Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Medi 2024.
Wel, mae'n ddiddorol iawn ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth ar hyn gyda'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n falch iawn fod gennym gwestiynau a dadl hefyd y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn yn y Siambr, oherwydd yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud o ran y penderfyniad anodd hwn a wnaed gan Lywodraeth y DU oherwydd bod eich Llywodraeth ddiwethaf wedi difetha ein heconomi, gan adael y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus—[Torri ar draws.] Dywedais ddoe fy mod yn mynd i ddweud hyn gryn dipyn o weithiau, fel y bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Ond y pwynt pwysig, Joel, yw bod yn rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl iddi, ac yn bwysig—a dyma lle rwy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU—yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, oherwydd bydd hynny'n datgloi nid yn unig mynediad at daliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn i lawer o bensiynwyr nad ydynt yn manteisio arno yng Nghymru, ond fe fydd yn datgloi budd-daliadau eraill iddynt hefyd.