yn siŵr y dylai practisau fod yn cydymffurfio â'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu talu, a bod lefel y llywodraethu clinigol ac argaeledd apwyntiadau ar y lefel y mae angen iddyn nhw fod.
Yn fy sgyrsiau diweddaraf gyda'r bwrdd, eu dealltwriaeth o argaeledd apwyntiadau oedd ei fod yn gyson yn fras â'r trefniadau a oedd wedi bod ar waith o'r blaen, o ran faint o apwyntiadau a oedd wedi bod ar waith, pan oedd y bwrdd iechyd yn rheoli'r arferion hynny'n uniongyrchol, ond rwyf wedi gofyn am adroddiad pellach gan y bwrdd iechyd yr wythnos hon, ar ôl y trafodaethau pellach y maent wedi bod yn eu cael. Mae'n amlwg bod angen cynllun i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn darparu'r lefel o fynediad yr ydym am i bobl ei weld. Felly, fel y soniais i yr wythnos diwethaf, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Senedd pan fydd gennyf yr adroddiad pellach hwnnw.
Mae gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl ag anghenion iechyd nag unrhyw ran arall o'r system. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wedi lleihau. Rhaid ailganolbwyntio'r system iechyd a gofal yn radical i roi gofal sylfaenol a chymunedol wrth ei graidd os yw am fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Y penderfyniad sydd wedi cael yr effaith andwyol fwyaf ar ofal sylfaenol a chymunedol oedd uno gofal sylfaenol ac eilaidd, a arweiniodd at y gyfran o wariant ar ofal eilaidd yn cynyddu ar draul gofal sylfaenol. Mae'r gwasanaeth iechyd cymunedol ac ymarfer cyffredinol yn wynebu heriau lluosog, heb ddigon o staff a gallu i ddiwallu anghenion a chymhlethdod cynyddol cleifion.
Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal sylfaenol yn darparu gwasanaeth rhagorol mewn amgylchiadau anodd. Pan na all pobl gael gofal sylfaenol, maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, gan roi mwy o bwysau ar system sydd eisoes o dan bwysau. Mewn rhai meddygfeydd, os bydd rhywun yn dweud bod angen apwyntiad meddyg teulu brys arnynt, yna maen nhw'n cael eu hanfon at adrannau damweiniau ac achosion brys, gan hefyd lyffetheirio'r system. Mae'n hawdd dweud pa mor bwysig yw gofal sylfaenol a pha mor ddibynnol ydyn ni arno. Mae gennyf ddau gais: bod cyfran y gyllideb iechyd a wariwyd gan fyrddau iechyd ar ofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei gwarchod y flwyddyn nesaf, a bod cyfran yr ymyriadau llawfeddygol mân a wneir mewn gofal sylfaenol yn cynyddu.
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna. Mae'r ffordd y gofynnodd ei gwestiwn, rwy'n credu, yn dangos ei gymhlethdod. Gwnaeth y pwynt am wahanu gofal eilaidd a gofal sylfaenol, ond yna'r enghraifft a roddodd oedd un sy'n ein hatgoffa o'r gyd-ddibyniaeth, os mynnwch, rhwng mynediad pobl at ofal sylfaenol a'r hyn y gall hynny ei olygu o ran cael mynediad at ofal eilaidd. Felly, mae'r berthynas, yn amlwg, yn gyd-ddibynnol iawn yn y ffordd honno.
Rwy'n cytuno ag ef mai'r hyn y dylem ei weld, cyn belled ag y gallwn, yw darparu mwy a mwy o wasanaethau yn y lleoliad gofal sylfaenol, p'un a yw hynny'n ddiagnosteg, ond yn y ffordd y dywedodd hefyd, mân ymyriadau llawfeddygol ac ystod o rai eraill. Crybwyllais rai ohonynt heddiw, ond mae'n gwneud pwynt, rwy'n credu, am nifer fwy o weithgaredd mewn gofal sylfaenol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai dyna'r ffordd gywir ymlaen, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweld cynnydd fesul cam yn hynny. P'un a yw ar lefel practis, neu ar lefel clwstwr, credaf yn llwyr fod hynny'n rhan o'r ateb i allu darparu mwy o gyllid i leoliadau gofal sylfaenol a chynaliadwyedd y model i'r dyfodol.
Rydym wedi gwneud gwaith gwych ar gael gwell defnydd allan o'r fferyllwyr cymunedol, oherwydd eu bod yn unigolion medrus iawn, ac mae'r ffaith eu bod yn ymdrin â'r cynllun anhwylderau cyffredin yn ymddangos i mi fel defnydd llawer gwell o'u sgiliau na dim ond rhoi presgripsiynau rhywun arall i bobl.
