Diogelu'r Celfyddydau a Diwylliant yn Islwyn

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 3:03, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg heddiw fod Aelodau ar draws y rhanbarth wedi codi'r un mater ac rwy'n falch iawn fod pob un ohonom wedi defnyddio ein cwestiynau i dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn Sefydliad y Glowyr Coed-duon; mae’n sefydliad pwysig yn y Cymoedd. Bob blwyddyn, mae Sefydliad y Glowyr Coed-duon, fel y dywedwyd, yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a dosbarthiadau, cyngherddau, dramâu, operâu, cerddoriaeth—caiff popeth y gallwch feddwl amdano ei gynnal yno—yn ogystal â’r Manics mewn dyddiau a fu, wrth gwrs, fel y nododd fy nghyd-Aelod.

Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyngor sir Llafur, sy'n dymuno cau’r sefydliad er mwyn arbed arian? Mae'n rhaid achub yr ased cymunedol pwysig hwn. Mae deiseb wedi'i llunio ac mae dros 6,000 o lofnodion arni eisoes. A ydych chi'n cytuno â mi nad dyma’r lle, fel y nododd Alun Davies yn gynharach, yn gywir ddigon, i wneud toriadau? Mae'r rhain yn darparu gwasanaeth hanfodol ac achubiaeth i lawer.