6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr

– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 8 Hydref 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:02, 8 Hydref 2024

Eitem 6 sydd nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i dynnu sylw at a dathlu'r gwaith a wneir yn ein canolfannau trochi hwyr ar draws Cymru, a'r rhan rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth gefnogi'r gwaith hwnnw.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:03, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r ffordd rydym ni'n trochi plant yn yr iaith Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru. Mae data o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion o 2024 yn dangos cynnydd yn nifer a chanran y dysgwyr blwyddyn 1 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n arwydd clir i mi bod ymrwymiadau yng nghynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol yn bwrw gwreiddiau. Rydym yn gwybod pwysigrwydd sector y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad cynnar i addysg Gymraeg, ac mai addysg cyfrwng Cymraeg yw ein prif ddull o sicrhau bod plant yn datblygu i fod yn ddefnyddwyr hyderus ac annibynnol o'r Gymraeg, ac ar gyfer creu siaradwyr newydd. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn dechrau dysgu Cymraeg yn y camau cynnar hynny.

Dyma'r gofod y mae'r ddarpariaeth trochi hwyr yn ei meddiannu. Rhaglen dysgu Cymraeg ddwys yw darpariaeth trochi hwyr, sy'n galluogi mynediad i addysg Gymraeg yn ddiweddarach. Gall dysgwyr sydd ag ychydig neu ddim Cymraeg ymgysylltu â'r rhaglen am hyd at ddeuddeg wythnos, pan fyddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â'u hysgol gartref, a'r cwricwlwm, nes eu bod yn barod i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf wedi gweld drosof fy hun yr hyn y gellir ei gyflawni mewn ychydig wythnosau byr. Yn ystod fy ymweliad diweddar ag Ysgol Corn Hir ar Ynys Môn, cefais y fraint o gwrdd â dysgwr ym mlwyddyn 6, Artem, a oedd wedi trosglwyddo o ganolfan drochi Cymraeg yn ddiweddar ac a oedd yn ffynnu.

Er y bu canolfannau trochi hwyr yn rhan o'r cynnig addysg mewn rhai rhannau o Gymru ers blynyddoedd lawer, hyd at 2021 nid oedd pob awdurdod lleol yn gallu darparu'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn lleol. Dyna pam rydym ni wedi buddsoddi £8.8 miliwn i gefnogi sefydlu darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys ehangu darpariaeth sydd eisoes wedi ei sefydlu yn ogystal â galluogi'r awdurdodau lleol sy'n weddill i sefydlu eu darpariaeth eu hunain yn lleol.

Bu'r effaith yn sylweddol. Mae awdurdodau lleol yn dweud bod y galw am eu darpariaeth wedi cynyddu'n sylweddol. Er enghraifft, pan ymwelais â'r ganolfan drochi hwyr yn Ysgol Gynradd Groes-wen yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthyf eu bod wedi croesawu eu carfan fwyaf erioed o ddysgwyr eleni, gan gynnwys cyfran sylweddol o ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol. Mae Wrecsam wedi cefnogi dros 600 o ddysgwyr yn ei chanolfan ers iddi agor yn 2022, ac yn fy etholaeth i yn Nhorfaen, mae canolfan drochi Carreg Lam yn Ysgol Panteg nid yn unig wedi gweld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn niferoedd ond mae hefyd wedi nodi cyfleoedd i gryfhau trefniadau pontio ysgolion rhwng blynyddoedd 6 a 7 ar draws ardal yr awdurdod lleol.

Mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi elwa o raglenni iaith dwys trochi hwyr ers 2021. Defnyddiwyd arferion addysgu trochi hwyr hefyd i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg ymhlith y dysgwyr llai hyderus, yn enwedig ar ôl y pandemig. Roedd adroddiad thematig Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg disgyblion rhwng 10 a 14 oed yn cydnabod swyddogaeth canolfannau trochi hwyr wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg effeithiol ymhlith dysgwyr sy'n trosglwyddo o'r sector cyfrwng Saesneg. Mae'r cyllid i awdurdodau lleol hefyd wedi cefnogi cadw a recriwtio dros 60 o ymarferwyr trochi hwyr, yn ogystal â galluogi defnydd creadigol o dechnoleg i gyfoethogi'r profiad dysgu. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi arwain datblygiad pentref rhithiol, Pentref Aberwla, gan ddefnyddio technoleg realiti rhithwir a fydd yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol dros amser.

