Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 18 Medi 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr 2:34, 18 Medi 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bawb fod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i gymaint o bobl oedrannus a bregus nid yn unig yn eithriadol o anystyriol ond yn gwbl ddidostur. Gwyddom fod nifer sylweddol o bensiynwyr yn byw ychydig bach uwchlaw'r trothwy i fod yn gymwys i gael credyd pensiwn. Rydym yn gwybod nad yw llawer o'r bobl sydd â hawl iddo yn hawlio'r credyd pensiwn. Rydym yn gwybod y rhagwelir y bydd prisiau tanwydd yn cynyddu tua 10 y cant ym mis Hydref eleni. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom y bydd y polisi hwn heb os yn achosi i nifer fawr o bensiynwyr ddiffodd eu gwres y gaeaf hwn. Mae'r ffaith bod gan Gymru 15 y cant yn fwy o bensiynwyr fel cyfran o'r boblogaeth, o'i gymharu â Lloegr, hefyd yn golygu y bydd effaith anghymesur ar bensiynwyr Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad yw Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud hynny, pa asesiad a wnaed gennych chi o effaith toriadau i lwfans tanwydd y gaeaf yng Nghymru, a pha adnoddau ychwanegol rydych chi'n disgwyl gorfod eu canfod nawr i gefnogi pensiynwyr Cymru?