Cyllid ar gyfer y Sector Celfyddydau a Diwylliant

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 2:57, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lu o fesurau arbed arian posibl, gan gynnwys diddymu cyllid i Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, a Llancaiach Fawr. Mae'r cam hwn wedi sbarduno cynnwrf a phrotestio mawr, yn ogystal â deiseb yn galw am ailfeddwl, sydd wedi cael mwy na 10,000 o lofnodion hyd yma. Mae Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, yn ased cymunedol hanfodol ac wedi dod yn enwog am fod yn lleoliad celfyddydol ac adloniant ffyniannus ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yno. Yn wir, yn y gorffennol, mae sefydliad y glowyr wedi cynnal digwyddiadau gan berfformwyr fel Stereophonics, Black Sabbath a Coldplay, yn ogystal â'r man lle cynhaliodd y Manic Street Preachers un o'u cyngherddau cyntaf erioed. Ac mae Llancaiach Fawr yn blasty Tuduraidd sy'n atyniad hynod boblogaidd i dwristiaid, gan ddenu heidiau o ymwelwyr bob blwyddyn. Nawr, mae'r ddau safle'n rhan annatod o hanes y gymuned, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni ellir gadael i'r cyngor wneud hyn. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn uniongyrchol wrth arweinydd y cyngor, ac rwy'n mawr obeithio y byddant yn myfyrio ar y brotest gyhoeddus ac yn dileu'r cynlluniau hyn. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rhag ofn y byddant yn penderfynu bwrw ymlaen beth bynnag, a oes unrhyw le i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac achub y safleoedd pwysig hyn? Diolch.