Gyda throchi hwyr bellach yn rhan o arlwy pob awdurdod lleol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i sefydlu rhwydwaith trochi hwyr i ddod ag ymarferwyr trochi hwyr a swyddogion awdurdodau lleol ynghyd i rannu arferion da a gwybodaeth sy'n seiliedig ar ymchwil. Rydym yn prysur ddod yn arweinwyr byd mewn darpariaeth trochi hwyr. Mae'r gwaith a wnawn ni yma yng Nghymru hefyd yn cael sylw y tu allan i Gymru. Mae ymarferwyr ac academyddion trochi hwyr o Quebec yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â ni a byddant yn dod i un o'n cyfarfodydd rhwydwaith trochi hwyr ar-lein yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Dyma gyfle heddiw i ddathlu cyflawniadau ein hymarferwyr trochi hwyr, a'r awdurdodau lleol sy'n eu cefnogi. Mae'r creadigrwydd a'r gefnogaeth y maen nhw'n eu darparu i'w gilydd o fewn y rhwydwaith, i ddysgwyr, ac i ysgolion ledled Cymru yn haeddu cael eu dathlu a'u canmol. Rwy'n eich llongyfarch chi i gyd am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth i gefnogi dysgwyr ar eu teithiau Cymraeg. Diolch yn fawr.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 5:08, 8 Hydref 2024

Diolch ichi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad chi y prynhawn yma. Mae'n bwysig i ddweud—er ei bod hi'n teimlo fel fy mod i'n dweud hyn drwy'r amser pan fyddem ni'n gwneud datganiadau fel hyn—fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae'n bwysig bod pawb yn teimlo bod cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg a bod cyfle iddyn nhw gael addysg yn yr iaith Gymraeg. Does dim gwahaniaeth os ydych yn dod o deulu sydd yn gallu siarad Cymraeg neu gymuned sydd yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r ffaith bod dewis gan bobl i gael addysg yn yr iaith Gymraeg, i siarad yn yr iaith Gymraeg ac i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg yn bwysig hefyd. Felly dyna pam dwi'n credu bod y datganiad hwn yn bwysig heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 5:09, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Mae gen i ambell sylw, ond a gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n meddwl bod trochi hwyr yn dda iawn i'r rhai sydd wedi colli, fel roeddech chi'n ei gydnabod, y cyfleoedd Cymraeg cynnar hynny mewn gofal plant, yn y feithrinfa, ac mewn ysgolion? Ond sut allwn ni sicrhau bod llai o bobl yn y sefyllfa honno yn y lle cyntaf drwy ddewis? Fe wnaf roi enghraifft i chi: yn y dref rwy'n byw ynddi, Porthcawl, nid oes gennym ni ysgol gynradd Gymraeg, felly pe bawn i eisiau anfon plant i ysgol Gymraeg, efallai na fyddai hynny'n bosibl ac y byddai'n golygu taith hirach. Felly, gobeithio, bydd cynyddu dros amser nifer yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg hynny, ar un ystyr, yn gwneud y canolfannau trochi hyn yn llai angenrheidiol yn y pen draw.

Byddwn i'n cwestiynu hefyd—ac fe wnaethoch chi sôn am hyn, rwy'n credu, yn y datganiad—daearyddiaeth rhai o'r llefydd rydych chi wedi'u dewis i gynnal y canolfannau trochi Cymraeg hyn. Tybed a yw mynd am y cynnydd mwyaf yn nifer y siaradwyr i gyrraedd y miliwn o siaradwyr hynny erbyn 2050—. Oni fyddai'n synhwyrol, ar un ystyr, mynd am rai o'r llefydd lle mae gennym y nifer lleiaf o siaradwyr Cymraeg? O edrych ar sir y Fflint, mae 6 y cant o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd—does dim canolfan drochi. Mae sir Fynwy, 3 y cant, yr un fath. Felly, rwy'n chwilfrydig, Gweinidog, a allwch chi egluro'r rhesymeg pam, er y bydd mynediad i bawb, ni fydd pob awdurdod yn cynnal canolfan drochi. Yn amlwg, fel y dywedais yn glir yn y pwynt blaenorol, mae daearyddiaeth yn ffactor pur allweddol mewn cryn dipyn o'r penderfyniadau hyn ynghylch a ddylid cael mynediad at un o'r pethau hyn.

