– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Medi 2024.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad yna i'w wneud gan y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddyfodol y GIG yma yng Nghymru? Rydym yn gwybod bod y GIG yn wynebu heriau sylweddol yn y gogledd, ond hefyd maen nhw'n mynd y tu hwnt i hynny, i'r wlad gyfan. Comisiynodd Llywodraeth y DU ymchwiliad annibynnol i'r GIG yn Lloegr gan yr Arglwydd Darzi, ac, ar ôl darllen yr adroddiad hwnnw, mae'n gwbl amlwg, ar bron pob un eitem a restrir ynddo, fod y GIG yng Nghymru yn perfformio'n waeth na'r sefyllfa a nodwyd yn Lloegr. Nawr, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gomisiynu adolygiad annibynnol o'n gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, er mwyn i ni allu datgelu'r problemau a'r anawsterau a'r heriau sydd yno, ac yn olaf, unwaith ac am byth, fynd i'r afael â nhw. Mae gennym saith bwrdd iechyd mewn gwahanol raddau o ymyrraeth Llywodraeth Cymru neu fesurau arbennig. Dydy hynny ddim yn ddigon da. Fyddai hynny ddim yn wir pe byddem yn gallu cael adroddiad annibynnol a fyddai'n rhoi arweiniad i ni o ran sut i ddod allan o'r llanast hwn rydych chi wedi'i greu ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, ac rydyn ni eisiau gwybod, gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros iechyd, a fydd yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r fath.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Rydym yn cytuno'n llwyr â'r adolygiad annibynnol diweddar, a gynhaliwyd gan Arglwydd a oedd â sail dystiolaeth sicr, ac, yn wir, Arglwydd Llafur, a welodd drosto'i hun, nid yn unig fel meddyg ei hun, ond hefyd fel Gweinidog iechyd—. Nododd mewn gwirionedd yr holl ragofynion ar gyfer dyfodol cenedl iachach a'r GIG i Gymru ac, yn wir, gweddill y DU. Felly, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi'r adroddiad hwnnw'n fawr. Oherwydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae hyn yn ymwneud ag atal, gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd, nid gwasanaeth salwch, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ein hysgogi o ran ein buddsoddiad a'n blaenoriaethau yn y gwasanaeth iechyd. Ond rwy'n credu hefyd y byddwch yn falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud datganiad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf y prynhawn yma yn y GIG, a fydd, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â llawer o'r pwysau ar y GIG yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.
Mae disgwyl i Gyngor Caerffili benderfynu yfory a fydd yn cwtogi ei wasanaeth pryd ar glud, sy'n cael ei ddefnyddio gan ei drigolion mwyaf bregus. Byddwn yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn nodi'r hyn y gellid ei wneud i helpu i sicrhau y gall llywodraeth leol gynnal y gwasanaethau hyn fel rhai hanfodol. Mae nifer o etholwyr wedi ysgrifennu ataf nid yn unig â phryderon am hyn, ond gydag ofn. Dywedodd un etholwr wrthyf fod ei mam yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn i barhau i fyw gartref. Mae hi'n gaeth i'r tŷ, dydy hi ddim yn gallu symud ryw lawer, dydy hi ddim yn gallu mynd at fwyd yn y rhewgell na defnyddio'r microdon. Dywedodd nad dod â bwyd ei mam yn unig y gwna'r staff pryd ar glud—neu Meals Direct—maen nhw'n ei helpu i gadw ei hurddas, maen nhw'n gofalu ei bod yn iawn; pan nad ydyn nhw'n cael ateb, maen nhw'n ffonio'r teulu i wneud yn siŵr ei bod hi'n iawn. Dywedodd, yn ei geiriau hi, 'Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dimau gofalgar, ymroddedig o bobl sy'n cynnig achubiaeth i fy mam, a'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Nid gwasanaeth dosbarthu yn unig ydyn nhw. Mae'n gywilyddus bod hyn hyd yn oed yn cael ei ystyried.' A allai'r Llywodraeth ymyrryd mewn unrhyw ffordd i sicrhau nad yw'r achubiaeth hon yn cael ei cholli?
