Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Medi 2024.
Derbyn credyd pensiwn yw'r allwedd i lawer o bobl hŷn yng Nghymru i ddatgloi rhagor o hawlogaethau. Yn ddiweddar, amcangyfrifodd Age UK fod 56,100 o bobl yng Nghymru yn gymwys ond dydyn nhw ddim yn hawlio credyd pensiwn. Trwy gydweithio â Llywodraeth y DU a'n partneriaid, rydym yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn yng Nghymru.