Rydym yn amlwg yn gwybod y bydd hwn yn un o gyfres o strategaethau y bydd gennych chi ar gael i gyrraedd y miliwn o siaradwyr hynny erbyn 2050. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu am y cyfrifiad diwethaf a welodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr. Fel erioed, gydag addysg Gymraeg, er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen athrawon arnom ni. Mae angen athrawon sy'n gallu addysgu yn yr iaith Gymraeg. Rwy'n pryderu, o edrych ar ystadegau Cyngor y Gweithlu Addysg, ers 2020 bod nifer yr athrawon sy'n dweud na allan nhw siarad Cymraeg wedi cynyddu 2 bwynt canran, o 62.7 y cant yn 2020 i 64.6 y cant yn 2024. Felly, nid yn unig ein bod yn gweld mater cyffredinol yr wyf yn gwybod ein bod wedi ei drafod yn y gorffennol am nifer yr athrawon sy'n cael eu recriwtio, mae'n ymddangos bod y gyfran ohonyn nhw na all siarad Cymraeg hefyd yn cynyddu. Yn amlwg, nid yn unig y bydd angen staffio'r canolfannau trochi hyn, ond, yn ogystal, os ydym yn mynd i gael cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, bydd angen y staff hefyd. Felly, heb y cynllun gweithlu tymor hir hwnnw, mae'n ddigon posibl y byddwn yn y pen draw yn methu yn ein hamcanion yma'n fwy cyffredinol.

Rwy'n credu mai'r newid mwyaf sydd ar y gorwel—ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg yn eistedd wrth eich ymyl chi—yw'r Bil Cymraeg sydd ar y gweill y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gyflwyno. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd Bil y Gymraeg yn rhyngweithio â'r canolfannau trochi hyn? Oherwydd, wrth ddychwelyd at fater staffio, clywsom dystiolaeth gan undebau athrawon yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor addysg a gododd bryderon difrifol am argaeledd staff. Roedd pawb yn cytuno ag egwyddor y Bil, ond roeddent yn teimlo y byddai'n anodd cyflawni oni bai bod gennym ni gynllun hirdymor i gynyddu nifer yr athrawon a oedd yn gallu addysgu yn y Gymraeg. Felly, rwy'n chwilfrydig ynglŷn â sut rydych chi'n gweld y berthynas rhwng Bil y Gymraeg a chanolfannau trochi Cymraeg a staffio yn fwy cyffredinol.

Rwy'n chwilfrydig hefyd i ofyn—. Fe wnaethoch chi sôn am 4,000 o ddysgwyr sy'n elwa o drochi hwyr. Mae hynny'n rhif calonogol iawn. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn wedyn yw faint wedyn sy'n mynd ymlaen o ffrwd Saesneg i ffrwd Gymraeg. Felly, os ydyn nhw mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, maen nhw'n mynd i'w canolfan drochi, faint ohonyn nhw wedyn sy'n dewis peidio â mynd i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg, yn defnyddio'r wybodaeth maen nhw wedi'i dysgu a naill ai'n mynd ymlaen i ffrwd ddeuol neu i addysg Gymraeg?

Rwy'n credu mai'r peth pwysig roeddwn i eisiau ei gyfleu hefyd yw y gallwn ni wneud cymaint o addysgu yn y Gymraeg ag y dymunwn, a gall y Llywodraeth gyflwyno cymaint o raglenni ag y mae hi eisiau, ond yr un peth na all yr un ohonom ni ei ddysgu yw hyder. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad rhaglen 12 wythnos yn unig yw hon lle mae pobl yn dysgu Cymraeg ac maen nhw'n ei dysgu i safon uchel, ond bod ganddyn nhw'r hyder i barhau i'w defnyddio, wythnosau, misoedd, flynyddoedd ar ôl iddyn nhw adael y canolfannau trochi hyn. Tybed sut y byddwch chi'n cadw golwg ar hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Diolch yn fawr.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:14, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Tom, a diolch am eich ymateb cadarnhaol i'r datganiad. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod y Gymraeg ar gyfer pawb. Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un gael ei adael ar ôl. Dyna pam rydym ni'n bwrw ymlaen â'r polisïau rydym ni'n eu cynnig.

Roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith nad oes gennych chi ysgol gynradd Gymraeg lle rydych chi'n byw. Byddwch yn ymwybodol mai'r CSCAau yw ein mecanwaith presennol ar gyfer sicrhau bod gennym ni ddigon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael. Mae pob awdurdod lleol yn cynhyrchu eu CSCAau ac yn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Maen nhw gyda ni ar hyn o bryd. Rydym yn eu hadolygu, ac yna byddwn yn cael trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol hynny. Ond mae yna ymrwymiadau yn y CSCAau i agor 23 o ysgolion Cymraeg newydd ac ehangu 25 sydd eisoes yn bodoli. Ers 2022, a'r buddsoddiad band B a'r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg, rydym ni wedi cefnogi 39 o brosiectau i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys 14 ysgol newydd sydd wedi'u hagor neu eu hadleoli a 25 prosiect i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd hefyd yn cynnwys rhai prosiectau gofal plant.