Rydw i ychydig yn ddryslyd ynghylch y ffordd y mae practisau meddygon teulu yn gweithio, oherwydd nid wyf eto wedi dod ar draws practis meddyg teulu gyda'r gymysgedd o sgiliau y byddwn yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, pa feddygfa sy'n cyflogi nyrs diabetes, o ystyried cyffredinrwydd diabetes yn ein cymuned? Byddech chi'n disgwyl bod digon o waith ar gael i rywun o'r fath. Yn hytrach, mae'n ymddangos bod gennym bedwar neu bump o feddygon teulu medrus iawn i gyd yn gweithredu fel ymgynghorwyr mewn gofal sylfaenol, gydag un nyrs practis efallai. Nid yw hynny'n teimlo fel y cydbwysedd cywir. Ac yna mae gennym wasanaeth ar wahân o'r enw nyrsio cymunedol, neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes angen i ni feddwl ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol.
Roedd gen i ddiddordeb mawr amser cinio i glywed gan Nia Boughton, sy'n nyrs ymgynghorol ar gyfer gofal sylfaenol yn Betsi Cadwaladr. Mae hi wedi gwneud gwaith gwych ar gael rhywun ag endometriosis yn ôl i'r gwaith—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Yr allwedd yno yw'r ffaith bod Nia yn gweithio mewn practis sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, yn hytrach nag un sy'n cael ei reoli gan bractis meddyg teulu. Yn amlwg, mae yna wahanol ffyrdd y mae angen i ni edrych ar y contract meddygon teulu i gael gwasanaeth mwy cyfannol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar bobl mewn gofal sylfaenol.
Diolch i Jenny am y cwestiwn yna, ac am y trafodaethau rydym wedi'u cael dros yr wythnosau diwethaf yn arbennig am gyllid ar gyfer meddygfeydd. Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn y ffordd y mae hi'n rhoi'r cwestiwn heddiw mai un o'r edeifion trwy'r trafodaethau hynny rydyn ni wedi'u cael yn ddiweddar oedd beth yw'r cymysgedd o wasanaethau y gellir eu darparu gan feddygon teulu, sy'n ffordd o gryfhau'r model, ond hefyd, yn bwysicach fyth, darparu'r math o wasanaeth y mae cleifion ei eisiau ac y bydd yn gallu elwa arno. Mae yna amrywiaeth o wahanol fodelau. Roedd yr enghraifft a roddais i Russell George yn gynharach yn enghraifft lle roedd yr ymarferydd nyrsio yn y practis hwnnw yn rhan sylweddol a gweladwy iawn o'r cynnig i drigolion lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth o fodelau, ond rwy'n credu bod angen i ni gadw lefel yr uchelgais ynghylch symud gwasanaethau i leoliadau gofal sylfaenol yn uchel, a hefyd y berthynas honno rhwng lleoliadau gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, i gadw'r rheini'n greadigol a pharhau i esblygu hynny fel ein bod yn sicrhau bod gennym y lefel o hyblygrwydd o ran darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cleifion yn y ffordd orau.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, bydd y ganolfan iechyd 19 Hills sydd newydd ei hagor yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd yn darparu ystod o wasanaethau cynradd a chymunedol a ddarperir gan ymarferwyr cyffredinol ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae'n gwasanaethu nifer o gymunedau cymharol ddifreintiedig lle mae'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol iawn, gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal iechyd yn llai tebygol o'i gael. Tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r ganolfan iechyd 19 Hills i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol mewn mynediad at ofal iechyd gan y rhai yn y gymuned sydd angen y gwasanaethau hynny yn ddirfawr ond nad ydynt yn eu derbyn ar hyn o bryd, i sicrhau bod potensial tynnu'r gwasanaethau hyn o'r sector acíwt i ofal sylfaenol ac i leoliad cymunedol yn cael ei wireddu'n llawn.
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud yw'r uchelgais a'r cyfeiriad teithio. Rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud fy mod wedi cael sgwrs ag un o'r ymarferwyr yn y practis hwnnw dros yr wythnosau diwethaf, ac adleisiodd y pwynt y mae'r Aelod newydd ei wneud eto heddiw am fodolaeth barhaus a niweidiol deddf gofal gwrthgyfartal Julian Tudor Hart, hyd yn oed 50 mlynedd ers yr adeg y datganodd hynny gyntaf fel cysyniad, sy'n ein hysgogi ni, onid yw e'?
Rwy'n credu bod yna heriau heb amheuaeth. Y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod y practisau hynny sy'n gwasanaethu cleifion mewn cymunedau difreintiedig, y gwyddom eu bod yn debygol o fod ag ystod ehangach o anghenion mwy cymhleth ac angen darparu'r gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd, gyda mwy o waith allgymorth yn benodol, gydag elfen waith cymunedol—yr atebion llawn dychymyg hynny—y gallwn wneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol.
Cafwyd trafodaethau yn y Siambr ac mewn mannau eraill am y fformiwla ar gyfer dyrannu'r cyllid hwnnw. Mae'n ymddangos bod hynny'n faes cymhleth, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio ffyrdd eraill o sicrhau, yn enwedig ar lefel clwstwr, lle gallwch chi gael cydnerthedd nifer o bractisau sy'n gwasanaethu'r ôl troed mwy hwnnw—. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r ateb i'r her y mae'r Aelod wedi'i nodi heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.