2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Medi 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae'r Blaid Lafur yn credu bod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn syniad da?
Wel, mae'n ddiddorol iawn ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth ar hyn gyda'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n falch iawn fod gennym gwestiynau a dadl hefyd y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn yn y Siambr, oherwydd yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud o ran y penderfyniad anodd hwn a wnaed gan Lywodraeth y DU oherwydd bod eich Llywodraeth ddiwethaf wedi difetha ein heconomi, gan adael y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus—[Torri ar draws.] Dywedais ddoe fy mod yn mynd i ddweud hyn gryn dipyn o weithiau, fel y bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Ond y pwynt pwysig, Joel, yw bod yn rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl iddi, ac yn bwysig—a dyma lle rwy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU—yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, oherwydd bydd hynny'n datgloi nid yn unig mynediad at daliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn i lawer o bensiynwyr nad ydynt yn manteisio arno yng Nghymru, ond fe fydd yn datgloi budd-daliadau eraill iddynt hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bawb fod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i gymaint o bobl oedrannus a bregus nid yn unig yn eithriadol o anystyriol ond yn gwbl ddidostur. Gwyddom fod nifer sylweddol o bensiynwyr yn byw ychydig bach uwchlaw'r trothwy i fod yn gymwys i gael credyd pensiwn. Rydym yn gwybod nad yw llawer o'r bobl sydd â hawl iddo yn hawlio'r credyd pensiwn. Rydym yn gwybod y rhagwelir y bydd prisiau tanwydd yn cynyddu tua 10 y cant ym mis Hydref eleni. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom y bydd y polisi hwn heb os yn achosi i nifer fawr o bensiynwyr ddiffodd eu gwres y gaeaf hwn. Mae'r ffaith bod gan Gymru 15 y cant yn fwy o bensiynwyr fel cyfran o'r boblogaeth, o'i gymharu â Lloegr, hefyd yn golygu y bydd effaith anghymesur ar bensiynwyr Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad yw Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud hynny, pa asesiad a wnaed gennych chi o effaith toriadau i lwfans tanwydd y gaeaf yng Nghymru, a pha adnoddau ychwanegol rydych chi'n disgwyl gorfod eu canfod nawr i gefnogi pensiynwyr Cymru?
Cwestiwn dilynol pwysig yn wir. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Liz Kendall AS—hi yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau—yr wythnos hon, mewn ymateb i fy ngohebiaeth, fy llythyr, ati yn gynharach yn yr haf, i ofyn y cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â hyn o ran diwallu anghenion, yn enwedig, ein pensiynwyr tlotaf yng Nghymru, nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn. A bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod ein cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn, Heléna Herklots, yn ei hystyried yn ymgyrch credyd pensiwn gref iawn. Roeddem yn rhan o hynny fel Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn ymgysylltu'n agos iawn ag ymgyrch Llywodraeth y DU. Rydym wedi rhannu'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol am gredyd pensiwn gyda rhanddeiliaid ledled Cymru, mae gennym ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru am help i hawlio credyd pensiwn. Rydym yn rhoi posteri yn ein meddygfeydd. Rydym yn ceisio helpu i gyfleu'r neges hon ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.
Ond rwy'n credu hefyd fod hyn yn ymwneud ag atal, ynglŷn â sut rydym yn cefnogi aelwydydd ein pensiynwyr yng Nghymru. Ac mae'r buddsoddiad o £30 miliwn eleni yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar gyfer perchnogion tai ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat yn hanfodol bwysig. Nawr, a gaf i ddweud un peth arall? Nid oes digon o bensiynwyr yn manteisio ar ein cronfa cymorth dewisol i ddarparu cymorth brys i aelwydydd. Felly, rwy'n eich annog i'w hyrwyddo i'ch etholwyr, ac yn enwedig pensiynwyr, a rhoi'r wybodaeth iddynt, yn enwedig drwy ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', am daliadau cymorth dewisol, sy'n rhywbeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i gefnogi wrth gwrs, ac wedi'i flaenoriaethu yn ein cyllideb.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r penderfyniad na fydd taliad tanwydd y gaeaf yn un cyffredinol bellach yn creu perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.' ac mae'n creu perygl o niweidio pobl hŷn a bregus. Ond y gwir amdani, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yw nad yw Llafur y DU yn malio dim am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl. Mae'r ffaith na phleidleisiodd unrhyw AS Llafur o Gymru i gael gwared ar y polisi hwn yn dangos nad oes gan y Blaid Lafur ddiddordeb yng Nghymru. A wnewch chi gondemnio'n gyhoeddus yr ASau o Gymru a fethodd bleidleisio i gael gwared ar y polisi hwn, a fydd yn niweidio cymaint o bobl fregus yng Nghymru yn uniongyrchol? Diolch.