Mae cymaint o ffyrdd y mae awdurdodau lleol, ac, yn wir, mewn partneriaeth â'r trydydd sector a grwpiau cymunedol, yn cefnogi llawer o bobl agored i niwed, gan gynnwys dinasyddion hŷn yn y gymuned, gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain a defnyddio ystod o wasanaethau, gan gynnwys, o hyd, rai trefniadau o ran yr hyn yr oeddem ni'n arfer ei alw'n 'bryd ar glud'. Ond mae yna lawer o wahanol ffyrdd y maen nhw'n cael eu cyflwyno.
Felly, mae hyn yn bwysig iawn o ran atal—eto, y pwyntiau rydyn ni newydd fod yn eu gwneud—a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi, gan leddfu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl hefyd. Felly, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei nodi a'i gydnabod o ran pwysigrwydd y gwasanaethau hyn. Ond mae awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau nawr oherwydd cyllid cyhoeddus, oherwydd y twll £22 biliwn y cawsom ein gadael ag ef ar ôl 14 mlynedd o gyni. Ac rwy'n gwybod imi ddweud wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Rwy'n sylwi nad yw'r Prif Weinidog wedi crybwyll y £22 biliwn. Wel, rwy'n sicr yn mynd i fod yn ei grybwyll heddiw, oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn cael effaith ar y mathau hynny o wasanaethau rheng flaen.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar, felly hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw ledled Cymru. Rwy'n falch iawn mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn y cwricwlwm, gan ei bod mor bwysig bod gan bob plentyn yng Nghymru, sy'n clywed neu beidio, fynediad at addysg ac ymwybyddiaeth ohoni mewn fformatau eraill.
Ond mae rhwystrau yn parhau i fod ar waith i bobl fyddar a thrwm eu clyw ym mhob rhan o gymdeithas, ac rwyf wedi codi o'r blaen y mynediad cyfyngedig iawn, er enghraifft, i gymryd rhan yng ngwaith cyhoeddus y Senedd, a hefyd y broblem o beidio â bod â digon o ddehonglwyr BSL, sy'n achosi problem wirioneddol. Felly, tybed a allem gael datganiad yr wythnos hon ar y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw, ac i dynnu sylw at y materion sy'n codi.
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, ac, wrth gwrs, mae hyn yn bwysig iawn o ran y gydnabyddiaeth, rwy'n credu, yn fyd-eang yr wythnos hon, o ran cefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw ledled Cymru. Rwy'n credu mai dyma lle mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL, a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gan ddileu rhwystrau iaith presennol, yn bwysig, gan ein bod wedi cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru yn 2004. Ac mae'n bwysig bod y bwriad hwn i ddatblygu uned BSL o fewn y gyfres o gymwysterau sgiliau, ac mae hynny'n rhan o'r cymwysterau cenedlaethol 14 i 16 sydd ar gael i ysgolion a dysgwyr i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, wrth gwrs. Rydym wedi datblygu uned e-ddysgu, ond rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw ymgysylltu, trwy'r tasglu hawliau anabledd, gyda phobl â phrofiad bywyd, i ddysgu, gyda sefydliadau cynrychioliadol, sut y gallwn ni wella'r gwaith o gyflawni gwelliannau i bobl anabl. Ac mae'r tasglu hwnnw, o ran argymhellion, eisoes wedi argymell cynnwys mwy o ddarpariaeth BSL mewn meysydd allweddol fel iechyd, plant a phobl ifanc, mynediad at gyfiawnder, a bydd yn ffurfio camau gweithredu o ran cydraddoldeb i bobl anabl.
Hefyd, mae'n rhaid bod arwyddwyr BSL byddar yn flaenoriaeth. Rwyf am ddweud, ar gyfer y cofnod, Llywydd, bod gennym y safonau Cymru gyfan hyn ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer pobl â nam ar eu synhwyrau. Cafodd hynny ei weithredu mewn gwirionedd yn 2013, ond rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd i gyflawni hynny. Byddai'n dda pe bai ar gael yn fwy o ran ein hamgylchiadau seneddol yma yn y Senedd, ac yn wir yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn bartneriaid â nhw, ac yr ydym yn eu hariannu ac yn eu cefnogi yng Nghymru.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi datblygiad llwybrau teithio llesol mewn lleoliadau priodol? Y rheswm am fy nghais heddiw yw'r angen am lwybr teithio llesol sy'n cysylltu Pont-y-pŵl, New Inn, Mamhilad, Little Mill a Brynbuga â'i gilydd. Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan gynghorydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Lanbadog a Brynbuga, Tony Kear, wedi bod ar y gweill ers dros ddegawd, ond eto mae'n ymddangos ei fod wedi arafu. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn lleihau'r defnydd o geir yn yr ardal, ond byddai'n cysylltu trigolion yn well â safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd pwysig eraill, gan gynnwys ysgolion.