Mae eich pwyntiau am ddaearyddiaeth yn ddiddorol, rwy'n credu. Rwy'n credu, yn bersonol, ei bod hi'n bwysig bod trochi ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod ei fod ar wahanol gamau ledled Cymru hefyd. Felly, mewn llefydd fel fy etholaeth i, Torfaen, a fyddai'n debyg i sir y Fflint o ran demograffeg, mae gennym ni'r uned gynradd, ond mae yna awdurdodau eraill lle mae ganddyn nhw ganolfannau trochi sefydledig iawn; mae ganddyn nhw hynny yn yr ysgol gynradd ac uwchradd. Felly, nid wyf yn credu ei fod yn un cynllun i bawb, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ymateb i'r angen yn y gymuned, mewn gwirionedd, ond rydym ni'n gweld hyn fel maes sy'n tyfu ac yn un yr ydym ni am adeiladu arno, sy'n bwysig iawn i bawb gael mynediad ato.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o faterion y gweithlu, ac, wrth gwrs, maen nhw'n heriol, ac rydym ni'n eu trafod drwy'r amser yn y Siambr hon. Mae gennym ni ein cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg, ac roeddwn yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddoe rai o'r heriau sy'n ymwneud â'r gweithlu a'r Bil sy'n cael ei ddatblygu. Byddwch yn ymwybodol bod gennym ni bethau fel cymhellion i fod yn athro neu athrawes cyfrwng Cymraeg, ond rydym ni'n adolygu'n gyson beth arall y gallwn ni ei wneud. O ran y Bil y mae fy nghyd-Aelod Mark Drakeford yn gweithio arno, mae canolfannau trochi yn rhan glir o hynny—ymrwymiad iddyn nhw, gan eu cryfhau ond hefyd hyrwyddo eu bodolaeth yn lleol hefyd, fel bod pawb yn ymwybodol ohonyn nhw, gan adeiladu ar y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn hynny o beth.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig ynglŷn â phontio rhwng ysgol gynradd ac uwchradd, ac rwy'n gwybod, o'r sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda rhai staff mewn ysgolion, y gall hynny fod yn faes lle mae plant yn cael eu colli, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw llygad ar y sefyllfa honno. Ac fel y dywedais i, mae gwaith da yn digwydd mewn perthynas â Thorfaen.

Nawr, roeddwn i hefyd yn meddwl bod y pwyntiau a wnaethoch chi am hyder yn bwysig iawn. Fe wnes i Lefel A Cymraeg yn yr ysgol, ond does gen i ddim llawer o hyder yn ei siarad, byddaf yn hollol onest â chi, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn rhoi hyder i bobl wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Un o'r pethau y sylwais arnyn nhw am y canolfannau trochi hwyr yw nad ydyn nhw ar gyfer plant sydd heb ddod i gysylltiad â'r Gymraeg yn unig ac sydd angen gwella eu hiaith, maen nhw hefyd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen gwella eu hyder a'u rhuglder yn y Gymraeg, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, yn enwedig ar ôl y pandemig, oherwydd fe wyddom ni fod plant o gartrefi Saesneg eu hiaith wedi colli rhywfaint o'u hyder yn yr iaith yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n credu bod sawl gwedd iddyn nhw, mewn gwirionedd, ac, wrth gwrs, yr hyn maen nhw hefyd yn ei roi i ni—wyddoch chi, mae gennym ni tua 60 o ymarferwyr yn gweithio yn y canolfannau hyn—yw ffynhonnell gyfoethog iawn o arbenigedd gweithlu, ac fe wn i eu bod yn gweithio nid yn unig gydag athrawon cyfrwng Cymraeg, ond mae gwaith hefyd yn dechrau gydag athrawon mewn ysgolion Saesneg hefyd, i adeiladu ar y sgiliau hynny a'r hyder hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn sylfaen dda iawn i symud ymlaen ac yn un y gallwn ni adeiladu arni yn bendant.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:19, 8 Hydref 2024

Diolch i chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Mae trochi hwyr, fel rŷn ni i gyd yn gwybod, yn elfen hollbwysig o sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn rhan o'r strategaeth 'Cymraeg 2050'. Rwyf i hefyd yn croesawu'r datganiad o fewn y datganiad, a chydnabyddiaeth gan y Llywodraeth mai addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol. Ac, wrth gwrs, fel Plaid Cymru, rŷn ni'n cefnogi pob ymdrech i ehangu'r cyfleoedd dysgu trochi hwyr ar draws Cymru gyfan, fel bod pawb sydd eisiau dysgu a meistroli'r Gymraeg yn cael y cyfle i wneud hynny.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:20, 8 Hydref 2024

Yn eironig iawn, rwy'n cofio mai efelychu modelau Canada nôl yn y 1970au a'r 1980au wnaeth Cymru er mwyn datblygu'r syniad yma o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae'n ddiddorol gweld bod Québec, erbyn hyn, yn edrych ar ein modelau ni ac eisiau dysgu o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud, sydd, wrth gwrs, yn beth da iawn, iawn.

