Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 17 Gorffennaf 2024.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, hoffwn ailadrodd rhai o gasgliadau allweddol y pwyllgor yn dilyn ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni. Mae’r rhain yn dal yn berthnasol ac yn bwysig, a hoffem eu gweld yn cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Pan siaradais yr adeg hon y llynedd, pwysleisiais ein pryder ynghylch y nifer uchel o bobl sy’n byw mewn llety dros dro a phwysigrwydd blaenoriaethu cyllid i alluogi pobl i gael eu symud i lety parhaol hirdymor. Roedd taer angen y cynnydd o £13 miliwn i’r grant cymorth tai yng nghyllideb 2024-25 er mwyn mynd i’r afael â chyflogau isel yn y sector ac atal darparwyr gwasanaethau rhag gorfod rhoi contractau yn ôl. Mae gwasanaethau a ariennir gan y grant hwn yn hanfodol i atal a lliniaru digartrefedd. Felly, dylai'r cynnydd hwn fod o leiaf yn unol â chwyddiant ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai cyllid ar gyfer y grant hollbwysig hwn, unwaith eto, fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Hoffwn bwysleisio, fel y gwneuthum y llynedd, y dylai sicrhau llety hirdymor mewn amgylchedd diogel fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae’r datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf ar ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Bil digartrefedd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a chanolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar. Bydd yn hollbwysig sicrhau y caiff cyllid ei flaenoriaethu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn cyflawni’r ddeddfwriaeth hon yn effeithiol. Bydd yn arbennig o bwysig blaenoriaethu cyllid ar gyfer adeiladu a chaffael mwy o gartrefi cymdeithasol.
Maes arall y dylid ei flaenoriaethu yw sicrhau cyllid digonol i wneud gwaith adfer ar adeiladau preswyl uchel iawn, sy'n faes arall y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth arno y flwyddyn nesaf, ac y bydd cyllid digonol ar ei gyfer yn hanfodol.
Ddirprwy Lywydd, gan droi at lywodraeth leol, mae'r straen ariannol digynsail a wynebir gan awdurdodau lleol yn thema sy'n codi dro ar ôl tro yn ein gwaith craffu ar y gyllideb. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaeth awdurdodau lleol wynebu un o’r setliadau cyllideb mwyaf heriol yn y blynyddoedd diweddar, yn ystod cyfnod o bwysau cynyddol ar wariant cyllid cyhoeddus. Fel pwyllgor, fe wnaethom nodi ein pryder fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa o orfod gwneud penderfyniadau a oedd nid yn unig yn anodd, ond hefyd yn ddewisiadau gwael a fydd, heb os, yn cael effaith ar gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hwy. Ni all hyn barhau. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal deialog reolaidd ag awdurdodau lleol i fonitro eu cadernid ariannol a sicrhau, wrth symud ymlaen, fod cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael ei flaenoriaethu.
Thema arall sy’n codi dro ar ôl tro yn ein gwaith craffu ar y gyllideb yw’r tanwariant yn y grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a’r cymunedau dan sylw i annog defnydd ac ymwybyddiaeth o’r grant ac i ddarparu canllawiau clir ar geisiadau. Byddwn yn ystyried hyn ymhellach yn ein gwaith dilynol sydd ar y ffordd ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac rydym yn debygol o wneud argymhellion pellach ar ôl hynny. Diolch yn fawr.