Mewn ymgynghoriad gan Gyngor Sir Fynwy y llynedd, gofynnwyd i drigolion a fyddent yn fwy parod i deithio ar lwybrau llesol pe bai hwnnw sy'n gyfagos i'r A472 yn cael ei wella neu pe bai un newydd oddi ar y llwybr yn cael ei osod. Dywedodd saith deg un i 88 y cant o'r ymatebwyr yn y drefn honno y byddent yn fwy parod i wneud hynny. Mae'n amlwg bod y cyhoedd yn cefnogi'r prosiect penodol hwn, sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio a chefnogaeth gan wahanol grwpiau a sefydliadau. Fodd bynnag, mae problem o ran perchnogaeth tir ac amryw faterion eraill wedi golygu bod y prosiect wedi methu cychwyn. Felly, byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, sy'n amlinellu yn union pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i ddechrau'r prosiect pwysig hwn, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch.
Wel, rwy'n falch iawn o adrodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn dechrau ar hyn. Mae'n ei gydnabod ac mae'n mynd i fwrw ymlaen â hyn. Fel y dywedwch chi, rwy'n credu mai'r peth pwysig yw ei fod yn ymwneud â'r cysylltiad hwn â llwybrau teithio llesol sydd mewn gwirionedd yn gwneud synnwyr i fywydau pobl ac i ddefnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus.
A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud y sylwadau cryfaf posibl i Lywodraeth y DU am y sefyllfa dyngedfennol yn Sudan? Mae'r gwrthdaro yno wedi cychwyn argyfwng newyn mwyaf y byd, ac mae mwy na hanner y boblogaeth—miliynau lawer o deuluoedd—bellach yn profi lefelau argyfwng o newyn. Mewn gwirionedd, mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud wrthym fod 0.75 miliwn o bobl bellach ar drothwy newyn. Rwy'n gwybod nad yw polisi tramor, fel y cyfryw, wedi'i ddatganoli i'r Senedd, ond rwy'n teimlo bod gennym ni fel Senedd rwymedigaeth foesol i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ymateb, ar lefel wleidyddol a dyngarol, i achub bywydau'r dynion, menywod a phlant diniwed hynny sydd bellach yn wynebu'r posibilrwydd o farw o newyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog, sydd wrth gwrs yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol wrth roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ymyrryd, er mwyn osgoi'r drychineb ddyngarol sydd ar fin digwydd yn Sudan?
Diolch, Llyr Gruffydd, am godi'r mater hwnnw heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y Siambr hon fod y materion rhyngwladol a dyngarol hyn yn cael eu codi. Fel y gwyddoch chi, nid yw wedi'i ddatganoli, ond mae gennym raglen Cymru ac Affrica, yr ydym yn falch iawn o'i chefnogi hyd yn oed ar yr adegau anoddaf; mae'n ymwneud â blaenoriaethau. Ac mae gennym boblogaeth alltud fawr iawn, helaeth o Sudan yn byw yng Nghymru, y mae croeso mawr iddyn nhw, ac y mae eu teuluoedd yn cael eu heffeithio a'u dal yn y sefyllfa yn Sudan. Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn gofyn i swyddogion ystyried hyn, o ran beth yw'r sefyllfa a beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran yr ymateb i'r argyfwng dyngarol hwnnw.