Rwy'n cofio bod yn rhan, mewn bywyd blaenorol, o gefnogi nifer fawr o'r canolfannau hwyrddyfodiaid yma, yn arbennig yn sir Gaerfyrddin, ond roedden nhw wedi'u sefydlu cyn hynny mewn llefydd fel Gwynedd a Cheredigion, er mwyn cymhathu teuluoedd oedd yn symud mewn i ardaloedd gwledig yn bennaf. Ond mae gyda ni fodelau eraill erbyn hyn, sef ail gyfle i ddysgwyr neu, efallai, ddisgyblion sydd wedi dechrau drwy gyfrwng y Saesneg mewn ysgolion cynradd, ond bod cyfle iddyn nhw, efallai, ym mlwyddyn 6 a blwyddyn 7, symud i'r trac cyfrwng Cymraeg, ac felly mae hynny hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr iawn. Dwi hefyd yn croesawu, wrth gwrs, yr ymrwymiad i roi £8.8 miliwn i gefnogi'r datblygiadau yma, ac, eto, yn diolch i chi am hynny. 

Y cwestiwn cyntaf sydd gyda fi yw: sut, wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mae modd cyfrifo a chynllunio faint o arian sydd ei angen ar gyfer pob awdurdod lleol gwahanol, o gofio ei bod hi'n anodd rhagweld patrymau mewnfudo i Gymru a'r nifer fyddai angen trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg? Hefyd, fel gwnes i nodi, mae yna fodelau gwahanol o drochi hwyr gyda ni yng Nghymru, felly oes barn gan y Gweinidog ynglŷn â'r model mwyaf llwyddiannus? Hefyd, pa fodel o ddarparu ar gyfer hwyrddyfodiaid sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf mewn ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac mewn ardaloedd lle mae yna lai o ddwysedd? Mi fyddai hynny'n eithaf diddorol.

Rŷn ni'n gwybod gydag addysg Gymraeg yn gyffredinol, ac mae'r canolfannau trochi hwyr yma yn enghreifftiau tebyg iawn, fod cludiant yn hollbwysig, ac mae cludiant yn gallu bod yn rhwystr hefyd i ganiatáu i ddysgwyr gael mynediad at ganolfannau trochi hwyr. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu fy mhryder i fod pellter teithio yn gallu bod yn broblem, a pha gefnogaeth ariannol, felly, mae awdurdodau lleol yn mynd i'w chael gan y Llywodraeth i sicrhau nad oes un plentyn yn mynd i gael ei rwystro rhag mynd i'r canolfannau yma oherwydd pellter, yn arbennig, os caf i ddweud, mewn ardaloedd gwledig, lle mae'r pellter yn eithaf sylweddol?

Wrth ystyried effeithiolrwydd y canolfannau yma, mae'n rhaid inni ystyried bod angen inni fynd â dysgwyr hefyd y tu hwnt i lefel sylfaen o ddysgu'r iaith. Mi fydd yna nifer o ddysgwyr, efallai, sydd wedi bod mewn cylchoedd meithrin yn flaenorol—cyfrwng Cymraeg—wedi mynd i addysg Saesneg, ac efallai fod rhywfaint o afael gyda nhw ar yr iaith—mwy na bod yn ddysgwyr pur. Felly, oes yna gyfle i ddarparu cyrsiau ar lefelau uwch—cyrsiau gloywi iaith, efallai—mewn canolfannau trochi hwyr?

