7. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:51, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl ardderchog. Rwy'n croesawu'r nifer uchel o siaradwyr, sy'n adlewyrchu cryfder y teimlad yn y Siambr. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, Rhianon, Peter a Mike, a gyfrannodd fel aelodau o'r pwyllgor, ond cyfrannodd Mike yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd.

Rwy'n ddiolchgar hefyd i Gadeiryddion y pwyllgor am eu cyfraniadau. Soniodd John Griffiths am y pwysau a wynebir ym maes tai, yn enwedig yr angen i ddarparu cyllid i liniaru digartrefedd, a ddylai fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom, pwynt a godwyd gan Mark Isherwood yn ogystal, ac fe gododd hyn yn aml yn ystod trafodaethau ein grwpiau ffocws.

Sam Rowlands, fe wnaethoch chi sôn am yr anawsterau sy'n wynebu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig prinder yng ngweithlu'r sector hwnnw, a'r angen i fodloni gofynion y cyflog byw gwirioneddol.

Rwy'n ddiolchgar i Jack am sôn am y deisebau sydd wedi'u cyflwyno—am gyllid meddygon teulu a'r cyllid craidd ar gyfer addysg a'r holl bethau eraill y sonioch chi amdanynt. Cafodd yr un teimladau eu rhannu yn ein digwyddiadau rhanddeiliaid.