3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 21 Ionawr 2025.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:16, 21 Ionawr 2025

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ddau barc daeareg sydd â statws UNESCO yng Nghymru: parc Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog ac, wrth gwrs, parc GeoMôn yn Ynys Môn. Mi es i draw i borth Amlwch rai misoedd yn ôl i gyfarfod efo rhai o’r tîm o wirfoddolwyr yn GeoMôn, a chael fy atgoffa unwaith eto o bwysigrwydd y statws UNESCO yma, nid yn unig fel cydnabyddiaeth o hanes daeareg arbennig iawn, iawn, iawn Ynys Môn, ond fel modd i ddenu buddsoddiad a thwristiaid hefyd.

Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r llythyr y gwnes i yrru ato fo rai misoedd yn ôl yn dweud bod yr asesiad i ddal gafael ar y statws arbennig hwnnw unwaith eto ar y gorwel a bod y meini prawf sydd wedi'u gosod gan UNESCO yn rhai trylwyr dros ben. Felly, a gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i estyn llaw a chefnogi GeoMôn, boed hynny drwy adnoddau ychwanegol neu gymorth ariannol, er mwyn sicrhau bod y safle yn gallu cadw ei statws allweddol fel parc daeareg UNESCO?