Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr 2:37, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r penderfyniad na fydd taliad tanwydd y gaeaf yn un cyffredinol bellach yn creu perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.' ac mae'n creu perygl o niweidio pobl hŷn a bregus. Ond y gwir amdani, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yw nad yw Llafur y DU yn malio dim am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl. Mae'r ffaith na phleidleisiodd unrhyw AS Llafur o Gymru i gael gwared ar y polisi hwn yn dangos nad oes gan y Blaid Lafur ddiddordeb yng Nghymru. A wnewch chi gondemnio'n gyhoeddus yr ASau o Gymru a fethodd bleidleisio i gael gwared ar y polisi hwn, a fydd yn niweidio cymaint o bobl fregus yng Nghymru yn uniongyrchol? Diolch.