Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 2:46, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni symud ymlaen a mynd i'r afael â'r lefel annerbyniol honno o ddyled. Fel y gwyddoch, ac ar draws y Siambr hon, rwyf wedi galw am weithredu tariff cymdeithasol. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y codiad yn y cap ar brisiau a gyhoeddodd Ofgem yn yr haf. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem i drafod hynny. Rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â thaliadau sefydlog, y gwyddoch eu bod bellach yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Felly, ie, diolch eto am roi hynny ar yr agenda fel rhan o'r ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n meddwl, hefyd, rwyf wedi ymgysylltu—. Rwyf am ddweud fy mod wedi ymgysylltu ag Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net ynglŷn â hyn. A hoffwn rannu'r hyn y mae'n ei ddweud yn ei lythyr, 'Mae lleihau tlodi tanwydd yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth ynni glân. Drwy ein cynllun Cartrefi Cynnes, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £6.6 biliwn ychwanegol mewn cyllid effeithlonrwydd ynni dros y tymor seneddol hwn i uwchraddio 5 miliwn o gartrefi a thorri biliau i deuluoedd.' Wel, byddaf yn cyfarfod ag ef a'i dîm i weld sut y gallwn elwa o hynny yng Nghymru.