Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 18 Medi 2024.
Diolch yn fawr, Peredur. Unwaith eto, safbwyntiau ychwanegol o bob rhan o’r Siambr ar y cofnod heddiw o ran y pryderon a godwyd. Credaf mai mater i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn benodol, fel ein corff hyd braich, yw ymgysylltu ag awdurdodau lleol. Rwyf eisoes wedi sôn am ein blaenoriaethau ar gyfer y strategaeth ddiwylliant ddrafft, sy’n canolbwyntio ar y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae. Rwy'n credu mai’r unig bwynt terfynol yr hoffwn ei wneud yw bod Cyngor Celfyddydau Cymru ei hun, sydd wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn gweithgarwch celfyddydol yng Nghaerffili, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed-duon, wedi darparu ymateb manwl i ymgynghoriad cyngor Caerffili.