Fepio ymhlith Pobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Hydref 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Llafur 2:18, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae fepio ymhlith pobl ifanc yn bryder cynyddol yn y Rhondda. Mae trigolion dig wedi cysylltu â mi ynglŷn â siop fêps newydd sydd wedi agor yn ddiweddar yn Nhreorci. Fel y rhan fwyaf o siopau fêps eraill, mae ganddi arwyddion wedi'u goleuo nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'r stryd fawr. Mae ganddi arddangosfa ffrynt ddwbl o fêps lliwgar sy'n amlwg yn cael eu marchnata tuag at bobl ifanc, ac mae ar y prif lwybr i'r ysgolion cynradd a chyfun. Mae'r cynghorydd lleol Bob Harris wedi cyflwyno sylwadau i adran cynllunio a gorfodi cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ond yn ofer. Fe wnaethon ni hefyd ymweld ag Ysgol Gyfun Treorci yr wythnos diwethaf, a fydd yn parhau â'r gwaith maen nhw'n ei wneud i godi ymwybyddiaeth o beryglon fepio i bobl ifanc.

Prif Weinidog, pa gamau eraill y gallwch chi eu cymryd i gefnogi cymunedau lleol drwy adolygiadau o ganiatadau cynllunio a rheoliadau ar gyfer siopau fepio, yn enwedig enwau siopau ac arwyddion? A beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â brandio a marchnata fêps, fel eu bod yn llai deniadol i bobl ifanc? Hefyd, oes cyfle i gynnal ymgyrch ehangach ledled Cymru ar draws ysgolion i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc mewn ffordd fwy grymus?