Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Mae heriau ariannu mewn rhannau eraill o’r sector diwylliant hefyd, gyda sefydliadau cenedlaethol eraill yn teimlo’r pwysau yn aruthrol. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi bod yn ymgynghori yn ddiweddar ar gynigion i atal rhai o’u rhaglenni penwythnos i bobl ifanc. Mae’r sefyllfa ariannol sy’n wynebu’r coleg yn wael, ond os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaen, bydd Cymru heb conservatoire ieuenctid i ddarparu hyfforddiant lefel uwch i ddysgwyr ifanc. Eto, mae cap wastad yn cael ei roi, ymddengys, ar botensial ein diwylliant i ffynnu.
Nid diwylliant yn unig, wrth gwrs, sydd wedi cael ergyd. Mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi cael eu taro yn galed hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym dro ar ôl tro
‘Gall chwaraeon fod yr offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol i’r wlad’.
Dŷn ni fel pwyllgor yn cytuno, ond ble mae’r cydlyniad mewn ariannu’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol drwy wneud toriad o 8 y cant i gyllideb Chwaraeon Cymru ac felly storio problemau mwy a drutach i’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn y dyfodol? Os ydyn ni o ddifri ynglŷn â diogelu’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, mae angen inni edrych ar atal yn ogystal â gwella.
Mae gwir effaith penderfyniadau a gafodd eu gwneud y llynedd bellach yn torri trwyddo i’r cyrff diwylliant a’n cyrff chwaraeon. Er bod croeso mawr i’r cyhoeddiad cyllid diweddar ar gyfer amgueddfeydd a’r llyfrgell genedlaethol gan gyn Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, roedd hyn yn rhywbeth bach iawn o’i gymharu gyda’r hyn sydd ei angen, a gwnaeth hi gydnabod hynny.
Bydd y pwyllgor yn parhau â’n galwadau ni i’r Llywodraeth ddarparu cyllid digonol i gefnogi diwylliant a chwaraeon. Fodd bynnag, byddwn yn adeiladol. Dyna pam y byddwn yn lansio ymchwiliad cyn bo hir ar effaith gostwng cyllid ym meysydd diwylliant a chwaraeon. Rydym yn bwriadau darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru cyn iddyn nhw gyhoeddi eu cyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu effaith y toriadau eleni a gwneud newidiadau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen i gyfrannu at hyn.