Hoffwn alw am ddatganiad ar ba drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gost esgynnol capiau crwyn eirth ffwr go iawn Gwarchodlu'r Brenin, a pha waith sy'n cael ei wneud i ddod o hyd i ddewis amgen addas i ffwr go iawn. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod cynnydd blynyddol o 30 y cant wedi bod yng nghost y capiau hyn, a phob cap croen arth ffwr go iawn bellach yn costio tua £2,000. A datgelwyd bod £1 filiwn wedi'i wario yn ystod y degawd diwethaf ar rai newydd. Wrth gwrs, y tu hwnt i'r gost ariannol, mae cost foesegol y capiau crwyn eirth hyn, ac mae hynny'n hynod arwyddocaol. Mae'n cymryd y ffwr o un arth ddu i wneud un cap yn unig. Hyd yn hyn, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud nad oes dewis amgen o ffwr ffug addas sy'n bodloni'r pum prawf y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer dewis arall i groen arth. Fodd bynnag, maen nhw wedi dweud eu bod yn agored i ystyried dewisiadau amgen sy'n defnyddio ffwr llwynogod. Rwy'n awyddus i wybod o'r datganiad yr wyf wedi galw amdano a fu unrhyw gynnydd ar y mater hwn, ac a fydd y Prif Weinidog, neu ei dirprwy, yn codi hyn gyda San Steffan. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Unwaith eto, mae'n bwysig bod materion o'r fath, na fyddai llawer yn ymwybodol ohonynt, oni bai eu bod wedi gweld eich datganiad a'ch cwestiynau, yn cael eu dwyn i'n sylw. Wrth gwrs, mae polisi amddiffyn wedi'i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Ac yn hynny o beth, mae caffael crwyn eirth a pholisi ar wisgoedd seremonïol yn faterion i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Wrth gwrs, mae'r cysylltiad hwn i'r Gwarchodlu Cymreig, ac mae llawer ohonom wedi ymgysylltu, wrth gwrs, fel Senedd gyda'n Gwarchodlu Cymreig. Ond rwy'n credu mai mater i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw hwn ac rydych chi wedi cofnodi hyn heddiw yn y Siambr.
Rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli i Gymru yw materion trafnidiaeth. Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch gorlenwi ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd, a methiannau diweddar wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau gyda chynnydd yn nifer y teithwyr. Dim ond un cerbyd oedd gan wasanaeth Caergybi i'r Amwythig am 10:30 ddydd Sadwrn, y bu'n rhaid iddo gludo cannoedd o gefnogwyr pêl-droed i Wrecsam a llawer o bobl i rasys Caer. Roedd y teithwyr wedi eu gwasgu i mewn i un cerbyd fel sardîns, a fyddai, fel y gallwch chi ddychmygu, yn ei gwneud hi'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, i'r henoed, pobl ag anableddau neu rieni â phlant ifanc fynd ar y trên. Dylai fod yn arfer safonol i wneud trefniadau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau, fel gemau pêl-droed poblogaidd neu ddiwrnodau rasio, trwy roi cerbydau ychwanegol ar y trên, ond eto mae'n ymddangos bod problemau gorlenwi ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn dal i fod yn ddigwyddiad rheolaidd.
Gan fod cerbydau newydd wedi eu prynu, byddai llawer yn tybio y byddai hen ddigon o gyflenwad i sicrhau y gellid defnyddio digon o gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd poblogaidd, ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn digwydd, ac mae bodlonrwydd a lles teithwyr Trafnidiaeth Cymru yn dal i ddirywio. Mae perygl hefyd y gallai'r gorlenwi cyson a'r cynnydd diweddar ym mhris tocyn effeithio ar dwristiaeth i Gymru, y mae eich Llywodraeth chi hefyd yn ei gwrthwynebu. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wneud datganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i leihau gorlenwi? Ac a allwch chi egluro a oes cyflenwad digonol o gerbydau? Diolch yn fawr iawn.
Wel, mae yna, mae'n rhaid i mi ddweud—. Diolch am y cwestiwn, ond rwy'n credu bod angen i mi gywiro'r cofnod ar rai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Wel, yn gyntaf oll, gadewch i ni fod yn falch o Trafnidiaeth Cymru. Gadewch i ni fod yn falch o'r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cofnodi'r gwelliant mwyaf o'r holl weithredwyr o ran prydlondeb a dibynadwyedd ar draws Prydain Fawr rhwng Ebrill a Mehefin, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ac onid oeddem ni'n falch pan oeddem ni—mae'n rhaid i mi ddweud 'ymddiheuriadau' am hyn—pan oeddem ni yn Lerpwl, gan ddweud bod gennym ni ein Trafnidiaeth Cymru eisoes yn ein perchenogaeth yma yng Nghymru. Roedd yn amser gwych i wneud y pwynt hwnnw.
