Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 18 Medi 2024.
Fel y clywsom gan ein cyd-Aelodau, mae’r celfyddydau a diwylliant yn wynebu perygl gwirioneddol yn Islwyn, ac fe’i galwyd yn ‘fandaliaeth ddiwylliannol’ gan rai, yr hyn sy'n cael ei gynnig gan yr awdurdod lleol Llafur. Mae'r cabinet Llafur wedi mynd ati gyda'r ymarfer torri costau hwn mewn ffordd mor drwsgl, mae'n anghredadwy. Mae'r cynrychiolwyr undebau llafur hynod brofiadol y siaradais â hwy yn ei chael hi'n anodd credu'r ffordd y cynhaliwyd yr ymarfer. Mae'n amlwg fod y cyhoedd yn anghytuno gyda chynlluniau'r cyngor. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn gorymdaith o gannoedd lawer o bobl yng nghanol tref Coed-duon ychydig wythnosau yn ôl, a llwyddais i annerch yr ymgyrchwyr wedyn. Yn y dwylo iawn, nid yw Sefydliad y Glowyr Coed-duon a Llancaiach Fawr yn feichiau; maent yn asedau.
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar sut i gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus priodol a thrylwyr? A pha ganllawiau, arbenigedd a chymorth y gallwch chi eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw’r sefydliadau diwylliannol hyn yn cael eu colli am byth?