1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 8 Hydref 2024.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61636
Mae ein cynlluniau ar gyfer gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol wedi'u rhestru yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ar ben hynny, yn y flwyddyn ariannol hon, rŷn ni'n darparu dros £7.5 miliwn i Gyngor Sir Penfro i wella trafnidiaeth leol, gan gynnwys datblygu ffyrdd mwy cydnerth, creu llwybrau diogel mewn cymunedau a chynnal hyfforddiant diogelwch ffyrdd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ond un ffordd o wella diogelwch ar y ffyrdd yn sir Benfro yw sicrhau bod cynlluniau ffyrdd yn briodol a bod traffig wir yn gallu llifo'n iawn. Nawr, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae problemau traffig sylweddol o amgylch cylchfan Sgwâr Salutation yn Hwlffordd, ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Nawr, fel y gwyddoch, mae hon, wrth gwrs, yn gefnffordd ac mae'n achosi llawer iawn o rwystredigaeth i fodurwyr lleol, ac, yn hollbwysig, bu nifer o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd o amgylch yr ardal. Nawr, rwyf i wedi codi hyn gyda nifer o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion dros y blynyddoedd, ac er gwaethaf addewidion i weithio gyda rhanddeiliaid lleol i ddatblygu mesurau i wella diogelwch ar y ffyrdd, prin yw'r camau a gymerwyd mewn gwirionedd. Un ateb allai fod cyflwyno system goleuadau traffig ar y gylchfan, ac felly a wnewch chi ymrwymo i edrych ar y mater penodol hwn gyda'ch swyddogion fel y gellir datrys y mater hwn o'r diwedd ac y gall yr ardal fod yn fwy diogel i bawb?
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed y Ceidwadwyr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn diogelwch ar y ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed yr wybodaeth ddiweddaraf ein bod ni wedi gweld gostyngiad o 23 y cant yn nifer y damweiniau difrifol ers cyflwyno'r 20 mya.
O ran diogelwch cynlluniau ffyrdd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, oes, mae llawer o broblemau a llawer o feysydd lle mae angen canolbwyntio. Rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Sgwâr Salutation—wrth gwrs, mater i'r awdurdodau lleol ymdrin ag ef yw hwnnw. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod swm sylweddol o gyllid wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi grantiau trafnidiaeth, gan gynnwys £3.37 miliwn ar gyfer gorsaf fysiau Hwlffordd, ac os gallwn ni gael honno'n agored ac yn gweithredu, yna, yn amlwg, bydd yn lleddfu rhywfaint o'r traffig sy'n mynd i mewn i'r canol. Felly, rwyf i yn gobeithio y bydd hynny, sydd wedi cymryd amser maith i ddwyn ffrwyth, yn digwydd yn weddol fuan.