2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni – Senedd Cymru am ar 21 Ionawr 2025.
7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Cyngor Dedfrydu i sicrhau bod canllawiau dedfrydu yn adlewyrchu cyfraith Cymru yn ddigonol? OQ62134
Diolch, Rhys. Nid yw dedfrydu yn fater datganoledig, ond, yn swyddog cyfraith, rwy'n ymddiddori yn fawr iawn mewn canllawiau dedfrydu a'u cymhwysiad i droseddau mewn meysydd datganoledig.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Nawr, mae adran 124 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn rhoi pŵer i'r Arglwydd Ganghellor gynnig diwygiadau i ganllawiau dedfrydu. Yng ngoleuni'r newid i'r setliad datganoli a'r pŵer deddfu sylfaenol sydd ar ddod i rym, gan fod y ddeddfwriaeth honno wedi cael ei phasio, fe fyddwn i'n disgwyl y byddai cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol sy'n ymwneud â chyfraith Cymru—deddf sy'n ymwneud yn unig â Chymru—yn gyfartal o ran dylanwad. Nawr, yn dilyn ymateb y Llywodraeth i ddadl Aelod Carolyn Thomas, na fyddan nhw'n cyflwyno Deddf dwyn anifeiliaid anwes yn ystod y Senedd hon, a wnewch chi ysgrifennu at y Cyngor Dedfrydu yn gofyn am ddiwygiadau i'r canllawiau lladrad i adlewyrchu bod anifeiliaid anwes yn llawer mwy nag eiddo yn unig a'r trallod emosiynol ofnadwy y mae'n ei achosi i berchnogion pan gaiff anifeiliaid anwes eu dwyn, i adlewyrchu hynny yn y canllawiau dedfrydu ar gyfer lladrad? Diolch yn fawr.
Ie. Diolch i chi, Rhys. Wel, fe wn i eich bod chi'n deall sut mae hyn yn gweithio. Felly, mae'r Cyngor Dedfrydu yn gorff anadrannol annibynnol, ac mae'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae'n atebol i Senedd y DU am gyflawni ei rwymedigaethau statudol. Er hynny, fe gefais i gyfle i drafod materion dedfrydu ar sail llawer ehangach na'ch cwestiwn chi—y byddaf i'n dod at hynny mewn eiliad—gyda nifer o swyddogion cyfraith yr wythnos diwethaf, pryd y gwnes i godi nifer o faterion yr ydym ni'n ofidus yn eu cylch nhw. Rwy'n arbennig o bryderus, ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, ynglŷn â niferoedd y dedfrydau byrion, er enghraifft. Mae carchar Abertawe yn fy etholaeth i, yn y canol. Mae nifer fawr o ddynion ifanc yn y carchar hwnnw sydd â dedfrydau y mae hi'n ymddangos i mi eu bod nhw wedi eu cynllunio yn union ar gyfer sicrhau na fydd ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd pellach yn eu bywydau, ond nid oes dim i argymell hynny. Felly, os ydych chi'n cael eich carcharu am naw mis, mae hynny'n ddigon i wneud yn siŵr bod cofnod gennych chi, y bydd gennych chi broblemau teuluol, y byddwch chi'n colli eich cartref, ac y byddwch chi'n colli unrhyw swydd oedd gennych chi, a dim byd tebyg i'r hyn a fyddai'n ddigonol i chi gael unrhyw fath o gymorth o ran camddefnyddio sylweddau—wel, unrhyw gefnogaeth, mewn gwirionedd, y mae ei angen arnoch chi. Felly, rwyf wedi gwneud y pwynt dro ar ôl tro bod y dedfrydau hynny wedi'u cynllunio yn wael iawn ac maen nhw'n debygol o fod ag effaith andwyol ar bawb bron iawn. Mae honno'n farn gyffredin ymhlith bron pob llywodraethwr carchar yn Abertawe yr wyf i wedi siarad â nhw, ac rwyf i wedi siarad â llawer ohonyn nhw dros y blynyddoedd. Felly, fe gefais i'r drafodaeth ehangach honno.
Mae lladrad a dwyn anifeiliaid anwes, rwy'n cytuno, yn ddirdynnol iawn. Rwy'n hapus i fynegi barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ond, wyddoch chi, nid yw'n fater datganoledig. Ond rwy'n hapus iawn i wneud hynny—yn hapus iawn i wneud hynny'n drawsbleidiol, pe byddai pobl yn hapus i mi wneud felly. Ond dim ond gwneud ein barn ni'n hysbys a fyddem ni; nid oes gennym ni unrhyw rym gwirioneddol yn y maes hwnnw.
Fe wnes i geisio cyflwyno'r Bil dwyn anifeiliaid anwes, gan gydnabod, yn aml iawn, mai dim ond yn y llysoedd ynadon y mae achosion lladrad yn cael eu cynnal ac nad yw'r dedfrydu yn ddigonol. Ond mae anifeiliaid anwes yn wirioneddol amhrisiadwy. Hyd yn oed pan glywir achosion yn y llys ynadon, nid yw'r dedfrydu yn ddigon llym; fel arfer, dedfrydau gohiriedig sy'n cael eu rhoi. Fe hoffwn i ddarllen hwn i chi: 'Roedd colli Angel fel colli fy mywyd. Angel oedd fy ffrind gorau. Fe wnes i wario mwy na £13,000 ar geisio ei chael hi'n ei hôl. Fe wnes i ailforgeisio ein tŷ ni, gan gymryd seibiant o'r gwaith yn ddi-dâl, nid oeddwn i'n gweithio am amser maith. Nid oeddwn i'n gallu canolbwyntio. Fe ddechreuais i ysmygu eto, fe gollais i bwysau, a bu ysgariad yn y pen draw.' Bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw Dawn wedi cael gweld diwedd ar y mater. Rwy'n diolch i Rhys am godi hyn, ac rwy'n gobeithio y gellid gwneud apêl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr Athro John Cooper CB wedi gofyn a fyddai modd mireinio'r Ddeddf lladrad gyfredol. Mae hi'n debyg fod madarch ac anifeiliaid gwyllt eisoes yn gynwysedig, felly beth am anifeiliaid anwes? Mae'r gair 'eiddo' yn gwneud perchnogion anifeiliaid anwes yn anghyfforddus, oherwydd mae anifeiliaid anwes yn fwy nag eiddo yn unig. Felly, pe gallech chi fwrw ymlaen â hynny er fy mwyn i ac er mwyn pawb sydd wedi siarad am y peth yn y fan hon, fe fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch i chi.
Diolch yn fawr, Carolyn. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Rwyf wedi bod ag anifeiliaid anwes ar hyd fy oes; rwy'n deall eu bod yn rhan o'ch aelwyd ac yn bendant nid yn ddarn o eiddo, felly rwy'n deall hynny'n llwyr. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i drafod gyda chi sut y gallem ni wneud rhywbeth trawsbleidiol, efallai. Fel y dywedais i, nid yw'n rhywbeth y gallaf ei wneud gan wisgo fy het Cwnsler Cyffredinol, ond mae gen i bob cydymdeimlad â'r teimlad a fynegwyd.
Dyna nodyn cadarnhaol iawn i orffen sesiwn y cwestiwn hwnnw arno.