Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 18 Medi 2024.
Mae'r sefyllfa sydd wedi codi gyda Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, wedi cael ei godi gyda mi, ac rwyf wedi ei thrafod gyda llawer o Aelodau dros yr wythnosau diwethaf—Delyth Jewell, Hefin David, Rhianon Passmore, pob Aelod yn y rhanbarth ac yn eu hetholaethau eu hunain. Felly, mae'n bwysig ei fod ar yr agenda heddiw o ran cwestiynau. Yn amlwg, mater i gyngor sir Caerffili ydyw, fel y gwyddoch, ac maent newydd orffen eu hymgynghoriad. Yn amlwg, mae'r awdurdod lleol wedi cyflwyno eu sylwadau hefyd. Mae'n sefydliad a ariennir trwy sawl ffynhonnell, un o sefydliadau a ariennir trwy sawl ffynhonnell Cyngor Celfyddydau Cymru. Maent hwy hefyd, wrth gwrs—Cyngor Celfyddydau Cymru—yn ymgysylltu llawer â'r tîm yn Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, i gynnig cymorth.