Cefnogaeth Fugeiliol i Staff y GIG

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Hydref 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:58, 8 Hydref 2024

Diolch i Natasha am y cwestiwn agoriadol yma. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth o’r pandemig, yr angen i edrych ar ôl llesiant y gweithlu ydy hynny. Mae hyn yn golygu rhoi’r hyblygrwydd yna iddyn nhw er mwyn cael y balans rhwng gwaith a bywyd yn well, neu ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Yn ôl y cynllun cadw nyrsiaid, a wnaeth y Prif Weinidog ei gyhoeddi pan oedd hi’n Weinidog iechyd llynedd, mae disgwyl i sefydliadau ymateb yn dosturiol i geisiadau gweithio hyblyg yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Ond mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud wrthyf fi fod nifer o nyrsys yn dod atyn nhw yn dweud bod eu ceisiadau am weithio hyblyg yn cael eu gwrthod. Ydy’r Prif Weinidog felly yn credu bod y polisi yma ddaru hi ei gyflwyno yn gweithio ac a wnaiff hi ryddhau y data er mwyn dangos lefel llwyddiant y mesur yma?