7. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 17 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 3:52, 17 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud pedwar pwynt byr yn fy rôl fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae hwn yn faes o ddiddordeb penodol i'r pwyllgor ac yn un a chanddo broblemau hirsefydlog. O ystyried y prinder presennol yn y gweithlu a'r galw cynyddol am wasanaethau, mae gwir angen buddsoddiad mewn gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol medrus a chynaliadwy gyda ffocws cryf ar wella cyfraddau cadw staff. Byddai’r pwyllgor yn mynegi bod yn rhaid i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi a gwella gan Lywodraeth Cymru, gan y byddai’n lliniaru ac yn lleihau risgiau a phwysau costau yn y tymor hir.

Yn ail, ar wasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, mynegodd ein hadroddiad fel pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 ein pryder ynghylch y lefelau uchaf erioed o alw am y gwasanaethau a’r bwlch cyllidebol sy’n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Felly, wrth edrych ymlaen, bydd yn hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn monitro mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau nad yw pwysau cyllidebol yn y dyfodol yn golygu bod gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu gwrthod i bobl sy’n gymwys i'w cael. Pwynt penodol yma, y byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyfeirio ato yn ei hymateb, yw'r cyllid ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol, sy'n nodi'n glir fod angen oddeutu 10 y cant o gynnydd yn eu cyllid i allu talu am y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol, sy'n sicr i'w groesawu. Dim ond cynnydd o 3 y cant y mae rhai darparwyr yn ei gael, nad yw’n eu galluogi i ateb gofynion y cyflog byw gwirioneddol. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ariannu’r diffyg hwn i sicrhau ein bod yn gweld y gwasanaethau hyn yn parhau yn y dyfodol.

Mae’r trydydd pwynt o safbwynt y pwyllgor yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn parhau i fod yn fater pwysig i’r pwyllgor iechyd ei ystyried, ac mae’r pwyntiau a wnaed yn ystod y ddadl y llynedd yn werth eu hailadrodd. Mae'n bwysig iawn fod effeithiau gwahaniaethol dyraniadau cyllid ar wahanol grwpiau a chymunedau yn cael eu hasesu a'u hystyried wrth ddatblygu cynigion y gyllideb, nid ar ddiwedd y broses yn unig.

Ac yn olaf, ar wariant cyfalaf, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi adrodd yn y gorffennol fod diffyg cyllid cyfalaf a buddsoddiad yn rhwystr rhag darparu gwasanaethau nawr, nid yn y dyfodol yn unig. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth fod dyraniadau cyllid cyfalaf yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau a bod blaenoriaethau byrddau iechyd ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn cyd-fynd â rhai Llywodraeth Cymru. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r pwyntiau hyn. Diolch.