Rwy'n cofio yn bersonol bod yn rhan o werthuso rhai o'r canolfannau yma ryw saith neu wyth mlynedd yn ôl. Un o'r diffygion wnaethon ni ganfod oedd y diffyg ôl-ofalaeth, y diffyg cefnogaeth yna i'r dysgwyr oedd wedi bod yn y canolfannau, ond ar ôl iddyn nhw gyrraedd nôl yn yr ysgol, doedd dim digon o gefnogaeth iddyn nhw ddatblygu hyder yn eu defnydd o'r Gymraeg. Felly, y ddau gwestiwn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, yw: beth yw'r rhagolygon o ran cynnydd o ran y canolfannau trochi hwyr yma? Oes gyda chi ryw syniad o faint sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol? Dwi hefyd yn croesawu sefydlu'r rhwydwaith yma o ganolfannau iaith er mwyn dysgu o arfer dda. Pwy sydd yn mynd i arwain y rhwydwaith yma, ac ydych chi'n gallu sicrhau bod yna gyllid digonol i gefnogi hyn at y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:25, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei ymateb cadarnhaol i'r datganiad, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr, a hefyd ei groeso am yr arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn, sydd, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, wedi bod yn allweddol iawn i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni? Rydych chi wedi cyfeirio hefyd at y ffaith bod Québec yn edrych arnom ni. Rwy'n credu mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod ieithoedd yn bethau byw, a gallant fynd ar drai ac ar lanw oni bai eich bod yn parhau i flaenoriaethu a buddsoddi ynddynt. 

O ran cynllunio ar gyfer lleoedd, yn amlwg, mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ddull allweddol sydd gennym ar hyn o bryd i wneud yn siŵr ein bod yn cynllunio digon ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ac, fel y dywedais i eisoes, mae pob awdurdod lleol wedi eu cyflwyno; bydd eu cynlluniau yn para am 10 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu CSCAau awdurdodau lleol a byddwn yn mynd yn ôl atynt gydag adborth.

O ran y gwahanol fodelau trochi hwyr, rydych chi'n gywir yn hynny, ac mae gan rai ardaloedd gefnogaeth peripatetig ar gyfer trochi hwyr, sydd, yn amlwg, yn wahanol i blentyn mewn canolfan. Byddaf yn ysgrifennu atoch ynghylch a oes gennym unrhyw dystiolaeth ar yr hyn sydd fwyaf effeithiol, oherwydd yn bersonol ni fyddwn yn gymwys i ddweud a yw fersiwn benodol yn fwy effeithiol ai peidio, neu a ydynt yn gweithio'n arbennig o dda mewn ardaloedd dwysedd uchel neu ddwysedd isel. Yr hyn y byddwn yn gobeithio sy'n digwydd yw bod awdurdodau lleol yn ystyried eu demograffeg yn ofalus iawn, yn ystyried y niferoedd sy'n dod drwyddynt, ac yn cynllunio'r ddarpariaeth yn unol â hynny. Fel yr ydych wedi tynnu sylw ato'n briodol, mae cludiant yn broblem, a buom yn trafod hyn mewn cwestiynau yr wythnos diwethaf. Fy nealltwriaeth i yw ein bod yn rhoi cymorth gyda chludiant, ond byddaf yn ysgrifennu atoch am hynny hefyd.

O ran yr hyn a ddywedoch chi am gyrsiau gloywi, mae hynny'n digwydd eisoes, mewn gwirionedd. Felly, pobl ifanc sydd efallai wedi bod i ysgol feithrin, neu hyd yn oed wedi mynd drwy'r ysgol gynradd, gallant gael y cyfle i ddefnyddio'r canolfannau trochi hwyr i fagu hyder yn y Gymraeg. Mae hynny'n bwysig iawn.

Diolch am eich croeso i'r rhwydwaith. Mae hynny'n cael ei gydlynu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nid wyf yn ei ystyried yn beth arbennig o ddrud. Mae'n gyfle i ddod â phobl at ei gilydd, i rannu arfer da. Ac yn olaf, o ran yr hyn a ddywedoch chi am y diffyg cefnogaeth i blant sy'n mynd yn ôl i'w hamgylchedd ysgol, rwy'n gweld hyn yn allweddol iawn, mewn gwirionedd. Yn amlwg, dydych chi ddim eisiau cael plentyn wedi trochi am 12 wythnos ac yna'n cael ei ollwng yn ôl, ac yn sicr y sicrwydd a gefais i pan oeddwn yn Ysgol Gynradd Groes-wen yn ddiweddar yng Nghaerdydd oedd nad dyna maen nhw'n ei wneud o gwbl. Maen nhw'n gweithio'n barhaus gyda'r plentyn i wneud yn siŵr bod y plentyn yn gallu mynd yn ôl i'r ysgol a'i fod yn gyfforddus gyda'r hyn y mae'n ei wneud, ac rwy'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn—bod y gefnogaeth barhaus honno ar gael.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 5:28, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Po ieuengaf yw'r disgybl, gorau oll mae'r trochi yn gweithio. Dywedwyd wrthyf yng Ngwynedd bod uned drochi yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion hyd at flwyddyn 9. Mewn siroedd eraill, dim ond uned drochi ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd sydd ar gael. I bob pwrpas, mae Mudiad Meithrin yn gynllun trochi cynnar i blant o dan oed meithrin o deuluoedd Saesneg eu hiaith. Mae hyn yn gweithio'n dda iawn, ac roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld â Meini Bach ym Môn-y-maen ddydd Llun.

