Plant mewn Tlodi Cymharol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Hydref 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:10, 8 Hydref 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol o ran tlodi plant yw gwneud yn siŵr bod cyfleoedd hefyd i bobl gael swyddi, ac os yw pobl yn gweithio maen nhw'n gallu cefnogi eu teuluoedd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth plant yn y sefyllfa y dylai fod, ac rwy'n falch o ddweud bod hwnnw wedi cael ei ehangu yn nhymor y Senedd hon. Ond mae'r pwyslais, rwy'n credu, ar dyfu'r economi yn gwbl allweddol, oherwydd os byddwn ni'n tyfu'r economi gallwch ddefnyddio'r trethi hynny er mwyn cefnogi'r math o agenda cyfiawnder cymdeithasol y mae gennych chi a minnau gymaint o ddiddordeb ynddi.