Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 21 Ionawr 2025.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn dilyn y cadoediad a ddaeth i rym yn Gaza ddydd Sul, a allai efallai gynnwys ymateb i'r pwyntiau canlynol. Mae Oxfam Cymru wedi ysgrifennu at bob Aelod o'r Senedd yn gofyn i ni annog Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rôl wrth gyflawni cadoediad parhaol sy'n arwain at heddwch a chyfiawnder parhaol ac i ddod â gwarchae, meddiannaeth a gormes y Palesteiniaid yn Gaza a'r tiriogaethau sydd wedi'u meddiannu i ben yn barhaol.
Hefyd, hoffwn wybod sut mae Cymru wedi cymryd ac yn cymryd pob cam posibl, o fewn ei chymhwysedd, i sicrhau nad yw'n cyfrannu at droseddau rhyfel posibl trwy gysylltiadau, partneriaethau neu gyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol. A hefyd, a fydd y Llywodraeth yn cynyddu ei rhodd bresennol o £100,000 i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y dwyrain canol yng ngoleuni'r amodau ofnadwy sy'n wynebu cannoedd o filoedd o bobl y mae eu cartrefi, busnesau a gwasanaethau wedi'u chwalu'n deilchion, o gofio bod y Llywodraeth wedi rhoi £4 miliwn i apêl DEC Wcráin?
Ac yn olaf, a wnaiff y Llywodraeth dalu teyrnged i'r holl ddinasyddion hynny yng Nghymru sydd wedi protestio yn erbyn y rhyfel yn Gaza, ym mhob rhan o Gymru, ac yma yn y Senedd, gan erfyn ar bob un ohonom i godi ein lleisiau i alw am heddwch, cymorth dyngarol a chyfiawnder? Diolch.