Po fwyaf o eiriau y mae plant yn eu gwybod yn Saesneg, y mwyaf anodd yw dysgu ail iaith, hyd yn oed trwy drochi. I'r rhai sy'n dod o du allan i ardaloedd Saesneg eu hiaith, yna mae'n ymddangos bod trochi yn Saesneg yn gweithio, oherwydd dyma'r iaith y bydd plant yn ei chlywed ar y teledu ac wrth ryngweithio cymdeithasol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r cynharaf yw'r trochi, y gorau yw'r canlyniad, ac i'r Gymraeg, y trochi cynnar mwyaf llwyddiannus yw'r Mudiad Meithrin?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:29, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch am eich sylwadau cadarnhaol iawn am y Mudiad Meithrin yng Nghymru, sydd, yn amlwg, yn cael cyllid ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n cytuno â chi, yn ddelfrydol, mai'r amlygiad cynnar hwnnw i iaith mewn amgylchedd trochol a all wneud y gwahaniaeth mwyaf, felly rwy'n hapus iawn i longyfarch y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion meithrin ledled Cymru i wreiddio'r Gymraeg. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, os nad yw hynny'n ddewis sydd wedi'i wneud gan rai teuluoedd, nad ydym yn cau'r cyfle hwnnw i deuluoedd yng Nghymru. Dyna pam mae gennym ni'r ddarpariaeth drochi hwyr hon yng Nghymru, ac rydych chi'n llygad eich lle bod yna amrywioldeb o ran pwy sy'n ei gynnig ar lefel ysgol gynradd ac uwchradd. Mae gan rai awdurdodau ddarpariaeth uwchradd, ond rwyf hefyd yn falch o ddweud, yn ogystal â darpariaeth gynradd yn Abertawe, fod yna hefyd gynllun treialu ar gyfer darpariaeth uwchradd hefyd. Felly, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni adeiladu arno, a byddai'n cymryd sylw o'r pwyntiau y mae Cefin Campbell wedi cyfeirio atynt fel ffynhonnell gymorth i bobl ifanc sydd efallai angen datblygu eu sgiliau yn yr iaith. 

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:31, 8 Hydref 2024

Mae trochi yn gweithio, heb os. Does yna ddim dadl am hynny, ac wrth gwrs rydyn ni'n croesawu hyn. Beth fyddwn i'n hoffi ydy pe byddech chi'n gallu darparu beth ydy'r diffiniad o drochi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a beth ydy'r ddarpariaeth sydd ar gael, a'r llwybrau sydd ar gael i'r dysgwyr hynny. Oherwydd fy nealltwriaeth i ydy bod yna amrywio o sir i sir, fod trochi—fel rydych chi'n sôn—peripatetig. O ran fy rhanbarth i, mae yna ganolfannau trochi yng Nghaerdydd, ym Mro Morgannwg, ond peripatetig ydy o yn Rhondda Cynon Taf. Yn anffodus, mae athrawon wedi rhannu efo fi dydyn nhw ddim yn diffinio hynny fel trochi, a ddim yn gweld y cynnydd y byddan nhw'n hoffi ei weld yn y plant hynny. Felly, er mwyn i ni fod yn gallu dathlu hyn, pryd fyddem ni'n gweld bod yna drochi gwirioneddol a'r un fath o gynnig ar gael ym mhob rhan o Gymru? Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at hynny? Oherwydd mi oedd eich rhagflaenydd yn cydnabod mai taith oedd hi i bob awdurdod lleol, ond byddai'n dda gwybod beth ydy'r amserlen ar gyfer sicrhau bod yna 12 wythnos o drochi dwys ar gael lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru, a hefyd ar gyfer dysgwyr sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:32, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Heledd, ac rydych chi'n gywir bod y ffordd mae'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac, fel rydych chi wedi tynnu sylw ato, yn RhCT mae'n wasanaeth peripatetig; mewn rhai awdurdodau mae'r plant yn yr uned am 12 wythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn canmol awdurdodau lleol am yr hyn y maent yn ei wneud yn y maes hwn, ond mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Mae gen i restr yma o bwy sy'n darparu beth i bob awdurdod lleol yng Nghymru, ond rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau i mi fynd drwyddi nawr. Ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch gyda'r rhestr o'r hyn sydd ar gael, ac, fel y dywedais i mewn ymateb i Tom Giffard, rwy'n credu mai dim ond mynd o nerth i nerth y gallwn ni ei wneud gyda hyn, mewn gwirionedd. Mae gennym ni y Bil nawr, sydd ag ymrwymiad i drochi. Byddwn yn adeiladu ar hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar sut mae hyn yn gweithio mewn gwahanol feysydd a sicrhau ein bod yn defnyddio'r arferion gorau posibl. Rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â chi am blant ag ADY, a dyna un o'r pethau a ofynnais yn yr uned yn Ysgol Groes-wen, oherwydd nid ydym eisiau i unrhyw ddysgwyr gael eu gadael ar ôl, ac roeddent yn galonogol iawn eu bod, ie, yn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn amlwg, maen nhw'n gweithio ar eu cyflymder eu hunain, ond maen nhw wedi'u cynnwys yn hynny. Ond rwy'n meddwl bod angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd ym mhobman yng Nghymru.