Ni allaf gredu'r haerllugrwydd. Ydych, rydych chi bellach yn wrthblaid yn San Steffan, ond roeddech chi mewn grym am 14 mlynedd o gyni, lle gwnaethoch chi gael gwared ar gymaint o fudd-daliadau i bensiynwyr. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, rwy'n ddigon hapus i ddyfynnu o lythyr Liz Kendall, oherwydd mae hi'n dweud yn ei llythyr, 'Fel cam cyntaf tuag at ailadeiladu Prydain, mae'n rhaid inni drwsio sylfeini ein heconomi i wneud y newidiadau sydd eu hangen yn daer ar ein gwlad, o ystyried y sefyllfa enbyd a etifeddwyd gennym gan gynnwys y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus eleni. Rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd.'
Ond hefyd mae hi wedi derbyn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i estyn allan a gweithio gyda nhw i godi ymwybyddiaeth o gredyd pensiwn: 'Rwy'n falch o ddweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'—yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw budd-daliadau—'yn cysylltu'n uniongyrchol â thua 120,000 o aelwydydd pensiynwyr, gan gynnwys yng Nghymru, sy'n derbyn budd-dal tai ac sydd wedi'u nodi fel rhai cymwys ond nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn ar hyn o bryd.'
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Rydych yn rhoi pryd o dafod i'r Torïaid, fel y dylid, am 14 mlynedd o gyni, ond mae'r Llywodraeth Lafur yn parhau gyda'r dull cyllidol diffygiol a niweidiol hwnnw. Dyma ddau ystadegyn gofidus i chi wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf: dangosodd yr ystadegau diwethaf sydd ar gael ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf, sef ar gyfer 2021-22, fod 240 o bobl yng Nghymru wedi marw oherwydd eu bod yn byw mewn cartref tlawd. Mae adroddiad diweddaraf Age Cymru, a gyhoeddwyd cyn cyhoeddi'r toriad hwn i daliad tanwydd y gaeaf, yn dangos mai dim ond 7 y cant—7 y cant—o'r rhai a arolygwyd sy'n derbyn credyd pensiwn ar hyn o bryd, tra bo bron i hanner yn dweud eu bod yn gweld costau byw yn her go iawn. Mae pobl hŷn, fel y gwyddom, yn fwy agored i niwed oerfel, yn fwy tebygol o fod â chyflyrau ac anableddau sy'n golygu bod angen iddynt ddefnyddio mwy o ynni i gadw'n gynnes, ac maent yn byw mewn tai llai effeithlon o ran defnydd o danwydd yng Nghymru, ac yn talu rhai o'r cyfraddau uchaf am eu hynni. Fe gysylltodd un o'm hetholwyr o Gwm Nedd â mi. Mae gan ei gŵr gyflwr difrifol ar y galon, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gadw'r gwres ymlaen trwy'r dydd. Disgrifiodd imi pa mor bryderus yw hi am y toriad hwn. Mae hi'n gyn-nyrs, sydd wedi gweithio ar hyd ei hoes, a dyma sut rydym yn talu'n ôl iddi am y gwasanaeth hwnnw. Nid yw'n gymwys i gael credyd pensiwn. Mae hi'n hawlio popeth y gall ei hawlio; ac mae'n dal i fynd i fethu cadw'r tŷ mor gynnes ag y mae hi eisiau. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â sut y bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdopi â'r galw cynyddol anochel?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, fel y nodais eisoes—£30 miliwn y flwyddyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd i berchnogion cartrefi ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat. Oherwydd dyma lle mae cymhwysedd, eto—. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod yna lawer o bobl nad ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn, a dyna lle mae angen inni estyn allan at y bobl hynny. Ond mae'r cartrefi cymwys hyn, i gael mynediad at y cyllid Cartrefi Clyd, yn gallu cael mesur pwrpasol o becynnau i inswleiddio, datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at ostyngiad, oherwydd mae hyn yn ymwneud â lleihau biliau ynni, a symud pobl allan o dlodi tanwydd.
Yn ogystal—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi sôn am hyn ddoe—rhywbeth nad yw'n digwydd yn Lloegr, rydym yn darparu cyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mae hwnnw'n gynllun taleb tanwydd a gwres i'r rhai sydd mewn argyfwng tanwydd, i bobl, nid yn unig pobl sydd ar fesuryddion rhagdalu, ond pobl nad ydynt ar y grid. Felly, mae gennym gyfrifoldeb—ac rwy'n gobeithio y caiff ei rannu ar draws y Siambr hon—i hyrwyddo mynediad at y budd-daliadau eraill hyn. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd—yn fuan iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y cadeirydd, Mark Isherwood, yn falch o hynny.
Ond mae'n rhaid inni edrych eto ar yr holl fudd-daliadau eraill. Mae'n rhaid inni estyn allan i sicrhau, yn ein siarter budd-daliadau Cymru—sef ein ffordd ni o ddatblygu darpariaeth dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o fudd-daliadau y mae gennym rywfaint o reolaeth arnynt—y gallwn gynyddu incwm cartrefi gymaint â phosibl.
Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y rhaglen Cartrefi Clyd, gan fod llawer o'r miloedd o bobl ledled Cymru sy'n darparu gofal hanfodol a di-dâl i anwyliaid, gan arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol, yn mynd i fod ymhlith y rhai sy'n cael eu taro galetaf gan y penderfyniad hwn gan y Blaid Lafur i dorri taliad tanwydd y gaeaf. Pobl 65 oed a hŷn yw'r gyfran fwyaf o ofalwyr di-dâl. Mae adroddiad gan Gofalwyr Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf, yn dangos bod 100,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl yn byw mewn tlodi, ac mae bron i un o bob 10 gofalwr di-dâl yn byw mewn tlodi dwfn, ac mae cyfradd tlodi dwfn ymhlith gofalwyr di-dâl 50 y cant yn uwch nag ymhlith gweddill y boblogaeth. Mae gofalwyr, wrth gwrs, yn wynebu costau cynyddol, fel biliau ynni uwch, sy'n gwaethygu eu trafferthion ariannol ymhellach, gyda llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion sylfaenol, fel gwres a bwyd.
O ystyried y toriad i'r rhaglen tanwydd gaeaf, a chanfyddiadau llwm yr adroddiad hwn gan Gofalwyr Cymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud lwfans gofalwyr yn fudd-dal sy'n cymhwyso ar gyfer y gwelliannau i effeithlonrwydd y cartref a ddarperir gan gynlluniau effeithlonrwydd ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac a wnaiff y Llywodraeth sicrhau nad yw budd-daliadau sy'n gysylltiedig â gofalwyr yn cael eu cyfrif fel incwm wrth asesu cymhwysedd ar gyfer rhaglen Nyth Cartrefi Clyd?
Wel, diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd ar y cyfrifoldeb trawslywodraethol sydd gennym. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio'n agos iawn arno gyda fy holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae gofalwyr, yn amlwg, yn hanfodol i hyn, ac rwy'n cydnabod yr adroddiad pwysig iawn gan Gofalwyr Cymru.
A gaf i ddweud un pwynt arall a ddaeth o'r llythyr gan Liz Kendall, sydd, yn fy marn i, yn galonogol i ni yma yng Nghymru? Mae'n dweud, 'Yn y tymor hwy, yr unig ffordd o warantu cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar gymorth yw gwneud yr holl broses'—o hawlio credyd pensiwn yn benodol, ond budd-daliadau credyd eraill—'yn fwy awtomatig.' Felly, mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddatblygu'r gwaith o weinyddu budd-daliadau tai a chredyd pensiwn yn broses fwy awtomatig. Ond hefyd, o safbwynt Llywodraeth y DU, mae gostyngiad £150 Cartrefi Cynnes ar gael, ond nid i'r rhai sydd ar gredyd pensiwn yn unig, mae yno i helpu'r rheini sy'n cael budd-dal tai gyda chostau ynni uchel hefyd. Ond byddwn yn edrych ar argymhellion adroddiad Gofalwyr Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn wedi codi pryderon eang wrth gwrs. Mae'r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru, Gofalwyr Cymru a National Energy Action ymhlith y rhai sydd wedi rhybuddio am ei effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach gartref, ac y byddai'n gadael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn. Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn-argyfwng ac fel y gwyddoch, mae disgwyl iddynt godi 10 y cant eto ar 1 Hydref, ar yr adeg y mae angen i bobl droi eu gwres ymlaen neu i fyny. Mae National Energy Action Cymru hefyd wedi rhybuddio bod aelwydydd bregus ledled Cymru yn cael eu llethu gan dros £3.3 biliwn o ddyled ynni, sydd wedi cronni dros y ddwy flynedd ddiwethaf i raddau helaeth. Mae hyn ddwywaith yr hyn ydoedd cyn yr argyfwng ynni ac wedi'r gaeaf hwn, mae dadansoddwyr yn awgrymu na fydd prisiau ynni yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn y degawd hwn. Mae de a gogledd Cymru yn parhau i fod ymhlith y tri rhanbarth drytaf ledled y DU. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ynghylch cyflwyno tariff ynni cymdeithasol gorfodol, ynghyd â chymorth wedi'i dargedu i leihau lefelau dyled ynni er mwyn lliniaru tlodi tanwydd yng Nghymru?
Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni symud ymlaen a mynd i'r afael â'r lefel annerbyniol honno o ddyled. Fel y gwyddoch, ac ar draws y Siambr hon, rwyf wedi galw am weithredu tariff cymdeithasol. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y codiad yn y cap ar brisiau a gyhoeddodd Ofgem yn yr haf. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem i drafod hynny. Rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â thaliadau sefydlog, y gwyddoch eu bod bellach yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Felly, ie, diolch eto am roi hynny ar yr agenda fel rhan o'r ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n meddwl, hefyd, rwyf wedi ymgysylltu—. Rwyf am ddweud fy mod wedi ymgysylltu ag Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net ynglŷn â hyn. A hoffwn rannu'r hyn y mae'n ei ddweud yn ei lythyr, 'Mae lleihau tlodi tanwydd yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth ynni glân. Drwy ein cynllun Cartrefi Cynnes, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £6.6 biliwn ychwanegol mewn cyllid effeithlonrwydd ynni dros y tymor seneddol hwn i uwchraddio 5 miliwn o gartrefi a thorri biliau i deuluoedd.' Wel, byddaf yn cyfarfod ag ef a'i dîm i weld sut y gallwn elwa o hynny yng Nghymru.