Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, am ei ddiwydrwydd, a fy nghyd-aelodau pwyllgor Mike Hedges, Peter Fox, a chlercod ein pwyllgor, sy'n cefnogi ein holl waith. Ac wrth inni drafod adroddiad ymgysylltu'r Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26, fe ganolbwyntiaf fy sylwadau heddiw ar ddiwylliant, ond heddiw nid wyf am siarad am y 14 mlynedd o gyni cyllidol.
Mae'r adroddiad yn nodi yn ei grynodeb o ganfyddiadau ym mhwynt 3 fod diwylliant wedi'i nodi gan grwpiau ffocws y pwyllgor fel blaenoriaeth ar gyfer cyllid, ac rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor diwylliant. Mae erthygl olygyddol papur newydd cenedlaethol Cymru, y Western Mail, yn dweud y gallai dyfodol y celfyddydau yng Nghymru fod yn y fantol. Ac mae archwiliad dwfn Ben Summer i ddiwylliant ar Wales Online yn dweud bod y celfyddydau dan ymosodiad yng Nghymru a dylai fod yn destun gofid i bawb ohonom.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n siarad heddiw nid yn unig fel yr Aelod dros Islwyn ac aelod o'r pwyllgor hwn, ond hefyd fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth, ac fel cerddor. Mae Opera Cenedlaethol Cymru, y trysor byd-enwog sydd gennym yng Nghymru, yn wynebu toriadau a fydd yn golygu ei fod yn dod yn rhan-amser, yn methu recriwtio'r dalent orau na chadw talent, ac mae'r gwymp i gyffredinedd a allai ddeillio o hynny yn ddifrifol. Mae angen ei gadw'n gwmni llawn amser, fel y mae'r ddeiseb a lofnodwyd gan dros 10,000 o bobl yn ei nodi, a chyda datganiad a gyhoeddwyd yn The Times a The Guardian gan Elizabeth Atherton yn cael ei gymeradwyo gan eiconau fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Michael Sheen a Ruth Jones. Ac ar 21 Mai anerchais y dorf a ymgasglodd ar risiau ein Senedd, dan arweiniad yr arweinydd enwog Carlo Rizzi, i fynnu bod y Senedd hon yn sefyll ac yn ymladd dros oroesiad cwmni opera llawn amser Cymru, sydd wedi bodoli ers 70 mlynedd—opera'r bobl, a ffurfiwyd gan lowyr, meddygon a cherddorion Cymru ym 1943 ochr yn ochr â chreu ein GIG.
Ac mae'r toriad i adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yr un mor frawychus i ddiwylliant Cymru, gan effeithio ar 426 o fyfyrwyr a 112 o staff rhan amser. Mae Undeb y Cerddorion yn rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar gerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru, ac mae'r ddeiseb yma'n gwrthwynebu'r toriad i'r adran iau eisoes wedi denu dros 10,500 o lofnodion. Bydd ei chau yn golygu bod plant ifanc iawn yn aml o Gymru yn mynd i Lundain neu Birmingham neu Fanceinion i gael mynediad at ddarpariaeth debyg. Am feirniadaeth ddamniol ohonom i gyd wrth inni nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. Hyd yn oed yn waeth, mae bron i hanner y myfyrwyr hynny'n cael bwrsariaethau prawf modd i fynd i adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn amlwg, yma, bydd y plant dawnus tlotaf yng Nghymru yn wynebu rhwystrau enfawr i barhad eu hastudiaethau elitaidd, a fydd yn anochel yn achosi i lawer roi'r gorau i'r astudiaethau hynny. Fe wyddom fod y celfyddydau yn ganolog i ysbryd ac enaid Cymru, ein cenedligrwydd a'n hymdeimlad ohonom ein hunain, ac ni ddylai cyfoeth ac incwm bennu'r llwybrau ar gyfer camu ymlaen i'r celfyddydau.
I gloi, rwyf am rybuddio'r Senedd hon heddiw, ac rwy'n rhybuddio'r cyhoedd yng Nghymru, ein bod yn wynebu dinistr bywyd diwylliannol Cymru fel y gwyddom amdano. Dim ond Llywodraeth Cymru sydd â'r pŵer, y dylanwad a'r gallu i ymyrryd, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu a darparu chwistrelliad ariannol blaenoriaethol o £550,000 i Opera Cenedlaethol Cymru, ac i drafodaethau brys ddechrau'n ffurfiol gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru i sicrhau dyfodol unig conservatoire Cymru ar fodel ariannu newydd. Ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy fel blaenoriaeth i ddiogelu ein Hopera Cenedlaethol Cymru ac adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwn yn gweld ac yn bresennol ar adeg dyngedfennol yng nghrebachiad bywyd diwylliannol Cymru.
Ddirprwy Lywydd, ni fydd esgus y bydd trefniadau amgen dros dro sy'n osgoi ariannu anghenion diwylliannol ein gwlad yn tawelu meddyliau Aelodau'r Senedd yma na'r cyhoedd yng Nghymru. Nawr yw'r amser i weithredu a gofynnaf am i'r niwed gwirioneddol sy'n cael ei achosi gael ei wrthdroi nawr cyn ei bod hi'n rhy hwyr, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog presennol a'r Prif Weinidog nesaf i weithredu ar frys a sicrhau ac ariannu dyfodol diwylliant a cherddoriaeth fel blaenoriaeth. Mae'n rhaid inni barhau i fod yn wlad y gân yn rhyngwladol a gartref, nawr ac ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol. Diolch.