1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 24 Medi 2024.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer ar eiddo yr effeithir yn andwyol arnynt gan gynllun Arbed yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? OQ61578
Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £2.65 miliwn o gyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer gwaith adfer ar gartrefi a effeithiwyd. Disgwylir i'm swyddogion gyfarfod â nhw ddechrau mis nesaf i adolygu'r cynnydd a wnaed ar y gwaith paratoi ar yr eiddo a effeithiwyd.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.
Mae hwn, wrth gwrs, yn fater sydd wedi bodoli'n gyson ers dros ddegawd ac wedi bod ar draws desgiau pedwar Prif Weinidog erbyn hyn. Mae'n sefyllfa annerbyniol i fod ynddi. Nid oes diwrnod wedi mynd heibio yr haf hwn heb i etholwr gysylltu â mi ynghylch diffyg cynnydd, diffyg eglurder a diffyg tryloywder y prosiect hwn, ac mae'r frwydr yn parhau i lawer o drigolion am fargen deg. Pan godais i hyn gyda'ch rhagflaenydd, dywedodd y byddai angen i Lywodraeth Cymru weld a oes ateb yn y dyfodol i'r perchnogion cartrefi unigol. Nawr, rwy'n falch bod eich swyddogion yn cyfarfod â swyddogion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond rwyf i hefyd eisiau gofyn am ymrwymiad gennych chi heddiw i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a gweld bod preswylwyr yn cael yr iawndal a'r cymorth y maen nhw'n eu haeddu. Yn bwysicach fyth, yn y presennol uniongyrchol, mae trigolion yn haeddu gweld y problemau a achoswyd gan y cynllun yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl a therfyn ar addewidion ffug. I grynhoi: mae fy etholwyr wedi blino, maen nhw wedi cael llond bol, ac maen nhw'n haeddu gwell.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n deall rhwystredigaeth eich etholwyr yn llwyr. Nid oedd hwn yn fodel o'r ffordd yr oeddem ni eisiau i'r prosiect penodol hwn weithio. Mae'n fecanwaith o inswleiddio waliau allanol; effeithiwyd ar 104 o gartrefi. Roedd hynny oherwydd crefftwaith gwael, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu, fel Llywodraeth, nad oes cyfrifoldeb ffurfiol na chyfreithiol arnom i ni gywiro'r sefyllfa, ond y gwir amdani yw ein bod ni wedi cyfrannu £2.6 miliwn i helpu cyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cywiro'r gwaith hwnnw. Felly, rwy'n gwybod bod y gwaith eisoes wedi dechrau a bod cyfleoedd i bobl weithio gyda'r cyngor i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cywiriadau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cartrefi.
Prif Weinidog, rwy'n eich clywed chi'n dweud eich bod yn deall rhwystredigaeth pobl Caerau ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei alw'n grefftwaith gwael a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, ond a ydych chi'n deall rhwystredigaeth pobl Caerau ynglŷn â sut y daethom i'r sefyllfa hon? Felly, dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru, i gwmni o'r enw Green Renewable Wales, cwmni oedd â chynghorydd Llafur lleol Caerau ac aelod o gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfarwyddwr. Nid yw'n glir faint o ddiwydrwydd dyladwy a wnaed ynghylch priodoldeb penodiad y cwmni hwn, ond mae'r ffaith iddo gael ei ddiddymu yn ôl yn 2017 wedi gwneud adennill yr arian y sonioch chi amdano a gollwyd o Green Renewable Wales bron yn amhosibl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad ffurfiol o'r hyn a ddigwyddodd gyda chynllun Arbed yng Nghaerau a sut y caniatawyd iddo ddigwydd, fel na all rhywbeth fel hyn byth ddigwydd eto?
Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth nad oedd hwn yn fodel yr oeddem yn disgwyl ei weld, ac rwy'n credu bod rhwystredigaeth go iawn wedi bod. Ond rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle, yn dilyn trafodaethau, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gyfrannu £0.8 miliwn i atgyweirio 25 o gartrefi, ac mae Llywodraeth Cymru, fel y dywedais i, wedi awgrymu y byddwn ni'n gwneud cyfraniad o £2.6 miliwn ar gyfer y 79 o gartrefi sy'n weddill. Doedd dim rhaid i ni wneud hynny, ond rydym yn cydnabod rhwystredigaeth llawer o bobl. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n bwysig—rydych chi'n gwbl iawn—yw bod angen i ni ddysgu gwersi o'r cynnig yma, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi bod yn gwneud yn siŵr bod y gwersi'n cael eu dysgu.