Ond hefyd, dim ond i ddweud, mae'r problemau o ran gorlenwi yn aml yn ymwneud â digwyddiadau, fel rydych chi wedi'i ddweud. Rwy'n cydnabod hynny. Ond hefyd, pan fo problemau mewn perthynas â digwyddiadau penodol, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n aml yn cysylltu â—. Ac yn y de, er enghraifft, yr orsaf brysuraf, wrth gwrs, yw Caerdydd Canolog. Ac mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y DU wedyn mewn perthynas â chyllid, gan ddarparu gwelliannau i orsafoedd—yn enwedig gorsafoedd o ran Llywodraeth y DU—i ymdopi â'r teithwyr yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, sydd nid yn unig â'r gwelliant mwyaf, fel y dywedais i, ac sy'n fwy dibynadwy, ond sydd hefyd yn ymateb i anghenion ac amgylchiadau cwsmeriaid. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau fy nheithiau i'r gogledd ar Trafnidiaeth Cymru neithiwr ac, yn wir, ddydd Sadwrn, ac roedd yn wasanaeth ardderchog. Yn sicr, doedd dim gorlenwi ar y teithiau rheilffordd hynny, fel yr ydych chi i gyd, sy'n teithio i lawr ac sy'n falch o fod yn teithio ar ein trenau Trafnidiaeth Cymru, fel y mae cymaint ohonoch chi yn ei wneud bob wythnos.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? Nawr, ddydd Iau yma, bydd bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystyried nifer o doriadau i ddarpariaeth iechyd yng ngorllewin Cymru, sy'n cynnwys, o bosibl, lleihau nifer y gwelyau yn Ysbyty Tregaron, cau'r uned blant yn ysbyty Bronglais dros dro a'u trosglwyddo i ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, sydd rhyw awr i ffwrdd, a chau dros dro yr uned fân anafiadau dros nos yn ysbyty Llanelli, gan adael tref fwyaf y gorllewin heb ddarpariaeth 24 awr ar gyfer damweiniau ac achosion brys na mân anafiadau. Mae'r toriadau arfaethedig hyn eisoes wedi achosi pryder enfawr ar draws y rhanbarth, yn enwedig mewn cymunedau sydd wedi dod yn gyfarwydd â thoriadau, o ran meddygfeydd yn cau, deintyddion ddim ar gael, ac yn y blaen, dros y ddegawd ddiwethaf. Yn anochel, mi fyddwch chi’n rhoi’r bai ar y bwrdd iechyd, ond y gwir amdani yw eich bod chi fel Llywodraeth wedi methu’r cymunedau gwledig hyn oherwydd nad ydych chi wedi rhoi cyllid digonol i recriwtio digon o nyrsys a doctoriaid i sicrhau bod y gwasanaethau yma yn gallu parhau. A gawn ni, felly, ddatganiad brys gan y Gweinidog mewn ymateb i’r toriadau posibl hyn yng ngorllewin Cymru?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos hon ac, yn amlwg, bydd y materion polisi a'r newidiadau hynny o ganlyniad i bwysau ar yr agenda. Yn ddiddorol ac yn bwysig, ac fe fyddwch chi'n gwybod, Cefin Campbell, mewn perthynas, er enghraifft, â'r uned mân anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Philip—wrth gwrs, mae hyn yn dal yn cael ei drafod o ran y bwrdd—mae'n bwysig bod y bwrdd mewn gwirionedd yn ymgysylltu â Llais, llais cleifion yng Nghymru, a'i gymunedau lleol ac yn dilyn canllawiau'r gwasanaeth gwladol. Rydym wedi cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â chymunedau lleol wrth iddyn nhw ystyried cynllunio tymor hir. Rwy'n credu, mewn perthynas â'r holl newidiadau a phwysau hyn a chynigion ar gyfer newid sy'n deillio o bwysau ac anghenion polisi ac anghenion cleifion, rydym yn edrych at lais cleifion, Llais, i helpu gyda'r ymgysylltu cymunedol hwnnw. Ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, wrth gwrs, yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd yr wythnos hon.
A gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai a chynllunio ynghylch cyflymder annerbyniol y gwaith adfer diogelwch tân y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud dros y saith mlynedd diwethaf ers trychineb ofnadwy Grenfell? Dim ond ar ddechrau'r mis Medi hwn y tynnais sylw at y ffaith bod 53 o adeiladau uchel yn dal heb eu nodi ar gyfer unrhyw waith adfer angenrheidiol. Dim ond yr wythnos hon, cefais ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn nodi, allan o 238 o adeiladau daliadaeth preifat a glustnodwyd ar gyfer gwaith diogelwch tân hanfodol, mai dim ond ar dri ohonynt y mae'r gwaith wedi'i gwblhau. Mae hyn yn embaras i Lywodraeth Cymru ac mae'n frawychus bod y trigolion hynny yn cael eu gadael yn byw mewn ofn. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd llwyddiant o 1.26 y cant, ac mae'n codi cwestiynau sylweddol ynghylch pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, os gwelwch yn dda, ddarparu'r datganiad hwn ac amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drin y mater hwn fel un difrifol a hwyluso'r agweddau diogelwch adeiladau gwirioneddol fel y gall y bobl hyn fyw heb ofn? Diolch.
Diolch, Janet Finch-Saunders, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, heddiw, fy mod yn myfyrio, wrth ateb y cwestiwn hwnnw, fel eich Trefnydd, fod ein meddyliau gyda phawb a oedd ac sy'n parhau i gael eu heffeithio gan dân tŵr Grenfell. Rydym yn croesawu cyhoeddi 'Ymchwiliad Tŵr Grenfell: Adroddiad Cam 2' yn fawr ac rydym yn ystyried yr argymhellion yn ofalus. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch adeiladau ar gyfer holl drigolion Cymru. Rydym wedi cymryd camau cadarn wrth fynd i'r afael ag argymhellion adroddiadau blaenorol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac nid yn unig y cafodd hynny ei ailgadarnhau gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf o ran blaenoriaethau, ond rydym hefyd wedi dechrau, yn bwysig ddigon, rhannau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i sicrhau diwygio dyluniad ac adeiladu adeiladau risg uwch, a newidiadau i'r ffordd y caiff y proffesiwn rheoli adeiladu ei reoleiddio. Ond, dim ond i roi'r diweddariad terfynol i chi, y bwriad yw cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon yn ymateb i adroddiad cam 2 Grenfell, gan nodi gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â materion diogelwch tân, ac mae hynny'n cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i gyflawni Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, mae bron yn flwyddyn ers inni weld newidiadau yn amserlenni bysiau llwybrau TrawsCymru, a hyn yn dilyn toriadau gan eich Llywodraeth chi. Os ydy fy mewnflwch i yn unrhyw beth fel ffon fesur ar hyn, yna mae'n amlwg bod y newidiadau wedi bod yn fethiant trychinebus, efo pobl fregus yn methu cyrraedd gwasanaethau, a phlant a phobl ifanc yn methu cyrraedd clybiau chwaraeon, ac yn y blaen. Felly, gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yn dangos asesiad o effaith y toriadau yma, os gwelwch yn dda, dros y flwyddyn ddiwethaf ers eu cyflwyno nhw?
Yn ail, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog amaeth ar y system ariannu ar gyfer coetiroedd a thiroedd cynefin tan i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd gael ei gyflwyno? Mae nifer o ffermwyr, er enghraifft, wedi neilltuo tiroedd ar gyfer coetiroedd neu gynefin efo amodau i beidio â phori'r tir yna, ac, yn sgil hynny, maen nhw'n derbyn arian, neu wedi bod yn derbyn arian, i'w cynnal nhw o dan Glastir uwch. Rŵan, mae'r rhaglen honno wedi dirwyn i ben ond does yna ddim arian wedi cael ei gyflwyno i gymryd ei lle, sy'n golygu bod nifer o'r ffermwyr yma rŵan efo tiroedd sydd ddim yn ffrwythlon, sy'n costio i'w cynnal a'u cadw, ac maen nhw'n ystyried torri'r coed yna i lawr. Felly, mi fyddai'n dda clywed pa drefn ariannol sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet mewn golwg ar gyfer y tiroedd yma tan fod yr SFS newydd yn cael ei gyflwyno. Diolch.
