Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Hydref 2024.
Rydych chi'n sôn am y miliynau a wariwyd ar gynorthwyo plant mewn tlodi, fel pe bai hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono—nid dyna'r gwir, mae'n rhywbeth y dylem ni fod â chywilydd ohono, bod yn rhaid i ni ei wneud. Mae'n rhaid i ni ddarparu'r cymorth hwnnw oherwydd, fel y'i galwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid,
'yr un polisi mwyaf costeffeithiol ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n byw o dan y llinell dlodi yw cael gwared ar y terfyn dau blentyn.'
Ac nid yw hynny o fewn ein gallu. Flwyddyn yn ôl, dywedodd eich Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol presennol:
'rydym ni'n galw'n barhaus'— yn sôn am Lywodraeth Cymru—
'am ddiddymu'r cap budd-dal a'r terfyn dau blentyn, gan ein bod ni'n credu fod y rhain yn ysgogiadau allweddol o dlodi ymhlith teuluoedd mwy yng Nghymru, yn arbennig.'
Dim ond blwyddyn yn ôl oedd hynny. Felly, beth fyddwch chi'n galw ar Lywodraeth Lafur y DU i'w wneud yn wahanol yng nghyllideb eleni i helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant?