Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Hydref 2024.
Mae ein strategaeth tlodi plant, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr eleni, yn nodi ein huchelgais tymor hir i daclo tlodi plant ac i leddfu effeithiau gwaethaf tlodi yng Nghymru. Mae’n nodi hefyd sut byddwn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid i gael yr effaith fwyaf posib drwy’r dulliau sydd ar gael inni.