Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Medi 2024.
Ni allaf gredu'r haerllugrwydd. Ydych, rydych chi bellach yn wrthblaid yn San Steffan, ond roeddech chi mewn grym am 14 mlynedd o gyni, lle gwnaethoch chi gael gwared ar gymaint o fudd-daliadau i bensiynwyr. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, rwy'n ddigon hapus i ddyfynnu o lythyr Liz Kendall, oherwydd mae hi'n dweud yn ei llythyr, 'Fel cam cyntaf tuag at ailadeiladu Prydain, mae'n rhaid inni drwsio sylfeini ein heconomi i wneud y newidiadau sydd eu hangen yn daer ar ein gwlad, o ystyried y sefyllfa enbyd a etifeddwyd gennym gan gynnwys y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus eleni. Rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd.'
Ond hefyd mae hi wedi derbyn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i estyn allan a gweithio gyda nhw i godi ymwybyddiaeth o gredyd pensiwn: 'Rwy'n falch o ddweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'—yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw budd-daliadau—'yn cysylltu'n uniongyrchol â thua 120,000 o aelwydydd pensiynwyr, gan gynnwys yng Nghymru, sy'n derbyn budd-dal tai ac sydd wedi'u nodi fel rhai cymwys ond nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn ar hyn o bryd.'