Cyllid ar gyfer y Sector Celfyddydau a Diwylliant

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:56, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae sectorau celfyddydau a diwylliant Cymru yn gwbl hanfodol—maent yn rhan annatod o les ein cymdeithas a'n cenedl. Fel y gwyddoch, y mecanwaith ar gyfer cyllido yw cyllid uniongyrchol i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliant, cyngor y celfyddydau a chyrff hyd braich yr ydym yn eu hariannu'n benodol, ond y cyfrifoldeb sydd gennym o ran cyllideb y celfyddydau a diwylliant. Rwy'n credu y byddwch yn falch fy mod, ar 5 Medi, wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol mewn refeniw y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny'n ychwanegol at y pecyn cyllid cyfalaf ychwanegol gwerth £3.7 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru, sy'n hanfodol i'r llyfrgell genedlaethol ac i'n hamgueddfa genedlaethol. Ond rwy'n hyderus nawr y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau adeiladol iawn a gefais drwy gydol yr haf i fynd i'r afael â'r mater hwn.