Diolch yn fawr, Mabon, am eich cwestiynau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn asesu effaith newidiadau ar linellau TrawsCymru, ac, wrth gwrs, mae hynny'n ymwneud â'r holl ystod o ddefnyddiau o'r llinell honno, o ddefnydd bob dydd gan blant a phobl ifanc a phobl hŷn, i dwristiaeth. Byddwn yn edrych ar hynny.
Ac yn ail, byddaf yn codi gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y mater ynghylch pa asesiad sy'n cael ei wneud o ran yr amgylchiadau ar gyfer y safleoedd coetir hynny wrth i ni symud ymlaen gyda chanlyniadau'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, gydag un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch banciau gwledig. Mae Banc Lloyds wedi cyhoeddi y bydd trydydd Banc Lloyds yn cau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Maen nhw wedi cau un yn Ystradgynlais, maen nhw'n bwriadu cau un yn Llanandras, ac un arall yn Aberhonddu. Gwnaeth Banc Lloyds elw o £7.5 biliwn y llynedd, cynnydd o £4.8 biliwn y flwyddyn flaenorol. Nid yw hwn yn fanc sydd mewn trafferthion. Mae hwn yn fanc y mae dyletswydd arno i ddarparu banciau i'w gymunedau sy'n diwallu eu hanghenion. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru beth yn union maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod modd cael gafael ar arian parod yn ein cymunedau gwledig.
Ac yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, am ddiweddariad ar y gwaharddiad graddol ar rasio milgwn? Ym mis Mawrth eleni, daeth yr ymgynghoriad i ben, a dydyn ni ddim wedi clywed unrhyw beth o ran yr amserlen. Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd Bwrdd Milgwn Prydain Fawr eu hadroddiad yn datgelu cynnydd brawychus o 47 y cant mewn marwolaethau cŵn ac achosion ewthanasia sy'n gysylltiedig â rasio. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, felly hoffwn gael diweddariad ar yr amserlen os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch am dynnu sylw at elw helaeth Banc Lloyds, wrth i fanciau barhau i dynnu allan o'n cymunedau, dod allan o'n cymunedau, cau canghennau banc. Mae tri chant a saith deg chwech o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers mis Ionawr 2015, ac mae hynny'n gymaint o golled i'r gwasanaethau gwerthfawr hynny. Ac rydych wedi tynnu sylw yn arbennig at anghenion pobl mewn cymunedau gwledig. Felly, rydym wedi bod yn hyrwyddo anghenion penodol cymunedau Cymru, gan edrych ar gael mynediad at wasanaethau bancio arian parod ac wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, nawr mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau hyn, ac, wrth gwrs, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd o ran mynediad at wasanaethau ariannol a chynhwysiant ariannol. Mae gennym hybiau bancio yn cael eu cyflwyno, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod am weld rhwydwaith o hybiau bancio yn ehangu, ond hefyd, wrth edrych ar ein perthynas â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Link a Cash Access UK, maen nhw'n hyrwyddo anghenion rhannau o'r boblogaeth sy'n dibynnu fwyaf ar gael mynediad at wasanaethau bancio arian parod ac wyneb yn wyneb. Ond hefyd, rydym yn gweithio gyda nifer o'n partneriaid bancio yng Nghymru, er enghraifft—y rhai sy'n fenthycwyr cyfrifol, nid ein hundebau credyd yn unig, sydd, wrth gwrs, ledled Cymru, ond hefyd y benthycwyr cyfrifol hynny fel Cymdeithas Adeiladu Principality, sy'n treialu OneBanx. Rydym hefyd wedi gwneud ein holl waith ar y banc cymunedol.
So, diolch yn fawr am eich cwestiwn. Obviously, symudwn ni ymlaen â hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi.
Iawn, os symudwn ni i'r ail gwestiwn, o ran yr ymateb, rwy'n siŵr, gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar amserlenni nawr ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid. Fe gaeodd ym mis Mawrth, fel y gwyddoch chi. Cafwyd dros 1,100 o ymatebion manwl. Mae'n helpu i lywio datblygiad model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, sydd wedi codi fwy nag unwaith y prynhawn yma, ac mae hefyd yn adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'n edrych ar ble y gellir gwneud gwelliannau. Ac, fel y gwyddoch chi, wedi'i gynnwys yn y cwestiynau yn yr ymgynghoriad oedd dyfodol rasio milgwn yng Nghymru. Felly, rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd, rydym yn gwerthuso'r dystiolaeth a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion, a bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud datganiad ar ein camau nesaf maes o law.
