1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 8 Hydref 2024.
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61676
Mae ein strategaeth trafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys y canolbarth a’r gorllewin. Fe fyddwn ni’n cyflawni ar sail y strategaeth honno gan ddilyn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, yn ogystal â'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig. Pwyllgorau yw’r rhain lle mae sawl cyngor yn dod at ei gilydd i wneud penderfyniadau strategol ar gyfer rhanbarth ehangach.
Diolch yn fawr iawn. Dro ar ôl tro, rŷch chi fel Llywodraeth wedi annog pobl i ddefnyddio llai o’u ceir a’u hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd targedau newid hinsawdd a sero net. Ond rwy’n ofni fwyfwy taw geiriau gwag yw’r rhain, achos beth sy’n digwydd yn y rhanbarth rŷn ni’n ei gynrychioli yw bod yna grebachu yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Yr wythnos diwethaf yn unig, fe gawsom ni gadarnhad y byddai gwasanaethau ar hyd llinell Calon Cymru, y rheilffordd eiconig honno sydd yn mynd o Lanelli i’r Amwythig, yn cael eu cwtogi o fis Rhagfyr eleni. Yr eironi, wrth gwrs, yw, tra bo isadeiledd trafnidiaeth y canolbarth yn gwegian, mae dros £4 biliwn o gyllid yn ddyledus i Gymru gan San Steffan am dwyll HS2. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai’r arian hwnnw ei wneud nid yn unig i linell Calon Cymru, ond i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ym mhob rhan o Gymru. Felly, wrth inni ddisgwyl cyllideb Llywodraeth Lafur San Steffan ddiwedd y mis yma, gawn ni felly eglurder oddi wrthych chi a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda’r Llywodraeth er mwyn sicrhau bod pob ceiniog o’r £4 biliwn sy’n ddyledus i ni yn dod i Gymru?
Diolch yn fawr. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw’n eiriau gwag. Y ffaith yw ein bod ni wedi gweld, dros Gymru gyfan, gynnydd o 27 y cant yn y bobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Mae hwnnw'n gynnydd aruthrol ac yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ddathlu. Dwi’n derbyn bod hynny yn haws mewn rhai rhannau o Gymru i gymharu ag ardaloedd eraill. O ran Calon Cymru, mae’n wir bod llai o wasanaethau, o bump i bedwar, ond bydd seddi ychwanegol a bydd capasiti ar gyfer cyclists ar y llinell yna.
O ran HS2, rŷn ni’n dal i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am degwch am yr hyn sydd wedi digwydd o ran buddsoddiad yn y strwythur yna. Dwi ddim yn meddwl bod y ffigur yna o £4 biliwn yn ffigur realistig, ond, dwi eisiau bod yn glir, mae’r trafodaethau yna'n parhau.
Prif Weinidog, mae pobl yn y canolbarth wedi cael llond bol o orfod dioddef trenau gorlawn ar reilffordd y Cambrian rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Ers blynyddoedd lawer, gwnaed ymrwymiadau gan Trafnidiaeth Cymru a Gweinidogion blaenorol yma. Dywedwyd wrthym y byddai cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2023, yna y gaeaf hwn oedd hi, a nawr dywedir wrthym ni mai diwedd y flwyddyn nesaf fydd hi. Mae'r cwbl yn peri rhwystredigaeth a siom fawr pan fo cerbydau newydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o Gymru. Ar ben hynny, dywedir wrthym ni hefyd—er gwaethaf 10 mlynedd o ymrwymiadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yma a chan Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaeth bob awr gwirioneddol—y bydd hwnnw, o 2026, ym mhedwar mis o'r flwyddyn yn unig. Nawr, wrth gwrs, eich Llywodraeth chi sydd eisiau annog pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gallaf glywed Aelodau eraill yn gweiddi am San Steffan—mae'r rhain yn ymrwymiadau a wnaed ers degawd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yma a Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar Trafnidiaeth Cymru ac yn gweithredu Trafnidiaeth Cymru. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: pryd fydd hi y bydd pobl y canolbarth yn gallu cael gwasanaeth rheilffordd y gallan nhw ddibynnu arno ac sy'n wasanaeth da, ac sy'n wasanaeth da y gallan nhw ddibynnu arno fel y gallan nhw ddod allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Byddwch yn ymwybodol bod y galw ar y gwasanaethau hynny yn newid bron yn llwyr o un tymor i'r llall. Yr hyn sy'n digwydd yw y bydd yr amserlen yn adlewyrchu'r gwahaniaeth rhwng misoedd yr haf a misoedd y gaeaf. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed y bydd gwasanaeth ychwanegol rhwng Aberystwyth ac Amwythig o fis Mai 2025, a gwasanaethau ychwanegol i sefydlu gwasanaeth bob awr o fisoedd yr haf rhwng Aberystwyth ac Amwythig o 2026. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch chi fynd â'r wybodaeth honno yn ôl. Ond, hefyd, bydd ymdrech i ailgyflwyno dau wasanaeth ar reilffordd Arfordir y Cambrian yn ystod misoedd yr haf, ochr yn ochr â dyblu'r capasiti ar rai o'r gwasanaethau prysurach. Mae hynny oherwydd ein bod ni wedi bod yn gwrando ar deithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r amserlen, gan adlewyrchu'r newidiadau hynny ac ymateb i'r hyn sydd ei angen ar y bobl ar y rheilffyrdd hynny.