Y peth arall sydd wedi fy nharo i mewn gwirionedd yw amrywiaeth y plant. Felly, roedd y person ifanc y gwnes i gwrdd ag ef yn Ynys Môn yn ffoadur o Wcrain, ac roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Cwrddais â bachgen bach yn Ysgol Groes-wen ychydig wythnosau yn ôl ac roedd yn llythrennol—eto o deulu arall o ffoaduriaid, yn llythrennol ar ei ail ddiwrnod yn yr uned, ac fe ruthrodd i fyny a dywedodd 'Bore da', ac roeddech chi'n gallu gweld ei fod mor falch o'r hyn roedd e wedi'i ddysgu. Roedd yn hyfryd i'w weld. Felly, mae hyn i bawb, onid ydyw, ac mae'n bwysig ein bod yn croesawu hynny.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:34, 8 Hydref 2024

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y gwaith pwysig yma ac am eich cyfraniad hynod naturiol yn y Gymraeg ar ddechrau'r datganiad. Dwi'n gobeithio bydd eich hyder dim ond yn cynyddu o hyn ymlaen. Dwi'n cofio yn y 1990au cynnar, yn 1990, pobl yn galw fy mam yn greulon am iddi adael i blant o gartrefi cyfrwng Saesneg i ymuno â'n cylch meithrin ni. Yn ddiweddarach yn yr ysgol gynradd, dwi'n cofio cyfoedion yn gadael addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd i deuluoedd gael eu cynghori gan yr ysgol y byddai addysg Saesneg yn siwtio eu plant yn well. Rŷm ni wedi dod yn bell iawn mewn 30 mlynedd, a dwi'n nabod plant sydd wedi dod yn rhugl trwy unedau trochi wedi i'r teulu symud nôl i Gymru. 

Ond, er gwaethaf ariannu gan y Llywodraeth, dwi'n rhannu consérn Heledd Fychan nad oes gan bob awdurdod lleol uned trochi Cymraeg o hyd. Pryd dŷch chi'n disgwyl uned ym mhob awdurdod lleol? Mae'n amlwg bod yna ddiffyg cysondeb ar hyn o bryd. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i sicrhau bod ymarfer da a bod cysondeb yn digwydd ym mhob awdurdod lleol? Diolch yn fawr. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:36, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig iawn am gynhwysiant a bod yn gynhwysol, a chredaf fod hynny'n allweddol, mewn gwirionedd, onid ydyw, er mwyn i'r iaith ffynnu? Rwy'n ystyried yr hyn a ddywedwyd am amrywioldeb yn y ffordd y mae'r ddarpariaeth yn cael ei gwneud. Rwy'n dal i feddwl ei bod yn werth canmol pawb am fod gennym y ddarpariaeth hon ym mhob rhan o Gymru nawr, ac mae hynny'n gam mawr ymlaen go iawn. Mae'r CSCAau i mewn; byddaf yn edrych i weld beth maen nhw'n ei ddweud am y ddarpariaeth drochi, ac mae cyfle yno i graffu ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn y maes hwnnw. Ond rwyf hefyd yn credu bod y rhwydwaith yr wyf wedi siarad amdano yn gyfle da iawn i rannu arfer da a sicrhau bod pob awdurdod yn dod i fyny i lefel y gorau. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 8 Hydref 2024

Dyna ni; dyna ddiwedd ar y datganiad yna. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a hyfryd eich clywed chi yn siarad yn y Gymraeg wrth gyflwyno'r datganiad yna. Dyna ni—dyna ddiwedd ar ein trafodion ni am heddiw. Diolch i bawb. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.