Hoffwn droi at y cwestiwn o deithio llesol, Trefnydd, i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth. Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf a oedd yn dangos bod ein huchelgeisiau ymhell o gael eu cyflawni, gan adleisio adroddiad bythefnos cyn hynny gan fwrdd cyflenwi teithio llesol y Llywodraeth, sy'n dweud bod y cynnydd yn boenus o araf, y ddau ohonynt yn defnyddio yn helaeth waith y grŵp trawsbleidiol yma yn y Senedd, sydd, yn ei adolygiad o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, yn dangos bod nifer o feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau.
Ac mae'r themâu yn gyffredin. Mae sylfaen dystiolaeth gref bellach i ddangos bod problemau gyda chasglu data, y diffyg capasiti mewn cynghorau, ac mae angen blaenoriaethu buddsoddiad lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Clywsom gan Natasha Asghar yn gynharach bod galw ledled Cymru am ddatblygu llif o gynlluniau, ac mae peth pryder na ddylai'r ailflaenoriaethu gan y Llywodraeth i roi pwyslais ar dyllau mewn ffyrdd, yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn ei gefnogi, ddod ar draul y gronfa teithio llesol, sy'n ymrwymiad hirdymor ar gyfer gwaith ataliol, ac mae'r pethau hyn yn cymryd amser i'w pwytho at ei gilydd. Felly, mae nawr yn amser i fireinio ein dull gweithredu, nid cefnu ar ein dull gweithredu, a byddwn yn ddiolchgar am gyfle priodol yn amser y Llywodraeth i drafod hyn yn llawnach.
Diolch yn fawr, Lee Waters. A gawn ni, fel rydyn ni bob amser, dalu teyrnged i'ch gwaith, fel y sbardunydd, mae'n rhaid i mi ddweud, o'r Ddeddf teithio llesol, ond hefyd am y materion rydych chi wedi'u datblygu'n gyson drwy gydol eich bywyd gwaith a gwleidyddol? Rwy'n credu bod adroddiad teithio llesol Archwilio Cymru yn bwysig, fel y dywedwch chi. Roedd llawer o'r materion eisoes wedi'u nodi. Maen nhw wedi cael eu codi gan y grŵp trawsbleidiol, rwy'n deall, ar y Ddeddf teithio llesol, yn ôl yn 2022. Felly, dim ond ystyried y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, o gynllun cyflawni teithio llesol 2024-27. Datblygwyd hwnnw i raddau helaeth mewn ymateb i ganfyddiadau'r grŵp trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae'n ymwneud â sut mae hyn yn cael ei weithredu ynghyd â chyflwyno'r arolwg teithio cenedlaethol. Ond rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa ragorol nawr gyda Trafnidiaeth Cymru—gan edrych at Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth—yn cefnogi awdurdodau lleol a hefyd y cyd-bwyllgorau corfforedig i gyflawni'r gwelliannau hynny. Mae angen ymgysylltu â'r gymuned ym maes cynllunio a dylunio a chynlluniau i gefnogi'r cyfleoedd cywir ar gyfer mwy o deithiau ar droed ac ar feic, ond hefyd yn ddefnyddiol iawn i wneud y cysylltiad hwnnw hefyd â mynediad at wasanaethau cyhoeddus hefyd.
Diolch i'r Trefnydd. Mae ein hamser ar ben ar y datganiad busnes hwn, er bod gen i o leiaf dri siaradwr arall eisiau cyfrannu. A gaf i awgrymu wrth grwpiau gwleidyddol, os oes gennych chi siaradwyr yn galw am ddatganiadau, a bod gennych chi lawer i lawr am y diwrnod, y gallai'r siaradwyr eraill hynny yn eich grwpiau ofyn am un datganiad yn hytrach nag un, dau neu dri datganiad o bosibl? Byddai hynny wedi fy ngalluogi heddiw yn bendant i fod wedi galw'r holl siaradwyr o bob grŵp. Dim ond pwynt bach ar gyfer y dyfodol.